Sesiynau hyfforddi mat

URN: SKAEF22
Sectorau Busnes (Suites): Ymarfer Corff a Ffitrwydd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 31 Rhag 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon ynghylch cyflwyno sesiynau mat Pilates ar gyfer oedolion o bob oed sy'n ymddangos yn iach.


 


 

Canlyniadau'r safon hon yw:


 


 

  1. cynllunio a pharatoi sesiynau mat Pilates 
  2. paratoi cyfranogwyr ar gyfer sesiynau mat Pilates 
  3. addysgu ac addasu ymarferion mat Pilates 
  4. dod â sesiynau mat Pilates i ben

Mae'n rhaid i chi gynnwys yr wybodaeth graidd ynghylch ymarfer corff a ffitrwydd a dealltwriaeth ddamcaniaethol fel y manylir arnynt yn y ddogfen Gofynion Gwybodaeth Graidd ynghylch Ymarfer a Ffitrwydd SkillsActive sy'n berthnasol i rôl y swydd.

Mae'r safon hon ar gyfer hyfforddwyr Pilates mat sy'n cynllunio, hyfforddi ac adolygu rhaglenni i fynd i'r afael â nodau tymor byr, canolog a hir. Byddant fel arfer yn gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynllunio a pharatoi sesiynau mat Pilates**


 


 

1.  dewis a chofnodi amcanion sy'n benodol i anghenion** eich cyfranogwyr

2.  strwythuro camau sesiwn

3.  dewis a strwythuro ymarferion a fydd yn galluogi eich cyfranogwyr i fod yn ymwybodol o'u symudiad gorau posibl potensial

4.  ystyried mathau o ystum cyfranogwyr

5.  dewis dulliau addysgu perthnasol

6.  cynllunio amserau, dwysterau a dilyniannau realistig

7.  sicrhau bod cydbwysedd effeithiol o hyfforddi, gweithgaredd a rhyngweithio o fewn y sesiwn

8.  nodi a pharatoi'r amgylchedd yn ôl anghenion cyfranogwyr a dilyn gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol


**


** 

Paratoi cyfranogwyr ar gyfer sesiynau mat Pilates**


 


 

9.    paratoi cyfranogwyr** cyn sesiwn mat Pilates

10.  cwrdd â'ch cyfranogwyr ar yr amser a gytunwyd a gwneud iddynt deimlo'n gartrefol

11.  casglu unrhyw wybodaeth newydd gan eich cyfranogwyr am eu hymateb i weithgaredd blaenorol

12.  esbonio'r amcanion ac ymarferion rydych wedi eu cynllunio ar gyfer y sesiwn i'r cyfranogwyr a sut y mae'r rhain yn cysylltu â'u nodau

13.  esbonio gofynion corfforol a thechnegol yr ymarferion a gynlluniwyd wrth y cyfranogwyr* a sut y gallant wneud cynnydd ac atchwelyd y rhain i gwrdd â'u nodau*

14.  asesu a chytuno cam parodrwydd eich cyfranogwyr i gymryd rhan yn y sesiwn a gynlluniwyd

15.  asesu a chytuno eu hysgogiad â'ch cyfranogwyr i gymryd rhan yn y sesiwn a gynlluniwyd

16.  cytuno unrhyw newidiadau â'ch cyfranogwyr i'r ymarferion a gynlluniwyd a fydd yn eu cynorthwyo i gwrdd â'u hanghenion a'u galluogi i wneud cynnydd o hyd


** 


** 


** 


** 

Addysgu ac addasu ymarferion mat Pilates**


 


 

17.  defnyddio dulliau addysgu ac ysgogol** effeithiol

18.  hyfforddi cyfranogwyr drwy'r paratoi a gynlluniwyd, prif gamau a chamau terfynol

19.  esbonio pwrpas a gwerth pob cam

20.  rhoi cyfarwyddiadau, esboniadau ac arddangosiadau effeithiol

21.  gwirio dealltwriaeth eich cyfranogwyr ynghylch cyfarwyddiadau, esboniadau ac arddangosiadau

22.  addasu dulliau cyfathrebu a dulliau addysgu i gwrdd ag anghenion cyfranogwyr

23.  sicrhau y gall cyfranogwyr wneud yr ymarferion yn ddiogel heb oruchwyliaeth uniongyrchol

24.  arsylwi a dadansoddi perfformiad cyfranogwyr gan roi atgyfnerthiad cadarnhaol drwy'r amser

25.  cywiro technegau lle bo angen gwella perfformiad cyfranogwyr

26.  symud ymlaen neu atchwelyd gweithgareddau yn ôl anghenion cyfranogwyr


**


 

Dod â sesiwn mat Pilates i ben


 


 

27.  caniatáu amser digonol ar gyfer y cam terfynol**

28.  esbonio pwrpas y cam terfynol

29.  dod â'r gweithgareddau i ben mewn modd sy'n ddiogel ac yn effeithiol i'ch cyfranogwyr

30.   rhoi'r cyfle i gyfranogwyr ofyn cwestiynau, rhoi adborth a meddwl am eu perfformiad

31.  rhoi adborth i gyfranogwyr ar y sesiwn

32.  esbonio wrth gyfranogwyr sut mae eu cynnydd yn cysylltu â'u nodau

33.  gadael yr amgylchedd mewn cyflwr sy'n dderbyniol ar gyfer defnydd gennych chi neu eraill yn y dyfodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynllunio a pharatoi sesiynau mat Pilates**


 


 

1.  ffyrdd o nodi amcanion sy'n benodol i anghenion cyfranogwyr

2.  sut i weithredu strwythur sesiwn diogel ac effeithiol

3.  ymarferion sy'n caniatáu i gyfranogwyr wneud y mwyaf o'u potensial symudiad

4.  effaith mathau o ystum gwahanol ar symudiad

5.  dulliau addysgu ac ysgogol sy'n gwneud y gorau o gynnydd ac ysgogiad cyfranogwyr

6.  sut gall amseru, dwyseddau a dilyniannau effeithio ar ganlyniadau

7.  pam bod cydbwysedd o hyfforddiant, gweithgaredd a thrafodaeth yn angenrheidiol

8.  sut i baratoi'r amgylchedd y mae ei angen arnoch ar gyfer y sesiwn, yn dilyn gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol


**


** 

Paratoi cyfranogwyr ar gyfer sesiynau mat Pilates**


 


 

9.  ffyrdd o sicrhau bod cyfranogwyr wedi eu paratoi cyn bod y sesiwn yn cychwyn

10.  dulliau o wybod sut roedd cyfranogwyr wedi ymateb i weithgaredd corfforol blaenorol

11.  ffyrdd o esbonio amcanion a gweithgareddau'r sesiwn a gynlluniwyd i gyfranogwyr

12.  gofynion corfforol a thechnegol y sesiwn mat Pilates

13.  dulliau o asesu parodrwydd cyfranogwyr i gymryd rhan mewn sesiwn mat Pilates

14.  dulliau o asesu ysgogiad y cyfranogwyr i gymryd rhan mewn sesiwn mat Pilates

15.  yr enghreifftiau pan fydd angen i chi o bosibl drafod a chytuno newidiadau i'ch cynlluniau gyda chyfranogwyr


** 


** 

Addysgu ac addasu ymarferion mat Pilates**


 


 

16.  yr ystod o ddulliau addysgu ac ysgogol** a dderbynnir

17.  yr ystod o ymarferion y gallwch eu defnyddio ar gyfer y camau paratoi, prif gamau a chamau therfynol**

18.  pwrpas a gwerth pob cam o'r sesiwn

19.  ffyrdd o ddarparu cyfarwyddiadau, arddangosiadau ac esboniadau i gyfranogwyr ar gyfer pob cam o'r sesiwn

20.  dulliau o ddangos yr ystumiau ymarfer ac aliniad cywir ar gyfer y gweithgareddau i'r cyfranogwyr

21.  y rhesymau pam bod angen i'r cyfranogwyr wneud yr ymarferion ar eu pen eu hunain

22.  dulliau o roi atgyfnerthiad cadarnhaol drwy gydol y sesiwn

23.  yr angen i gywiro technegau

24.  sut i addasu, symud ymlaen a newid ymarferion i gwrdd ag anghenion cyfranogwyr


** 


** 

Dod â sesiynau mat Pilates i ben**


 


 

25.  pam y dylid gadael amser digonol i ddod â sesiwn mat Pilates i ben i gwrdd ag anghenion y cyfranogwyr

26.  pwrpas cam terfynol sesiwn mat Pilates

27.  ffyrdd o ddod â sesiwn mat Pilates i ben yn ddiogel

28.  pam y dylid rhoi cyfle i gyfranogwyr ofyn cwestiynau, rhoi adborth a thrafod eu perfformiad

29.  dulliau o roi adborth i gyfranogwyr am eu perfformiad

30.  pam bod angen i gyfranogwyr weld sut mae eu cynnydd yn cysylltu â'u nodau

31.  y gweithdrefnau cywir ar gyfer delio â'r amgylchedd unwaith y bydd y sesiwn wedi dod i ben


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Cyfranogwyr**


** 


** 

  1. cyfranogwyr unigol
  2. grwpiau dosbarth
  3. ag anghenion ffitrwydd penodol
  4. ag anghenion iechyd cyffredinol


** 


** 

Camau**


** 


** 

  1. cam paratoi
  2. prif gam
  3. cam terfynol


** 


** 

Mathau o ystum**


** 


** 

  1. cyffotig
  2. lordotig
  3. siglo'n ôl
  4. cefn fflat
  5. niwtral/delfrydol
  6. sgoliotig


** 


** 

Dulliau addysgu**


** 


** 

  1. ystumiau addysgu sy'n newid
  2. gofyn cwestiynau
  3. gwneud addasiadau a symud ymlaen
  4. cyfathrebu geiriol a gweledol
  5. adlewyrchu


** 


** 

Amgylchedd**


** 


** 

  1. gofod
  2. trefn
  3. tymheredd
  4. deunydd llawr
  5. goleuo
  6. awyru
  7. defnydd o gerddoriaeth
  8. cyfarpar ar gyfer y sesiwn
  9. dillad a chyfarpar personol


** 


** 

Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol** (i gwmpasu isafswm o 4)


 


 

  1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
  2. Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd
  3. Rheoliadau Adrodd Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus
  4. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
  5. Rheoliadau Cymorth Cyntaf
  6. ​polisïau a gweithdrefnau sefydliadol unigol


** 


** 

Nodau**


** 


** 

  1. byr
  2. canolig
  3. hir
  4. iechyd a ffitrwydd cyffredinol
  5. ffisiolegol
  6. seicolegol
  7. ffordd o fyw
  8. cymdeithasol
  9. gallu gweithredol


** 


** 

Dulliau addysgu ac ysgogol​**


** 


** 

  1. canolbwyntio ar nodau
  2. cymdeithasol
  3. dysgu


** 


** 

Paratoi**


** 


** 

  1. canolbwyntio
  2. aliniad ystumiol
  3. anadlu
  4. gweithredu'r craidd 
  5. symudedd 
  6. cydbwysedd


** 


** 

Prif** yn cynnwys symudiad corff cyfan mewn pob maes anatomaidd


 


 

  1. plygu
  2. ymestyn
  3. cylchdroi
  4. amdywys
  5. plygu ystlysol


** 


** 

Camau Terfynol**


** 


** 

  1. ymestyn
  2. ymlacio, gweithredol neu oddefol


** 


** 

Dulliau cyfathrebu**


** 


** 

  1. cwestiynau pen agored
  2. gwrando gweithredol
  3. crynhoi
  4. iaith y corff

Gwybodaeth Cwmpas

Diogel**


** 


** 

  1. Gwrth arwyddion
  2. canllawiau diogelwch allweddol
  3. canllaw ar gyfer cyfranogwyr poblogaeth benodol


** 


** 

Mathau o ystum**


** 


** 

  1. cyffotig
  2. lordotig
  3. siglo'n ôl
  4. cefn fflat
  5. niwtral/delfrydol
  6. sgoliotig


** 


** 

Dulliau addysgu ac ysgogol**


** 


** 

  1. canolbwyntio ar nodau
  2. cymdeithasol
  3. dysgu


** 


** 

Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol** (i gwmpasu isafswm o 4)


 


 

  1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
  2. Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd
  3. Rheoliadau Adrodd Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus
  4. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
  5. Rheoliadau Cymorth Cyntaf
  6. polisïau a gweithdrefnau sefydliadol unigol


** 


** 

Camau**


** 


** 

  1. cam paratoi
  2. prif gam
  3. cam terfynol


** 


** 

Nodau**


** 


** 

  1. hir
  2. byr
  3. canolig
  4. iechyd a ffitrwydd cyffredinol
  5. ffisiolegol
  6. seicolegol
  7. ffordd o fyw
  8. cymdeithasol
  9. gallu gweithredol

Gwerthoedd

​Mae'r gwerthoedd canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd

Dylai Gweithwyr Ymarfer Corff Proffesiynol :

  1. arddangos a hyrwyddo ffordd gyfrifol o fyw ac ymddwyn, trwy beidio â chefnogi'r defnydd o gyffuriau sy'n gwella perfformiad, ac unrhyw sylwedd anghyfreithlon arall
  2. cynnal cyfrinachedd
  3. delio â chyfranogwyr mewn modd agored a thryloyw; gan barchu anghenion eu cyfranogwyr bob tro
  4. ceisio mabwysiadu'r lefel uchaf o safonau proffesiynol yn holl feysydd eu gwaith a datblygiad eu gyrfa

Ymddygiadau

​Mae'r ymddygiadau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd

Dylai Gweithwyr Ymarfer Corff Proffesiynol:

  1.   geisio magu perthnasau iach gyda chyfranogwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill trwy gefnogi, cydgysylltu a rheoli'r broses ffitrwydd/ymarfer yn effeithiol, gan gadw'r cyfranogwr wrth wraidd y broses

  2.   bod yn ymwybodol o rolau personél cynorthwyol yn y galwedigaethau gofal iechyd a chydnabod pryd y dylid atgyfeirio problemau at yr arbenigwyr hyn

  3.   bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau ac atebolrwyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chodau ymarfer y diwydiant

  4.   anelu at rymuso cyfranogwyr; yn cefnogi eu hawl i wneud dewisiadau, darganfod eu hatebion eu hunain, a'u galluogi i gymryd rhan a datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain

5.  nodi a chydnabod anghenion y cyfranogwyr ar ddechrau'r broses

6.  anelu at wella hyder, hunan-barch a lefelau ffitrwydd cyfranogwyr

7.  myfyrio ar eu harfer eu hunain a thrwy'r amser geisio ffyrdd i wella eu gallu ffitrwydd ac ymarfer, sgiliau a gwybodaeth eu hunain

8.  sefydlu perthynas dda gyda chyfranogwyr

9.  dangos empathi a sensitifrwydd i nodau a chyflwr parodrwydd cyfredol cyfranogwyr

10.  cyflwyno delwedd gadarnhaol o'u hunain a'u sefydliad i gyfranogwyr

11.  datblygu perthynas waith effeithiol gyda chyfranogwyr

12.  diffinio rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn gysylltiedig, yn glir

13.  cyfathrebu'n glir gyda chyfranogwyr mewn modd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi

14.   dangos sensitifrwydd ac empathi at y cyfranogwyr a'r wybodaeth maent yn ei darparu


Sgiliau

​Mae'r sgiliau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd

Dylai Gweithwyr Ymarfer Corff Proffesiynol:

  1. baratoi'n systematig ar gyfer yr holl weithgareddau gan sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu cyfranogwyr
  2. sicrhau bod gwahaniaethu a chynhwysiant a all alluogi cyfranogwyr ag anghenion penodol ac o alluoedd amrywiol i gymryd rhan mewn sesiynau a rhaglenni. Dylid ystyried anghenion cyfranogwyr ag anabledd a, lle y bo'n bosibl, cwrdd â'u hanghenion
  3. gweithredu rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn
  4. esbonio eu rôl a chyfrifoldebau i gyfranogwyr
  5. nodi unrhyw rwystrau rhag cyfranogi
  6. annog cyfranogwyr i ddod o hyd i ateb i'w rhwystrau
  7. nodi parodrwydd cyfranogwyr i gyfranogi
  8. nodi a chytuno strategaethau i atal rhoi'r gorau neu lithro'n ôl
  9. defnyddio dulliau hyfforddi sy'n cyfateb ag anghenion cyfranogwyr

  10. addasu eu perthynas â chyfranogwyr er mwyn cwrdd â'u hanghenion sy'n newid

  11. gwrando ar a gofyn cwestiynau i gyfranogwyr er mwyn gwirio eu dealltwriaeth
  12. nodi'r wybodaeth mae arnynt angen ei chasglu ynghylch eu cyfranogwyr
  13. casglu gwybodaeth ynghylch eu cyfranogwyr gan ddefnyddio dulliau cymeradwy
  14. cofnodi'r wybodaeth mewn modd a fydd yn helpu i'w dadansoddi
  15. defnyddio technegau cyfathrebu ac ymatebion priodol wrth ddelio ag anghydfod
  16. cydnabod ymddygiad gwahaniaethol a gwybod am y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd unrhyw ddigwyddiadau

Geirfa

​Gweithgareddau

Cydrannau sesiwn gweithgarwch corfforol a all ganolbwyntio ar y ffordd rydych yn datblygu cryfder, gwytnwch, technegau neu ymwybyddiaeth dactegol cyfranogwyr neu strategaethau ar gyfer datrys problemau. Mae sesiynau gweithgarwch corfforol yn cynnwys un gweithgaredd neu fwy.

Adborth

Y broses o roi a derbyn barn ar berfformiad. Gallai hyn eich cynnwys chi'n rhoi adborth i gyfranogwyr ar eu perfformiad neu gyfraniad at sesiwn gweithgarwch corfforol; neu hyfforddwr mwy profiadol yn rhoi barn ar eich perfformiad wrth gyflwyno sesiwn gweithgarwch corfforol penodol.

Nodau

Gallant fod yn rhai tymor hir, tymor canolig neu dymor byr.

Cyfarwyddiadau

Y pwyntiau addysgu allweddol sy'n arwain cyfranogwr tuag at gyflawni ymarfer yn ddiogel ac yn effeithiol.

Cyfranogwyr

Pobl, fel unigolion, neu mewn grwpiau, a fydd yn cymryd rhan mewn sesiwn gweithgarwch corfforol.

Cynllun

Mae cynllun sesiwn gweithgarwch corfforol yn ddisgrifiad o sesiwn benodol; yn cael eu cynnwys yn y cynllun fydd ei nodau, amcanion, cynnwys, gweithgareddau, amseru a'r cyfarpar sydd eu hangen. Dylid cofnodi cynlluniau fel y gellir eu rhannu gydag eraill a chyfeirio atynt yn ddiweddarach.

Adolygu

Y broses o ddadansoddi'r sesiynau rydych wedi eu cynllunio a chyflenwi, gan nodi'r hyn a aeth yn dda a'r hyn y gallai fod wedi cael ei wella.

Cyfranogwyr Poblogaeth Arbennig

Cyfranogwyr ag anghenion penodol a nodwyd fel pobl ifanc, gwragedd cyn geni ac ôl-enedigol, yr anabl a phobl hŷn.

Lles

Yn cefnogi lles y cyfranogwyr gan gynnwys ffordd sylfaenol o fyw, maetheg ac ymwybyddiaeth ynghylch cyffuriau.


Dolenni I NOS Eraill

Mae'r safon hon yn cysylltu â SKAEF21​.


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAD466

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau proffesiynol a thechnegol cysylltiol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Hyfforddi; mat Pilates; sesiynau; rhaglenni