Cynllunio, rheoli ac addasu rhaglen mat Pilates
Trosolwg
Mae'r safon hon ynghylch cynllunio, rheoli ac addasu rhaglen mat Pilates ar gyfer oedolion o bob oed sy'n ymddangos yn iach.
Canlyniadau'r safon hon yw:
casglu a dadansoddi gwybodaeth a chytuno nodau gyda chyfranogwyr
cynllunio, paratoi a rheoli rhaglen mat Pilates
monitro ac adolygu cynnydd cyfranogwyr
cyfaddasu, cynyddu ac addasu rhaglen mat Pilates
Mae'n rhaid i chi gynnwys yr wybodaeth graidd ynghylch ymarfer corff a ffitrwydd a dealltwriaeth ddamcaniaethol fel y manylir arnynt yn y ddogfen Gofynion Gwybodaeth Graidd ynghylch Ymarfer a Ffitrwydd SkillsActive sy'n berthnasol i rôl y swydd.
Mae'r safon hon ar gyfer hyfforddwyr mat Pilates sy'n cynllunio, hyfforddi ac adolygu rhaglenni i fynd i'r afael â nodau tymor byr, canolog a hir. Byddant fel arfer yn gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Casglu a dadansoddi gwybodaeth berthnasol a chytuno ar nodau gyda chyfranogwyr**
  
 
  
 
1. casglu a chofnodi gwybodaeth* ynghylch cyfranogwyr*
2. defnyddio dulliau casglu'r wybodaeth mae arnoch ei hangen i gynllunio rhaglen mat Pilates i gwrdd ag anghenion cyfranogwyr
3. sicrhau bod gwybodaeth yn gyfredol
4. cofnodi gwybodaeth mewn ffordd a fydd yn eich helpu i'w dadansoddi
5. nodi pryd mae cyfranogwyr angen cael eu hatgyfeirio i weithwyr proffesiynol eraill
6. cynnal cyfrinachedd, yn dilyn gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
7. gweithio gyda'ch cyfranogwyr er mwyn cytuno nodau i gwrdd â'u hanghenion
8. sicrhau bod y nodau yn SMART
9. cofnodi nodau mewn fformat sy'n glir i'ch cyfranogwyr, i chi'ch hunan ac i weithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn gysylltiedig
  
**
  
** 
Cynllunio, paratoi a rheoli rhaglen mat Pilates**  
  
 
  
 
10. cynllunio rhaglen sy'n cynnwys egwyddorion gwreiddiol a hanfodion Pilates
11. sicrhau bod y rhaglen yn caniatáu i gyfranogwyr gymryd rhan mewn ystod o symudiadau sy'n caniatáu am gyfaddasiadau, cynnydd ac addasiadau
12. paratoi'r adnoddau a'r amgylchedd
13. cofnodi'ch cynlluniau mewn fformat hygyrch a fydd yn eich helpu chi, eich cyfranogwyr* a gweithwyr proffesiynol eraill* i weithredu'r rhaglen
14. esbonio a chytuno ar alwadau'r rhaglen gyda'ch cyfranogwyr
15.  nodi a chytuno ar bwyntiau adolygu gyda'ch cyfranogwyr  
  
**
  
** 
Monitro ac adolygu cynnydd cyfranogwyr**  
  
 
  
 
16. nodi gweithgareddau sydd angen eu haddasu
17. monitro cyfranogwyr yn ystod y rhaglen
18. darparu adborth i'ch cyfranogwyr
19. monitro cynnydd cyfranogwyr ar bwyntiau cytûn yn y rhaglen
20. esbonio pwrpas adolygu i'ch cyfranogwyr a sut mae'n addas ar gyfer eu rhaglen
21. annog eich cyfranogwyr i roi eu barn eu hunain ar gynnydd
22.  cytuno ar ganlyniadau'r adolygiad gyda'ch cyfranogwyr a chadw cofnodion  
  
**
  
** 
Cyfaddasu, cynyddu ac addasu rhaglen mat Pilates**  
  
 
  
 
23. nodi'r symudiadau sydd angen eu cyfaddasu, cynyddu ac addasu
24. gwneud defnydd o gynlluniau cynyddu ac atchwelyd presennol
25. nodi a chytuno ar newidiadau i'r rhaglen gyda'ch cyfranogwyr a gweithwyr proffesiynol eraill**
26. gwerthuso rhaglenni Pilates mat er mwyn sicrhau bod cyfranogwyr yn dal i gael eu hysgogi
27. cyflwyno cyfaddasiadau, dulliau cynyddu ac addasiadau mewn ffordd sy'n cwrdd ag anghenion eich cyfranogwyr a newid eich cynlluniau i gyd-fynd
28. monitro effeithiolrwydd eich newidiadau i'r rhaglen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Casglu a dadansoddi gwybodaeth a chytuno nodau gyda chyfranogwyr**
  
 
  
 
1. y mathau o wybodaeth** sydd eu hangen i gynllunio rhaglen mat Pilates
2. dulliau diogel casglu gwybodaeth
3. fformatau ar gyfer cofnodi gwybodaeth
4. y gweithdrefnau i'w dilyn wrth atgyfeirio cyfranogwyr at weithwyr proffesiynol eraill
5. gwarchod cyfrinachedd gwybodaeth, yn dilyn gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
6. gweithdrefnau ar gyfer trefnu a dehongli gwybodaeth er mwyn caniatáu ichi nodi anghenion a nodau cyfranogwyr
7. pam mae'n bwysig nodi nodau gyda'ch cyfranogwyr
8. egwyddorion datblygu nodau SMART
9. sut mae cofnodi nodau
  
**
  
** 
Cynllunio, paratoi a rheoli rhaglen Pilates mat**  
  
 
  
 
10. pam mae angen cynllunio a pharatoi trwyadl ar gyfer rhaglen Pilates mat
11. cyfnodau rhaglen Pilates mat sy'n seiliedig ar egwyddorion gwreiddiol a hanfodion Pilates
- dulliau sicrhau bod y rhaglen yn cwrdd ag anghenion cyfranogwyr
 
13. sut mae cynllunio rhaglen sy'n ymgorffori cyfaddasiadau, dulliau cynyddu ac addasiadau er mwyn cwrdd ag anghenion cyfranogwyr
14. yr adnoddau a chyfleusterau a fydd yn helpu'ch cyfranogwyr i gymryd rhan yn y rhaglen
15. sut mae cofnodi cynlluniau mewn fformat hygyrch sy'n helpu i weithredu'r rhaglen
16. pryd i esbonio a chytuno ar gynnwys a galwadau'r rhaglen gyda'ch cyfranogwyr
  
** 
  
** 
Monitro, gwerthuso ac adolygu cynnydd cyfranogwyr**
  
 
  
 
17. pryd i adolygu'r rhaglen gyda chyfranogwyr
18. sut mae nodi gweithgareddau sydd angen eu haddasu
19. y dulliau casglu, dadansoddi a chofnodi gwybodaeth sy'n galluogi i gynnydd gael ei adolygu yn ôl nodau a data gwaelodlin cychwynnol
20. y sgiliau sy'n gysylltiedig â darparu adborth cadarnhaol ac amserol i gyfranogwyr
21. sut mae dadansoddi cynnydd cyfranogwyr
22. pam y dylech annog cyfranogwyr i roi eu barn
23. pam y dylid cytuno ar newidiadau gyda chyfranogwyr
24. dulliau cofnodi newidiadau a'r rhesymau am y newid
  
** 
  
** 
Cyfaddasu, cynyddu ac addasu rhaglen mat Pilates**
  
 
  
 
25. sut mae nodi'r symudiadau sydd angen eu haddasu
26. pryd i gyfaddasu, symud ymlaen ac addasu rhaglen Pilates mat i gwrdd ag anghenion cyfranogwyr
27. sut mae cyfathrebu cyfaddasiadau, dulliau cynyddu ac addasiadau i'ch cyfranogwyr a gweithwyr proffesiynol eraill
28. dulliau gwerthuso rhaglen mat Pilates ar gyfnodau rheolaidd er mwyn cynnal ysgogiad cyfranogwyr
29. sut mae nodi newidiadau i adnoddau'r rhaglen
30. addasu cynlluniau'r rhaglen er mwyn cymryd i gyfrif cyfaddasiadau , dulliau cynyddu ac addasiadau
31. sut mae monitro effeithiolrwydd addasiadau i'r rhaglen
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth**
  
** 
  
** 
- nod personol
 - ffordd o fyw
 - hanes meddygol
 - hanes gweithgarwch corfforol
 - hoffterau ynghylch gweithgarwch corfforol
 - agwedd ac ysgogiad i gymryd rhan
 - lefel gyfredol o ffitrwydd
 - cyfnod parodrwydd
 - seicolegol
 
  
** 
  
** 
Cyfranogwyr**
  
** 
  
** 
- cyfranogwyr unigol
 - grwpiau dosbarth
 - ag anghenion ffitrwydd penodol
 - ag anghenion iechyd cyffredinol
 - dechreuwyr
 - profiadol
 
  
** 
  
** 
Dulliau**
  
** 
  
** 
- cyfweliad
 - holiadur
 - sgrinio llafar
 - arsylwi
 
  
** 
  
** 
Gweithwyr proffesiynol eraill**
  
** 
  
** 
- ffisiotherapyddion
 - seicolegwyr
 - ffisiolegyddion
 - biopeirianaethwr
 - maethegwyr
 - arbenigwyr cymorth ffordd o fyw
 - rhwydwaith gymorth cymdeithasol cyfranogwyr
 
  
** 
  
** 
Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol** (i gwmpasu isafswm o 4)
  
 
  
 
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
 - Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd
 - Rheoliadau Adrodd Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus
 - Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
 - Rheoliadau Cymorth Cyntaf
 - polisïau a gweithdrefnau sefydliadol unigol
 
  
** 
  
** 
Nodau**
  
** 
  
** 
- tymor byr
 - canolig
 - hir
 - iechyd a ffitrwydd cyffredinol
 - ffisiolegol
 - seicolegol
 - ffordd o fyw
 - cymdeithasol
 - gallu gweithredol
 
  
** 
  
** 
SMART**
  
** 
  
** 
- penodol
 - mesuradwy
 - cyraeddadwy
 - canolbwyntio ar ganlyniadau
 - yn rhwym wrth amser
 
  
** 
  
** 
Egwyddorion gwreiddiol**  
- anadlu
 - canolbwyntio
 - rheoli
 - canoli
 - manylrwydd
 - llif
 
  
** 
  
** 
Hanfodion**
  
** 
  
** 
- sefydlogi (â phwyslais arbennig ar wregys yr ysgwydd, yr asgwrn cefn meingefnol a'r gwregys pelfig, anadlu, symudiadau, a chysylltu'r asgwrn cefn
 - aliniad ystumiol a strwythurol
 - mathau o ystum
 
  
** 
  
** 
Amgylchedd**
  
** 
  
** 
- gofod
 - trefn
 - tymheredd
 - deunydd llawr
 - goleuadau
 - awyru
 - defnydd o gerddoriaeth
 - cyfarpar ar gyfer y rhaglen
 - dillad a chyfarpar personol
 
Gwybodaeth Cwmpas
  
** 
  
** 
Gwybodaeth**
  
** 
  
** 
- nod personol
 - ffordd o fyw
 - hanes meddygol
 - hanes gweithgarwch corfforol
 - hoffterau ynghylch gweithgarwch corfforol
 - agwedd ac ysgogiad i gymryd rhan
 - lefel gyfredol o ffitrwydd
 - cyfnod parodrwydd
 - seicolegol
 
  
** 
  
** 
Diogel**
  
** 
  
** 
- gwrtharwyddion
 - canllawiau diogelwch allweddol
 - canllawiau ar gyfer cyfranogwyr poblogaeth arbennig
 
  
** 
  
** 
Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol**
  
** 
  
** 
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
 - Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd
 - Rheoliadau Adrodd Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus
 - Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
 - Rheoliadau Cymorth Cyntaf
 - polisïau a gweithdrefnau sefydliadol unigol
 
  
** 
  
** 
Nodau**
  
 
  
 
- hir
 - tymor byr
 - canolig
 - iechyd a ffitrwydd cyffredinol
 - ffisiolegol
 - seicolegol
 - ffordd o fyw
 - cymdeithasol
 - gallu gweithredol
 
  
** 
  
** 
SMART**
  
** 
  
** 
- penodol
 - mesuradwy
 - cyraeddadwy
 - canolbwyntio ar ganlyniadau
 - yn rhwym wrth amser
 
  
** 
  
** 
Camau**
  
** 
  
** 
- cam paratoi
 - prif gam
 - cam terfynol
 
  
** 
  
** 
Egwyddorion gwreiddiol**
  
** 
  
** 
- hanes Joseph Pilates
 - stoc y 34 ymarfer gwreiddiol Pilates
 - hynt bywyd y system gyhyrysgerbydol (gan gynnwys cartilag/disg
 - anadlu
 - canolbwyntio
 - rheoli
 - canoli
 - manylrwydd
 - llif
 
  
** 
  
** 
Hanfodion**  
- sefydlogi (â phwyslais arbennig ar wregys yr ysgwydd, yr asgwrn cefn meingefnol a'r gwregys pelfig, anadlu, symudiadau, a chysylltu'r asgwrn cefn
 - aliniad ystumiol a strwythurol
 - mathau o ystum
 
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
  
 
  
 
Dylai Gweithwyr Ymarfer Corff Proffesiynol :
- arddangos a hyrwyddo ffordd gyfrifol o fyw ac ymddwyn, trwy beidio â chefnogi'r defnydd o gyffuriau sy'n gwella perfformiad, ac unrhyw sylwedd anghyfreithlon arall
 - cynnal cyfrinachedd
 - delio â chyfranogwyr mewn modd agored a thryloyw; gan barchu anghenion eu cyfranogwyr bob tro
 - ceisio mabwysiadu'r lefel uchaf o safonau proffesiynol yn holl feysydd eu gwaith a datblygiad eu gyrfa
 
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
  
 
  
 
Dylai Gweithwyr Ymarfer Corff Proffesiynol:
- geisio magu perthnasau iach gyda chyfranogwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill trwy gefnogi, cydgysylltu a rheoli'r broses ffitrwydd/ymarfer corff yn effeithiol, gan gadw'r cyfranogwr wrth wraidd y broses
 - bod yn ymwybodol o rolau personél cynorthwyol yn y galwedigaethau gofal iechyd a chydnabod pryd y dylid atgyfeirio problemau at yr arbenigwyr hyn
 - bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau ac atebolrwyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chodau ymarfer y diwydiant
 - anelu at rymuso cyfranogwyr; yn cefnogi eu hawl i wneud dewisiadau, dod o hyd i'w hatebion eu hunain, a'u galluogi i gymryd rhan a datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain
 - nodi a chydnabod anghenion y cyfranogwyr ar ddechrau'r broses
 anelu at wella hyder, hunan-barch a lefelau ffitrwydd cyfranogwyr
myfyrio ar eu harfer eu hunain a thrwy'r amser geisio ffyrdd i wella eu gallu ffitrwydd ac ymarfer, sgiliau a gwybodaeth eu hunain
- sefydlu perthynas dda gyda chyfranogwyr
 - dangos empathi a sensitifrwydd i nodau a chyflwr parodrwydd cyfredol cyfranogwyr
 - cyflwyno delwedd gadarnhaol o'u hunain a'u sefydliad i gyfranogwyr
 - datblygu perthynas weithio effeithiol gyda chyfranogwyr
 - diffinio rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn gysylltiedig, yn glir
 - cyfathrebu'n glir gyda chyfranogwyr mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
 - dangos sensitifrwydd ac empathi i'r cyfranogwyr a'r wybodaeth maent yn ei darparu
 
Sgiliau
Mae'r sgiliau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Corff Proffesiynol:
- baratoi'n systematig ar gyfer yr holl weithgareddau gan sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu cyfranogwyr
 - sicrhau bod gwahaniaethu a chynhwysiant a all alluogi cyfranogwyr ag anghenion neilltuol ac o alluoedd amrywiol i gymryd rhan mewn sesiynau a rhaglenni. Dylid ystyried anghenion cyfranogwyr ag anabledd a, lle y bo'n bosibl, dylid cwrdd â'u hanghenion
 - gweithredu rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn
 - esbonio eu rôl a chyfrifoldebau i gyfranogwyr
 - nodi unrhyw rwystrau rhag cyfranogi
 - annog cyfranogwyr i ddod o hyd i ateb i'w rhwystrau
 - nodi parodrwydd cyfranogwyr i gyfranogi
 - nodi a chytuno ar strategaethau i atal rhoi'r gorau neu lithro'n ôl
 - defnyddio dulliau hyfforddi sy'n cyfateb ag anghenion cyfranogwyr
 - addasu eu perthynas â chyfranogwyr er mwyn cwrdd â'u hanghenion sy'n newid
 - gwrando ar a gofyn cwestiynau i gyfranogwyr er mwyn gwirio eu dealltwriaeth
 - nodi'r wybodaeth mae arnynt angen ei chasglu ynghylch eu cyfranogwyr
 - casglu gwybodaeth ynghylch eu cyfranogwyr gan ddefnyddio dulliau cymeradwy
 - cofnodi'r wybodaeth mewn ffordd a fydd yn helpu i'w dadansoddi
 - defnyddio technegau cyfathrebu ac ymatebion priodol wrth ddelio ag anghydfod
 - cydnabod ymddygiad gwahaniaethol a gwybod am y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd unrhyw ddigwyddiadau
 
Geirfa
Fformat hygyrch
Dogfen sy'n cyflwyno'r un wybodaeth mewn ffurf wahanol sydd yn haws ei defnyddio a deall gan bobl â gwahanol alluoedd.
*  
* 
*  
* 
*  
* 
*  
* 
*  
* 
*  
* 
Gweithgareddau
Cydrannau rhaglen o weithgarwch corfforol a all ganolbwyntio ar y ffordd rydych yn datblygu cryfder, gwytnwch, technegau neu ymwybyddiaeth dactegol neu strategaethau cyfranogwyr ar gyfer datrys problemau. Mae sesiynau gweithgarwch corfforol yn cynnwys un gweithgaredd neu fwy.
Adborth
Y broses o roi a derbyn barn ar berfformiad. Gallai hyn eich cynnwys chi'n rhoi adborth i gyfranogwyr ar eu perfformiad neu gyfraniad at raglen o weithgarwch corfforol; neu hyfforddwr mwy profiadol yn rhoi barn ar eich perfformiad wrth gyflenwi rhaglen neilltuol o weithgarwch corfforol.
Nodau
Gallant fod yn rhai tymor hir, tymor canolig neu dymor byr.
*  
* 
*  
* 
Cyfranogwyr
Pobl, fel unigolion, neu mewn grwpiau, a fydd yn cymryd rhan mewn rhaglen o weithgarwch corfforol.
Cynllun
Mae cynllun rhaglen o weithgarwch corfforol yn ddisgrifiad o raglen neilltuol; yn cael eu cynnwys yn y cynllun fydd ei nodau, amcanion, cynnwys, gweithgareddau amseru a'r cyfarpar sydd eu hangen. Dylid cofnodi cynlluniau fel y gellir eu rhannu gydag eraill a chyfeirio atynt yn ddiweddarach.
  
** 
  
** 
  
** 
Adolygu**  
Y broses o ddadansoddi'r sesiynau rydych wedi eu cynllunio a chyflenwi, gan nodi'r hyn a aeth yn dda a'r hyn y gallai fod wedi cael ei wella.
Cyfranogwyr Poblogaeth Arbennig
Cyfranogwyr ag anghenion penodol a nodwyd fel pobl ifanc, gwragedd cyn ac ar ôl geni, yr anabl a phobl hŷn.
Lles
Yn cefnogi lles y cyfranogwyr gan gynnwys ffordd sylfaenol o fyw, maetheg ac ymwybyddiaeth ynghylch cyffuriau.
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon hon yn cysylltu ag SKAEF22.