Hyfforddi gweithgareddau ymarfer a chorfforol ar gyfer cyfranogwyr a atgyfeiriwyd

URN: SKAEF20
Sectorau Busnes (Suites): Ymarfer Corff a Ffitrwydd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 31 Rhag 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â goruchwylio a hyfforddi rhaglen o weithgareddau ymarfer a chorfforol ar gyfer cyfranogwyr a atgyfeirir fel unigolion neu grwpiau, yn cyflwyno â chyflyrau meddygol amrywiol a all fod yn sengl neu'n lluosog. Mae'n cynnwys y sgiliau a gwybodaeth sylfaenol sydd eu hangen i weithio o fewn system atgyfeirio ar gyfer ymarferion.


 


 

Prif ganlyniadau'r safon hon yw:


 


 

  1. paratoi cyfranogwyr ar gyfer rhaglenni o weithgareddau ymarfer a chorfforol
  2. addysgu ac addasu rhaglenni atgyfeirio o weithgareddau ymarfer a chorfforol
  3. dod â rhaglenni atgyfeirio o weithgareddau ymarfer a chorfforol i ben


 

Mae'n rhaid ichi gynnwys yr wybodaeth graidd ynghylch ymarfer corff a ffitrwydd a dealltwriaeth ddamcaniaethol fel y manylir arnynt yn y ddogfen Gofynion Gwybodaeth Graidd ynghylch Ymarfer a Ffitrwydd SkillsActive sy'n berthnasol i rôl y swydd.

Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym meysydd ymarfer a ffitrwydd, sy'n paratoi, goruchwylio a hyfforddi rhaglenni o weithgareddau ymarfer a chorfforol er mwyn mynd i'r afael â nodau tymor byr, canolig a hir gyda chyfranogwyr a atgyfeirir. Byddant fel arfer yn gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Paratoi cyfranogwyr ar gyfer rhaglenni atgyfeirio o weithgareddau ymarfer a chorfforol**


 


 

1.  paratoi'r amgylchedd ac adnoddau sydd arnoch eu hangen ar gyfer yr ymarferion a/neu weithgareddau corfforol a gynlluniwyd

2.   casglu unrhyw wybodaeth newydd gan y cyfranogwyr am eu hymateb i ymarferion a/neu weithgareddau corfforol blaenorol

3.  esbonio i'r cyfranogwyr sut mae'r sesiwn yn cysylltu â'u nodau

4.  trafod y gweithgareddau rydych wedi'u cynllunio ar gyfer y sesiwn gyda'r cyfranogwyr

5.   esbonio gofynion corfforol a thechnegol yr ymarferion a/neu weithgareddau corfforol a gynlluniwyd

6.   esbonio i'r cyfranogwyr sut mae'r ymarferion a/neu weithgareddau corfforol yn gallu cael eu cynyddu neu eu hatchwelyd er mwyn cwrdd â'u nodau

7.   asesu a chytuno gyda'r cyfranogwyr eu cyflwr parodrwydd i gymryd rhan yn yr ymarferion a/neu weithgareddau corfforol a gynlluniwyd

8.  negodi, cytuno a chofnodi gyda chyfranogwyr unrhyw newidiadau i'r ymarferion gweithgareddau ymarfer a/neu gorfforol**

9.   sicrhau bod cydbwysedd o gyfarwyddyd, gweithgarwch a thrafodaeth o fewn y sesiwn

10.  esbonio pwrpas a gwerth sesiwn twymo i fyny i'r cyfranogwyr

11.  darparu cyfranogwyr â sesiwn twymo i fyny sy'n cwrdd â'u *cyflwr/cyflyrau *a/neu anghenion


** 


** 

Addysgu ac addasu rhaglenni atgyfeirio o weithgareddau ymarfer a chorfforol


 

12. dewis dulliau hyfforddi sy'n perthyn i'r gweithgareddau a chyflyrau ac anghenion cyfranogwyr

13.  gwirio dealltwriaeth cyfranogwyr ynghylch cyfarwyddiadau, esboniadau ac arddangosiadau

14.  sicrhau y gall cyfranogwyr wneud y gweithgareddau yn ddiogel heb oruchwyliaeth uniongyrchol barhaol

15.  arsylwi a dadansoddi perfformiad cyfranogwyr

16.  darparu atgyfnerthiad cadarnhaol drwy gydol y sesiwn

17.  cywiro technegau lle bo angen gwella ar berfformiad cyfranogwyr

18.  cynyddu neu atchwelyd gweithgareddau ymarfer a chorfforol yn ôl perfformiad** cyfranogwyr


** 


** 

Dod â rhaglenni atgyfeirio weithgareddau ymarfer a chorfforol i ben**


 

19.  caniatáu digon o amser i roi terfyn ar y gweithgareddau ymarfer a chorfforol

20.   esbonio pwrpas a gwerth sesiwn tawelu i gyfranogwyr

21.   rhoi terfyn ar y gweithgareddau trwy ddefnyddio sesiwn tawelu sy'n ddiogel ac effeithiol i gyfranogwyr**

22.   darparu cyfranogwyr ag atgyfnerthiad ac anogaeth ynghylch eu perfformiad

23.  rhoi crynodeb cywir o'ch adborth i gyfranogwyr ar y sesiwn

24.  esbonio wrth gyfranogwyr sut mae eu cynnydd yn cysylltu â'u nodau tymor byr, canolig a hir

25.  rhoi'r cyfle i gyfranogwyr ofyn cwestiynau am y sesiwn

26.  darparu cyngor ynghylch sut gall cyfranogwyr reoli eu gweithgareddau eu hunain yn y dyfodol er mwyn cynorrthwyo cyflawni eu nodau

27.  gadael yr amgylchedd mewn cyflwr sy'n addas ar gyfer defnydd gennych chi neu bobl eraill yn y dyfodol​



Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Paratoi cyfranogwyr ar gyfer rhaglenni atgyfeirio o weithgareddau ymarfer a chorfforol**


 

1.  yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y gweithgareddau a gynlluniwyd a sut mae paratoi'r rhain

2.  ffyrdd o wneud i gyfranogwyr deimlo'n esmwyth cyn y sesiwn

  1.  mathau o wybodaeth newydd sydd eu hangen gan gyfranogwyr am eu hymateb i weithgaredd blaenorol

4.  sut mae cynllunio sesiwn a gysylltir â nodau cyfranogwyr

5.   pam mae angen i chi drafod y gweithgareddau rydych wedi'u cynllunio ar gyfer y sesiwn gyda'r cyfranogwyr

6.  gofynion corfforol a thechnegol y gweithgareddau a gynlluniwyd

7.  sut gall y gweithgareddau a gynlluniwyd gael eu cynyddu neu eu hatchwelyd er mwyn cwrdd â nodau'r cyfranogwyr

8.  dulliau asesu a chytuno cyfnod parodrwydd y cyfranogwyr i gymryd rhan yn y sesiwn

9.   dulliau asesu ysgogiad y cyfranogwyr i gymryd rhan yn y gweithgareddau a gynlluniwyd

  1.  yr angen i negodi, cytuno a chofnodi gyda'r cyfranogwyr unrhyw newidiadau i'r gweithgareddau a gynlluniwyd

11.  sut mae sicrhau bod cydbwysedd effeithiol o hyfforddi, gweithgarwch a thrafod o fewn y sesiwn

12.   sut mae darparu sesiwn twymo i fyny sy'n cwrdd â chyflwr/cyflyrau a/neu anghenion y cyfranogwyr


** 


** 

Addysgu ac addasu rhaglenni atgyfeirio o weithgareddau ymarfer a chorfforol


 

13.   dulliau hyfforddi sy'n perthyn i'r gweithgareddau a chyflyrau ac anghenion cyfranogwyr

14.   dulliau sicrhau y gall cyfranogwyr wneud y gweithgareddau yn ddiogel heb oruchwyliaeth uniongyrchol barhaol

15.  sut mae arsylwi a dadansoddi perfformiad cyfranogwyr

16.   dulliau darparu atgyfnerthiad cadarnhaol ac anogaeth drwy gydol y sesiwn

17.  pam y dylech gywiro technegau lle mae perfformiad cyfranogwyr angen ei wella

18.  sut mae symud ymlaen neu atchwelyd gweithgareddau yn ôl perfformiad y cyfranogwyr


** 


** 


** 


** 

Dod â rhaglenni atgyfeirio ymarferion a gweithgareddau corfforol i ben**


 


 

19.  pam y dylech ganiatáu digon o amser i roi terfyn ar y gweithgareddau

20.  sut mae rhoi terfyn ar y gweithgareddau trwy ddefnyddio sesiwn tawelu sy'n ddiogel ac effeithiol i'r cyfranogwyr

21.  pam y dylech roi crynodeb cywir o'ch adborth i gyfranogwyr o'ch adborth ar y sesiwn

22.  dulliau esbonio wrth gyfranogwyr sut mae eu cynnydd yn cysylltu â'u nodau

23.  pam y dylech roi'r cyfle i gyfranogwyr ofyn cwestiynau am y sesiwn

24.  dulliau darparu cyngor ynghylch sut gall cyfranogwyr reoli eu gweithgareddau eu hunain yn y dyfodol er mwyn cynorthwyo cyflawni eu nodau

25.  pam y dylech adael yr amgylchedd mewn cyflwr sy'n addas ar gyfer defnydd gennych chi neu bobl eraill ​


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Amgylchedd**


** 


** 

1. gofod 2. trefn 3. tymheredd 4. deunydd llawr 5. goleuadau 6. awyru 7. defnydd o gerddoriaeth 8. cyfarpar ar gyfer y sesiwn 9. dillad a chyfarpar personol **  **  Gweithgareddau ymarfer a/neu gorfforol**, i ddatblygu     1. cardiofasgwlaidd 2. cryfder 3. dycnwch 4. hyblygrwydd 5. sefydlogrwydd craidd 6. sgiliau echddygol **  **  Gwybodaeth** **  **  1. ffurflen atgyfeirio 2. cydsyniad deallus i gymryd rhan a throsglwyddo gwybodaeth feddygol 3. hanes meddygol a llawfeddygol 4. meddyginiaeth/au 5. hanes a hoffterau ynghylch gweithgarwch corfforol 6. lefelau cyfredol o ffitrwydd 7. ystyriaethau cymdeithasol a seicolegol 8. nodau personol ac ymddygiadol **  **  Cyfranogwyr** **  **  1. unigolion dan atgyfeiriad meddygol 2. unigolion ag anghenion penodol ynghylch ffitrwydd, dan atgyfeiriad meddygol 3. unigolion ag anghenion penodol ynghylch iechyd, dan atgyfeiriad meddygol 4. unigolion anweithredol, dan atgyfeiriad meddygol 5. grwpiau o unigolion a atgyfeiriwyd **  **  Nodau** **  **  1. iechyd a ffitrwydd cyffredinol/penodol 2. ffisiolegol 3. seicolegol 4. ffordd o fyw 5. cymdeithasol 6. gallu gweithredol **  **  Amodau **(i gwmpasu isafswm o 3)     1. cardiofasgwlaidd 2. anadlol 3. cyhyrysgerbydol 4. seicolegol 5. metabolig/imiwnolegol **  **  Dulliau hyfforddi** **  **  1. awtocratig 2. democrataidd 3. gorchymynnol 4. cydweithredol​

Gwybodaeth Cwmpas

Gwybodaeth**


** 


** 

  1. ffurflen atgyfeirio
  2. cydsyniad deallus i gymryd rhan a throsglwyddo gwybodaeth feddygol
  3. hanes meddygol a llawfeddygol
  4. meddyginiaeth/au
  5. hanes a hoffterau ynghylch gweithgarwch corfforol
  6. lefelau cyfredol o ffitrwydd
  7. ystyriaethau cymdeithasol a seicolegol
  8. nodau personol ac ymddygiadol


** 


** 

Dulliau hyfforddi**


** 


** 

  1. awtocratig
  2. democrataidd
  3. gorchymynnol
  4. cydweithredol


** 


** 

Amgylchedd**


** 


** 

  1. gofod
  2. trefn
  3. tymheredd
  4. deunydd llawr
  5. goleuadau
  6. awyru
  7. defnydd o gerddoriaeth
  8. cyfarpar ar gyfer y sesiwn
  9. dillad a chyfarpar personol​

Gwerthoedd

​Mae'r gwerthoedd dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd


 


 

Dylai Gweithwyr Ymarfer Corff Proffesiynol :

    1. arddangos a hyrwyddo ffordd gyfrifol o fyw ac ymddwyn, trwy beidio â chefnogi'r defnydd o gyffuriau sy'n gwella perfformiad, ac unrhyw sylwedd anghyfreithlon arall
    2. cynnal cyfrinachedd
    3. delio â chyfranogwyr mewn modd agored a thryloyw; gan barchu anghenion eu cyfranogwyr bob tro
    4. ceisio mabwysiadu'r lefel uchaf o safonau proffesiynol yn holl feysydd eu gwaith a datblygiad eu gyrfa


Ymddygiadau

​Mae'r ymddygiadau canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd

Dylai Gweithwyr Ymarfer Corff Proffesiynol:

  1. geisio magu perthnasau iach gyda chyfranogwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill trwy gefnogi, cydgysylltu a rheoli'r broses ffitrwydd/ymarfer corff yn effeithiol, gan gadw'r cyfranogwr wrth wraidd y broses
  2. bod yn ymwybodol o rolau personél cynorthwyol yn y galwedigaethau gofal iechyd a chydnabod pryd y dylid atgyfeirio problemau at yr arbenigwyr hyn
  3. bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau ac atebolrwyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chodau ymarfer y diwydiant
  4. anelu at rymuso cyfranogwyr; yn cefnogi eu hawl i wneud dewisiadau, dod o hyd i'w hatebion eu hunain, a'u galluogi i gymryd rhan a datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain
  5. nodi a chydnabod anghenion y cyfranogwyr ar ddechrau'r broses
  6. anelu at wella hyder, hunan-barch a lefelau ffitrwydd cyfranogwyr
  7. myfyrio ar eu harfer eu hunain a thrwy'r amser geisio ffyrdd i wella eu gallu ffitrwydd ac ymarfer, sgiliau a gwybodaeth eu hunain
  8. sefydlu perthynas dda gyda chyfranogwyr
  9. dangos empathi a sensitifrwydd i nodau a chyflwr parodrwydd cyfredol cyfranogwyr
  10. cyflwyno delwedd gadarnhaol o'u hunain a'u sefydliad i gyfranogwyr
  11. datblygu perthynas weithio effeithiol gyda chyfranogwyr
  12. diffinio rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn gysylltiedig, yn glir
  13. cyfathrebu'n glir gyda chyfranogwyr mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
  14. dangos sensitifrwydd ac empathi i'r cyfranogwyr a'r wybodaeth maent yn ei darparu

Sgiliau

​Mae'r sgiliau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd


 

Dylai Gweithwyr Ymarfer Corff Proffesiynol:

  1. baratoi'n systematig ar gyfer yr holl weithgareddau gan sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu cyfranogwyr
  2. sicrhau bod gwahaniaethu a chynhwysiant a all alluogi cyfranogwyr ag anghenion neilltuol ac o alluoedd amrywiol i gymryd rhan mewn sesiynau a rhaglenni. Dylid ystyried anghenion cyfranogwyr ag anabledd a, lle y bo'n bosibl, dylid cwrdd â'u hanghenion
  3. gweithredu rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn
  4. esbonio eu rôl a chyfrifoldebau i gyfranogwyr
  5. nodi unrhyw rwystrau rhag cyfranogi
  6. annog cyfranogwyr i ddod o hyd i ateb i'w rhwystrau
  7. nodi parodrwydd cyfranogwyr i gyfranogi
  8. nodi a chytuno ar strategaethau i atal rhoi'r gorau neu lithro'n ôl
  9. defnyddio dulliau hyfforddi sy'n cyfateb ag anghenion cyfranogwyr
  10. addasu eu perthynas â chyfranogwyr er mwyn cwrdd â'u hanghenion sy'n newid
  11. gwrando ar a gofyn cwestiynau i gyfranogwyr er mwyn gwirio eu dealltwriaeth
  12. nodi'r wybodaeth mae arnynt angen ei chasglu ynghylch eu cyfranogwyr
  13. casglu gwybodaeth ynghylch eu cyfranogwyr gan ddefnyddio dulliau cymeradwy
  14. cofnodi'r wybodaeth mewn ffordd a fydd yn helpu i'w dadansoddi
  15. defnyddio technegau cyfathrebu ac ymatebion priodol wrth ddelio ag anghydfod
  16. cydnabod ymddygiad gwahaniaethol a gwybod am y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd unrhyw ddigwyddiadau

Geirfa

Gweithgareddau​

Cydrannau sesiwn gweithgarwch corfforol a all ganolbwyntio ar y ffordd rydych yn datblygu cryfder, gwytnwch, technegau neu ymwybyddiaeth dactegol cyfranogwyr neu strategaethau ar gyfer datrys problemau. Mae sesiynau gweithgarwch corfforol yn cynnwys un gweithgaredd neu fwy.

*
*
 

*
*
 

Tawelu

Gweithgareddau diogel sy'n caniatáu i gyfranogwyr adfer yn feddyliol a chorfforol ar ôl gweithgareddau a wneir mewn sesiwn gweithgarwch corfforol.

Adborth

Y broses o roi a derbyn barn ar berfformiad. Gallai hyn eich cynnwys chi'n rhoi adborth i gyfranogwyr ar eu perfformiad neu gyfraniad at sesiwn gweithgarwch corfforol; neu hyfforddwr mwy profiadol yn rhoi barn ar eich perfformiad wrth gyflenwi sesiwn gweithgarwch corfforol neilltuol.

Nodau

Gallant fod yn rhai tymor hir, tymor canolig neu dymor byr.

Cyfarwyddiadau

Y pwyntiau addysgu allweddol sy'n arwain cyfranogwyr tuag at gyflawni ymarfer yn ddiogel ac yn effeithiol.

Cynllun

Mae cynllun sesiwn gweithgarwch corfforol yn ddisgrifiad o sesiwn neilltuol; yn cael eu cynnwys yn y cynllun fydd ei nodau, amcanion, cynnwys, gweithgareddau amseru a'r cyfarpar sydd eu hangen. Dylid cofnodi cynlluniau fel y gellir eu rhannu gydag eraill a chyfeirio atynt yn ddiweddarach.

*
*
 

*
*
 

Adolygu

Y broses o ddadansoddi'r sesiynau rydych wedi eu cynllunio a chyflenwi, gan nodi'r hyn a aeth yn dda a'r hyn y gallai fod wedi cael ei wella.

Twymo i fyny

Gweithgareddau diogel sy'n caniatáu i gyfranogwyr baratoi'n feddyliol a chorfforol ar gyfer sesiwn gweithgarwch corfforol

Lles

Cefnogi lles cyfranogwyr gan gynnwys ffordd sylfaenol o fyw, maetheg ac ymwybyddiaeth ynghylch cyffuriau.​


Dolenni I NOS Eraill

​Mae'r safon hon yn cysylltu ag SKAEF19​.


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAD464

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Chwaraeon a Ffitrwydd, Galwedigaethau proffesiynol a thechnegol cysylltiol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

hyfforddi; ymarfer; corfforol; gweithgareddau; a atgyfeiriwyd