Cyflenwi ymarfer a gweithgarwch corfforol fel rhan o raglen hyfforddiant

URN: SKAEF16
Sectorau Busnes (Suites): Ymarfer Corff a Ffitrwydd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 31 Rhag 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â'r cymhwysedd sydd ei angen ar hyfforddwyr personol er mwyn cyflenwi ymarfer a gweithgarwch corfforol fel rhan o raglen hyfforddiant personol ar gyfer oedolion o bob oedran sydd yn ôl pob golwg yn iach.


 


 

Prif ganlyniadau'r safon hon yw:


 


 

  1. cynllunio a pharatoi sesiynau ymarfer unigoledig

paratoi cyfranogwyr ar gyfer sesiynau ymarfer unigoledig

  1. addysgu ac addasu ymarferion a gynlluniwyd

dod â sesiynau ymarfer unigoledig i ben


 


 

Mae'n rhaid ichi gynnwys yr wybodaeth graidd ynghylch ymarfer corff a ffitrwydd a dealltwriaeth ddamcaniaethol fel y manylir arnynt yn y ddogfen Gofynion Gwybodaeth Graidd ynghylch Ymarfer a Ffitrwydd SkillsActive sy'n berthnasol i rôl y swydd.

Mae'r safon hon ar gyfer hyfforddwyr personol sy'n cynllunio, cynnal ac adolygu rhaglenni hyfforddiant personol i fynd i'r afael â nodau tymor byr, canolig a hir.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynllunio a pharatoi sesiynau ymarfer unigoledig**


 


 

1.  nodi ystod o ymarferion i helpu cyfranogwyr* i gyflawni eu nodau*

2.  dewis arddulliau addysgu ar gyfer pob cydran y sesiwn

3.  cynllunio ffocws yr ymarferion

4.  cynllunio amseriadau, dwyster a dilyniannu ymarferion

5.  cyflenwi cydbwysedd o gyfarwyddyd, gweithgarwch a thrafodaeth o fewn y sesiwn

6.  nodi'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y sesiwn

7.  paratoi'r adnoddau y byddwch eu hangen ar gyfer y sesiwn, yn dilyn gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol


**


** 

Paratoi cyfranogwyr ar gyfer sesiynau ymarfer unigoledig**


 


 

8.  casglu unrhyw wybodaeth newydd gan* cyfranogwyr* am eu hymateb i weithgaredd blaenorol

9.  hysbysu cyfranogwyr o sut mae'r sesiwn yn cysylltu â'u nodau

10.  trafod yr ymarferion rydych wedi'u cynllunio ar gyfer y sesiwn gyda'r cyfranogwyr

11.  trafod gofynion corfforol a thechnegol yr ymarferion a gynlluniwyd gyda chyfranogwyr

  1.  esbonio sut y gall cyfranogwyr gynyddu neu atchwelyd yr ymarferion er mwyn cwrdd â'u nodau

13.   asesu a chytuno cyfnod parodrwydd eich cyfranogwyr i gymryd rhan yn y sesiwn

14.  negodi, cytuno a chofnodi gyda chyfranogwyr unrhyw newidiadau i'r ymarferion a gynlluniwyd* a fydd yn cwrdd â'u nodau* a hoffterau


** 


** 

Addysgu ac addasu ymarferion a gynlluniwyd**


 


 

15.  darparu gweithgareddau effeithiol i dwymo i fyny** i gyfranogwyr

16.  sicrhau bod yr amgylchedd wedi'i baratoi i'r cyfranogwyr ymarfer yn effeithiol

17.  darparu arddangosiadau i gyfranogwyr

18.  gwirio dealltwriaeth cyfranogwyr ynghylch cyfarwyddiadau, esboniadau ac arddangosiadau

19.  addasu arddulliau cyfathrebu i anghenion cyfranogwyr

20.  sicrhau y gall cyfranogwyr wneud yr ymarferion yn ddiogel ar ar eu pennau eu hunain 

21.  arsylwi a dadansoddi perfformiad y cyfranogwyr

22.  darparu atgyfnerthiad cadarnhaol drwy gydol y sesiwn

23.  cywiro technegau lle bo angen gwella ar berfformiad cyfranogwyr

24.  symud ymlaen neu atchwelyd ymarferion yn ôl perfformiad cyfranogwyr


**


 

Dod â sesiynau ymarfer unigoledig i ben


 


 

25.  caniatáu amser digonol ar gyfer cam terfynol y sesiwn

26.  cyflenwi gweithgareddau tawelu

27.  darparu adborth i gyfranogwyr am eu perfformiad

28.  esbonio wrth gyfranogwyr sut mae eu cynnydd yn cysylltu â'u nodau tymor byr, canolig a hir

29.  darparu'r cyfle i gyfranogwyr ofyn cwestiynau am y sesiwn

30.  trafod gweithgareddau posibl eraill gyda chyfranogwyr a allai eu cynorthwyo wrth gyflawni eu nodau

  1.  gadael yr amgylchedd mewn cyflwr sy'n addas ar gyfer defnydd y dyfodol, gan ddilyn gweithdrefnau ​cyfreithiol a sefydliadol​

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynllunio a pharatoi sesiynau ymarfer unigoledig**


 


 

1.  ymarferion a fydd yn helpu'r cyfranogwr i gyflawni eu nodau

2.  dulliau addysgu ac ysgogol

  1.   pam y dylech gynllunio a chytuno ffocws yr ymarferion ar ddechrau'r sesiwn gyda chyfranogwyr

4.  sut gall amseriadau, dwyseddau a dilyniannau effeithio ar ganlyniadau'r sesiwn

5.  pam bod cydbwysedd o hyfforddiant, ymarfer a thrafodaeth yn angenrheidiol

6.  sut i baratoi'r cyfarpar a'r amgylchedd y mae ei angen arnoch ar gyfer y sesiwn, gan ddilyn gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol


** 

Paratoi'r cyfranogwr ar gyfer sesiynau ymarfer unigoledig**


 


 

7.  sut mae paratoi cyfranogwyr ar gyfer gweithgaredd

8.  pam y dylech gwrdd â chyfranogwyr yn brydlon ar gyfer sesiwn ymarfer

9.  ffyrdd o wneud i gyfranogwyr deimlo'n esmwyth cyn sesiwn ymarfer

10. pam y dylech gael gwybod gan gyfranogwyr sut maent wedi ymateb i weithgarwch corfforol blaenorol

  1. pam y dylech esbonio i gyfranogwyr sut mae'r sesiwn yn cysylltu â'u nodau**

  2.  pam y dylech esbonio i gyfranogwyr y rhesymau am ddethol ar gyfer yr ymarferion a ddewiswyd

13.  gofynion corfforol a thechnegol yr ymarferion

14.  sut mae cynyddu ac atchwelyd ymarferion o fewn y sesiwn

15.  sut mae asesu parodrwydd cyfranogwyr i gymryd rhan mewn sesiwn ymarfer

  1.   sut mae asesu ysgogiad cyfranogwyr i gymryd rhan mewn sesiwn ymarfer, yn defnyddio strategaethau ysgogol

17.  pryd i negodi a chytuno newidiadau i'ch cynlluniau gyda chyfranogwyr


** 


** 

Addysgu ac addasu ymarferion a gynlluniwyd**


 


 

18.  sut mae cyflenwi cyfnod twymo i fyny cyn sesiwn ymarfer

19.  sut mae gwneud y defnydd gorau o'r amgylchedd ar gyfer y sesiwn

20.  dulliau addysgu ar gyfer darparu cyfarwyddiadau ac esboniadau

21.  yr ystumiau cywir ar gyfer yr ymarferion

22.  ffyrdd o ddarparu cyfarwyddiadau, arddangosiadau ac esboniadau i gyfranogwyr

23.  sut mae addasu'ch dulliau cyfathrebu er mwyn cwrdd ag anghenion y cyfranogwyr

24.  pam y dylai cyfranogwyr wneud yr ymarferion yn ddiogel ar eu pennau eu hunain​​

25.  sut mae dadansoddi perfformiad y cyfranogwyr

26.  dulliau o roi atgyfnerthiad cadarnhaol drwy gydol y sesiwn

  1.   pam y byddech yn addasu technegau ymarfer anghywir a wneir gan gyfranogwyr

  2.   ffyrdd o symud ymlaen neu atchwelyd ymarfer yn ôl perfformiad cyfranogwyr


** 


** 

Dod â sesiynau ymarfer unigoledig i ben**


 


 

29.  pam y dylech ganiatáu amser digonol i gyfranogwyr orffen ymarfer

30.  pam y byddech yn dewis gweithgareddau tawelu sy'n gyson â natur y sesiwn ymarfer

31.  pryd i ddarparu adborth cadarnhaol i gyfranogwyr ar eu perfformiad

  1.  pam y dylech roi adborth i gyfranogwyr ar y sesiwn ymarfer

33.  pam bod angen i gyfranogwyr weld sut mae eu cynnydd yn cysylltu â'u nodau cyffredinol

  1.  pam y dylid rhoi cyfle i gyfranogwyr ofyn cwestiynau am eu perfformiad

  2.  gweithgareddau addas eraill a allai gynorthwyo cyfranogwyr i gyflawni eu nodau

  3.  y gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer delio â'r cyfarpar, a'r cyfleuster ehangach, ar ôl i'r sesiwn orffen


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Cyfranogwyr**


** 


** 

  1. dechreuwyr
  2. profiadol
  3. ag anghenion ffitrwydd penodol
  4. ag anghenion iechyd cyffredinol


** 


** 

Nodau​**


** 


** 

  1. iechyd a ffitrwydd cyffredinol
  2. ffisiolegol
  3. seicolegol
  4. ffordd o fyw
  5. cymdeithasol
  6. gallu gweithredol


** 


** 

**Dulliau ddysgu

**

  1. canolbwyntio ar nodau
  2. cymdeithasol
  3. dysgu 


** 


** 

Ymarferion**, i ddatblygu


 


 

  1. ffitrwydd cardiofasgwlaidd
  2. ffitrwydd cyhyrol
  3. hyblygrwydd
  4. sgiliau echddygol
  5. sefydlogrwydd craidd


** 


** 

Adnoddau**


** 


** 

  1. yr amgylchedd ar gyfer y sesiwn

  2. cyfarpar cludadwy

  3. cyfarpar gosod


** 


** 


** 


** 

Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol** (i gwmpasu isafswm o 4)


 


 

  1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
  2. Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd
  3. Rheoliadau Adrodd Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus
  4. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
  5. Rheoliadau Cymorth Cyntaf
  6. polisïau a gweithdrefnau sefydliadol unigol


** 


** 

Amgylchedd**


** 


** 

  1. y gampfa
  2. stiwdio/neuadd chwaraeon
  3. cartref y cyfranogwr neu ofod arall sydd wedi'i amgáu
  4. yn yr awyr agored


** 


** 

Dulliau cyfathrebu**


** 


** 

  1. llafar
  2. heb fod yn llafar​

Gwybodaeth Cwmpas

​Dulliau addysgu ac ysgogol**


** 


** 

  1. canolbwyntio ar nodau
  2. cymdeithasol
  3. dysgu


** 


** 

Amgylchedd**


** 


** 

  1. gofod
  2. trefn
  3. tymheredd
  4. deunydd llawr
  5. goleuadau
  6. awyru
  7. defnydd o gerddoriaeth
  8. cyfarpar ar gyfer y sesiwn
  9. dillad a chyfarpar personol


** 


** 

Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol**


** 


** 

  1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
  2. Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd
  3. Rheoliadau Adrodd Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus
  4. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
  5. Rheoliadau Cymorth Cyntaf
  6. polisïau a gweithdrefnau sefydliadol unigol


** 


** 

Nodau**


** 


** 

  1. iechyd a ffitrwydd cyffredinol

  2. ffisiolegol

  3. seicolegol

  4. ffordd o fyw

  5. cymdeithasol

  6. gallu gweithredol


** 


** 

Strategaethau ysgogol**


** 


** 

  1. cynhenid
  2. anghynhenid
  3. gosod nodau
  4. cymhellion/gwobrau
  5. newid mewn ymddygiad


** 


** 

Dulliau addysgu​**


** 


** 

  1. safbwyntiau addysgu sy'n newid
  2. gofyn cwestiynau
  3. gwneud addasiadau a symud ymlaen
  4. cyfathrebu geiriol a gweledol
  5. drychweddu​

Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd


 


 

Dylai Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer:

  1. arddangos a hyrwyddo ffordd gyfrifol o fyw ac ymddwyn, trwy beidio â chefnogi'r defnydd o gyffuriau sy'n gwella perfformiad, ac unrhyw sylwedd anghyfreithlon arall
  2. cynnal cyfrinachedd
  3. delio â chyfranogwyr mewn modd agored a thryloyw; gan barchu anghenion eu cyfranogwyr bob tro
  4. ceisio mabwysiadu'r lefel uchaf o safonau proffesiynol yn holl feysydd eu gwaith a datblygiad eu gyrfa

Ymddygiadau

Mae'r ymddygiadau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd


 


 

Dylai Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer:

  1. ceisio magu perthnasau iach gyda chyfranogwyr a gweithwyr proffesiynol iechyd eraill trwy gefnogi, cydgysylltu a rheoli'r broses ffitrwydd/ymarfer yn effeithiol, gan gadw'r cyfranogwr wrth ganol y broses
  2. bod yn ymwybodol o rolau personél cynorthwyol yn y galwedigaethau gofal iechyd a chydnabod pryd y dylid atgyfeirio problemau i'r arbenigwyr hyn
  3. bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau ac atebolrwyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chodau ymarfer y diwydiant
  4. anelu at rymuso cyfranogwyr; yn cefnogi eu hawl i wneud dewisiadau, darganfod eu hatebion eu hunain, a'u galluogi i gymryd rhan a datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain
  5. nodi a chydnabod anghenion y cyfranogwyr ar ddechrau'r broses
  6. anelu at wella hyder, hunan-barch a lefelau ffitrwydd cyfranogwyr
  7. myfyrio ar eu harfer eich hunain a thrwy'r amser geisio ffyrdd i wella eu gallu ffitrwydd ac ymarfer, sgiliau a gwybodaeth eu hunain
  8. sefydlu perthynas dda gyda chyfranogwyr
  9. dangos empathi a sensitifrwydd i nodau a chyflwr parodrwydd cyfredol cyfranogwyr
  10. cyflwyno delwedd gadarnhaol o'u hunain a'u sefydliad i gyfranogwyr
  11. datblygu perthynas weithio effeithiol gyda chyfranogwyr
  12. diffinio'n glir rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn gysylltiedig
  13. cyfathrebu'n glir gyda chyfranogwyr mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
  14. dangos sensitifrwydd ac empathi i'r cyfranogwyr a'r wybodaeth maent yn ei darparu

Sgiliau

Mae'r sgiliau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd


 


 

Dylai Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer:

  1. baratoi'n systematig ar gyfer yr holl weithgareddau gan sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu cyfranogwyr
  2. sicrhau bod gwahaniaethu a chynhwysiant a all alluogi cyfranogwyr ag anghenion neilltuol ac o alluoedd amrywiol i gymryd rhan mewn sesiynau a rhaglenni. Dylid ystyried anghenion cyfranogwyr ag anabledd ac, lle mae'n bosibl, dylid cwrdd â'u hanghenion
  3. gweithredu rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn
  4. esbonio eu rôl a chyfrifoldebau i gyfranogwyr
  5. nodi unrhyw rwystrau i gyfranogi
  6. annog cyfranogwyr i ganfod ateb i'w rhwystrau
  7. nodi parodrwydd cyfranogwyr i gyfranogi
  8. nodi a chytuno strategaethau i atal rhoi'r gorau neu lithro'n ôl
  9. defnyddio arddulliau hyfforddi sy'n cyfateb ag anghenion cyfranogwyr
  10. addasu eu perthynas â chyfranogwyr er mwyn cwrdd â'u hanghenion cyfnewidiol
  11. gwrando ar a gofyn cwestiynau i gyfranogwyr er mwyn gwirio eu dealltwriaeth
  12. nodi'r wybodaeth mae arnynt angen ei chasglu ynghylch eu cyfranogwyr
  13. casglu gwybodaeth ynghylch eu cyfranogwyr gan ddefnyddio dulliau cymeradwy
  14. cofnodi'r wybodaeth mewn ffordd a fydd yn helpu i'w dadansoddi
  15. defnyddio technegau cyfathrebu ac ymatebion priodol wrth ddelio ag anghydfod
  16. cydnabod ymddygiad gwahaniaethol a gwybod am y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd unrhyw ddigwyddiadau

Geirfa

​Fformat hygyrch

Dogfen sy'n cyflwyno'r un wybodaeth mewn ffurf wahanol sydd yn haws ei defnyddio a deall gan bobl â gwahanol alluoedd.

Gweithgareddau

Cydrannau sesiwn gweithgarwch corfforol a all ganolbwyntio ar y ffordd rydych yn datblygu cryfder, gwytnwch, technegau neu ymwybyddiaeth dactegol cyfranogwyr neu strategaethau ar gyfer datrys problemau. Mae sesiynau gweithgarwch corfforol yn cynnwys un gweithgaredd neu fwy.

Tawelu

Gweithgareddau diogel sy'n caniatáu i gyfranogwyr adfer yn feddyliol a chorfforol ar ôl gweithgareddau a wneir mewn sesiwn gweithgarwch corfforol.

Adborth

Y broses o roi a derbyn barn ar berfformiad. Gallai hyn eich cynnwys chi'n rhoi adborth i gyfranogwyr ar eu perfformiad neu gyfraniad at sesiwn gweithgarwch corfforol; neu hyfforddwr mwy profiadol yn rhoi barn ar eich perfformiad wrth gyflenwi sesiwn gweithgarwch corfforol neilltuol.

Nodau

Gallant fod yn rhai tymor hir, tymor canolig neu dymor byr.

Cyfarwyddiadau

Y pwyntiau addysgu allweddol sy'n arwain cyfranogwr tuag at gyflawni ymarfer yn ddiogel ac yn effeithiol.

Cyfranogwyr

Pobl, fel unigolion, neu mewn grwpiau, a fydd yn cymryd rhan mewn sesiwn gweithgarwch corfforol.

Cynllun

Mae sesiwn gweithgarwch corfforol yn ddisgrifiad o sesiwn neilltuol; wedi'u cynnwys yn y cynllun fydd ei nodau, amcanion, cynnwys, gweithgareddau, amseriadau a chyfarpar sydd ei angen. Dylid cofnodi cynlluniau fel y gellir eu rhannu gyda phobl eraill a chyfeirio atynt ar ddyddiad diweddarach.

Adolygiad

Y broses o ddadansoddi'r sesiynau rydych wedi eu cynllunio a chyflenwi, gan nodi'r hyn a aeth yn dda a'r hyn y gallai fod wedi cael ei wella.

Hyfforddiant

Gallai hyn gynnwys cwrs, ond hefyd byddai'n cynnwys gwylio pobl eraill yn gwneud pethau sy'n newydd i chi, derbyn cyfarwyddiadau gan bobl eraill ar bethau newydd mae'n rhaid ichi eu gwneud a chael y cyfleoedd i ymarfer sgiliau newydd.

Twymo i fyny

Gweithgareddau diogel sy'n caniatáu i gyfranogwyr baratoi'n feddyliol a chorfforol ar gyfer sesiwn gweithgarwch corfforol.

Lles

Cefnogi lles cyfranogwyr gan gynnwys ffordd sylfaenol o fyw, maetheg ac ymwybyddiaeth ynghylch cyffuriau.​


Dolenni I NOS Eraill

​Mae'r safon hon yn cysylltu ag  SKAEF1, SKAEF13, SKAEF14, SKAEF15, SKAEF17 ac SKAEF19.​


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SA44ND461

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Chwaraeon a Ffitrwydd, Galwedigaethau proffesiynol a thechnegol cysylltiol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cyflenwi; ymarfer; corfforol; gweithgaredd; personol; hyfforddiant; rhaglen;