Gwerthuso rhaglenni ymarfer a gweithgarwch

URN: SKAEF14
Sectorau Busnes (Suites): Ymarfer Corff a Ffitrwydd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 31 Rhag 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â pha mor bwysig ydyw i hyfforddwyr werthuso rhaglenni gweithgarwch corfforol, asesu pa mor effeithiol maent wedi bod i gyfranogwyr a dysgu gwersi ar gyfer arfer y dyfodol.


 


 

Prif ganlyniadau'r safon hon yw:​


 


 

  1. cydgysylltu â chyfranogwyr er mwyn gwerthuso rhaglenni ymarfer a gweithgarwch corfforol
  2. nodi gwersi ar gyfer gwella arfer proffesiynol a chyfleoedd gyrfaol


 

Mae'n rhaid ichi gynnwys yr wybodaeth graidd ynghylch ymarfer corff a ffitrwydd a dealltwriaeth ddamcaniaethol fel y manylir arnynt yn y ddogfen Gofynion Gwybodaeth Graidd ynghylch Ymarfer a Ffitrwydd SkillsActive sy'n berthnasol i rôl y swydd.

Mae'r safon hon ar gyfer hyfforddwyr personol a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes ymarfer a ffitrwydd, sy'n cynllunio, cynnal ac adolygu rhaglenni i fynd i'r afael â nodau tymor byr, canolig a hir.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cydgysylltu â chyfranogwyr er mwyn gwerthuso rhaglenni ymarfer a gweithgarwch corfforol**


 


 

1.  gwerthuso gwybodaeth ynghylch cynnydd tuag at amcanion a ddymunir**

2.  gwerthuso gwybodaeth ynghylch addasiadau i'r rhaglen

3.  gwerthuso gwybodaeth ynghylch ymlyniad cyfranogwyr wrth y rhaglen

4.  casglu adborth strwythuredig gan gyfranogwyr

5.  dadansoddi gwybodaeth ac adborth sydd ar gael

6.  cyrraedd casgliadau rhagarweiniol ynghylch effeithiolrwydd y rhaglen

7.  trafod casgliadau rhagarweiniol gyda chyfranogwyr, gan gymryd eu barn i gyfrif


 


 

Nodi gwersi ar gyfer gwella arfer proffesiynol a chyfleoedd gyrfaol


 


 

8.  nodi llwyddiant perthynol pob cydran o'r rhaglen**

9.  nodi sut y gellir gwella cydrannau'r rhaglen

10.  rhannu'ch casgliadau gyda phobl eraill, gan gymryd eu hadborth i gyfrif

11.  ymgymryd ag ymchwil a datblygiad pellach er mwyn gwella cydrannau'r rhaglen

12.  gwneud argymhellion i wella arfer yn y dyfodol

13.  adolygu'ch arfer proffesiynol eich hunan yn ôl gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol

14.  cynnal Datblygiad Proffesiynol Parhaus wrth hyfforddi plant mewn rhaglenni ymarfer a gweithgarwch corfforol ​


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cydgysylltu â chyfranogwyr er mwyn gwerthuso rhaglenni ymarfer a gweithgarwch corfforol**


 


 

1.  dulliau** o werthuso rhaglenni blaengar ym maes gweithgarwch corfforol

2.  yr wybodaeth sydd ei hangen i werthuso rhaglenni gweithgarwch corfforol

3.  sut mae gwerthuso cynnydd y cyfranogwyr a'u hymlyniad wrth nodau

4.  sut mae mesur effeithiolrwydd addasiadau i'r rhaglen

5.  dulliau cael adborth strwythuredig gan gyfranogwyr

6.  sut mae dadansoddi gwybodaeth a thynnu casgliadau ynghylch effeithiolrwydd y rhaglen

7.  pam y byddai casgliadau rhagarweiniol yn cael eu trafod gyda'r cyfranogwyr


 


 

Nodi gwersi ar gyfer gwella arfer proffesiynol a chyfleoedd gyrfaol


 


 

8.  pam mae gwelliant parhaus yn bwysig ar gyfer gweithwyr proffesiynol ymarfer a ffitrwydd

9.  ffyrdd i nodi llwyddiant perthynol pob cydran o'r rhaglen

10.  pryd a sut i flaenoriaethu pa gydrannau'r rhaglen i weithio arnynt

11.  pam y dylech rannu'ch casgliadau gyda phobl eraill

12.  ble i ddod o hyd i wybodaeth i wella cydrannau'r rhaglen

13.  sut mae gwneud argymhellion i wella arfer yn y dyfodol

14.  sut mae datblygu cynllun gweithredu personol

15.    sut mae lleoli a nodi gweithgareddau Datblygiad Proffesiynol Parhaus ardystiedig ac ymgorffori'r rhain yn eich cynllun gweithredu personol​


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Amcanion​**


** 


** 

  1. tymor byr
  2. tymor canolig
  3. tymor hir

**


** 

Cyfranogwyr​**


** 


** 

  1. unigolion
  2. grwpiau
  3. ag anghenion ffitrwydd penodol
  4. ag anghenion iechyd cyffredinol
  5. dechreuwyr
  6. profiadol


** 


** 

Cydran y rhaglen​**


** 


** 

  1. casglu gwybodaeth
  2. cynllunio
  3. dewis gweithgareddau na'u strwythur
  4. rheoli'r rhaglen
  5. monitro'r rhaglen
  6. addasu a chynyddu'r rhaglen
  7. perthynas â chyfranogwyr
  8. ymlyniad ac ysgogiad cyfranogwyr
  9. boddhad cyfranogwyr


 

Pobl eraill

*
*
 

*
*
 

  1. cydweithwyr
  2. rheolwr llinell
  3. cyfranogwyr


 

*
*
 

*
*
 

Datblygiad Proffesiynol Parhaus

  1. gweithdai
  2. darllen
  3. ynadleddau
  4. darlithoedd
  5. ar-lein


 


 

Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol (i gwmpasu isafswm o 4)


 

  1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
  2. Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd
  3. Rheoliadau Adrodd Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus
  4. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
  5. Rheoliadau Cymorth Cyntaf
  6. polisïau a gweithdrefnau sefydliadol unigol​


Gwybodaeth Cwmpas


** 


** 

Dulliau​**


** 


** 

  1. cyfweliad
  2. holiadur
  3. sgrinio llafar
  4. arsylwi


 


 

Cynllun Gweithredu Personol​

*
*
 

*
*
 

  1. ysgrifenedig
  2. llafar


 


 

Datblygiad Proffesiynol Parhaus

*
*
 

*
*
 

  1. gweithdai
  2. darllen
  3. cynhadledd
  4. darlith
  5. ar-lein​

Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd


 


 

Dylai Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer:

    1. arddangos a hyrwyddo ffordd gyfrifol o fyw ac ymddwyn, trwy beidio â chefnogi'r defnydd o gyffuriau sy'n gwella perfformiad, ac unrhyw sylwedd anghyfreithlon arall
    2. cynnal cyfrinachedd
    3. delio â chyfranogwyr mewn modd agored a thryloyw; gan barchu anghenion eu cyfranogwyr bob tro
    4. ceisio mabwysiadu'r lefel uchaf o safonau proffesiynol yn holl feysydd eu gwaith a datblygiad eu gyrfa


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiadau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd


 


 

Dylai Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer:

1.  ceisio magu perthnasau iach gyda chyfranogwyr a gweithwyr proffesiynol iechyd eraill trwy gefnogi, cydgysylltu a rheoli'r broses ffitrwydd/ymarfer yn effeithiol, gan gadw'r cyfranogwr wrth ganol y broses

2.  bod yn ymwybodol o rolau personél cynorthwyol yn y galwedigaethau gofal iechyd a chydnabod pryd y dylid atgyfeirio problemau i'r arbenigwyr hyn

3.  bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau ac atebolrwyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chodau ymarfer y diwydiant

4.  anelu at rymuso cyfranogwyr; yn cefnogi eu hawl i wneud dewisiadau, darganfod eu hatebion eu hunain, a'u galluogi i gymryd rhan a datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain

5.  nodi a chydnabod anghenion y cyfranogwyr ar ddechrau'r broses

6.  anelu at wella hyder, hunan-barch a lefelau ffitrwydd cyfranogwyr

7.  myfyrio ar eu harfer eich hunain a thrwy'r amser geisio ffyrdd i wella eu gallu ffitrwydd ac ymarfer, sgiliau a gwybodaeth eu hunain

8.  sefydlu perthynas dda gyda chyfranogwyr

9.  dangos empathi a sensitifrwydd i nodau a chyflwr parodrwydd cyfredol cyfranogwyr

10.  cyflwyno delwedd gadarnhaol o'u hunain a'u sefydliad i gyfranogwyr

11.  datblygu perthynas weithio effeithiol gyda chyfranogwyr

12.  diffinio'n glir rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn gysylltiedig

13.  cyfathrebu'n glir gyda chyfranogwyr mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi

14.  dangos sensitifrwydd ac empathi i'r cyfranogwyr a'r wybodaeth maent yn ei darparu


Sgiliau

Mae'r sgiliau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd


 


 

Dylai Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer:

  1. baratoi'n systematig ar gyfer yr holl weithgareddau gan sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu cyfranogwyr
  2. sicrhau bod gwahaniaethu a chynhwysiant a all alluogi cyfranogwyr ag anghenion neilltuol ac o alluoedd amrywiol i gymryd rhan mewn sesiynau a rhaglenni. Dylid ystyried anghenion cyfranogwyr ag anabledd ac, lle mae'n bosibl, dylid cwrdd â'u hanghenion
  3. gweithredu rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn
  4. esbonio eu rôl a chyfrifoldebau i gyfranogwyr
  5. nodi unrhyw rwystrau i gyfranogi
  6. annog cyfranogwyr i ganfod ateb i'w rhwystrau
  7. nodi parodrwydd cyfranogwyr i gyfranogi
  8. nodi a chytuno strategaethau i atal rhoi'r gorau neu lithro'n ôl
  9. defnyddio arddulliau hyfforddi sy'n cyfateb ag anghenion cyfranogwyr
  10. addasu eu perthynas â chyfranogwyr er mwyn cwrdd â'u hanghenion cyfnewidiol
  11. gwrando ar a gofyn cwestiynau i gyfranogwyr er mwyn gwirio eu dealltwriaeth
  12. nodi'r wybodaeth mae arnynt angen ei chasglu ynghylch eu cyfranogwyr
  13. casglu gwybodaeth ynghylch eu cyfranogwyr gan ddefnyddio dulliau cymeradwy
  14. cofnodi'r wybodaeth mewn ffordd a fydd yn helpu i'w dadansoddi
  15. defnyddio technegau cyfathrebu ac ymatebion priodol wrth ddelio ag anghydfod
  16. cydnabod ymddygiad gwahaniaethol a gwybod am y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd unrhyw ddigwyddiadau

Geirfa

​Gweithgareddau

Cydrannau sesiwn gweithgarwch corfforol a all ganolbwyntio ar y ffordd rydych yn datblygu cryfder, gwytnwch, technegau neu ymwybyddiaeth dactegol cyfranogwyr neu strategaethau ar gyfer datrys problemau. Mae sesiynau gweithgarwch corfforol yn cynnwys un gweithgaredd neu fwy.

*
*
 

*
*
 

Cydweithwyr

Y bobl rydych yn gweithio gyda nhw - pobl sy'n gweithio ar yr un lefel â chi'ch hunan neu eich rheolwr llinell.

Adborth

Y broses o roi a derbyn barn ar berfformiad. Gallai hyn eich cynnwys chi'n rhoi adborth i gyfranogwyr ar eu perfformiad neu gyfraniad at sesiwn gweithgarwch corfforol; neu hyfforddwr mwy profiadol yn rhoi barn ar eich perfformiad wrth gyflenwi sesiwn gweithgarwch corfforol neilltuol.

Nodau

Gallant fod yn rhai tymor hir, tymor canolig neu dymor byr.

Pobl eraill

Gallai hyn gynnwys hyfforddwyr eraill, mwy profiadol.

Cyfranogwyr

Pobl, fel unigolion, neu mewn grwpiau, a fydd yn cymryd rhan mewn sesiwn gweithgarwch corfforol.

*
*
 

*
*
 

*
*
 

*
*
 

Cynllun

Mae cynllun sesiwn gweithgarwch corfforol yn ddisgrifiad o sesiwn neilltuol; yn cael eu cynnwys yn y cynllun fydd ei nodau, amcanion, cynnwys, gweithgareddau, amseriadau a'r cyfarpar sydd ei angen. Dylid cofnodi cynlluniau fel y gellir eu rhannu gyda phobl eraill a chyfeirio atynt ar ddyddiad diweddarach.

Adolygiad

Y broses o ddadansoddi'r sesiynau rydych wedi eu cynllunio a chyflenwi, gan nodi'r hyn a aeth yn dda a'r hyn y gallai wedi cael ei wella

Lles

Yn cefnogi lles y cyfranogwyr gan gynnwys ffordd sylfaenol o fyw, maetheg ac ymwybyddiaeth ynghylch cyffuriau.​


Dolenni I NOS Eraill

​Mae'r safon hon yn cysylltu ag SKAEF4, SKAEF6, SKAEF8, SKAEF10, SKAEF12, SKAEF16, SKAEF20, SKAEF22 ac SKAEF24.​


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAD459

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Chwaraeon a Ffitrwydd, Galwedigaethau proffesiynol a thechnegol cysylltiol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gwerthuso; ymarfer; gweithgarwch corfforol; rhaglenni;