Cynorthwyo cyfranogwyr i gadw at ymarfer a gweithgarwch corfforol yn y tymor hir

URN: SKAEF13
Sectorau Busnes (Suites): Ymarfer Corff a Ffitrwydd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 31 Rhag 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo cyfranogwyr i ddatblygu a chynnal eu strategaethau ar gyfer cadw at ymarfer a gweithgarwch corfforol yn y tymor hir.

Prif ganlyniadau'r safon hon yw:

  1. cynorthwyo cyfranogwyr i ddatblygu a chynnal strategaethau cadw at ymarfer yn y tymor hir

Rhaid i chi gynnwys yr ymarfer craidd a gwybodaeth ffitrwydd a dealltwriaeth ddamcaniaethol fel y nodir yn y ddogfen Gofynion Gwybodaeth Graidd Ymarfer a Ffitrwydd SkillsActive sy'n berthnasol i'r rôl swydd.

Mae'r safon hon ar gyfer hyfforddwyr sy'n gweithio gyda chyfranogwyr i helpu i ddatblygu a chynnal eu strategaethau ar gyfer cadw at ymarfer a gweithgarwch corfforol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynorthwyo cyfranogwyr i ddatblygu a chynnal strategaethau cadw at ymarfer yn y tymor hir**


 


 

1.  adnabod nodau cyfranogwyr ar gyfer cymryd rhan mewn ymarfer a gweithgarwch corfforol rheolaidd, tymor hir

2.  adnabod parodrwydd cyfranogwyr i newid ymddygiad

  1.  dadansoddi ffordd o fyw cyfranogwyr

4.  adnabod cyfleoedd ar gyfer ymarfer a gweithgarwch corfforol

5.  adnabod rhwystrau posibl ar gymryd rhan

6.  adnabod dewisiadau cyfranogwyr ar gyfer ymarfer a gweithgarwch corfforol

7.  adnabod cymelliadau a gwobrau ar gyfer y cyfranogwyr sy'n cymryd rhan mewn ymarfer a gweithgarwch corfforol rheolaidd, tymor hir

8.  cynorthwyo cyfranogwyr i ddatblygu strategaeth tymor hir i gadw at ymarfer a gweithgarwch corfforol

9.  annog cyfranogwyr i adeiladu ar gyfleoedd, dewisiadau a chymelliadau

10.  cynorthwyo cyfranogwyr i isafu ar, a goresgyn, rhwystrau at gymryd rhan

11.  monitro a yw cyfranogwyr yn cadw at ymarfer a gweithgarwch corfforol

12.  cynnig cefnogaeth i gyfranogwyr gyflawni newid tymor hir mewn ymddygiad yn unol â'u nodau  

13.  defnyddio strategaethau ysgogiadol i gynorthwyo cyfranogwyr gyda'u nodau

14.  cynorthwyo cyfranogwyr i addasu a mireinio'r ffordd y maen nhw'n cadw at eu strategaeth


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynorthwyo cyfranogwyr i ddatblygu a chynnal strategaethau cadw at ymarfer yn y tymor hir**


** 


** 

1.   egwyddorion seicoleg ymddygiadol

  1. *  modelau newid ymddygiad*

  2.   sut i adnabod nodau cyfranogwyr

  3.   sut i asesu parodrwydd cyfranogwyr i newid eu hymddygiad cysylltiedig ag ymarfer

  4. *  dulliau* o ddadansoddi ffordd o fyw'r cyfranogwyr

  5.   sut i adnabod cyfleoedd posibl ar gyfer ymarfer a gweithgarwch corfforol  

  6.   y mathau o rwystrau at gymryd rhan y deuir ar eu traws yn gyffredin wrth ymgymryd ag ymarfer a gweithgarwch corfforol rheolaidd, tymor hir

  7.   dewisiadau ymarfer a gweithgarwch corfforol a allai fod gan wahanol gyfranogwyr

  8.   mathau o gymelliadau a gwobrau a allai fod yn cael eu defnyddio

  9.  sut i gefnogi cyfranogwyr i ddatblygu eu strategaethau ysgogiadol eu hunain er mwyn cadw at yr ymarfer

  10.  dulliau o weithio gyda chyfranogwyr i adeiladu ar gyfleoedd, dewisiadau a chymelliadau

  11.  sut i fonitro'r ffordd y mae cyfranogwyr yn cadw at ymarfer a gweithgarwch corfforol rheolaidd, tymor hir

  12.   y sgiliau cyfathrebu sy'n ofynnol i gynorthwyo cyfranogwyr gyda strategaethau ysgogiadol i oresgyn rhwystrau at gymryd rhan

  13.   technegau i gynorthwyo cyfranogwyr i addasu a mireinio'r ffordd y maen nhw'n cadw at ymarfer a gweithgarwch corfforol rheolaidd a thymor hir


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Cyfranogwyr**


** 


** 

  1. unigolion
  2. grwpiau
  3. gydag anghenion ffitrwydd penodol
  4. gydag anghenion iechyd cyffredinol


** 


** 

Nodau**


** 


** 

  1. iechyd a ffitrwydd cyffredinol
  2. ffisiolegol
  3. seicolegol
  4. ffordd o fyw
  5. cymdeithasol
  6. gallu ymarferol


** 


** 

Parodrwydd i newid ymddygiad**


** 


** 

  1. cyn dechrau
  2. dechrau
  3. paratoi
  4. gweithredu
  5. cynnal
  6. terfynu


** 


** 

Rhwystrau at gymryd rhan** (i ymdrin ag isafswm o 5)


 


 

  1. amser
  2. ymrwymiadau gwaith
  3. teulu
  4. cost
  5. cymhelliant
  6. hyder
  7. diffyg cyfleusterau


** 


** 


** 


** 

Cymelliadau**


** 


** 

  1. cynhenid
  2. anghynhenid


** 


** 

Strategaethau ysgogiadol** (i ymdrin â 2 o leiaf)


 


 

  1. cynhenid
  2. anghynhenid
  3. gosod nodau
  4. cymelliadau / gwobrau
  5. newid ymddygiad

Gwybodaeth Cwmpas

Egwyddorion  seicoleg ymddygiadol**


** 


** 

  1. ymdriniaethau gwahanol tuag at newid ymddygiad
  2. gwahanol fodelau newid ymddygiad ar sail tystiolaeth
  3. sut i bennu pa fodel newid ymddygiad y dylid ei gymhwyso i helpu cyfranogwyr i gyflawni'u nodau
  4. sut i gymhwyso modelau newid ymddygiad perthnasol i helpu cyfranogwyr i gyflawni'u nodau


** 


** 

Modelau newid ymddygiad**


** 


** 

  1. model traws-ddamcaniaethol (cyfnodau newid)
  2. model cred iechyd
  3. theori camau rhesymegol
  4. theori ymddygiad arfaethedig
  5. theori dysgu gymdeithasol


** 


** 

Dulliau**


** 


** 

  1. cyfweliad
  2. holiadur
  3. sgrinio ar lafar
  4. arsylwi


** 


** 

Strategaethau ysgogiadol**


** 


** 

  1. cynhenid
  2. anghynhenid
  3. gosod nodau
  4. cymelliadau / gwobrau
  5. newid ymddygiad


** 


** 

Sgiliau cyfathrebu**

  1. cwestiynau pen agored
  2. gwrando gweithredol
  3. crynhoi
  4. iaith y corff


** 


** 

Rhwystrau at gymryd rhan**


** 


** 

  1. amser
  2. ymrwymiadau gwaith
  3. teulu
  4. cost
  5. cymhelliant
  6. hyder

Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd


 


 

Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:

    1. arddangos a hyrwyddo ffordd gyfrifol o fyw ac ymddwyn, trwy beidio â chefnogi'r defnydd o gyffuriau sy'n gwella perfformiad, ac unrhyw sylwedd anghyfreithlon arall
    2. cynnal cyfrinachedd
    3. delio â chyfranogwyr mewn modd agored a thryloyw; gan barchu anghenion eu cyfranogwyr bob tro
    4. ceisio mabwysiadu'r lefel uchaf o safonau proffesiynol yn holl feysydd eu gwaith a datblygiad eu gyrfa


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiadau canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd

Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:

  1. geisio magu perthnasau iach gyda chyfranogwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill trwy gefnogi, cydgysylltu a rheoli'r broses ffitrwydd/ymarfer corff yn effeithiol, gan gadw'r cyfranogwr wrth wraidd y broses
  2. bod yn ymwybodol o rolau personél cynorthwyol yn y galwedigaethau gofal iechyd a chydnabod pryd y dylid atgyfeirio problemau at yr arbenigwyr hyn
  3. bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau ac atebolrwyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chodau ymarfer y diwydiant
  4. anelu at rymuso cyfranogwyr; yn cefnogi eu hawl i wneud dewisiadau, dod o hyd i'w hatebion eu hunain, a'u galluogi i gymryd rhan a datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain
  5. nodi a chydnabod anghenion y cyfranogwyr ar ddechrau'r broses
  6. anelu at wella hyder, hunan-barch a lefelau ffitrwydd cyfranogwyr
  7. myfyrio ar eu harfer eu hunain a thrwy'r amser geisio ffyrdd i wella eu gallu ffitrwydd ac ymarfer, sgiliau a gwybodaeth eu hunain
  8. sefydlu perthynas dda gyda chyfranogwyr
  9. dangos empathi a sensitifrwydd i nodau a chyflwr parodrwydd cyfredol cyfranogwyr
  10. cyflwyno delwedd gadarnhaol o'u hunain a'u sefydliad i gyfranogwyr
  11. datblygu perthynas waith effeithiol gyda chyfranogwyr
  12. diffinio rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn gysylltiedig, yn glir
  13. cyfathrebu'n glir gyda chyfranogwyr mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
  14. dangos sensitifrwydd ac empathi i'r cyfranogwyr a'r wybodaeth maent yn ei darparu

Sgiliau

Mae'r sgiliau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd


 


 

Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:

  1. baratoi'n systematig ar gyfer yr holl weithgareddau gan sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu cyfranogwyr
  2. sicrhau bod gwahaniaethu a chynhwysiant a all alluogi cyfranogwyr ag anghenion penodol ac o alluoedd amrywiol i gymryd rhan mewn sesiynau a rhaglenni. Dylid ystyried anghenion cyfranogwyr ag anabledd a, lle y bo'n bosibl, dylid cwrdd â'u hanghenion
  3. gweithredu rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn
  4. esbonio eu rôl a chyfrifoldebau i gyfranogwyr
  5. nodi unrhyw rwystrau rhag cyfranogi
  6. annog cyfranogwyr i ddod o hyd i ateb i'w rhwystrau
  7. nodi parodrwydd cyfranogwyr i gymryd rhan
  8. nodi a chytuno ar strategaethau i atal rhoi'r gorau neu lithro'n ôl
  9. defnyddio dulliau hyfforddi sy'n cyfateb ag anghenion cyfranogwyr
  10. addasu eu perthynas â chyfranogwyr er mwyn cwrdd â'u hanghenion sy'n newid
  11. gwrando ar a gofyn cwestiynau i gyfranogwyr er mwyn gwirio eu dealltwriaeth
  12. nodi'r wybodaeth mae arnynt angen ei chasglu ynghylch eu cyfranogwyr
  13. casglu gwybodaeth ynghylch eu cyfranogwyr gan ddefnyddio dulliau cymeradwy
  14. cofnodi'r wybodaeth mewn modd a fydd yn helpu i'w dadansoddi
  15. defnyddio technegau cyfathrebu ac ymatebion priodol wrth ddelio ag anghydfod
  16. cydnabod ymddygiad gwahaniaethol a gwybod am y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd unrhyw ddigwyddiadau


Geirfa

​Gweithgareddau

Cydrannau sesiwn gweithgarwch corfforol a allai ganolbwyntio ar eich datblygiad ar gryfder, dygnwch, technegau neu ymwybyddiaeth dactegol y cyfranogwyr neu strategaethau ar gyfer datrys problemau. Mae sesiynau gweithgarwch corfforol yn cynnwys un neu'n fwy o weithgareddau.

Nodau

Gallant fod yn rhai tymor hir, tymor canolig neu dymor byr.

Cyfranogwyr

Pobl, fel unigolion, neu mewn grwpiau, a fydd yn cymryd rhan mewn sesiwn gweithgarwch corfforol.

Lles

Cefnogi lles y cyfranogwr gan gynnwys ymwybyddiaeth ffordd o fyw, maeth a chyffuriau sylfaenol.


Dolenni I NOS Eraill

Mae'r safon hon yn cysylltu â SKAEF5, SKAEF7, SKAEF9, SKAEF11, SKAEF13, SKAEF17 a SKAEF21.


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SSKAC317

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Chwaraeon a Ffitrwydd, Galwedigaethau proffesiynol a thechnegol cysylltiol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cynorthwyo; cynnal; tymor hir; cadw; ymarfer; gweithgarwch corfforol;