Cynllunio gweithgarwch corfforol ac sy’n gysylltiedig ag iechyd i blant

URN: SKAEF11
Sectorau Busnes (Suites): Ymarfer Corff a Ffitrwydd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 31 Rhag 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio sesiynau ymarfer a gweithgaredd corfforol strwythuredig cysylltiedig ag iechyd ar gyfer plant sy'n debygol o fod yn iach yn yr ystod oedran 5-15 (yn gynwysedig).

Prif ganlyniadau'r safon hon yw:

  1. casglu a dadansoddi gwybodaeth

cynllunio ymarfer a gweithgaredd corfforol diogel ac effeithiol i blant

Rhaid ichi gynnwys yr ymarfer craidd a'r wybodaeth am ffitrwydd a dealltwriaeth ddamcaniaethol fel y ceir hi yn y ddogfen Gofynion Gwybodaeth Graidd Ymarfer Corff a Ffitrwydd SkillsActive sy'n berthnasol i rôl y swydd.

Mae hon yn safon ar gyfer hyfforddwyr sy'n cynllunio, cyfarwyddo ac adolygu sesiynau ymarfer a gweithgaredd corfforol cysylltiedig ag iechyd ar gyfer plant.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Casglu a dadansoddi gwybodaeth**


 


 

1.  casglu'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gynllunio sesiynau gweithgaredd corfforol

2.  gofalu fod caniatâd deallus ar gyfer y sesiynau gweithgaredd corfforol

3.  dadansoddi'r wybodaeth a chlustnodi'r oblygiadau gweithgaredd corfforol i'r cyfranogwyr

4.  cyfeirio unrhyw blentyn na allwch fodloni ei anghenion a'i botensial i weithwyr proffesiynol eraill

5.  cynnal cyfrinachedd, gan ddilyn gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol


**


** 

Cynllunio ymarfer a gweithgaredd corfforol diogel ac effeithiol ar gyfer plant


 


 

6.  clustnodi amcanion** sy'n bodloni anghenion a photensial pob plentyn

7.  cynllunio sesiynau a fydd yn galluogi pob plentyn i gymryd rhan a chyflawni'r amcanion cynlluniedig

8.  strwythuro'r sesiwn fel bod pob plentyn yn cael ei annog i lynu at weithgaredd corfforol

9.  cynllunio amseroedd ar gyfer sesiynau

10.  clustnodi rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad a fydd yn sicrhau bod cyn lleied o berygl ag sydd bosibl i'r plant

11.  cofnodi eich cynlluniau yn ynol â gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol

12.  cael cyngor gan weithwyr proffesiynol eraill ar gyfer materion sydd y tu allan i'ch maes cymhwysedd


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Casglu a dadansoddi gwybodaeth**


 


 

1dulliau o gasglu'r wybodaeth**

2.  pryd i gael caniatâd deallus gan rieni neu ofalwr ar gyfer sesiynau gweithgarwch corfforol

3.  technegau dadansoddi gwybodaeth

4.  pryd ac i ble y dylid cyfeirio unrhyw blentyn na allwch fodloni ei anghenion na'i botensial at weithwyr proffesiynol eraill

5.  gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol cysylltiedig â chyfrinachedd


**


 

Cynllunio ymarfer a gweithgaredd corfforol diogel ac effeithiol ar gyfer plant


 


 

6.  technegau pennu amcanion

7.  y ffactorau dan sylw wrth gynllunio sesiwn

8.  technegau hyfforddi

9.  technegau rheoli ymddygiad yn y sesiwn

10.  sut i gofnodi eich cynlluniau yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol

11.  pryd a sut i gael cyngor gan weithwyr proffesiynol eraill os oes unrhyw beth yr ydych yn ystyried ei fod y tu allan i'ch lefel cymhwysedd


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Gwybodaeth**


** 


** 

  1. nod personol
  2. ffordd o fyw
  3. hanes meddygol
  4. hanes o ran gweithgareddau corfforol
  5. dewisiadau o ran gweithgaredd corfforol
  6. agwedd a symbyliad i gymryd rhan
  7. lefel ffitrwydd gyfredol
  8. lefel o barodrwydd
  9. parodrwydd seicolegol


** 


** 

Caniatâd**


** 


** 

  1. Ysgrifenedig
  2. Geiriol
  3. Cyswllt brys
  4. Manylion rhiant/gwarcheidwad/gofalwr


** 


** 

Cyfranogwyr**


** 


** 

  1. plentyn unigol
  2. grwpiau dosbarth


** 


** 

Gweithwyr proffesiynol eraill​**


** 


** 

  1. gweithiwr meddygol proffesiynol
  2. gweithiwr gwaith chwarae proffesiynol
  3. gweithiwr addysg proffesiynol
  4. gweithiwr cymdeithasol proffesiynol
  5. gweithiwr gorfodi'r gyfraith proffesiynol


** 


** 

Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol** (i drafod 4 o leiaf)

  1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle
  2. Rheolaeth Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd
  3. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Afiechydon a Digwyddiadau Peryglus
  4. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
  5. Rheoliadau Cymorth Cyntaf
  6. polisïau a gweithdrefnau sefydliadol unigol

**


** 

Amcanion**


** 


** 

  1. gwella sgiliau cymdeithasol
  2. annog datblygiad personol
  3. gwella sgiliau a thechnegau
  4. darparu cyfleoedd ar gyfer hwyl a mwynhad
  5. gwella iechyd


Gwybodaeth Cwmpas

Dulliau**


** 


** 

  1. cyfweliad
  2. holiadur
  3. sgrinio geiriol
  4. arsylwi


** 


** 

Gwybodaeth**


** 


** 

  1. nod personol
  2. ffordd o fyw
  3. hanes meddygol
  4. hanes o ran gweithgareddau corfforol
  5. dewisiadau o ran gweithgaredd corfforol
  6. agwedd a chymhelliant i gymryd rhan
  7. lefel ffitrwydd gyfredol
  8. lefel o barodrwydd
  9. parodrwydd seicolegol


** 


** 

Gweithwyr proffesiynol eraill**


** 


** 

  1. gweithiwr meddygol proffesiynol
  2. gweithiwr gwaith chwarae proffesiynol
  3. gweithiwr addysg proffesiynol
  4. gweithiwr cymdeithasol proffesiynol
  5. gweithiwr gorfodi'r gyfraith proffesiynol


** 


** 

Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol**


** 


** 

  1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle
  2. Rheolaeth Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd
  3. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Afiechydon a Digwyddiadau Peryglus
  4. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
  5. Rheoliadau Cymorth Cyntaf

Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd


 


 

Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:

    1. arddangos a hyrwyddo ffordd gyfrifol o fyw ac ymddwyn, trwy beidio â chefnogi'r defnydd o gyffuriau sy'n gwella perfformiad, ac unrhyw sylwedd anghyfreithlon arall
    2. cynnal cyfrinachedd
    3. delio â chyfranogwyr mewn modd agored a thryloyw; gan barchu anghenion eu cyfranogwyr bob tro
    4. ceisio mabwysiadu'r lefel uchaf o safonau proffesiynol yn holl feysydd eu gwaith a datblygiad eu gyrfa


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiadau canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd


 


 

Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:

  1. geisio magu perthnasau iach gyda chyfranogwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill trwy gefnogi, cydgysylltu a rheoli'r broses ffitrwydd/ymarfer corff yn effeithiol, gan gadw'r cyfranogwr wrth wraidd y broses
  2. bod yn ymwybodol o rolau personél cynorthwyol yn y galwedigaethau gofal iechyd a chydnabod pryd y dylid atgyfeirio problemau at yr arbenigwyr hyn
  3. bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau ac atebolrwyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chodau ymarfer y diwydiant
  4. anelu at rymuso cyfranogwyr; yn cefnogi eu hawl i wneud dewisiadau, dod o hyd i'w hatebion eu hunain, a'u galluogi i gymryd rhan a datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain
  5. nodi a chydnabod anghenion y cyfranogwyr ar ddechrau'r broses
  6. anelu at wella hyder, hunan-barch a lefelau ffitrwydd cyfranogwyr
  7. myfyrio ar eu harfer eu hunain a thrwy'r amser geisio ffyrdd i wella eu gallu ffitrwydd ac ymarfer, sgiliau a gwybodaeth eu hunain
  8. sefydlu perthynas dda gyda chyfranogwyr
  9. dangos empathi a sensitifrwydd i nodau a chyflwr parodrwydd cyfredol cyfranogwyr
  10. cyflwyno delwedd gadarnhaol o'u hunain a'u sefydliad i gyfranogwyr
  11. datblygu perthynas waith effeithiol gyda chyfranogwyr
  12. diffinio rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn gysylltiedig, yn glir
  13. cyfathrebu'n glir gyda chyfranogwyr mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
  14. dangos sensitifrwydd ac empathi i'r cyfranogwyr a'r wybodaeth maent yn ei darparu

Sgiliau

Mae'r sgiliau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd


 


 

Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:

  1. baratoi'n systematig ar gyfer yr holl weithgareddau gan sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu cyfranogwyr
  2. sicrhau bod gwahaniaethu a chynhwysiant a all alluogi cyfranogwyr ag anghenion penodol ac o alluoedd amrywiol i gymryd rhan mewn sesiynau a rhaglenni. Dylid ystyried anghenion cyfranogwyr ag anabledd a, lle y bo'n bosibl, dylid cwrdd â'u hanghenion
  3. gweithredu rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn
  4. esbonio eu rôl a chyfrifoldebau i gyfranogwyr
  5. nodi unrhyw rwystrau rhag cyfranogi
  6. annog cyfranogwyr i ddod o hyd i ateb i'w rhwystrau
  7. nodi parodrwydd cyfranogwyr i gymryd rhan
  8. nodi a chytuno ar strategaethau i atal rhoi'r gorau neu lithro'n ôl
  9. defnyddio dulliau hyfforddi sy'n cyfateb ag anghenion cyfranogwyr
  10. addasu eu perthynas â chyfranogwyr er mwyn cwrdd â'u hanghenion sy'n newid
  11. gwrando ar a gofyn cwestiynau i gyfranogwyr er mwyn gwirio eu dealltwriaeth
  12. nodi'r wybodaeth mae arnynt angen ei chasglu ynghylch eu cyfranogwyr
  13. casglu gwybodaeth ynghylch eu cyfranogwyr gan ddefnyddio dulliau cymeradwy
  14. cofnodi'r wybodaeth mewn modd a fydd yn helpu i'w dadansoddi
  15. defnyddio technegau cyfathrebu ac ymatebion priodol wrth ddelio ag anghydfod
  16. cydnabod ymddygiad gwahaniaethol a gwybod am y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd unrhyw ddigwyddiadau​

Geirfa

​Gweithgareddau

Elfennau sesiwn weithgaredd corfforol a all ganolbwyntio ar y ffordd yr ydych yn datblygu'r cyfranogwr o ran cryfder, dygnwch, technegau neu ymwybyddiaeth neu strategaethau tactegol ar gyfer datrys problemau. Mae sesiynau ymarfer corff yn cynnwys un neu fwy o weithgareddau.

*
*
 

*
*
 

Amcanion

Gallant fod yn rhai tymor hir, tymor canolig neu dymor byr.

Cyfranogwyr

Pobl, fel unigolion, neu mewn grwpiau, a fydd yn cymryd rhan mewn sesiwn weithgaredd corfforol.

Cynllun

Cynllun sesiwn gweithgaredd corfforol yw disgrifiad o sesiwn arbennig; bydd y cynllun yn cynnwys ei amcanion, ei nod, gweithgareddau, amseroedd a'r offer angenrheidiol. Dylai cynlluniau gael eu cofnodi fel y gellir eu rhannu ag eraill a chyfeirio atynt yn ddiweddarach.

Sesiwn weithgaredd corfforol

Cyfnod penodol lle bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau a fwriadwyd i wella eu perfformiad mewn gweithgaredd arbennig.

Lles

Cefnogi lles y cyfranogwyr gan gynnwys ffordd o fyw sylfaenol, maeth ac ymwybyddiaeth o gyffuriau.


Dolenni I NOS Eraill

​Mae'r safon hon yn cysylltu â SKAEF1, SKAEF2 a SKAEF12.


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAD457

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddi Chwaraeon a Ffitrwydd , Swyddi Proffesiynol a Thechnegol Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cynllunio; cysylltiedig ag iechyd; ymarfer; corfforol; gweithgaredd; plant