Cyfarwyddo sesiynau ymarfer corff mewn dŵr

URN: SKAEAF9
Sectorau Busnes (Suites): Ymarfer Corff a Ffitrwydd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma'n ymwneud â hyfforddi ymarfer corff mewn dŵr i oedolion sy'n ymddangos yn iach

Prif ddeilliannau'r safon yama yw:
1. paratoi'r sawl sy'n cymryd rhan a'r amgylchedd ar gyfer ymarfer corff mewn dŵr
2. hyfforddi ymarfer corff mewn dŵr i'r sawl sy'n cymryd rhan
3. terfynu’r sesiwn ymarfer corff mewn dŵr ac adfyfyrio amdani 

Mae'r safon yma ar gyfer hyfforddwyr sy'n paratoi, hyfforddi ac adolygu sesiynau ymarfer corff mewn dŵr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. paratoi'r amgylchedd a chi eich hun ar gyfer yr ymarfer corff mewn dŵr

  1. nodi a dewis cyfarpar diogel a chywir ar gyfer yr ymarfer corff mewn dŵr

  2. cwrdd â'r sawl sy'n cymryd rhan ar yr amseroedd a gytunwyd

  3. cyflawni'r broses sgrinio briodol a chasglu unrhyw wybodaeth newydd sy'n ymwneud â pharodrwydd y sawl sy'n cymryd rhan ar gyfer yr ymarfer corff mewn dŵr

  4. cadarnhau neu adolygu'r ymarferion a gytunir ar sail unrhyw wybodaeth newydd a dderbynnir gan y sawl sy'n cymryd rhan

  5. cynghori'r sawl sy'n cymryd rhan ynglŷn â gweithdrefnau argyfwng y cyfleuster

  6. rhoi esboniadau ac arddangosiadau sy'n dechnegol gywir

  7. gwirio dealltwriaeth y sawl sy'n cymryd rhan o gyfarwyddiadau a rhoi'r cyfle iddynt ofyn cwestiynau

  8. rhoi cyfarwyddyd, addysgiad a strategaethau cymhellol **effeithiol i'r sawl sy'n cymryd rhan er mwyn darparu'r sesiwn ymarfer yn ddiogel ac yn effeithiol

  9. monitro diogelwch ac effeithiolrwydd yr ymarferiad mewn dŵr ar gyfer pawb sy'n cymryd rhan gan ddefnyddio technegau a dulliau priodol

  10. annog a chefnogi'r sawl sy'n cymryd rhan i gymryd cyfrifoldeb dros eu ffitrwydd eu hunain

  11. defnyddio technegau taflu'r llais gyda neu heb feicroffon ar gyfer cyfarwyddo'r grŵp

  12. rhoi ciwio effeithiol er mwyn galluogi'r sawl sy'n cymryd rhan i ymarfer fel sy'n briodol ar gyfer y sesiwn

  13. datblygu hyder y sawl sy'n cymryd rhan drwy gynyddu ymarferion yn raddol

  14. adolygu perfformiad y sawl sy'n cymryd rhan drwy gynnig dilyniannau, atchweliadau addas mewn ymateb i'w hanghenion

  15. cyfeirio neu ddanfon y sawl sy'n cymryd rhan at bobl broffesiynol eraill pan mae eu hanghenion y tu hwnt i lefel eich gallu

  16. rhoi cyngor ar ffitrwydd mewn gweithgaredd corfforol mewn dŵr

  17. cadw at yr amseriadau sydd wedi eu cytuno ar gyfer yr ymarfer corff mewn dŵr

  18. rhoi cyfle i'r sawl sy'n cymryd rhan adfyfyrio ar y sesiwn a rhoi adborth

  19. rhoi crynodeb o'ch adborth am y sesiwn i'r sawl sy'n cymryd rhan

  20. sicrhau bod y sawl sy'n cymryd rhan yn cael manylion am sesiynau yn y dyfodol 

  21. gadael yr amgylchedd mewn cyflwr sy'n dderbyniol ar gyfer cael ei defnyddio eto gennych chi a chan eraill

  22. cyfeirio unrhyw faterion sy'n ymwneud â iechyd, diogelwch neu les yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt

  1. amrediad a chyfyngiadau eich gallu, cyfrifoldebau ac atebolrwydd, fel ag y maent yn berthnasol i'ch swydd

  2. egwyddorion anatomeg a ffisioleg yn cynnwys y systemau ysgerbydol, niwrogyhyrol, cardiofasgwlar, resbiradol, ynni a threuliol

  3. sut i gymhwyso anatomeg a ffisioleg pan yn cynllunio sesiynau ymarfer corff diogel ac effeithiol mewn dŵr i amrywiaeth o bobl sy'n cymryd rhan

  4. y rhannau o ffitrwydd sy'n ymwneud ag iechyd a sut i gymhwyso'r rheiny i raglen o ymarfer corff i gwrdd ag anghenion y sawl sy'n cymryd rhan gyda chi

  5. manteision iechyd gweithgaredd corfforol a risgiau diffyg gweithgaredd

  6. y cyngor cyffredinol am fwyta'n iach y gellir ei roi i blant yn seiliedig ar ffynonellau credadwy

  7. ffyrdd o nodi a pharatoi cyfarpar ac amgylcheddau diogel a chywir ar gyfer ymarfer corff mewn dŵr,

9. pam dylech chi gwrdd â'r sawl sy'n cymryd rhan yn brydlon a gwneud iddynt deimlo bod croeso iddynt

10. dulliau o sgrinio a chasglu unrhyw wybodaeth newydd yn ymwneud â pharodrwydd y sawl sy'n cymryd rhan ar gyfer ymarfer corff mewn dŵr **

  1. sut i gadarnhau neu adolygu'r rhaglen a gytunir ar sail unrhyw wynodaeth newydd a dderbyniwyd gan y sawl sy'n cymryd rhan

  2. ffyrdd o egluro gofynion corfforol a thechnegol y sesiwn i'r sawl sy'n cymryd rhan

  3. y rhannau sydd eu hangen i gynllunio sesiynau ymarfer corff mewn dŵr diogel ac effeithiol  

  4. ffyrdd o ddarparu esboniadau ac arddangosiadau sy'n dechnegol gywir, mewn perthynas ag anghenion y sawl sy'n cymryd rhan a'u lefel o brofiad

  5. pam dylech chi wirio dealltwriaeth y sawl sy'n cymryd rhan o gyfarwyddiadau a rhoi'r cyfle iddynt ofyn cwestiynau

  6. dulliau o fonitro dwysedd a thechneg yr ymarferion corff mewn dŵr a ddewisir

  7. gwahanol fathau o ddulliau hyfforddi ac addysgu a sut gellir eu defnyddio i ddiwallu anghenion y gwahanol rai sy'n cymryd rhan

  8. amrediad o ymarferion corff amgen ac addasiadau yn cynnwys dilyniannau ac atchweliadau

  9. ffyrdd o annog a chefnogi'r sawl sy'n cymryd rhan i gymryd cyfrifoldeb dros eu ffitrwydd eu hunain

  10. ffyrdd o daflu'r llais yn effeithiol gyda neu heb feicroffon

  11. egwyddorion rheoli ymddygiad grŵp yn ystod sesiynau ymarfer corff mewn dŵr

  12. sut i ddatblygu hyder y sawl sy'n cymryd rhan drwy gynyddu ymarferion yn raddol

  13. ffyrdd o adolygu gallu'r sawl sy'n cymryd rhan i gyflawni ymarferion corff mewn dŵr a phryd i gynnig dilyniannau ac atchweliadau addas mewn ymateb i anghenion y sawl sy'n cymryd rhan

24. pryd i roi cyngor ynglŷn ag ymarfer corff mewn dŵr a sut i’w 

  1. ffyrdd o asesu a oes gan rywun sy'n cymryd rhan anghenion y tu allan i faes eich gallu chi a sut i gyfeirio at bobl broffesiyniol eraill

  2. y mathau o beryglon neu risgiau newydd all godi yn ystod sesiwn, sut i nodi a rheoli'r rhain

  3. diben gadael digon o amser i ddiweddu'r sesiwn, ar sail lefel profiad y sawl sy'n cymryd rhan

  4. ffyrdd o roi crynodeb cywir o'ch adborth am y sesiwn i'r sawl sy'n cymryd rhan

  5. y dulliau o gasglu adborth gan y sawl sy'n cymryd rhan ac eraill

  6. pam dylai'r sawl sy'n cymryd rhan gael gwybodaeth am sesiynau yn y dyfodol

  7. ffyrdd o adael yr amgylchedd mewn cyflwr sy'n dderbyniol ar gyfer cael ei defnyddio eto gennych chi a chan eraill

  8. gweithdrefnau penodol ar gyfer adrodd am faterion sydd y tu hwnt i'ch gallu, cyfrifoldebau ac atebolrwydd


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Amgylchedd

  1. lle gwag
  2. dyluniad
  3. awyriant
  4. goleuo
  5. defnydd o gerddoriaeth
  6. cyfarpar ar gyfer y sesiwn
  7. dillad a chyfarpar personol
  8. dŵr bas
  9. dŵr dwfn

Gwybodaeth

1.  nod personol

2.  ffordd o fyw

3.  hanes meddygol

4.  hanes gweithgaredd corfforol

5.  hoffterau gweithgaredd corfforol

6.  agwedd a chymhelliant i gymryd rhan

7.  lefel ffitrwydd cyfredol

8.  pa mor barod ydyw rhywun

9.  parodrwydd seicolegol


Tafliad y llais

  1. defnydd o uchelder
  2. traw’r llais


Gwybodaeth Cwmpas

Dulliau

  1. holiadur

  2. sgrinio geiriol

  3. arsylwad

Technegau addysgu

  1. newid safleoedd addysgu
  2. gofyn cwestiynau
  3. gwneud addasiadau a dilyniannau
  4. cyfathrebiadau geiriol a gweledol
  5. adlewyrchu
  6. arwyddion llaw
  7. strategaethau ar gyfer rheoli grŵp

Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​SKAEAF2, SKAEAF8, SKAEAF20


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAEF10

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfarwyddwr, Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Hyfforddwr

Cod SOC

6211

Geiriau Allweddol

Cyfarwyddo; ymarfer corff mewn dŵr; ymarfer corff; y sawl sy’n cymryd rhan