Cyfarwyddo sesiynau ymarfer corff a ffitrwydd

URN: SKAEAF5
Sectorau Busnes (Suites): Ymarfer Corff a Ffitrwydd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon yma'n ymwneud â chyfarwyddo sesiynau ymarfer corff  a ffitrwydd gyda phobl sy'n ymddangos yn iach; yn unigolion ac yn grwpiau bychain.

Prif ddeilliannau'r safon yma yw:

  1. paratoi’r sawl sy’n cymryd rhan a’r amgylchedd ar gyfer y sesiwn ymarfer corff a ffitrwydd

  2. Cyfarwyddo sesiynau ymarfer corff a ffitrwydd i'r sawl sy'n cymryd rhan

           3. diweddu ac adfyfyrio am sesiwn ymarfer corff a ffitrwydd

Mae'r safon yma ar gyfer hyfforddwyr sy'n cynllunio sesiynau ymarfer corff o bob math. Enghreifftiau nodweddiadol o'r rhain fydd:

*ymarfer corff mewn campfa

*ymarfer corff mewn grŵp bychan


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. paratoi'r amgylchedd a chi eich hun ar gyfer y sesiwn gweithgaredd corfforol

2. nodi a dewis cyfarpar diogel a chywir ar gyfer y sesiwn ymarfer corff

  1. cwrdd â'r sawl sy'n cymryd rhan ar yr amseroedd a gytunwyd

  2. cyflawni'r broses sgrinio briodol a chasglu unrhyw wybodaeth newydd sy'n ymwneud â pharodrwydd y sawl sy'n cymryd rhan i gymryd rhan yn y sesiwn ymarfer corff

  3. trafod y rhaglen yr ydych wedi cytuno arni gyda'r sawl sy'n cymryd rhan a disgrifio'r gofynion corfforol a thechnegol iddynt

  4. rhoi esboniadau ac arddangosiadau clir am y rhannau o'r ymarfer i'r sawl sy'n cymryd rhan

  5. rhoi cyfarwyddyd, addysgiad a strategaethau cymhellol **effeithiol i'r sawl sy'n cymryd rhan er mwyn cyflawni'r sesiwn gweithgaredd corfforol yn ddiogel ac yn effeithiol

  6. gwirio dealltwriaeth y sawl sy'n cymryd rhan o'r cyfarwyddiadau a rhoi cyfle iddynt ofyn cwestiynau

  7. monitro dwysedd a thechneg yr ymarfer sydd wedi ei ddewis gan ddefnyddio dulliau priodol ar gyfer yr elfen ymarfer corff

10. adolygu perfformiad y sawl sy'n cymryd rhan a chynnig dilyniannau, atchweliadau a dewisiadau amgen addas mewn ymateb i'w hanghenion

  1. cadw at yr amseriadau sydd wedi eu cynllunio ar gyfer yr ymarfer

  2. rhoi cyfle i'r sawl sy'n cymryd rhan i adfyfyrio am y sesiwn a rhoi adborth

  3. rhoi crynodeb o'ch adborth am y sesiwn i'r sawl sy'n cymryd rhan

  4. sicrhau bod y sawl sy'n cymryd rhan yn cael manylion am sesiynau gweithgaredd corfforol yn y dyfodol

  5. gadael yr amgylchedd mewn cyflwr sy'n dderbyniol ar gyfer cael ei defnyddio eto gennych chi a chan eraill

  6. cyfeirio unrhyw faterion sy'n ymwneud â iechyd, diogelwch neu les yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt

  1. amrediad a chyfyngiadau eich gallu, cyfrifoldebau ac atebolrwydd, fel ag y maent yn berthnasol i'ch swydd

  2. egwyddorion anatomeg a ffisioleg yn cynnwys y systemau ysgerbydol, niwrogyhyrol, cardiofasgwlar, resbiradol, ynni a threuliol

  3. sut i gymhwyso anatomeg a ffisioleg pan yn cynllunio sesiynau diogel ac effeithiol i amrywiaeth o bobl sy'n cymryd rhan

  4. y rhannau o ffitrwydd sy'n ymwneud ag iechyd a sut i gymhwyso'r rheiny i raglen o ymarfer corff i gwrdd ag anghenion y sawl sy'n cymryd rhan gyda chi

  5. manteision iechyd gweithgaredd corfforol a risgiau diffyg gweithgaredd

  6. y cyngor cyffredinol am fwyta'n iach ellir ei roi i blant yn seiliedig ar ffynonellau credadwy

8. ffyrdd o nodi a pharatoi cyfarpar ac amgylcheddau diogel a chywir ar gyfer y sesiwn gweithgaredd corfforol

  1. ffyrdd o drefnu'r amgylchedd er mwyn galluogi perfformiad ymarfer corff diogel

  2. y gweithdrefnau cywir ar gyfer edrych ar gyfarpar a delio gydag unrhyw eitemau sy'n anniogel

  3. pam dylech chi gwrdd â'r sawl sy'n cymryd rhan yn brydlon a gwneud iddynt deimlo bod croeso iddynt

  4. dulliau o sgrinio a chasglu unrhyw wybodaeth newydd yn ymwneud â pharodrwydd y sawl sy'n cymryd rhan ar gyfer y sesiwn ymarfer corff

13. pryd i gadarnhau neu adolygu'r rhaglen a gytunwyd yn seiliedig ar unrhyw wybodaeth newydd sydd wedi ei derbyn gan y sawl sy'n cymryd rhan

  1. ffyrdd o egluro gofynion corfforol a thechnegol y sesiwn i'r sawl sy'n cymryd rhan

  2. ffyrdd o ddarparu esboniadau ac arddangosiadau sy'n ymwneud ag anghenion y sawl sy'n cymryd rhan a lefel eu profiad

  3. pam dylech chi wirio dealltwriaeth y sawl sy'n cymryd rhan o gyfarwyddiadau a rhoi cyfle iddynt ofyn cwestiynau

  4. dulliau o fonitro dwysedd a thechneg yr ymarferion sydd wedi eu dewis

18. sut i sicrhau bod y sawl sy'n cymryd rhan yn gwneud ymarferion mewn modd diogel ac effeithiol

19. gwahanol fathau o ddulliau hyfforddi ac addysgu a sut gellir eu defnyddio i ddiwallu anghenion y sawl sy'n cymryd rhan

  1. ffyrdd o adolygu perfformiad y sawl sy'n cymryd rhan a phryd i gynnig dilyniannau ac atchweliadau addas mewn ymateb i'w hanghanion

  2. ffyrdd o asesu a oes gan rywun sy'n cymryd rhan anghenion y tu allan i faes eich gallu chi a sut i gyfeirio at bobl broffesiyniol eraill

  3. diben gadael digon o amser i ddiweddu'r sesiwn, ar sail lefel profiad y sawl sy'n cymryd rhan

  4. y dulliau o gasglu adborth gan y sawl sy'n cymryd rhan ac eraill

  5. ffyrdd o roi crynodeb o'ch adborth am y sesiwn i'r sawl sy'n cymryd rhan

  6. pam dylai'r sawl sy'n cymryd rhan gael gwybodaeth am sesiynau yn y dyfodol

  7. ffyrdd o adael yr amgylchedd mewn cyflwr sy'n dderbyniol ar gyfer cael ei defnyddio eto gennych chi a chan eraill

  8. gweithdrefnau penodol ar gyfer adrodd am faterion sydd y tu hwnt i'ch gallu, cyfrifoldebau ac atebolrwydd


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas

Cyfarpar:

  1. cardiofasgiwlaidd
  2. gwrthiant sefydlog
  3. pwysau rhydd
  4. cludadwy
  5. cyfarpar ymarfer swyddogaethol

Dulliau

  1. cyfweliad
  2. holiadur
  3. sgrinio geiriol
  4. arsylwad


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​SKAEAF2, SKAEAF4, SKAEAF20


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAEF4

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfarwyddwr, Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Hyfforddwr

Cod SOC

6211

Geiriau Allweddol

Cyfarwyddo; goruchwylio; campfa; ymarfer corff; y sawl sy’n cymryd rhan