Cynllunio, marchnata a gwerthu gwasanaethau mewn amgylcheddau hamdden gweithgar
Trosolwg
Mae'r safon yma'n ymwneud ag unigolion sy'n gweithio'n llawrydd neu mewn cyd destun lle mae disgwyl iddynt gynhyrchu busnes o fewn diwydiant hamdden gweithgar, ac felly angen mwy na sgiliau technegol yn unig.
Prif ddeilliannau'r safon yma yw:
1. cynllunio eich strategaeth marchnata a gwerthiant  
2. hyrwyddo eich gwasanaethau  
3. gwerthu eich gwasanaethau yn uniongyrchol i unigolion  
4. dilyn ymholiadau marchnata ac unigol  
Mae'r safon yma ar gyfer unigolion llawrydd neu staff cyflogedig sy'n gorfod marchnata a gwerthu eu gwasanaethau i ddarpar unigolion yn yr amgylchedd hamdden gweithgar.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
C*ynllunio eich strategaeth marchnata a gwerthiant*
- cynllunio eich strategaeth marchnata a gwerthiant 
- ymchwilio i'r *farchnad *am eich cynnyrch 
- nodi gwasanaethau fydd yn ddeniadol i unigolion a/neu sefydliadau 
- costio gwasanaethau ar lefel fydd yn fforddiadwy i unigolion a/neu sefydliadau 
- profi'r gwasanaethau hyn gydag unigolion a/neu sefydliadau 
6. ceisio adborth gan unigolion a/neu sefydliadau
7. pennu targedau gwerthiant CAMPUS (cyraeddadwy, amser wedi ei bennu, mesuradwy, penodol, uchelgeisiol a synhwyrol)
8. sefydlu amcanion a thargedau gwerthiant
Hyrwyddo eich gwasanaeth
- nodi a thargedu unigolion a/neu sefydliadau gan ddefnyddio detholiad o ddulliau 
- cyflwyno eich gwasanaethau fel eu bod yn ddeniadol i unigolion a/neu sefydliadau 
- gwneud yn siwr bod unigolion a/neu sefydliadau yn cael eu gwneud yn ymwybodol o'ch gwasanaethau 
- hyrwyddo gwerth a manteision eich gwasanaethau 
- monitro effeithiolrwydd eich strategaeth marchnata a gwerthiant 
- gwerthuso eich strategaeth marchnata a gwerthiant a gwneud gwelliannau 
Gwerthu eich gwasanaethau'n uniongyrchol i unigolion
- ymgymryd â gwerthu rhagweithiol 
- cynnig a chytuno ar wasanaeth sy'n diwallu anghenion y ddwy ochr 
- cytuno ar delerau gyda'r unigolyn a/neu'r sefydliad 
- gwneud yn siwr bod yr unigolyn a/neu'r sefydliad yn fodlon â'r gwerthiant 
- cwblhau dogfennau yn unol â gofynion cyfundrefnol 
Dilyn ymholiadau marchnata ac unigol 20. dilyn ymholiadau marchnata ac unigol 21. datblygu system reolaeth gwasanaeth unigol 22. cadw'r system reolaeth gwasanaeth unigol wedi ei diweddaru  cadw mewn cysylltiad rheolaidd ag unigolion a/neu sefydliadau sy'n bodoli eisoes adnabod cyfleoedd i ddod o hyd i fusnes newydd dilyn yr holl weithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol  
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynllunio eich strategaeth marchnata a gwerthiant
1. sut i ymchwilio i'r farchnad am eich gwasanaethau
2. sut i nodi gwasanaethau sy'n bodoli eisoes a rhai newydd fydd yn ddeniadol i unigolion a/neu sefydliadau
- sut i gostio gwasanaethau ar lefel fydd yn fforddiadwy i unigolion a/neu sefydliadau 
- dulliau o brofi gwasanaethau 
- sut i ddatblygu targedau gwerthiant CAMPUS (cyraeddadwy, amser wedi ei bennu, mesuradwy, penodol, uchelgeisiol a synhwyrol) 
- ffyrdd o werthuso effeithiolrwydd eich strategaeth marchnata a gwerthiant. 
- sut i gyflwyno cynllun o'ch gwasanaeth marchnata a gwerthiant 
Hyrwyddo eich gwasanaeth
- dulliau o nodi a thargedu unigolion a/neu sefydliadau 
- ffyrdd o gyflwyno eich gwasanaethau **fel eu bod yn ddeniadol i unigolion a/neu sefydliadau 
- sut i sicrhau bod unigolion a/neu sefydliadau ym ymwybodol o'ch gwasanaethau 
- sut i argyhoeddi unigolion a/neu sefydliadau o werth a manteision eich gwasanaethau 
- systemau ar gyfer tracio marchnata a gwerthiant 
- ffyrdd o gymharu targedau 
- ffyrdd o werthuso eich strategaeth marchnata a gwerthiant 
Gwerthu eich gwasanaethau'n uniongyrchol i unigolion
- gwahanol dechnegau gwerthu 
- sut i gynnig a chytuno ar wasanaeth sy'n diwallu anghenion y ddwy ochr 
- pam ei bod yn bwysig cytuno ar delerau ac amodau gydag unigolyn a/neu sefydliad cyn gwerthiant 
- sut i sicrhau bod yr unigolyn a/neu'r sefydliad yn fodlon â'r gwerthiant 
- sut i gwblhau dogfennau yn unol â gofynion cyfundrefnol 
Dilyn ymholiadau marchnata ac unigol
- nodweddion system reolaeth gwasanaeth unigol sydd wedi ei diweddaru 
- sut i gadw system reolaeth gwasanaeth unigol wedi ei diweddaru 
- sut i gadw mewn cysylltiad rheolaidd ag unigolion sy'n bodoli eisoes 
- sut i ddod o hyd i fusnes newydd 
- y ddeddfwriaeth canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt 
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Ymchwil
- tueddiadau sy'n bodoli yn y diwydiant a rhai newydd
- dadansoddi eich cryfderau a'ch gwendidau eich hun
- nodi eich cystadleuwyr
- dadansoddi cryfderau a gwendidau eich cystadleuwyr
- nodi'r mathau o unigolion a/neu sefydliadau all fod â diddordeb yn eich gwasanaethau
- nodi'r manteision mae unigolion a/neu sefydliadau yn edrych amdanynt
*
*Dulliau
- yn bersonol
- drwy bobl eraill
- drwy ddeunyddiau hysbysebu
- drwy gyfryngau cymdeithasol
Cyflwyno eich gwasanaethau
- siarad â phobl yn uniongyrchol
- defnyddio deunyddiau printiedig
- yn electronig
- drwy'r cyfryngau cymdeithasol
Gwybodaeth Cwmpas
Systemau tracio
- llaw neu wedi hysgrifennu mewn llaw
- wedi eu seilio ar Dechnoleg Gwybodaeth
Technegau gwerthu
- adweitheddol
- rhagweithiol
System reolaeth gwasanaeth unigol
- rhai parod i'w defnyddio
- rhai wedi eu llunio'n bwrpasol
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
System reolaeth gwasanaeth unigol
System sy'n sicrhau bod cofnodion cwsmeriaid yn cael eu cadw mewn fformat y gellir ei reoli a chael ato'n rhwydd, sy'n eich galluogi i adeiladu gwell perthynas â chwsmeriaid.
Gwerthu Rhagweithiol
Fe'i gelwir hefyd yn werthu 'gweithredol'. Cymryd y cam cyntaf a gweithredu'n gyntaf, yn hytrach nag ymateb i ddigwyddiadau a sefyllfaoedd allanol yw gwerthu rhagweithiol,. Golyga gymryd rheolaeth o'r holl broses werthu o'r cychwyn cyntaf hyd at ei chwblhau.
Dolenni I NOS Eraill
SKAODP3