Gwerthuso eich anghenion datblygu personol a phroffesiynol eich hun

URN: SKAEAF21
Sectorau Busnes (Suites): Rhaglenni Awyr Agored,Ymarfer Corff a Ffitrwydd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma'n ymwneud â gwerthuso eich anghenion datblygiad personol a phroffesiynol. Bydd gofyn i chi ddangos eich bod yn gallu trafod a chytuno ar amcanion gwaith personol a phroffesiynol gyda'r sawl yr ydych yn adrodd iddynt. Byddwch hefyd yn ymgymryd â gweithgareddau datblygiad yn unol â'ch amcanion personol a chyfundrefnol.

Mae'r safon yma ar gyfer yr holl staff sy'n gweithio mewn iechyd a ffitrwydd, chwaraeon ac amgylcheddau gweithgaredd awyr agored.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


1. gwerthuso gofynion cyfredol eich swydd a’r gofynion yn y dyfodol rhwng ysbeidiau rheolaidd gan gymryd amcanion eich sefydliad i ystyriaeth 
2. nodi gwybodaeth sy’n berthnasol i’ch swydd a’ch datblygiad proffesiynol
3. nodi unrhyw fylchau rhwng gofynion eich swydd a’ch gwybodaeth, sgiliau ac ymddygiadau cyfredol 
4. rhannu eich casgliadau ag eraill, gan gymryd eu hadborth i ystyriaeth 
5. datblygu cynllun datblygiad personol all eich helpu i fynd i’r afael ag unrhyw fylchau yn eich gwybodaeth, sgiliau, ymddygiadau a chefnogi eich gyrfa a’ch nodau personol eich hun.
6. ymgymryd â’r gweithgareddau a nodir yn eich cynllun datblygiad 
7. gwerthuso gydag eraill i ba raddau mae eich gweithgareddau datblygiad wedi cwrdd â’ch anghenion datblygiad cyfundrefnol a’ch rhai chi eich hunain 
8. adolygu a diweddaru eich cynllun datblygiad ar sail eich perfformiad ac anghenion datblygiad pellach 
9. cynnal eich Datblygiad Proffesiynol Parhaus


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. y  ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy’n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt 

2. egwyddorion ymgymryd â datblygiad proffesiynol
3. pwysigrwydd cymryd amcanion eich sefydliad i ystyriaeth pan yn gwerthuso eich perfformiad 
4. sut i ddadansoddi eich swydd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol a nodi unrhyw fylchau rhwng y gofynion hyn a’ch gwybodaeth, sgiliau ac ymddygiadau
5. pryd i drafod eich gwaith gydag eraill a chymryd eu safbwyntiau i ystyriaeth
6. sut i nodi amcanion CAMPUS (cyraeddadwy, amser wedi ei bennu, mesuradwy, penodol, uchelgeisiol a synhwyrol)
7. sut i lunio cynllun datblygiad effeithiol a’i roi ar waith 
8. y mathau o weithgareddau datblygiad sydd ar gael i chi 
9. sut i ddadansoddi i ba raddau mae eich gweithgareddau datblygiad wedi cyfrannu tuag at eich amcanion yn gyffredinol 
10. sut i adolygu a diweddaru eich cynllun datblygiad yng ngoleuni eich perfformiad
11. pwysigrwydd ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus a chadw at hynny 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Datblygiad Proffesiynol Parhaus
*
*
1. gweithdai
2. darllen
3. cynadleddau
4. darlithoedd
5. arlein


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​SKAEAF20


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAEAF21

Galwedigaethau Perthnasol

Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Cyfarwyddwr; , Hyfforddwr

Cod SOC

6211

Geiriau Allweddol

gwerthuso; datblygiad; adolygiad; datblygiad proffesiynol