Darparu ymarfer corff a rhaglenni gweithgaredd corfforol ar gyfer cleientiaid sydd â chyflyrau meddygol

URN: SKAEAF19
Sectorau Busnes (Suites): Ymarfer Corff a Ffitrwydd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma'n ymwneud â darparu rhaglenni ymarfer corff a gweithgaredd corfforol i gwrdd ag anghenion cleientiaid sydd ag amrywiaeth o gyflyrau meddygol. Mae hyn yn debygol o ddilyn o ymgynghoriad cychwynnol, casglu gwybodaeth a llunio rhaglen.

Bydd disgwyl i rywun proffesiynol ym maes ymarfer corff a ffitrwydd ddarparu rhaglenni ymarfer corff a gweithgaredd corfforol effeithiol sy'n cwrdd ag anghenion cleientiaid sydd ag amrywiaeth o gyflyrau meddygol.

Fel arfer byddant yn gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol ond efallai o dan gyfarwyddyd ffisiotherapydd, Swyddog Meddygol neu Feddyg Teulu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. ​paratoi'r amgylchedd a chi eich hun, yn barod ar gyfer darparu'r ymarfer a'r rhaglen gweithgaredd corfforol

  1. nodi a dewis cyfarpar ac adnoddau diogel a chywir ar gyfer yr ymarfer a'r sesiwn gweithgaredd corfforol

  2. cwrdd â'r cleientiaid ar yr amseroedd a gytunwyd

  3. rheoli'r risg i gleientiaid drwy gydol yr ymarferiad a'r rhagalen gweithgaredd corfforol

  4. casglu unrhyw wybodaeth newydd gan y cleientiaid ynglŷn â'u hymateb i sesiynau hyfforddi personol blaenorol a/neu eu lles yn gyffredinol

  5. egluro i'r cleientiaid sut mae'r sesiwn sydd wedi ei chynllunio yn cysylltu â'u nodau

  6. egluro gofynion corfforol a thechnegol yr ymarfer a gynlluniwyd a/neu weithgareddau corfforol

8. rheoli risg i gleientiaid drwy gydol y rhaglen

9. gwneud yn siwr bod yna gydbwysedd o hyfforddiant, gweithgaredd a thrafodaeth o fewn y sesiwn a gynlluniwyd

  1. cefnogi ymwneud y cleient i hybu newid parhaus mewn lefelau gweithgaredd corfforol

  2. defnyddio technegau newid ymddygiad i addasu darpariaeth o'r ymarferiad a'r sesiwn gweithgaredd corfforol

  3. cyfarwyddo'r cleient i wneud ymarferion gyda thechnegau cywir

  4. cyfathrebu â chleientiaid mewn modd a dull sy'n briodol i'w hoff ddewis a'u hanghenion

  5. cynnig strategaethau cymhellol addas i'r cleientiaid yn ystod y sesiwn

  6. arsylwi a dadansoddi perfformiad y cleientiaid a nodi strategaethau dilys er mwyn gwella technegau'r cleientiaid

  7. cynnig atgyfnerthiad cadarnhaol o berfformiad ymarfer corff cywir er mwyn adeiladu hunan-hyder

  8. monitro'r amgylchedd ymarfer corff er mwyn sicrhau bod y  cleientiaid yn ddiogel a chyfforddus

  9. negodi, cytuno a chofnodi gyda chleientiaid unrhyw newidiadau i'r ymarferion a/neu weithgareddau corfforol

  10. gadael digon o amser ar gyfer rhan olaf y sesiwn

  11. rhoi adborth i gleientiaid am eu perfformiad

  12. egluro i gleientiaid sut mae eu cynnydd yn cysylltu â'u nodau tymor byr, tymor canolig a thymor hir

22. rhoi cyfle i gleientiaid ofyn cwestiynau am y sesiwn

23. trafod gweithgareddau posibl eraill a newidiadau ymddygiad gyda chleientiaid all fod o gymorth iddynt gyflawni eu hamcanion

  1. cyfeirio cleientiaid ymlaen at bobl broffesiynol eraill ym meysydd ffitrwydd a gofal iechyd pam fo'u hanghenion y tu allan i lefel eich gallu

  2. gadael yr amgylchedd mewn cyflwr sy'n addas ar gyfer ei defnyddio eto yn y dyfodol, gan ddilyn gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt

  1. egwyddorion anatomeg a ffisioleg yn cynnwys y systemau ysgerbydol, cardiofasgwlar, myoffasgial, endocrinaidd, ynni a threuliol.

  2. sut i gymhwyso anatomeg a ffisioleg pan yn darparu rhaglenni gweithgaredd corfforol ar gyfer cleientiaid sydd â chyflyrau meddygol penodol

  3. y rhannau o iechyd a ffitrwydd sy'n gysylltiedig â sgil a sut i gymhwyso'r rhain i mewn i raglenni o ymarfer corff a gweithgaredd corfforol ar gyfer cleientiaid sydd â chyflyrau meddygol penodol

  4. amrediad a ffiniau proffesiynol eich ymarfer

  5. y berthynas rhwng ymarfer corff, gweithgaredd corfforol a chyflyrau meddygol penodol

  6. ffyrdd o nodi a pharatoi amgylcheddau diogel a chi eich hun ar gyfer y sesiwn ymarfer corff a gweithgaredd corfforol

  7. ffyrdd o drefnu'r amgylchedd er mwyn galluogi perfformiad ymarfer corff diogel

  8. pam dylech chi gwrdd â'r sawl sy'n cymryd rhan yn brydlon a gwneud iddynt deimlo bod croeso iddynt

  9. ffyrdd o reoli risg i gleientiaid drwy gydol y rhaglen ymarfer corff a gweithgaredd corfforol

  10. pam a sut dylech chi gasglu unrhyw wybodaeth newydd sy'n gysylltiedig ag ymateb cleientiaid i sesiynau blaenorol a/neu eu lles yn gyffredinol

  11. gofynion corfforol a thechnegol y gweithgareddau a gynlluniwyd

  12. sut i asesu, monitro a rheoli risg i gleientiaid drwy gydol y rhaglen

  13. sut i sicrhau bod yna gydbwysedd o hyfforddiant, gweithgaredd a thrafodaeth o fewn y sesiwn

  14. dulliau o hybu newid parhaus mewn lefelau o weithgaredd corfforol

  15. technegau newid ymddygiad

  16. dulliau addysgu ar gyfer rhoi cyfarwyddiadau ac esboniadau

18. y safleoedd cywir ar gyfer yr ymarferion

  1. sut i addasu eich dulliau cyfathrebu i gwrdd ag anghenion  cleientiaid

20. sut i ddefnyddio strategaethau cymhellol addas yn ystod y sesiwn

21. sut i ddadansoddi a gwella perfformiad a phatrwm symud cleientiaid

  1. ffyrdd o gynnig atgyfnerthiad cadarnhaol drwy gydol y sesiwn

23.  yr angen i negodi, cytuno a chofnodi gyda chleientiaid unrhyw newidiadau i'r gweithgareddau sydd wedi eu cynllunio

  1. pam dylech chi adael digon o amser ar gyfer rhan olaf y sesiwn

  2. sut a phryd i roi adborth cadarnhaol i gleientiaid am eu perfformiad

  3. pam bod angen i gleientiaid weld sut mae eu cynnydd yn gysylltiedig â'u nodau cyffredinol

  4. pam dylai cleientiaid gael y cyfle i ofyn cwestiynau am eu perfformiad a'u cynnydd cyffredinol

  5. gweithgareddau amgen addas all fod o gymorth i gleientiaid i gyflawni eu nodau

  6. pam a sut i adael yr amgylchedd mewn cyflwr sy'n addas ar gyfer ei defnyddio eto yn y dyfodol, gan ddilyn gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Technegau newid ymddygiad

  1. hunan effeithiolrwydd
  2. dull gweithredu rhesymegol
  3. model camau o newid
  4. dull proses gweithredu iechyd

Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​SKAEAF17, SKAEAF18, SKAEAF20


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAEF24

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfarwyddwr, Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Hyfforddwr

Cod SOC

6211

Geiriau Allweddol

darparu; ymarfer corff; gweithgaredd corfforol; hyfforddiant personol; rhaglenni; cyflyrau meddygol