Cynllunio, darparu a gwerthuso rhaglen cryfder a chyflyru

URN: SKAEAF16
Sectorau Busnes (Suites): Ymarfer Corff a Ffitrwydd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma'n ymwneud â dadansoddi, llunio, perfformio a gwerthuso rhaglen cryfder a chyflyru sy'n addas ac wedi ei deilwrio ar gyfer athletwyr o bob gallu, oedran a chamau o'u datblygiad aeddfedol.

Fel arfer mae hyfforddwyr cryfder a chyflyru yn gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol ond yn aml fel rhan o dîm cefnogi aml-ddisgyblaethol.

Prif ddeilliannau'r safon yma yw:
1. gwneud dadansoddiad anghenion o'r gweithgaredd perfformiad a'r athletydd.
2. llunio  a chytuno ar raglen cryfder a chyflyru
3. darparu, adolygu ac addasu rhaglen cryfder a chyflyru

Mae'r safon yma ar gyfer hyfforddwyr ffitrwydd a phersonol fydd yn gweithio ar ddatblygiad yr athletydd, gan ganolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen er mwyn gwella perfformiad , megis cryfder, cyflymder, gwytnwch, symudedd a gallu i symud.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Gwneud dadansoddiad anghenion o'r gweithgaredd perfformiad a'r athletydd

1. nodi a chytuno ar swyddogaethau a chyfrifoldebau gyda'r athletydd a'r tîm cefnogi

2. gwneud dadansoddiad anghenion addas er mwyn gwerthuso gofynion y gweithgaredd perfformiad

  1. nodi ffynonellau credadwy o wybodaeth er mwyn cefnogi eich dadansoddiad

  2. dadansoddi gofynion y gweithgaredd perfformiad

  3. nodi gofynion y perfformiad gyda'r athletydd a'r tîm cefnogi

  4. dadansoddi galluoedd perfformio cyfredol rhyngweithiol yr athletydd mewn perthynas â gweithgaredd perfformio

  5. nodi a chytuno ar y proffil gyda'r athletydd a'r tîm

  6. gwerthuso gofynion perfformiad a galluoedd yr athletydd

9. datblygu a chytuno ar dargedau perfformiad gyda'r athletydd a'r tîm cefnogi i'w cyflawni ar unwaith, ynghŷd â rhai tymor byr a thymor hir, wedi eu hysbysu gan ofynion perfformiad a galluoedd yr athletydd

  1. datblygu a chytuno ar dargedau rheoli risg o anaf

  2. cytuno ar strategaeth i werthuso ac adolygu newid mewn galluoedd perfformiad gan hwyluso addasiad i'r rhaglen 

Llunio a chytuno ar raglen cryfder a chyflyru

  1. llunio cynllun tymor hir er mwyn cyflawni nodau perfformiad a gytunir gan gymryd i ystyriaeth gyfnodoli allweddol, ystyriaethau cynllunio ac addasu i hyfforddiant

  2. llunio cynllun tymor byr i ganolig er mwyn cyflawni nodau, wedi eu gosod yng nghyd destun cynllun mwy hirdymor

14. cynllunio sesiynau hyfforddiant gan gymryd i ystyriaeth gyfnodoli allweddol ac ystyriaethau cynllunio

15. cytuno ar raglen gyda'r athletydd i ganiatau ymgysylltiad annibynnol

  1. cytuno ar y rhaglen gyda'r tîm cefnogi er mwyn hwyluso dealltwriaeth ac ymgysylltiad 

Darparu, adolygu ac addasu rhaglen cryfder a chyflyru

  1. paratoi i ddarparu cyfleuster a chyfarpar ar gyfer sesiwn hyfforddiant wedi ei chynllunio

  2. asesu, cytuno ar ac adolygu parodrwydd a chymhelliant yr athletydd i gymryd rhan yn y sesiwn sydd wedi ei chynllunio

  3. goruchwylio cwblhau sesiwn ddiogel ac effeithiol fydd yn cael y gorau o berfformiad yr athletwyr o fewn y sesiwn

20. arsylwi'r athletydd a dadansoddi'r wybodaeth sydd ar gael am berfformiad

  1. rhoi adborth er mwyn hwyluso gwell perfformiad a dysgu

  2. diwygio gweithgaredd hyfforddiant ar sail nodau ac amcanion cyffredinol o fewn y sesiwn a statws yr athletydd

  3. cofnodi diwygiadau a gwerthuso goblygiadau ar gyfer cynllun y sesiwn a'r rhaglen

  4. dewis partneriaid hyfforddi a chreu grwpiau hyfforddi er mwyn hwyluso'r canlyniadau gorau i'r sesiwn

  5. rhoi trefniadau monitro a gytunir ar waith

  6. gwerthuso newidiadau yn statws yr athletydd ac effeithiolrwydd y rhaglen, a chyflwyno canlyniadau i'r athletydd a'r tîm cefnogi  

27. cytuno ar ddiwygiadau i dargedau perfformiad yng ngoleuni newidiadau mewn statws

  1. gwneud diwygiadau i gynnwys y rhaglen mewn ymateb i newidiadau yn statws yr athletydd, anaf neu ailwerthusiad o effeithiolrwydd cyfredol y rhaglen

  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol

  3. ceisio cyngor arbenigol lle bo angen


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwneud dadansoddiad anghenion o'r gweithgaredd perfformiad a'r athletydd

1. egwyddorion anatomeg a ffisioleg yn cynnwys y systemau ysgerbydol, cardiofasgwlar, myoffasgial, endocrinaidd, ynni a threuliol

  1. sut i gymhwyso anatomeg a ffisioleg pan yn darparu rhaglenni dilyniannol ar gyfer amrywiaeth o athletwyr

  2. amrediad a ffiniau proffesiynol hyfforddiant eich gallu, cyfrifoldebau ac atebolrwydd fel ag y maent yn berthnasol i'ch swydd

  3. offer dadansoddi anghenion a thechnegau ar gyfer dadansoddi gofynion gweithgaredd perfformiad a deall sut maent yn rhyngweithio

  4. sut i gael gafael ar y wybodaeth gredadwy ddiweddraf er mwyn hysbysu ymarfer cryfder a chyflyru

  5. sgiliau cyfathrebu sydd eu hangen i gytuno i ofynion y gweithgaredd perfformio gyda'r athletydd a'r tîm cefnogi

  6. sut i gasglu a dadansoddi galluoedd perfformiad cyfredol yr athletydd mewn perthynas â gofynion y gweithgaredd perfformio

  7. arwyddocad y ffactorau gwahaniaethu sylfaenol rhwng athletwyr

  8. sut i benderfynu ar y dulliau profi a monitro gorau

  9. methodoleg protocol profi y gellir ei ddefnyddio i gasglu gwybodaeth am yr athletydd

  10. y gwahanol swyddogaethau a chyfrifoldebau sydd eu hangen a sut i gytuno arnynt gyda'r athletydd a'r tîm cefnogi

  11. lle i gael gafael ar y gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol sydd angen eu hystyried ar gyfer yr athletydd a sut i'w dehongli

  12. pam ei bod yn bwysig seilio targedau perfformiad ar eich dadansoddiad o anghenion yr athletydd

  13. sut i ddatblygu, cytuno ar a chofnodi targedau tymor byr, tymor canolig a thymor hir ar gyfer perfformiad a risg o anaf i'r athletydd, gan gymryd i ystyriaeth rwystrau a sicrhau eu bod yn cysylltu â dulliau hyfforddiant a dadansoddiad o anghenion yr athletydd

  14. sut i ddatblygu strategaeth a gwerthuso ac adolygu newidiadau i'r galluoedd perfformiad a gytunir

Llunio a chytuno ar raglen cryfder a chyflyru

  1. ystyriaethau cyfnodoli a chynllunio allweddol a'r croniadau o addasiadau i hyfforddiant 

17. technegau a ddefnyddir i lunio rhaglen cryfder a chyflyru strwythuredig a dilyniannol

18. nodweddion cynllun tymor hir i gyflawni'r nodau a gytunwyd

19. nodweddion cynllun tymor byr i ganolig, wedi eu gosod yng nghyd destun y cynllun tymor hir

  1. technegau ar gyfer llunio a chynllunio sesiynau hyfforddi sy'n cymryd ffactorau logistaidd i ystyriaeth

  2. technegau ar gyfer cyflwyno rhaglen mewn fformat ddefnyddiadwy ar gyfer yr athletydd a'r tîm cefnogi

  3. sut i ddiwygio'r rhaglen mewn modd effeithiol ar sail effeithiolrwydd ymddangosiadol y rhaglen a newid mewn amgylchiadau

  4. y mathau o ddosbarthiad chwaraeon

  5. y cynllunio logistaidd sydd ei angen ar gyfer darparu rhaglen a'r gofynion ar gyfer symudiad medrus

Darparu, adolygu ac addasu rhaglen cryfder a chyflyru

25. nodau, cynnwys a rhesymeg y cynllun hyfforddiant y seilir y cynllun hyfforddiant arno, yn cynnwys y sylfaen wybodaeth a ddefnyddir i lunio'r rhaglen

  1. sut i baratoi'r cyfleuster a dewis cyfarpar ar gyfer y sesiwn hyfforddi sydd wedi ei chynllunio

27.  y sgiliau a ddefnyddir i asesu parodrwydd a chymhelliant yr athletydd ar gyfer y sesiwn hyfforddi sydd wedi ei chynllunio

28. sut i reoli darpariaeth y sesiwn hyfforddi i gadw'r risg o anaf mor isel â phosibl

  1. tystiolaeth a chanllawiau sy'n gysylltiedig â newidion rheolaeth sesiwn

  2. sut i arsylwi, rhoi adborth a gwerthuso a gwella perfformiad yr athletydd

  3. ffyrdd o ddiwygio'r gweithgaredd hyfforddi ar sail nodau'r gweithgaredd hyfforddi a pherfformiad a statws yr athletydd

32 sut i gofnodi perfformiad yr athletydd yng nghanlyniadau sesiwn hyfforddi

  1. goblygiadau canlyniadau'r sesiwn hyfforddi a sut i wneud y newidiadau sy'n ofynnol i'r holl raglen

  2. technegau ar gyfer rhoi arddangosiadau, esboniadau neu gyfarwyddiadau effeithiol

  3. technegau ar gyfer rheoli a chadw ymrwymiad athletwyr, gan gymryd i ystyriaeth ddeinameg y grŵp a'r partner hyfforddi, y cyfleuster a'r dewisiadau o gyfarpar a chymhelliannau athletydd unigol

36. sut i roi'r strategaethau monitro a gytunir ar waith

  1. sut i werthuso canlyniadau'r sesiwn, statws yr athletydd ac effeithiolrwydd cyffreninol y rhaglen a phryd i ymgysylltu â'r athletydd a'r tîm cefnogi yn y gwerthusiad yma

  2. effaith y diwygiadau i'r targedi perfformiad ac effaith y diwygiadau hyn

  3. sut i werthuso ac adolygu'r rhaglen a chyfathrebu gyda'r athletydd a'r tîm cefnogi

  4. datblygiad strategaeth er mwyn hysbysu'r addasiad i raglen

  5. y sgiliau a'r wybodaeth sydd gan eraill yn y tîm cefnogi a sut i ymgysylltu â nhw

  6. y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Gofynion yngl*ŷ*n â meini prawf perfformio

  1. ffisiolegol
  2. biomecanyddol
  3. rheolaeth dros symudiadau
  4. patrymau symudiad/cyflymderau sy'n benodol i chwaraeon
  5. cymdeithasol-seicolegol
  6. anaf ac epidemioleg afiechyd
  7. paramedrau perfformiad/cystadleuaeth
  8. rheolau, rheoliadau a deddfwriaeth genedlaethol a rhyngwladol

*
*

Galluoedd perfformiad

  1. ffisiolegol
  2. biomecanyddol
  3. gallu i symud
  4. cymdeithasol-seicolegol
  5. hanes o anafiadau ac afiechyd
  6. hanes perfformiad/cystadleuaeth a hyfforddiant

*
*

Ystyriaeth allweddol yngl*ŷ*n â chyfnodoli a chynllunio

  1. strwythur cystadleuthau
  2. y goblygiadau pan fo gwahanol ddulliau hyfforddiant yn gyfochrog â'i gilydd
  3. goblygiadau faint o ymarfer a wneir yn gyson a dwysedd yr hyfforddiant
  4. statws hanesyddol a chyfredol yr athletydd
  5. tystiolaeth a gwybodaeth ymchwil o ymateb yr athletydd i hyfforddiant
  6. symbyliad i addasu a ddarperir gan y gweithgaredd a ddewisir a'r dogn
  7. wedi ei ddarparu o fewn rhagnodiad uned hyfforddiant
  8. risgiau a achosir gan flinder yn sgil gweithgaredd hyfforddi
  9. amser a gymerir gan weithgaredd hyfforddi
  10. rhyngweithiad o effeithiau gweithgareddau a ddewisir yn y tymor byr i ganolig




Gwybodaeth Cwmpas

Ffactorau gwahaniaethu sylfaenol

  1. oedran (cronolegol vs. biolegol)
  2. hanes hyfforddiant (hyfforddiant cyffredinol a  hyfforddiant penodol)
  3. rhyw
  4. statws anabledd

Dulliau profi a monitro

  1. trafodaethau, cyfweliadau a holiaduron
  2. profion corfforol/ffitrwydd
  3. coladu data am hyfforddiant
  4. arsylwad
  5. hunan-adfyfyriad

Protocol profi

  1. cryfder
  2. pŵer
  3. cyflymder
  4. cyflymiad
  5. newid cyfeiriad
  6. chwimder cymhleth
  7. gallu aerobig
  8. gallu anaerobig
  9. symudedd
  10. hyblygrwydd
  11. cydbwysedd

*
*

Symudiad medrus

  1. rhedeg (cyflwr sefydlog, cyflyniad, sbrintio)
  2. sgiliau newid cyfeiriad
  3. chwimder cymhleth
  4. ymarferion gymnasteg sylfaenol
  5. neidio, glanio a gweithgareddau plyometrig
  6. symudedd
  7. hyfforddiant gwrthiant
  8. codi pwysau


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAEF27

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfarwyddwr, Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Hyfforddwr

Cod SOC

6211

Geiriau Allweddol

cryfder; cyflyru; gweithgaredd corfforol; ymarfer corff; cynllunio; paratoi; darparu; adolygu; rhaglenni