Llunio a rheoli rhaglen hyfforddiant personol gyda chleientiaid

URN: SKAEAF14
Sectorau Busnes (Suites): Ymarfer Corff a Ffitrwydd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae’r safon yma’n ymwneud â’r gallu mae hyfforddwyr personol ei angen i lunio a rheoli rhaglenni hyfforddiant  personol ar gyfer cleientiaid  Mae hyn yn debygol o ddilyn o ymgynghoriad cychwynnol a chasglu gwybodaeth. Bydd disgwyl i hyfforddwyr personol lunio rhaglen hyfforddiant personol sy’n cwrdd ag anghenion, amcanion cleientiaid, ynghŷd â nodau a gytunwyd. Byddant hefyd yn adolygu ac yn addasu’r rhaglen hyfforddiant personol ar adegau y cytunir arnynt


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. llunio rhaglenni ymarfer corff a gweithgaredd corfforol sy'n cymryd i ystyriaeth y wybodaeth a gasglwyd am y cleientiaid, ynghŷd â'u hanghenion a'u nodau

  1. llunio'r rhaglen hyfforddiant personol sy'n gyson ag egwyddorion cyfnodoli ac sy'n cydfynd â chanllawiau credadwy wedi eu seilio ar dystiolaeth  

  2. sefydlu technegau hyfforddiant addas sy'n benodol i anghenion  cleientiaid a lefel eu gallu

4. dewis amgylcheddau addas sy'n cydfynd â hoffterau cleientiaid a'u gallu i wneud yr ymarferion yn ddiogel

  1. cynllunio amserlen flaengar o sesiynau gyda chleientiaid

  2. cytuno ar gynnwys y rhaglen hyfforddiant personol gyda chleientiaid

  3. cytuno ar ddyddiadau adolygu'r rhaglen hyfforddiant personol a dulliau gwerthuso gyda chleientiaid

  4. nodi'r adnoddau sydd eu hangen i gefnogi effeithiolrwydd y rhaglen hyfforddiant personol

  5. sicrhau bod yr amgylchedd wedi ei pharatoi er mwyn i gleientiaid ymarfer yn effeithiol

10. nodi unrhyw beryglon a risgiau yn yr amgylchedd hyfforddi a'u cadw mor isel â phosibl

  1. cofnodi a chynllunio ar gyfer newidiadau annisgwyl i'r rhaglen hyfforddint personol os na all cleientiaid gymryd rhan yn ôl y cynllun

  2. cytuno sut i gadw cysylltiad â chleientiaid rhwng sesiynau

  3. cadw cofnodion o berfformiad y cleient fel y gellir adolygu cynnydd dros gyfnod o amser

  4. adolygu cynnydd cleientiaid drwy gydol y rhaglen hyfforddiant personol ar adegau y cytunir arnynt

  5. annog cleientiaid i rannu eu barn am gynnydd a boddhad cyffredinol

  6. defnyddio dulliau o werthuso a gytunwyd

  7. gwerthuso perfformiad cleientiaid drwy roi adborth yn ystod yr adolygiad

18. cytuno ar ganlyniadau'r adolygiad gyda chleientiaid a nodi'r nodau hynny sydd angen eu hailddiffinio

  1. cadw cofnod o adolygiad y rhaglen

  2. nodi newidion y rhaglen sydd angen eu haddasu

21. cytuno ar addasiadau i'r rhaglen gyda chleientiaid er mwyn cael y gorau o'u cyflawniad 

22. nodi a chytuno ar unrhyw newidiadau i adnoddau'r rhaglen

  1. cofnodi addasiadau i'r rhaglen gan ddefnyddio fformatau addas a hygyrch

  2. monitro effeithiolrwydd yr addasiadau i'r rhaglen


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt

2. egwyddorion anatomeg a ffisioleg yn cynnwys y systemau ysgerbydol, cardiofasgwlar, myoffasgial, endocrinaidd, ynni a threuliol.

  1. sut i gymhwyso anatomeg a ffisioleg pan yn cynllunio rhaglenni dilynnol ar gyfer amrywiaeth o gleientiaid hyfforddiant personol.

  2. y rhannau o iechyd a ffitrwydd sy'n gysylltiedig â sgil a sut i gymhwyso'r rhain i mewn i raglen ddilynnol o ymarfer corff I gydfynd ag anghenion eich cleientiaid

  3. amrediad a ffiniau proffesiynol hyfforddiant personol amryw gleientiaid i gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt; merched cyn rhoi genedigaeth ac wedi rhoi genedigaeth, oedolion hŷn, pobl anabl a phobl ifanc.

  4. manteision iechyd gweithgaredd corfforol a risgiau diffyg gweithgaredd

  5. ffynonellau credadwy o wybodaeth am lunio rhaglen wedi ei gyfnodoli yn ddiogel ac yn effeithiol

  6. ymarferion a/neu weithgareddau sy'n gyson â'r hyn a dderbynnir fel arfer diogel

  7. sut i sefydlu techengau hyfforddiant addas a sut gellir eu haddasu i ddiwallu anghenion a gallu cleientiaid a'u nodau cyffredinol

  8. sut i lunio amserlen ddilynnol o sesiynau gyda chleientiaid

  9. pam ei bod yn bwysig egluro'r rhaglen hyfforddiant personol i gleientiaid a chytuno arno

  10. arwyddocad sefydlu dyddiadau adolygu rheolaidd gyda'r cleientiaid

  11. yr adnoddau fydd o gymorth i'r cleientiaid gymryd rhan yn y rhaglen

  12. y mathau o amgylcheddau amgen y gellir eu defnyddio pan na all cleientiaid gymryd rhan yn ôl y cynllun

  13. sut i gynllunio, paratoi a rheoli amgylcheddau amgen

  14. pam ei bod yn bwysig nodi peryglon a risgiau posibl yn yr amgylchedd hyfforddi

  15. y mathau o wybodaeth gredadwy i gefnogi cleientiaid i gyflawni rhaglenni hyfforddiant personol sydd wedi eu cynllunio

  16. sut i fonitro ac adolygu cynnydd cleientiaid

  17. pam ei bod yn bwysig annog cleientiaid i rannu eu barn am gynnydd a boddhad cyffredinol ynglŷn â'r rhaglen hyfforddiant personol a'r gwasanaeth 

20. dulliau o werthuso sydd ar gael fydd yn cefnogi adolygiad y cleientiaid

  1. y sgiliau sydd eu hangen i roi adborth cadarnhaol ac amserol i gleientiaid

  2. pam ei bod yn bwysig cytuno ar ddeilliannau wedi eu hadolygu gyda chleientiaid

  3. sut i adolygu rhaglen hyfforddiant personol

  4. pam a sut i addasu rhaglenni hyfforddiant personol a newidion

  5. arwyddocad cytuno ar addasiadau i'r rhaglen gyda chleientiaid

  6. pryd i wneud newidiadau angenrheidiol i adnoddau'r rhaglen

  7. pryd a sut i gofnodi addasiadau'r rhaglen gan ddefnyddio fformatau addas a hygyrch

  8. arwyddocad monitro effeithiolrwydd addasiadau i'r rhaglen


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Adnoddau

  1. amgylchedd ar gyfer y sesiwn

  2. gwybodaeth am y cleient

  3. defnyddio technoleg gwybodaeth


Gwybodaeth Cwmpas

Amgylchedd

**1. campfa

  1. stiwdio/neuadd chwaraeon

  2. yr un sy'n cymryd rhan neu fan amgaëdig arall

  3. awyr agored

  4. arlein


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​SKAEAF12, SKAEAF13, SKAEAF15, SKAEAF20


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAEF15

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfarwyddwr, Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Hyfforddwr

Cod SOC

6211

Geiriau Allweddol

hyfforddiant personol; cynllunio; cyfnodoli; llunio; rheoli