Cymhwyso egwyddorion maethiad i anghenion ac amcanion cleientiaid hyfforddiant personol

URN: SKAEAF13
Sectorau Busnes (Suites): Ymarfer Corff a Ffitrwydd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae’r safon yma’n ymwneud â’r gallu mae hyfforddwyr personol ei angen er mwyn nodi a chefnogi anghenion a nodau maethiad eu cleientiaid. Fel arfer, ond nid bob tro, bydd hwn yn gleient sydd gennych eisoes ac sydd angen cefnogaeth ac arweiniad er mwyn sefydlu a gwella perfformiad maethol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. cwrdd â'r cleient ar adeg ac mewn man priodol

  1. sefydlu perthynas ac ymgysylltu â'r cleient gan ddefnyddio technegau priodol

  2. egluro eich swyddogaeth eich hun a swyddogaeth y cleient ynglŷn â maethiad

  3. cyfathrebu â'r cleient mewn modd effeithiol er mwyn eu hannog i ymgysylltu yn agored ac yn onest

  4. rhoi proses o gydsyniad gwybodus ar waith ar gyfer casglu gwybodaeth faethol

  5. nodi dulliau priodol o gasglu gwybodaeth a data maethol perthnasol am y cleient

7. casglu a chofnodi gwybodaeth a data maethol gan gleientiaid

  1. dadansoddi gwybodaeth a data maethol y cleientiaid er mwyn nodi meysydd ar gyfer gwella yn unol â chanllawiau maethol

  2. cyfeirio neu ddanfon at bobl broffesiynol eraill, unrhyw anghenion neu anghenion posibl sydd gan y cleient na allwch chi mo'u diwallu

  3. cefnogi'r cleient i sefydlu nodau maethol addas yn seiliedig ar y wybodaeth a'r data a gasglwyd

  4. darparu'r cleient â gwybodaeth faethol berthnasol a chredadwy er mwyn cefnogi nodau maethol a gytunwyd

  5. sicrhau bod argymhellion maethol yn ffafriol i raglen hyfforddiant personol cleientiaid

  6. nodi a chytuno ar bwyntiau adolygu gyda'r cleient

  7. monitro cadw at newidiadau maethol a gytunwyd gan ddefnyddio dulliau priodol

  8. gwneud y newidiadau maethol angenrheidiol er mwyn gwneud y gorau o gyflawni nod cyffredinol y cleientiaid

  9. gweithio'n unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. y  ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt

  1. egwyddorion maethiant a sut maent yn berthnasol i gynnal iechyd, a chefnogi perfformiad gweithgaredd corfforol

  2. sut mae sefydlu gofynion maethol yn seiliedig ar amrywiaeth o nodau cleientiaid

  3. rhychwant a ffiniau proffesiynol darparu cyngor maethol i amrywiaeth o gleientiaid, i gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlyno; merched sydd am roi ac sydd wedi rhoi genedigaeth, oedolion hŷn, pobl anabl a phobl ifanc

  4. y cyngor cyffredinol ynglŷn â bwyta'n iach wedi ei seilio ar ffynonellau credadwy a sut i gymhwyso'r rhain i raglen cleient

  5. pwysigrwydd cwrdd â'r cleient ar yr amser cywir ac yn y man cywir er mwyn darparu lleoliad proffesiynol

  6. sut i greu perthynas â gwahanol gleientiaid

  7. pwysigrwydd sefydlu swyddogaethau a chyfrifoldebau ar y cychwyn er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau

  8. sut gall sgiliau cyfathrebu'r hyfforddwr personol ddylanwadu ar ansawdd y wybodaeth a dderbynnir

  9. y lefel o ymrwymiad a chymhelliant a ofynnir amdano er mwyn cyflawni'r anghenion a'r amcanion maethol

  10. pryd a sut i sicrhau cydsyniad gwybodus sy'n addas ar gyfer gwybodaeth a data maethol y cleientiaid

  11. sut i nodi dulliau priodol ar gyfer casglu gwybodaeth a data maethol gan gleientiaid

  12. y broses o bennu nodau a chynllunio gweithredu gyda'r cleient mewn modd effeithiol

14. y strategaethau newid ymddygiad a'r technegau cymhelliant i atal diffyg cydymffurfio neu lithro'n ôl

  1. sut i gefnogi a galluogi cleientiaid i ddatblygu eu strategaethau eu hunain ar gyfer cydymffurfio

  2. sut mae arferion maethol yn cysylltu â rhaglenni hyfforddiant personol cleientiaid

  3. sut a phryd i adolygu nodau maethol cleientiaid

  4. sut a phryd i gofnodi newidiadau maethol gan ddefnyddio fformatau priodol a hygyrch


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Dulliau
1. cyfweliad
2. holiadur
3. asesiadau corfforol
4. arsylwad
5. defnydd o dechnoleg gwybodaeth

Strategaethau newid ymddygiad
1. hunan-effeithiolrwydd
2. nodau a chanlyniadau disgwyliedig
3. goresgyn rhwystrau
4. strategaethau hunan-reolaeth
5. hunan-fonitro
6. hunan-adgyfnerthu


Technegau cymhellol
1. wedi ei gyfeirio gan nodau
2. wedi ei gyfeirio gan ddysgu
3. wedi ei gyfeirio gan ffactorau cymdeithasol/perthynas
4. cynhenid
5. anghynhenid
6. pennu nodau
7. anogaethau / gwobrwyon
8. newid ymddygiad



Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

SKAEAF12, SKAEAF14, SKAEAF15 and SKAEAF20


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAEF17

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfarwyddwr, Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Hyfforddwr

Cod SOC

6211

Geiriau Allweddol

maethiad; hyfforddiant personol; ymarfer corff; bwyta’n iach