Cynllunio ymarfer corff grŵp, symudiad a dawns

URN: SKAEAF10
Sectorau Busnes (Suites): Ymarfer Corff a Ffitrwydd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon yma'n ymwneud â chynllunio ymarfer grŵp, ymarfer corff, symudiad a dawns ar gyfer oedolion sy'n ymddangos yn iach.

Prif ddeilliannau'r safon yma yw:

  1. casglu a dadansoddi gwybodaeth

2. cynllunio ymarfer grŵp diogel ac effeithiol, ar gyfer ymarfer corff, symudiad a dawns

Mae'r safon yma ar gyfer hyfforddwyr sy'n cynllunio rhaglenni ymarfer mewn grŵp, ymarfer corff, symudiad a dawns.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


Casglu a dadansoddi gwybodaeth *
1. cwrdd â’r sawl sy’n cymryd rhan ar adeg ac mewn man priodol 
2. defnyddio dulliau priodol er mwyn adeiladu perthynas tra’n casglu *gwybodaeth gan y sawl sy’n cymryd rhan yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol 
3. dadansoddi’r wybodaeth a nodi’r goblygiadau ar gyfer ymarfer mewn grŵp, symudiad a dawns
4. cyfeirio neu ddanfon at bobl broffesiynol eraill unrhyw rai sy’n cymryd rhan na ellwch ddiwallu eu hanghenion a’u potensial 
5. cadw cyfrinachedd, gan ddilyn gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol 
Cynllunio ymarfer grŵp diogel ac effeithiol, ar gyfer ymarfer corff, symudiad a dawns
6. nodi amcanion sy’n diwallu anghenion a photensial y sawl sy’n cymryd rhan
7. cynllunio sesiynau a fformatau fydd o gymorth i bawb sy’n cymryd rhani gyflawni amcanion sydd wedi eu cynllunio 
8. cynllunio addasiadau, diwygiadau a dewisiadau amgen i gwrdd ag anghenion y sawl sy’n cymryd rhan
9. nodi cerddoriaeth ac amseriadau priodol ar gyfer y sesiwn a’r fformat
10. nodi peryglon ac asesu risg y peryglon hyn sy’n achosi niwed gwirioneddol 
11. cynllunio sut i gadw’r risgiau hyn mor isel â phosibl 
12. cofnodi eich cynlluniau yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


1. y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy’n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt 
2. amrediad a chyfyngiadau eich gallu, cyfrifoldebau ac atebolrwydd, fel ag y maent yn berthnasol i’ch swydd 
3. egwyddorion anatomeg a ffisioleg yn cynnwys y systemau ysgerbydol, niwrogyhyrol, cardiofasgwlar, resbiradol, ynni a threuliol 
4. sut i gymhwyso anatomeg a ffisioleg pan yn cynllunio sesiwn ymarfer grŵp diogel ac effeithiol i amrywiaeth o bobl sy’n cymryd rhan 
5. y rhannau o ffitrwydd sy’n ymwneud ag iechyd a sut i gymhwyso’r rheiny i raglen o ymarfer corff i gwrdd ag anghenion y bobl sy’n cymryd rhan gyda chi 
6. manteision iechyd gweithgaredd corfforol a risgiau diffyg gweithgaredd 
7. y cyngor cyffredinol am fwyta’n iach y gellir ei roi i’r sawl sy’n cymryd rhan yn seiliedig ar ffynonellau credadwy
8. pwysigrwydd cwrdd â’r sawl sy’n cymryd rhan ar yr adeg ac yn y man cywir er mwyn darparu lleoliad 
9. sut i nodi dulliau, technegau a sgiliau cyfathrebu priodol er mwyn casglu gwybodaeth gan y sawl sy’n cymryd rhan
10. y dulliau o gasglu gwybodaeth sydd ei hangen i gefnogi cynllunio sesiynau ymarfer grŵp, symudiad a dawns.
11. y wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer cynllunio sesiynau ymarfer grŵp, symudiad a dawns 
12. technegau dadansoddi gwybodaeth
13. technegau pennu amcanion
14. y ffactorau sy’n berthnasol pan ddaw i gynllunio sesiynau 
15. y mathau o steiliau ymarfer grŵp, symudiad a dawns y gellir eu defnyddio 
16. dewisiadau amgen ar gyfer y steiliau a gynllunir ar gyfer ymarfer, symudiad a dawns 
17. gwahanol steiliau a chyflymder cerddoriaeth ac sut mae hyn yn berthnasol i gynllunio’r sesiwn a’r fformat 
18. sut i ddewis cyflymder a’r math o gerddoriaeth ar gyfer y sawl sy’n cymryd rhan a’r rhan o’r sesiwn 
19. y gofynion cyfreithiol sy’n ymwneud â’r dewis o gerddoriaeth 
20. yr egwyddorion sy’n dod i mewn i ddatblygu coreograffi
21. dulliau o gynllunio a chyflawni amseriadau realistig ar gyfer sesiwn a fformat 
22. ffyrdd o nodi unrhyw beryglon ac asesu’r ffactorau iechyd ac amgylcheddol all ddylanwadu ar ddiogelwch 
23. sut i gofnodi eich cynlluniau yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol 
24. pryd a sut i fynd am gyngor gan bobl broffesiynol eraill pan yn delio â materion sydd y tu allan i’ch gallu


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Gwybodaeth
*
*
1. nod personol
2. ffordd o fyw
3. hanes meddygol
4. hanes gweithgaredd corfforol
5. hoffterau gweithgaredd corfforol
6. agwedd a chymhelliant i gymryd rhan
7. lefel ffitrwydd cyfredol
8. pa mor barod ydyw rhywun
9. rhywstrau i ymarfer corff

Cerddoriaeth
*
*
1. cyflymder
2. rhythm
3. steil

Fformatau
*
*
1. ymarfer corff a symydiad
2. dawns
3. coreograffi
4. gweithgaredd heb ei goreograffu


Gwybodaeth Cwmpas


Dulliau
*
*1. holiadur
2. Sgrinio geiriol
3. arsylwad


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​SKAEAF2, SKAEAF11, SKAEAF20


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAEF7

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfarwyddwr, Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Hyfforddwr

Cod SOC

6211

Geiriau Allweddol

Cynllun; ymarfer corff; symudiad; dawns; y sawl sy’n cymryd rhan