Cynorthwyo gyda gwasanaethau pyrmio gwallt

URN: SKACHB7
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt,Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â'r sgiliau sylfaenol o dynnu cemegau a niwtraleiddio'r gwallt fel rhan o'r broses byrmio.  Bydd y gwaith yn cael ei gyflawni dan gyfarwyddyd y cynllunydd gwallt.

Er mwyn gweithredu'r safon hon, bydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid drwy gydol eich gwaith.  Bydd rhaid ichi hefyd gynnal a chadw ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.

Prif ddeilliannau'r safon hon yw:

  1. cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau pyrmio

  2. tynnu cemegau fel rhan o'r broses byrmio

  3. niwtraleiddio gwallt fel rhan o'r broses byrmio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau pyrmio


*

  1. cynnal a chadw eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch drwy gydol y gwasanaeth

  2. paratoi eich cleient er mwyn bodloni gofynion y salon

  3. dilyn cyfarwyddiadau'r cynllunwyr gwallt drwy gydol y gwasanaeth

  4. diogelu dillad eich cleient drwy gydol y gwasanaeth

  5. gwisgo cyfarpar gwarchod personol wrth ddefnyddio cemegau niwtraleiddio

  6. gosod eich cleient mewn safle sy'n bodloni anghenion y gwasanaeth heb iddyn nhw fod yn anghysurus

  7. sicrhau bod eich osog a'ch safle chi eich hun wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf

  8. cadw eich ardal waith yn lân a thaclus drwy gydol y gwasanaeth

  9. defnyddio dulliau gweithio sy'n:

9.1 lleihau gwastraff cemegau niwtraleiddio

9.2 lleihau'r risg o groes-heintiad

gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio

9.3 sicrhau'r defnydd o adnoddau glân

9.4 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hun a'r cleientiaid

  1. sicrhau bod eich hylendid, eich diogelwch a'ch ymddangosiad personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

  2. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion

  3. gwared defnyddiau gwastraff

  4. ailgyflenwi adnoddau sydd wedi cyrraedd lefelau isel, pan fydd angen hynny, er mwyn lleihau unrhyw amharu ar eich gwaith personol ac ar y cleientiaid 

Tynnu cemegau fel rhan o'r broses byrmio


*

  1. tynnu cemegau mewn ffordd sy'n lleihau'r risg o niwed i'r gwallt gan ddilyn cyfarwyddiadau'r cynllunydd gwallt

  2. sicrhau bod eich dulliau gweithio yn lleihau'r risg o daenu cemegau ar groen a dillad y cleient a'r mannau cyfagos

  3. addasu tymheredd, gwasgedd a chyfeiriad y dŵr er mwyn sicrhau cyfforddusrwydd y cleient ac i ddiogelu'r gwallt

  4. gadael y gwallt a'r croen pen yn lân ac yn rhydd o gemegau a gor-leithder

  5. cyfeirio unrhyw broblemau na allwch eu datrys at sylw'r person perthnasol

  6. sicrhau bod y cynllunydd gwallt yn fodlon â'r gwaith o dynnu cemegau


*

Niwtraleiddio gwallt fel rhan o'r broses byrmio

  1. paratoi'r cyfrwng niwtraleiddio gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a'r cynllunydd gwallt

  2. taenu'r niwtralydd yn wastad gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  3. cyfeirio unrhyw broblemau na allwch eu datrys at y person perthnasol

  4. amseru'r broses niwtraleiddio gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a'r cynllunydd gwallt

  5. tynnu'r rhodiau pyrmio heb aflonyddu ar ffurfiant y cwrls

  6. gadael y gwallt yn rhydd o unrhyw olion o'r niwtralydd heb aflonyddu ar batrwm y cwrls 

  7. taenu a thynnu cyflyrydd arwyneb, pan ddefnyddir hwnnw, gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a'r cynllunydd gwallt


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau pyrmio


*

  1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd

2. gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient

  1. pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau eich cynllunydd gwallt

  2. pwysigrwydd cadarnhau eich bod wedi deall y cyfarwyddiadau a roddwyd gan y cynllunydd gwallt

  3. y mathau o ddillad gwarchod a'r cynhyrchion a ddylai fod ar gael i chi eich hun ac i'r cleientiaid

  4. beth yw dermatitis cyffwrdd, a sut i osgoi ei ddal wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau pyrmio

  5. sut y gall safle eich cleient a chi eich hun gael effaith ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf

  6. pam ei bod yn bwysig cadw eich ardal waith yn lân a thaclus

  7. pwysigrwydd lleihau gwastraff cemegau pyrmio

  8. dulliau gweithio'n ddiogel ac yn lanwaith ac sy'n lleihau'r risg o groes-heintiad a thraws-bla

  9. pwysigrwydd hylendid a hunan-gyflwyniad personol er mwyn cynnal a chadw iechyd a diogelwch yn eich gweithle

  10. cyfarwyddiadau cyflenwyr a gwneuthurwyr ar gyfer gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion y mae'n rhaid i chi eu dilyn

  11. gofynion eich salon a'r gofynion cyfreithiol ar gyfer gwared defnyddiau gwastraff

  12. y person y dylech adrodd wrthi/wrtho am adnoddau sydd wedi cyrraedd lefelau isel

  13. terfynau eich awdurdod personol ar gyfer datrys problemau pyrmio

Tynnu cemegau fel rhan o'r broses byrmio


*

  1. sut i dynnu cemegau mewn ffordd sy'n lleihau'r risg o niwed i'r gwallt

  2. pwysigrwydd sicrhau bod eich dulliau gweithio yn lleihau'r risg i'r cemegau gael eu taenu ar groen a dillad y cleient a'r mannau cyfagos

  3. pam y byddech yn addasu tymheredd, gwasgedd a chyfeiriad y dŵr er mwyn ategu cyfforddusrwydd y cleient a diogelu'r gwallt

  4. pwysigrwydd gadael y gwallt a'r croen pen yn lân ac yn rhydd o gemegau a gor-leithder

Niwtraleiddio gwallt fel rhan o'r broses byrmio

  1. swyddogaeth a phwysigrwydd niwtraleiddio yn y broses byrmio

  2. pwysigrwydd amseru manwl gywir wrth niwtraleiddio pyrmiau

  3. pam ei bod yn bwysig trin a thrafod y gwallt yng nghyfeiriad y gwynt wrth rinsio a blotio

  4. sut y gall pwysedd dŵr effeithio ar y gwallt wrth dynnu niwtralyddion yn ystod y broses byrmio

  5. pwysigrwydd rinsio cynnyrch yn drylwyr o'r gwallt

  6. pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr mewn perthynas â'r cynhyrchion pyrmio a niwtraleiddio penodol sydd yn eich salon

  7. pwysigrwydd tynnu'r rhodiau pyrmio heb aflonyddu ar ffurfiant y cwrls

  8. pwysigrwydd cadarnhau cyfforddusrwydd y cleient drwy gydol y broses niwtraleiddio

  9. y mathau o broblemau all ddigwydd wrth niwtraleiddio pyrmiau a beth sy'n eu hachosi


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas

1. Iechyd a diogelwch

Eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent yn cael eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd

1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario

1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd

1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)


Gwerthoedd

  1. Mae'r Gwerthoedd Allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr:

1.1 parodrwydd i ddysgu

1.2 cwblhau'r gwasanaethau o fewn amser masnachol ymarferol

1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd

1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion y diwydiant a'r sefydliad

1.5 agwedd hyblyg tuag at waith

1.6 gweithiwr tîm

1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid

1.8 agwedd gadarnhaol

1.9 agwedd broffesiynol  

1.10 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau da

1.11 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel

1.12 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn defnyddio cyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel

1.13 cadw at fesurau iechyd a diogelwch a gwarchodaeth y gweithle​


Ymddygiadau

​1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr.  Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd

1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon

1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar

1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd foesgar a chwrtais

1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient

1.5 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i chadw/gadw'n gysurlon

1.7 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth

1.8 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient

1.9 ymdrin â phroblemau o fewn cwmpas eich cyfrifoldebau a'ch rôl swydd

1.10 dangos parch tuag at gleientiaid a chydweithwyr ar bob adeg a than bob amgylchiad

1.11 ceisio cymorth ar fyr dro oddi wrth aelod hŷn o'r staff pan fydd angen

1.12 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAGH5

Galwedigaethau Perthnasol

Mentrau mân-werthu a masnachol, Mentrau Gwasanaeth, Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cynorthwyo; pyrmio