Chwythsychu gwallt

URN: SKACHB5
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt,Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud ag arfer technegau chwythsychu sylfaenol gan ddefnyddio offer a chynhyrchion a dilyn cyfarwyddiadau'r cynllunydd gwallt.

Er mwyn gweithredu'r safon hon, bydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid drwy gydol eich gwaith.  Bydd rhaid ichi hefyd gynnal a chadw ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu da.

Prif ddeilliannau'r safon hon yw:

  1. cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth chwythsychu gwallt

  2. chwythsychu gwallt


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol o weithio wrth chwythsychu gwallt

*
 *

  1. cynnal a chadw eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch drwy gydol y gwasanaeth

  2. paratoi eich cleient er mwyn bodloni gofynion y salon

  3. diogelu dillad eich cleient drwy gydol y gwasanaeth

  4. gosod eich cleient mewn safle sy'n bodloni angen y gwasanaeth heb iddyn nhw fod yn anghysurus

  5. sicrhau bod eich osgo a'ch safle chi eich hun wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf

  6. cadw eich ardal waith yn lân ac yn daclus drwy gydol y gwasanaeth

  7. defnyddio dulliau gweithio sy'n:

7.1 lleihau gwastraff cynhyrchion

7.2 lleihau'r risg o ddifrod i offer a chyfarpar

7.3 lleihau'r risg o groes-heintiad

7.4 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio

7.4 sicrhau'r defnydd o adnoddau glân

7.6 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hun ac eraill

  1. sicrhau bod eich hylendid, eich diogelwch a'ch ymddangosiad personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

  2. dilyn cyfarwyddiadau'r cynllunwyr gwallt drwy gydol y gwasanaeth

  3. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion


*

Chwythsychu gwallt


*

  1. cadarnhau'r cyfarwyddiadau ar gyfer chwythsychu gyda'ch cynllunydd gwallt cyn dechrau'r gwasanaeth

  2. taenu cynhyrchion, os bydd eu hangen, gan ddilyn cyfarwyddiadau eich cynllunydd gwallt

  3. rheoli eich offer a'ch cyfarpar er mwyn lleihau'r risg o niwed i'r gwallt ac anghysur y cleient

  4. cadarnhau bod eich cleient yn gyfforddus yn ystod y broses chwythsychu

  5. defnyddio eich offer a'ch cyfarpar yn effeithiol er mwyn creu'r olwg a ddymunir

  6. rheoli gwallt eich cleient yn ystod y broses chwythsychu

  7. cymryd adrannau o wallt sy'n addas i faint yr offer steilio

  8. cynnal a chadw tyndra cyfartal drwy gydol y broses chwythsychu

  9. cadw'r gwallt yn llaith drwy gydol y broses chwythsychu

  10. sicrhau bod y canlyniad gorffenedig yn cydymffurfio â chyfarwyddiadau eich cynllunydd gwallt


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth chwythsychu gwallt


*

  1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd

  2. gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient

  3. gofynion eich salon ynglŷn â gwared gwastraff

  4. y mathau o ddillad a chynhyrchion gwarchod a ddylai fod ar gael i chi eich hun a'ch cleientiaid

  5. beth yw dermatitis cyffwrdd, a sut i osgoi ei ddal wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau steilio a gorffennu

  6. sut y gall safle eich cleient a chi eich hun gael effaith ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf

  7. pam ei bod yn bwysig gosod eich offer, eich cynhyrchion a'ch defnyddiau wrth law er mwyn hwyluso eu defnyddio

  8. pam ei bod yn bwysig cadw eich ardal waith yn lân a thaclus

  9. dulliau gweithio'n ddiogel ac yn lanwaith ac sy'n lleihau'r risg o groes-heintiad a thraws-bla

  10. gofynion eich salon a'r gofynion cyfreithiol ar gyfer gwared defnyddiau gwastraff

  11. cyfarwyddiadau'r cyflenwyr a'r gwneuthurwyr ar gyfer gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion y mae'n rhaid i chi eu dilyn

  12. pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau eich cynllunydd gwallt

  13. pwysigrwydd hylendid a hunan-gyflwyniad personol er mwyn cynnal a chadw iechyd a diogelwch yn eich gweithle

  14. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio a ddefnyddir mewn salonau

  15. amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer gwasanaethau chwythsychu sylfaenol


*

Chwythsychu gwallt

  1. y mathau o gynhyrchion chwythsychu sydd ar gael a'u pwrpas

  2. y dewis o frwshis fflat a chrwn sydd ar gael ar gyfer chwythsychu

  3. pam a sut i ddefnyddio brwshis fflat a chrwn i greu cyfaint, symudiad ac i sythu gwallt

  4. pam bod cyfeiriad y llif awyr yn bwysig er mwyn creu'r olwg a ddymunir ac i osgoi niwed i'r bilen

  5. pwysigrwydd rheoli eich offer er mwyn lleihau niwed i'r gwallt a'r croen pen ac i atal anghysur i'r cleient

  6. pwysigrwydd sicrhau bod y cleient yn gyfforddus drwy gydol y broses chwythsychu

  7. dulliau o drin a thrafod a rheoli adrannau o wallt yn ystod y broses chwythsychu

  8. sut y gall defnyddio gwres yn anghywir effeithio ar y gwallt a'r croen pen

  9. ffurfiant sylfaenol y gwallt

  10. effeithiau lleithder ar y gwallt


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Offer

1.1 brwshis fflat

1.2 brwshis crwn

2. Gwallt

2.1 hyd uwchlaw'r ysgwydd

2.2 hyd islaw'r ysgwydd

3. Chwythsychu

3.1 creu cyfaint

3.2 sythu

3.3 creu symudiad


Gwybodaeth Cwmpas

1. Iechyd a diogelwch

Eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd

1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario

1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd

1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)


Gwerthoedd

​1. Mae'r Gwerthoedd Allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr:

1.1 parodrwydd i ddysgu

1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol

1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd

1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

1.5 agwedd hyblyg tuag at waith

1.6 gweithiwr tîm

1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid

1.8 agwedd gadarnhaol

1.9 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau da

1.10 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel

1.11 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn defnyddio cyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel

1.12 cadw at fesurau iechyd, diogelwch a gwarchodaeth y gweithle


Ymddygiadau

​1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr.  Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd:

1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon

1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar

1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddo/iddi deimlo'n werthfawr ac yn barchus

1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient

1.5 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i chadw/gadw'n gysurlon

1.7 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth

1.8 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient

1.9 ymdrin â phroblemau o fewn cwmpas eich cyfrifoldebau a'ch rôl swydd

1.10 dangos parch tuag at gleientiaid a chydweithwyr ar bob adeg a than bob amgylchiad

1.11 ceisio cymorth ar fyr dro oddi wrth aelod hŷn o'r staff pan fydd angen

1.12 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon


Sgiliau


Geirfa

1. Diheintio

1.1 Atal twf micro-organeddau sy'n achosi heintiau (ac eithrio sborau) drwy ddefnyddio cyfryngau cemegol

2. Sterileiddio

2.1 Difa micro-organeddau'n llwyr


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAGH2

Galwedigaethau Perthnasol

Mentrau mân-werthu a masnachol, Mentrau Gwasanaeth, Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

chwythsychu; gwallt; trin gwallt