Cynorthwyo gyda dyletswyddau derbynfa salon

URN: SKACHB3
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt,Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo gyda dyletswyddau derbynfa salon. Bydd yn rhaid ichi ddangos eich bod yn gallu cadw ardal y dderbynfa yn ddestlus a thaclus, cyfarch pobl sy'n dod i'r salon, ymdrin â'u cwestiynau a threfnu apwyntiadau uniongyrchol.  Mae defnyddio sgiliau cyfathrebu da pan fydd pobl yn dod i'r salon, neu'n ffonio'r salon, yn rhan bwysig iawn o'r safon hon.

Er mwyn gweithredu'r safon hon bydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid ar raddfa uchel trwy gydol eich gwaith.  Bydd rhaid ichi hefyd gynnal a chadw ymddangosiad personol proffesiynol.

Prif ddeilliannau'r safon hon yw:

  1. cynnal a chadw ardal y dderbynfa

  2. rhoi sylw i gleientiaid ac ymholiadau

  3. cynorthwyo gyda threfnu apwyntiadau ar gyfer gwasanaethau'r salon


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal a chadw ardal y dderbynfa


*

  1. cadw ardal y dderbynfa yn lân a thaclus bob amser

  2. cadw arddangosfeydd cynnyrch yn lân, destlus a thaclus bob amser

  3. dweud wrth y person perthnasol bod deunydd ysgrifennu'r dderbynfa a chynhyrchion adwerthol sy'n cael eu harddangos wedi cyrraedd lefelau isel

  4. symud unrhyw gynhyrchion diffygiol o'r arddangosfa a dweud wrth y person perthnasol amdanynt

  5. cynnig croeso i gleientiaid yn unol â pholisïau gofal cleientiaid eich salon

Rhoi sylw i gleientiaid ac ymholiadau


*

  1. trin pawb sy'n gwneud ymholiadau mewn ffordd gadarnhaol a chwrtais

  2. nodi diben yr ymholiad

  3. cadarnhau apwyntiadau a rhoi gwybod i'r aelod staff perthnasol

  4. cyfeirio unrhyw ymholiadau nad ydych yn gallu ymdrin â nhw at y person perthnasol er mwyn iddi/iddo weithredu arnynt

  5. cofnodi negeseuon a'u trosglwyddo i'r person perthnasol ar yr adeg gywir

  6. rhoi pob gwybodaeth yn glir ac yn fanwl gywir

  7. rhoi gwybodaeth gyfrinachol i bobl awdurdodedig yn unig

Cynorthwyo gyda threfnu apwyntiadau ar gyfer gwasanaethau salon


*

  1. ymdrin â phob cais am apwyntiadau

  2. adnabod gofynion y cleientiaid identify client requirements

  3. gwirio bod y cleient wedi cael profion perthnasol wrth wneud apwyntiadau

  4. trefnu i'r cleient gael profion perthnasol, pan fydd angen hynny, o fewn terfynau eich awdurdod chi eich hun

  5. trefnu apwyntiadau o fewn terfynau eich awdurdod chi eich hun i fodloni gofynion y cleient a'r salon

  6. trosglwyddo ar fyr dro unrhyw geisiadau am apwyntiadau nad ydynt o fewn eich awdurdod chi eich hun at y person perthnasol er mwyn iddi/iddo weithredu arnynt

  7. cadarnhau bod manylion yr apwyntiad yn gywir ac yn dderbyniol i'r cleient

  8. sicrhau bod holl fanylion yr apwyntiadau yn fanwl gywir, wedi'u cofnodi yn y man cywir a'u bod yn hawdd eu darllen


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal a chadw ardal y dderbynfa


*

  1. dulliau gweithredu eich salon ar gyfer:

1.1 cynnal a chadw ardal y dderbynfa

1.2 gofalu am gleientiaid yn y dderbynfa

  1. terfynau eich awdurdod wrth gynnal a chadw ardaloedd y dderbynfa

  2. sut i adnabod unrhyw ddiffygion mewn cynhyrchion adwerthol e.e. difrod a phecynnu llac

  3. pa ddeunydd ysgrifennu ar gyfer y dderbynfa a faint ohono y dylid ei gadw yn ardal eich derbynfa

*
 *

Rhoi sylw i gleientiaid a threfnu apwyntiadau ar gyfer gwasanaethau salon


*

  1. pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol i fusnes y salon

  2. sut a phryd i ofyn cwestiynau

  3. sut i siarad yn eglur mewn ffordd sy'n gweddu i'r sefyllfa

  4. sut i ddangos eich bod yn gwrando'n ofalus ar yr hyn mae pobl yn ei ddweud wrthych

  5. sut i addasu'r hyn rydych chi'n ei ddweud ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd

  6. sut i arddangos iaith corff gadarnhaol

  7. dulliau gweithredu eich salon ar gyfer:

11.1 cynnal cyfrinachedd

11.2 cymryd negeseuon

11.3 trefnu a chofnodi apwyntiadau

11.4 cynnal profion

  1. terfynau eich awdurdod wrth:

12.1  rhoi sylw i bobl ac ymholiadau

12.2  trefnu apwyntiadau

12.3  cynnal profion

  1. pwysigrwydd cadarnhau a threfnu apwyntiadau yn gywir

  2. pwysigrwydd cymryd negeseuon a'u trosglwyddo i'r person cywir ar yr adeg gywir

  3. at bwy y dylid cyfeirio gwahanol fathau o ymholiadau

  4. y person yn eich salon y dylech gyfeirio problemau ynghylch y dderbynfa ati/ato  

  5. pwysigrwydd gwirio bod cleientiaid wedi cael profion ar gyfer gwasanaethau penodol

  6. gofynion cyfrinachedd o fewn y Ddeddf Diogelu Data

  7. canlyniadau diystyru cyfrinachedd

  8. y gwasanaethau sydd ar gael ac am ba hyd y maen nhw'n para

21.cynhyrchion sydd ar werth a'u prisiau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Ymholiadau

1.1 wyneb yn wyneb

1.2 dros y ffôn

2. Apwyntiadau

2.1 wyneb yn wyneb

2.2 dros y ffôn

3. Manylion apwyntiad

3.1 enw'r cleient a manylion cyswllt

3.2 gwasanaeth

3.3 dyddiad

3.4 amser

3.5 aelod staff a neilltuwyd ar gyfer y gwasanaeth


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd

​1. Mae'r Gwerthoedd Allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr: **

1.1 parodrwydd i ddysgu

1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol

1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd

1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

1.5 agwedd hyblyg tuag at waith

1.6 gweithiwr tîm

1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid

1.8 agwedd gadarnhaol

1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol

1.10 y gallu i hunan-reoli

1.11 sgiliau creadigrwydd

1.12 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau ardderchog

1.13 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel

1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn defnyddio cyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel


Ymddygiadau

​1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector gwallt a gwaith barbwr.  Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd:

1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon

1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar

1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddo/iddi deimlo'n werthfawr ac yn barchus

1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient

1.5 trin y cleient mewn ffordd gwrtais a gwasanaethgar ar bob adeg

1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i gadw/chadw'n gysurlon

1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiad gwahanol gleientiaid

1.8 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth

1.9 dewis y ffordd fwyaf priodol o gyfathrebu gyda'r cleient

1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall ei disgwyliadau /ddisgwyliadau yn llwyr

1.11 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

1.12 rhoi amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi esboniad pellach pan fydd hynny'n briodol

1.13 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient

1.14 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon

1.15 adnabod gwybodaeth all fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio a yw hi/e yn deall yn llwyr

1.16 esbonio'n glir wrth y cleient unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau.


Sgiliau


Geirfa

1. Gwybodaeth gyfrinachol

* *

Gall gynnwys agweddau personol sgyrsiau gyda chleientiaid, agweddau personol sgyrsiau gyda chydweithwyr, cynnwys cofnodion cleientiaid, manylion personol staff a chleientiaid e.e. cyfeiriadau a rhifau ffôn, agweddau ariannol y busnes, clecs.

**

  1. Terfynau eich awdurdod chi**

* *

Hyd a lled eich cyfrifoldeb fel sy'n cael ei bennu gan eich swydd-ddisgrifiad chi a pholisïau'r gweithle.

* *

*
3. Cyflwyniad personol
*

* *

Mae hwn yn cynnwys hylendid personol; y defnydd o gyfarpar gwarchod personol; dillad ac ategolion sy'n addas i'r gweithle penodol.

* *

*
4. Person perthnasol
*

* *

Unigolyn sy'n cael ei hystyried/ystyried yn gyfrifol am eich arolygu yn ystod tasg neu wasanaeth penodedig neu'r person y byddwch chi fel arfer yn rhoi adroddiad iddi/iddo e.e. eich rheolwr llinell.  Yn y Safonau penodol hyn, gall hefyd gyfeirio at unigolyn y mae'r salon yn ei hystyried/ystyried yn gyfrifol am feysydd a gwasanaethau penodol.

* *

*
5. Profion
*

* *

Bydd prawf yn pennu a yw cleient yn addas ar gyfer gwasanaeth arbennig e.e. prawf croen sy'n canfod a oes gan y cleient alergedd i gynnyrch neu gemegyn.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2014

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAG2

Galwedigaethau Perthnasol

Mentrau mân-werthu a masnachol, Mentrau Gwasanaeth, Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cynorthwyo; salon; derbynfa