Cyfrannu at gynllunio, gweithredu a gwerthuso gweithgareddau hyrwyddo

URN: SKACHB17
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt,Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithio gydag eraill er mwyn cynllunio, gweithredu a gwerthuso gweithgareddau hyrwyddo.  Mae'r gallu i gyflwyno gwybodaeth yn fedrus a rhyngweithio gyda'r cyhoedd wrth arddangos sgiliau yn elfen bwysig iawn o'r safon hon.

Er mwyn gweithredu'r safon hon, bydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid ar raddfa uchel trwy gydol eich gwaith.  Bydd angen ichi hefyd gynnal ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.

Prif ddeilliannau'r safon hon yw:

  1. cyfrannu at gynllunio a pharatoi gweithgareddau hyrwyddo contribute to the planning and preparation of promotional activities

  2. gweithredu gweithgareddau hyrwyddo implement promotional activities

  3. cymryd rhan yn y broses o werthuso gweithgareddau hyrwyddo


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cyfrannu at gynllunio a pharatoi gweithgareddau hyrwyddo


*

  1. cyflwyno argymhellion i'r person perthnasol am weithgareddau hyrwyddo addas ac adnabod y manteision posibl ar gyfer y busnes

  2. adnabod a chytuno amcanion penodol, mesuradwy, posib eu cyflawni, realistig, ynghlwm wrth amser a grwpiau targed ar gyfer y gweithgaredd â'r person(au) perthnasol

  3. cytuno ar ofynion ar gyfer y gweithgaredd â phob person perthnasol a hynny mewn digon o fanylder fel y gellir cynllunio'r gwaith

  4. cynhyrchu cynllun y cytunwyd arno sy'n dangos:

4.1 y math o weithgaredd hyrwyddo

4.2 amcanion y gweithgaredd **

4.3 swyddogaethau a chyfrifoldebau eraill sy'n cyfranogi

4.4 gofynion adnoddau

4.5 gweithgareddau paratoi a gweithredu

4.6 graddfeydd amser

4.7 cyllideb

4.8 dulliau gwerthuso

  1. cytuno ar gynllun sy'n ystyried unrhyw ofynion cyfreithiol, yn ôl yr angen

  2. sicrhau bod adnoddau ar gael i gyflawni'r amserlen a gynlluniwyd

Gweithredu gweithgareddau hyrwyddo


*

  1. gweithredu gweithgareddau hyrwyddo yn unol â'r cynllun a gytunwyd

  2. addasu gweithgareddau hyrwyddo, yn ôl yr angen, mewn ymateb i amgylchiadau sydd wedi newid a neu broblemau

  3. defnyddio adnoddau'n effeithiol drwy gydol y gweithgareddau hyrwyddo

  4. cyfathrebu nodweddion a manteision hanfodol cynhyrchion a gwasanaethau i'r grŵp targed

  5. defnyddio dulliau cyfathrebu sy'n addas ar gyfer y math o weithgaredd hyrwyddo sy'n cael ei gynnal

  6. cyflwyno gwybodaeth fesul camau rhesymegol

  7. annog y grŵp targed i ofyn cwestiynau am y gwasanaethau a'r cynhyrchion sy'n cael eu hyrwyddo

  8. ymateb i gwestiynau ac ymholiadau mewn modd sy'n hybu ewyllys da ac sy'n gwella delwedd y salon

  9. annog y grŵp targed yn weithredol i fanteisio ar y gwasanaethau a'r cynhyrchion sy'n cael eu hyrwyddo

  10. clirio cynhyrchion a chyfarpar ar ddiwedd y gweithgareddau hyrwyddo, yn ôl yr angen, yn unol â gofynion y lleoliad clear

Cymryd rhan yn y broses o werthuso gweithgareddau hyrwyddo


*

  1. defnyddio'r dulliau y cytunwyd arnynt yn eich cynllun gweithgaredd hyrwyddo i gael adborth o'r ffynonellau perthnasol

  2. casglu a chofnodi'r wybodaeth a gafwyd o'r adborth gan ddefnyddio fformat a dull cyflwyno eglur

  3. tynnu casgliadau ar effeithiolrwydd y gweithgaredd hyrwyddo o ran cyflawni'r amcanion y cytunwyd arnynt

  4. cymryd rhan mewn trafodaethau gan roi crynodeb eglur, wedi'i strwythuro'n dda, o ganlyniadau'r gwerthusiad

  5. argymell gwelliannau ar gyfer unrhyw weithgareddau hyrwyddo sydd i'w cynnal yn y dyfodol yn seiliedig ar ganlyniadau eich gwerthusiad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cyfrannu at gynllunio a pharatoi gweithgareddau hyrwyddo


*

  1. gofynion ymarferol a chyfyngiadau unrhyw leoliad

  2. gofynion y cytundeb, deddfau a deddfwriaeth lleol allai gyfyngu ar eich gweithgaredd hyrwyddo mewn unrhyw leoliad a ddefnyddir

  3. pwysigrwydd ystyried gofynion iechyd a diogelwch a gofynion cyfreithiol eraill

  4. y dulliau gweithredu iechyd a diogelwch sy'n berthnasol i unrhyw leoliad y byddwch yn ei ddefnyddio

  5. y peryglon posibl mae'n rhaid i chi eu hystyried wrth weithio mewn unrhyw leoliad

  6. y camau y dylid eu cymryd i leihau peryglon wrth weithio mewn lleoliad allanol

  7. diben a gwerth cynllunio manwl a chywir

  8. y math o ofynion adnoddau sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau hyrwyddo e.e. unigolion, offer a chyfarpar, defnyddiau, amser, lleoliad

  9. sut gall natur y grŵp targed ddylanwadu ar y dewis o weithgaredd hyrwyddo

  10. sut i gyfateb mathau o weithgareddau hyrwyddo gydag amcanion

  11. sut i gyflwyno cynllun ar gyfer gweithgareddau hyrwyddo

  12. pam ei bod yn bwysig ystyried dulliau gwerthuso yn ystod y cyfnod cynllunio 

  13. sut i lunio amcanion CAMPUS: Cyraeddadwy; Amserol; Mesuradwy; Penodol; Uchelgeisiol; Synhwyrol

  14. pwysigrwydd gweithio yn ôl cyllideb

  15. ble a sut i gael adnoddau

  16. pwysigrwydd diffinio swyddogaethau a chyfrifoldebau'r rhai sy'n ymwneud â'r gweithgareddau hyrwyddo yn glir

  17. pwysigrwydd neilltuo swyddogaethau a chyfrifoldebau i gyfateb i lefelau cymhwysedd unigolyn

  18. pwysigrwydd sicrhau ymroddiad a chytundeb unigolyn i ymgymryd â swyddogaeth yn y gweithgaredd hyrwyddo

  19. y mathau o broblemau y gellir eu rhagweld sy'n digwydd a dulliau o'u datrys


*

Gweithredu gweithgareddau hyrwyddo

  1. nodweddion a manteision y cynhyrchion a/neu'r gwasanaethau sy'n cael eu hyrwyddo

  2. sut i adnabod arwyddion bod rhywun ag awydd prynu a sut i gwblhau'r gwerthiant

  3. y gwahaniaeth rhwng nodweddion cynnyrch neu wasanaeth a manteision cynnyrch neu wasanaeth

  4. sut i deilwra eich cyflwyniad am fanteision cynhyrchion a/neu wasanaethau i gyfarfod ag anghenion a diddordebau unigol

  5. sut a phryd i gymryd rhan mewn trafodaethau

  6. sut i roi cyflwyniad byr gan roi ystyriaeth i amseru, cyflymder, defnyddio'r llais a defnyddio graffeg

  7. dulliau o gyflwyno gwybodaeth e.e. yn ddarluniadol, trwy ddefnyddio graffeg, ar lafar

  8. dulliau o greu effaith weledol

  9. sut a phryd i greu agoriadau er mwyn annog eraill i ofyn cwestiynau

  10. sut i ateb cwestiynau a thrin ymholiadau mewn modd sy'n debygol o gynnal ewyllys da

Cymryd rhan yn y broses o werthuso gweithgareddau hyrwyddo

  1. diben gweithgareddau hyrwyddo

  2. elfennau'r gweithgaredd hyrwyddo y dylid eu gwerthuso

  3. y dulliau mwyaf addas o gael adborth ar gyfer y gweithgareddau hyrwyddo yn y detholiad

  4. sut i gasglu, dadansoddi a chrynhoi adborth gwerthuso mewn ffordd eglur a chryno

  5. dulliau addas o fformatio a chynhyrchu adroddiad gwerthuso


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Gweithgareddau hyrwyddo yw **

1.1 arddangosiadau

1.2 arddangosfeydd

1.3 ymgyrchoedd hysbysebu

2. Amcanion yw **

2.1 Gwella delwedd salon

2.2 Cynyddu busnes y salon


Gwybodaeth Cwmpas

​1. Pwysigrwydd ystyried gofynion iechyd a gofal a gofynion cyfreithiol eraill

1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith **

1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR) **

1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf) **

1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) **

1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario **

1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH) **

1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle **

1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd

1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)

1.11 Deddf Diogelu Data

1.12 Cyfarwyddebau Amser Gweithio

1.13 Rheoliadau Cynhyrchion Cosmetig

1.14 Deddf Gwerthu Nwyddau

1.15 Deddf Gwerthu o Bell

1.16 Deddf Disgrifiadau Masnachol

1.17 Deddf Diogelu Defnyddwyr


Gwerthoedd

​1. Mae'r Gwerthoedd Allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr:

1.1 parodrwydd i ddysgu

1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol

1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd

1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

1.5 agwedd hyblyg tuag at waith

1.6 gweithiwr tîm

1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid

1.8 agwedd gadarnhaol

1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol

1.10 y gallu i hunan-reoli

1.11 sgiliau creadigrwydd

1.12 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau ardderchog

1.13 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel

1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn defnyddio cyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel

1.15 sgiliau arweinyddol


Ymddygiadau

​1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr.  Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd.

1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon

1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar

1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddo/iddi deimlo'n werthfawr ac yn barchus

1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient

1.5 trin y cleient mewn ffordd gwrtais a gwasanaethgar ar bob adeg

1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i gadw/chadw'n gysurlon

1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiad cleientiaid gwahanol

1.8 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth

1.9 dewis y ffordd fwyaf priodol o gyfathrebu gyda'r cleient

1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall ei disgwyliadau /ddisgwyliadau yn llwyr

1.11 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

1.12 rhoi amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi esboniad pellach pan fydd hynny'n briodol 

1.13 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient

1.14 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon

1.15 adnabod gwybodaeth all fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio a yw hi/e yn ei deall yn llwyr

1.16 esbonio'n glir wrth y cleientiaid unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAH32

Galwedigaethau Perthnasol

Mentrau mân-werthu a masnachol, Mentrau Gwasanaeth, Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cyfrannu; cynllunio; gweithredu; hyrwyddol