Darparu triniaethau arbenigol ar gyfer gwallt a chroen pen

URN: SKACHB16
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud ag adnabod amrywiaeth o gyflyrau gwallt a chroen pen a darparu triniaethau a chyngor i gleientiaid er mwyn gwella'r cyflyrau hyn.

Mae'r gallu i ddewis a rhoi amrywiaeth o driniaethau gwallt a chroen pen gan ddefnyddio cynhyrchion, offer, cyfarpar a thechnegau yn ofynnol er mwyn cyflawni'r safon hon.

Er mwyn gweithredu'r safon hon bydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid o safon uchel drwy gydol eich gwaith.  Bydd rhaid ichi hefyd gynnal a chadw ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.

Prif ddeilliannau'r safon hon yw:

  1. cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth ddarparu triniaethau arbenigol ar gyfer gwallt a chroen pen

  2. paratoi ar gyfer triniaethau gwallt a chroen

  3. rhoi triniaethau gwallt a chroen pen


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth ddarparu triniaethau arbenigol ar gyfer gwallt a chroen pen


*

  1. cynnal a chadw eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch drwy gydol y gwasanaeth

  2. paratoi eich cleient er mwyn bodloni gofynion y salon

  3. diogelu dillad eich cleient drwy gydol y gwasanaeth

  4. gosod eich cleient mewn safle er mwyn bodloni gofynion y gwasanaeth heb iddyn nhw fod yn anghyfforddus

  5. sicrhau bod eich osgo a'ch safle chi eich hun wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf

  6. cadw eich ardal waith yn lân a thaclus drwy gydol y gwasanaeth

  7. defnyddio dulliau gweithio sy'n:

7.1 lleihau gwastraff cynhyrchion triniaeth

7.2 lleihau'r risg o groes-heintiad

7.3 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio

7.4 sicrhau'r defnydd o adnoddau glân

7.5 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hun ac eraill

7.6 lleihau'r risg o ddifrod i offer a chyfarpar

7.7 hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

  1. sicrhau bod eich hylendid, eich diogelwch a'ch ymddangosiad personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

  2. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion

  3. gwared defnyddiau gwastraff

  4. cwblhau'r gwasanaeth o fewn amser masnachol ymarferol

Paratoi ar gyfer triniaethau gwallt a chroen pen

  1. defnyddio dulliau i gadarnhau:

12.1 natur a hyd a lled cyflwr y gwallt a'r croen pen

12.2 y camau gweithredu mwyaf addas

  1. canfod o gofnodion ymgynghoriadau blaenorol eich cleient, pan fydd y rheiny ar gael, hanes eu triniaethau gwallt, eu hanes meddygol a theuluol a sut y gall hyn effeithio ar y cynllun triniaeth, neu ffactorau sy'n cyfyngu ar neu'n rhwystro'r triniaethau

  2. cofnodi ymatebion eich cleient i'r cwestiynu

  3. cynnal y profion perthnasol ar wallt eich cleient gan ddilyn gweithdrefnau cydnabyddedig y diwydiant a pholisi'r salon a chofnodi'r canlyniadau

  4. cymryd camau gweithredu priodol pan fydd gwrthrybuddion a neu adweithiau i'r profion yn codi amheuon ynglŷn ag addasrwydd y driniaeth arbenigol ar gyfer y cleient

*
 *

Rhoi triniaeth gwallt a chroen pen


*

  1. dewis cynhyrchion, offer a chyfarpar triniaeth addas ar gyfer trin y cyflyrau gwallt a chroen pen

  2. paratoi'r gwallt a'r croen pen i gyfarfod ag anghenion y driniaeth arbenigol

  3. esbonio wrth y cleient yr ymdeimlad y bydd hi/e o bosib yn ei chael wrth ddefnyddio cynhyrchion, offer a chyfarpar y driniaeth

  4. esbonio trefn y driniaeth arbenigol wrth eich cleient mewn ffordd glir a syml ar bob cam o'r broses

  5. defnyddio cynhyrchion, offer a chyfarpar y driniaeth yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr a pholisi'r salon

  6. newid lleoliad a pharhad yr offer a'r cyfarpar a ddefnyddir i siwtio'r cleient a'u cyflyrau gwallt a chroen pen

  7. defnyddio ac addasu'r technegau tylino er mwyn cyfarfod ag anghenion eich cleient ac amcanion y driniaeth

  8. defnyddio technegau trin sy'n lleihau anghysur eich cleient

  9. cymryd camau adfer yn ddiymdroi os bydd gwrthrybuddion neu anghysur yn digwydd yn ystod cyfnod y driniaeth arbenigol

  10. dangos empathi a sensitifrwydd tuag at natur cyflwr eich cleient drwy gydol y driniaeth

  11. sicrhau bod y gwallt a'r croen pen yn cael eu gadael yn lân ac yn rhydd o gynhyrchion y driniaeth, lle bydd eu hangen

  12. sicrhau bod eich cleient yn fodlon â'r driniaeth a'i bod yn bodloni amcanion y driniaeth

  13. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarperir


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth ddarparu triniaethau gwallt a chroen pen


*

  1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd

  2. gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient

  3. y mathau o ddillad gwarchod a ddylai fod ar gael i'r cleientiaid

  4. sut y gall safle eich cleient a chi eich hun gael effaith ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf

  5. pam ei bod yn bwysig cadw eich ardal waith yn lân a thaclus

  6. yr ystyriaethau diogelwch y mae'n rhaid eu hystyried wrth ddarparu triniaethau gwallt a chroen pen

  7. y dulliau cywir o ddefnyddio a chynnal a chadw offer a chyfarpar

  8. dulliau cywir o lanhau, diheintio a sterileiddio cyfarpar ac offer

  9. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn

  10. y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

  11. pwysigrwydd hylendid a hunan-gyflwyniad personol er mwyn cynnal a chadw iechyd a diogelwch

  12. cyfarwyddiadau cyflenwyr a gwneuthurwyr ar gyfer gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion y mae'n rhaid i chi eu dilyn

  13. y dulliau cywir o wared gwastraff

  14. amser gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer triniaethau gwallt a chroen pen

Paratoi ar gyfer triniaethau gwallt a chroen pen


*

  1. sut i adnabod cyflyrau gwallt a chroen pen

  2. sut y gall arwyddion a symptomau eraill roi arwydd o achos y broblem a chadarnhau'r camau gweithredu sy'n ofynnol

  3. achosion tebygol cyflyrau gwallt a chroen pen anffafriol

  4. y dasg o baratoi a defnyddio cynhyrchion, offer a chyfarpar y cynhyrchion trin gwallt a chroen pen

  5. y cynhwysion gweithredol sydd mewn cynhyrchion arbenigol ar gyfer trin gwallt a chroen pen a sut y mae'r rhain yn gweithio

  6. y gwahanol fathau o driniaethau meddygol sydd ar gael ar gyfer colli gwallt

  7. effeithiau a manteision gwahanol dechnegau tylino

  8. effeithiau a manteision gwahanol offer a chyfarpar

  9. sut i adnabod erythema a hyperaemia a'i achosion

24. anatomi a ffisioleg y gwallt a'r croen pen a sut y mae hyn yn effeithio ar y gwallt a'r croen pen  

  1. y gylchred tyfiant gwallt a sut mae hyn yn dylanwadu ar driniaethau cyfredol ac yn y dyfodol

  2. y rhesymau dros dyfiant gwallt normal ac abnormal e.e. argroenol, cynhenid, systemig

  3. y ffactorau cyffredinol sy'n cyfrannu at wallt a chroen pen iach

  4. y gwahanol fathau o golli gwallt, alopesia, eu hachosion a sut i'w hadnabod

  5. y camau yn y patrymau o golli gwallt mewn dynion a merched gan ddefnyddio gwahanol ddosbarthiadau e.e. Hamilton a Ludwig

  6. y mathau o brofion a'u pwrpas

  7. pryd a sut y dylid cynnal profion a phwysigrwydd cofnodi canlyniadau

  8. gwrthrybuddion posib all ddigwydd yn ystod ac yn dilyn triniaeth a sut i ymdrin â nhw

Rhoi triniaeth gwallt a chroen pen * *

  1. y gwahanol fathau o driniaethau a chynhyrchion gwallt a chroen pen sydd ar gael i'w defnyddio

  2. sut y gall gwahanol ffactorau ddylanwadu ar y dewis o driniaeth, yr offer, y cyfarpar a'r taeniad a ddewiswyd

  3. pwysigrwydd addasu technegau tylino, triniaethau a chyfarpar i siwtio cyflwr y gwallt a'r croen pen ynghyd ag anghenion y cleient

  4. y gwahanol fathau o ddatblygiadau technolegol ar gyfer trin cyflyrau gwallt a chroen pen

  5. effeithiau cemotherapi a radiotherapy ar dyfiant gwallt

  6. y cyngor a'r gefnogaeth sydd ar gael i gleientiaid sy'n dioddef o golli gwallt

  7. pwysigrwydd sicrhau bod y gwallt a'r croen pen yn cael eu gadael yn glir o gynhyrchion triniaeth

  8. pwysigrwydd esbonio'r angen posib am gwrs o driniaeth er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau posib

  9. pwysigrwydd gwerthuso effeithiolrwydd y driniaeth a wnaed ar y gwallt a'r croen pen

  10. pwysigrwydd rhoi cyngor ac argymhellion ar y cynhyrchion a'r gwasanaethau a ddarperir yn y salon


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Cynhyrchion triniaeth

1.1 olewau

1.2 hufennau

1.3 trwythau

1.4 cynhyrchion sy'n cynnwys gwirod

1.5 cyflyrwyr triniaeth

1.6 siampwau triniaeth

2. Offer a chyfarpar

2.1 vibro massage

2.2 tonfedd uchel

2.3 cyflymyddion gwres

2.4 stemwyr

3. Ffactorau

3.1 nodweddion gwallt

3.2 dosbarthiadau gwallt

3.3 cyflwr y croen pen

3.4 nodweddion anarferol ar y croen pen

4. Cyflyrau gwallt a chroen pen

4.1 croen pen sych

4.2 croen pen seimlyd

4.3 croen pen wedi'i sensiteiddio

4.4 croen pen sy'n cennu

4.5 pityriasis capitis

4.6 colli gwallt ar hyd ac ar draws (teneuo cyffredinol)

4.7 gwallt wedi'i niweidio gan gemegau

4.8 gwallt wedi'i niweidio gan yr amgylchedd

4.9 gwallt wedi'i niweidio'n gorfforol

5. Technegau tylino

5.1 effleurage

5.2 petrissage

5.3 dirgryndod

6. Amcanion y driniaeth

6.1 gwella cyflwr y gwallt

6.2 gwella cyflwr y croen pen

  1. Cyngor ac argymhellion

7.1 sut i gynnal a chadw eu golwg

7.2 cyfnod amser rhwng gwasanaethau

7.3 cynhyrchion a gwasanaethau cyfredol ac i'r dyfodol


Gwybodaeth Cwmpas

1. Iechyd a diogelwch

Eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd

1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario

Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

1.6 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

1.7 Deddf Diogelu'r Amgylchedd

1.8 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.9 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)

2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

2.1 lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)

2.2 lleihau'r defnydd o ynni (sychwyr gwallt ynni-effeithlon, golau rhad-ar-ynni, defnyddio paneli solar)

2.3 lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill

2.4 atal llygredd

2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tywelion hawdd eu sychu)

2.6 defnyddio dodrefn ecogyfeillgar wedi'u hailgylchu

2.7 defnyddio paent cemegau isel

2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a rhydd o alergedd

2.9 defnyddio lliwyddion gwallt amonia isel iawn

2.10 defnyddio deunydd pacio cynnyrch ecogyfeillgar

2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

2.12 annog teithiau lleihau carbon i'r gwaith

3. Ffactorau

y gwahanol ffactorau y mae angen eu hystyried cyn ac yn ystod darparu triniaethau arbenigol ar gyfer gwallt a chroen pen a sut y gall y rhain effeithio ar y gwasanaeth

3.1 dosbarthiadau gwallt

3.2 nodweddion gwallt

3.3 cyflwr y croen pen

3.4 nodweddion anarferol ar y croen pen

4. Anatomi a ffisioleg

4.1 ffurfiant, swyddogaeth a gweithrediad y cyhyrau oddi mewn i ardal y driniaeth

4.2 safle'r prif esgyrn oddi mewn i ardal y driniaeth

4.3 egwyddorion sylfaenol y system endocrin a sut mae hyn yn effeithio ar y gwallt a'r croen pen

4.4 ffurfiant a swyddogaeth cylchrediad y gwaed a sut mae hyn yn effeithio ar y gwallt a'r croen pen 

4.5 ffurfiant a swyddogaeth y system lymffatig a sut mae hyn yn effeithio ar y gwallt a'r croen pen

4.6 ffurfiant a swyddogaeth y system nerfol a sut mae hyn yn effeithio ar y gwallt a'r croen pen

4.7 effeithiau corfforol a seicolegol triniaethau gwallt a chroen pen

4.8 ffurfiant a swyddogaeth y croen a'r gwallt

5. Cyngor ac argymhellion


*

5.1 gwasanaethau ychwanegol

5.2 cynhyrchion ychwanegol


Gwerthoedd

  1. Mae'r Gwerthoedd Allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr:

1.1 parodrwydd i ddysgu

1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol

1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd

1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

1.5 agwedd hyblyg tuag at waith

1.6 gweithiwr tîm

1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid

1.8 agwedd gadarnhaol

1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol

1.10 y gallu i hunan-reoli

1.11 sgiliau creadigrwydd

1.12 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau ardderchog

1.13 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel

1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn defnyddio cyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel


Ymddygiadau

​1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr.  Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd

1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon

1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar

1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddi/iddo deimlo'n werthfawr ac yn barchus

1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient

1.5 trin y cleient mewn ffordd gwrtais a gwasanaethgar ar bob adeg

1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i chadw/gadw'n gysurlon

1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiad cleientiaid gwahanol

1.8 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth

1.9 dewis y ffordd fwyaf priodol o gyfathrebu gyda'r cleient

1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall ei disgwyliadau /ddisgwyliadau yn llwyr

1.11 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

1.12 rhoi amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi esboniad pellach pan fydd hynny'n briodol

1.13 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient

1.14 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon

1.15 adnabod gwybodaeth all fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio a yw hi/e yn deall yn llwyr

1.16. esbonio'n glir wrth y cleientiaid unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau


Sgiliau


Geirfa

1. Dosbarthiad Gwallt (canllaw yn unig yw hwn)

Math 1 – Gwallt syth

1.1 Ffein/Tenau – y gwallt yn tueddu bod yn sidanaidd iawn, yn sgleiniog a seimlyd, a gall fod yn anodd dal cyrlen.

1.2 Canolig – llawer o cyfaint a swmp yn perthyn i'r gwallt

1.3 Bras – y gwallt fel arfer yn syth dros ben ac yn anodd ei gyrlio.

Math 2 – Gwallt tonnog

2.1 Ffein/Tenau – patrwm "S" pendant i'r gwallt.  Fel arfer gall ddal gwahanol steiliau.

2.2 Canolig – y gwallt yn tueddu bod yn grych ac ychydig yn ymwrthol wrth Steilio.

2.3 Bras – y gwallt hwn hefyd yn ymwrthol wrth ei steilio ac yn grych iawn fel arfer; y tonnau'n tueddu bod yn fwy trwchus.

Math 3 – Gwallt cyrliog

3.1 Cwrls llac – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt.  Gall fod yn drwchus a llawn ac yn swmpus, ac iddo batrwm "S" pendant.  Mae hefyd yn tueddu bod yn grych.

3.2 Cwrls tynn – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt hyn hefyd; ynghyd â maint cymedrol o gwrls.

Math 4 – Gwallt cyrliog iawn

4.1 Sidanaidd – y gwallt yn tueddu bod yn frau iawn, yn dorchau tynn ac iddo batrwm cyrliog mwy diffiniedig. 

4.2 Gwrychog – hefyd yn frau iawn ac yn dorchau tynn; er hynny mae iddo batrwm cyrliog llai diffiniedig – mwy o siâp patrwm "Z".

  1. Mae Nodweddion Gwallt yn cynnwys y canlynol: * *

2.1 trwch gwallt

2.2 ansawdd gwallt

2.3 elastigedd gwallt

2.4 mandylledd gwallt

2.5 cyflwr gwallt

2.6 patrymau tyfiant gwallt

*3. Effleurage *

tynnu llaw yn dyner dros y gwallt (mwytho)

*4. Petrissage *

tylino araf, cadarn

5. Dirgryndod

symudiad mân crynedig a wneir gan eich llaw neu eich bysedd wrth dylino meinwe


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAGH25

Galwedigaethau Perthnasol

Mentrau mân-werthu a masnachol, Mentrau Gwasanaeth, Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

arbenigol, gwallt, croen pen