Darparu gwasanaethau ymgynghori i gleientiaid

URN: SKACHB14
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt,Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu gwasanaeth ymgynghori a chynghori cynhwysfawr i gleientiaid.  Mae ymgynghori â chleientiaid yn hanfodol i lwyddiant pob gwasanaeth technegol gan sicrhau eich bod yn ymwneud yn llawn â'ch cleient i ddiwallu ei hanghenion/anghenion a'i disgwyliadau/ddisgwyliadau.

Ymgynghoriad cleient yw'r sail tuag at sefydlu ac adeiladu eich perthynas â'r cleient ac mae'n bwysig bod amrywiaeth o sgiliau cyfathrebu yn cael eu harddangos er mwyn casglu gwybodaeth allweddol.  Mae cynnig argymhellion addas ar gyfer gwasanaethau a chynhyrchion yn seiliedig ar y wybodaeth hon a chanlyniadau eich dadansoddiad o'u gwallt, croen a'u croen pen yn rhan hanfodol o'r safon hon.

Mae'r gallu i roi cyngor gan gynnwys dulliau gweithredu eraill, e.e. cyfeirio at arbenigwyr eraill, hefyd yn ofyniad.

Er mwyn gweithredu'r safon hon, bydd angen ichi hefyd gynnal a chadw ymddangosiad personol proffesiynol ac iechyd, diogelwch a hylendid ar raddfa uchel trwy gydol eich gwaith.

Prif ddeilliannau'r safon hon yw:

  1. sefydlu gofynion y cleient

  2. dadansoddi'r gwallt, y croen a'r croen pen

  3. adolygu dewisiadau a chytuno ar ddull gweithredu

  4. rhoi cyngor i gleientiaid ynglŷn â chynnal a rheoli'r gwallt


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cadarnhau gofynion y cleient


*

  1. defnyddio technegau ymgynghori mewn modd cwrtais a chefnogol

  2. gofyn cwestiynau perthnasol mewn ffordd y bydd eich cleient yn ei deall

  3. defnyddio cymhorthion gweledol i gyflwyno syniadau addas i gleientiaid er mwyn eu cynorthwyo i ddod i benderfyniad

  4. annog eich cleientiaid i fynegi eu dymuniadau, eu barnau a'u pryderon a chaniatáu digon o amser iddyn nhw wneud hyn

  5. egluro beth yw goblygiadau'r gwasanaethau trin gwallt y cytunwyd arnynt mewn ffordd y gall eich cleient ei deall

Dadansoddi'r gwallt, y croen a'r croen pen


*

  1. sicrhau bod eich hylendid, eich diogelwch a'ch ymddangosiad personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

  2. cynnal archwiliadau gweledol ac unrhyw brofion angenrheidiol ar y gwallt, y croen a'r croen pen i fodloni dulliau gweithredu penodol

  3. canfod, *o gofnodion blaenorol eich cleient, pan fydd y rheiny ar gael, unrhyw ffactorau sy'n debygol o effeithio ar wasanaethau yn y dyfodol *

  4. adnabod ffactorau sy'n cyfyngu neu'n cael effaith ar wasanaethau a'r dewis o gynhyrchion

  5. argymell dulliau gweithredu addas os na ellir cyfarfod ag anghenion eich cleient

  6. ymdrin â phroblemau dadansoddi

Adolygu dewisiadau a chytuno ar ddull gweithredu


*

  1. ystyried, egluro ac adolygu cynhyrchion a dewisiadau o ran gwasanaethau sydd ar gael i'r cleient

  2. cytuno ar wasanaethau, cynhyrchion a chanlyniadau sy'n dderbyniol i'ch cleient ac sy'n cyfarfod â'i hanghenion/anghenion

  3. seilio argymhellion ar ganlyniadau eich dadansoddiad o nodweddion gwallt a dosbarthiadau gwallt eich cleient, cyflwr y croen a'r croen pen

  4. cynnig awgrymiadau ynglŷn â gwasanaethau a chynhyrchion gwahanol, os byddwch yn penderfynu nad yw gofynion eich cleient yn realistig

  5. sicrhau bod cofnodion eich cleient wedi eu diweddaru, eu bod yn fanwl gywir a chyflawn

Rhoi cyngor i gleientiaid ynghylch cynnal a rheoli gwallt


*

  1. nodi trefn bresennol eich cleient o ofalu am ei gwallt/wallt

  2. esbonio effaith trefn bresennol eich cleient o ofalu am ei gwallt/wallt ar wasanaethau trin gwallt yn y dyfodol

  3. rhoi cyngor i'ch cleient am ffyrdd o wella ei threfn/drefn bresennol o ofalu am ei gwallt/wallt.


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cadarnhau gofynion cleientiaid


*

  1. pwysigrwydd creu lleoliad lle bydd cleientiaid yn teimlo'n gysurus

  2. sut i archwilio disgwyliadau, pryderon ac anghenion y cleientiaid ac egluro unrhyw gyfyngiadau o ran gwasanaeth

  3. pwysigrwydd dangos cwrteisi, empathi a sensitifrwydd tuag at y cleient trwy gydol yr ymweliad, a sut i wneud hynny

  4. sut i ddefnyddio technegau ymgynghori effeithiol wrth gyfathrebu â chleientiaid o wahanol gefndiroedd diwylliannol a chrefyddol, oedrannau, anableddau a rhyw

  5. pwysigrwydd peidio â gwahaniaethu yn erbyn cleientiaid sydd â salwch ac anableddau a pham

  6. pwysigrwydd siarad â chleientiaid a chreu cyfleoedd mewn sgyrsiau i'w hannog i siarad

  7. y gwahanol fathau o gymhorthion gweledol all fod o gymorth wrth ymgynghori â chleientiaid

  8. y mathau o ffynonellau gwasanaethau, triniaethau a chymorth ychwanegol all fod o ddiddordeb i gleientiaid

  9. cost ac amlder cynnal a chadw ar gyfer yr holl wasanaethau

  10. hyd, ymrwymiad ac amser angenrheidiol er mwyn cyflawni a chynnal gwasanaethau

  11. goblygiadau newidiadau i'w trefn bresennol o ofalu am y gwallt a'r croen pen

  12. eich cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol, presennol ac unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol arall

  13. eich cyfrifoldebau cyfreithiol o dan ddeddfwriaeth defnyddwyr ac adwerthu presennol ar gyfer disgrifio nodweddion a manteision cynhyrchion a gwasanaethau

Dadansoddi'r gwallt, y croen a'r croen pen

  1. eich cyfrifoldebau a'ch rhesymau dros gynnal a chadw eich hylendid, eich diogelwch a'ch ymddangosiad personol

  2. pwysigrwydd cynnal profion a chanlyniadau posibl methu â gwneud hynny

  3. mathau o brofion a'u diben

  4. dulliau gweithredu'r salon a chyfarwyddiadau gwneuthurwyr mewn perthynas â chynnal profion

  5. strwythur sylfaenol gwallt a chroen

  6. cylchred tyfiant gwallt

  7. sut mae gwahanol ffactorau yn cyfyngu ar neu'n effeithio ar y gwasanaethau a'r cynhyrchion y gellir eu cynnig i gleientiaid

  8. sut i adnabod yn weledol gyflyrau anffafriol gwallt a chroen pen

  9. pwysigrwydd peidio ag enwi cyflyrau penodol wrth gyfeirio cleientiaid at feddyg teulu neu dricolegydd a'r rhesymau dros hynny

  10. polisi eich salon ynglŷn â chyfeirio cleientiaid i salonau, ffynonellau a gweithwyr proffesiynol eraill

  11. rôl gweithwyr proffesiynol eraill e.e. fferyllydd, tricolegydd, meddyg teulu, a'r gwasanaethau arbenigol y gallant eu cynnig

  12. terfynau a ffiniau eich dyletswyddau a'ch cyfrifoldebau a pham ei bod yn bwysig egluro'r rhain i'r cleient

Adolygu dewisiadau a chytuno ar ddull gweithredu

*
 *

  1. pwysigrwydd cadarnhau a chofnodi'r dull gweithredu sydd i'w ddilyn yn achos y cleient

  2. sut mae gwahanol fathau o nodweddion gwallt yn effeithio ar gynhyrchion a gwasanaethau

  3. sut mae gwahanol fathau o ddosbarthiad gwallt yn effeithio ar gynhyrchion a gwasanaethau

  4. sut mae cwblhau'r cofnodion cleientiaid a ddefnyddir yn eich sefydliad a phwysigrwydd sicrhau caniatâd y cleient a'r rhesymau dros hynny

  5. pwysigrwydd cwblhau cofnodion cleientiaid yn gywir, eu storio a'u cadw'n ddiogel 

  6. pwysigrwydd cyfrinachedd a'r hyn allai ddigwydd os na chynhelir hyn


*

Rhoi cyngor i gleientiaid ynghylch cynnal a rheoli'r gwallt

  1. pwysigrwydd rhoi cyngor ac argymhellion ar y cynhyrchion a'r gwasanaethau a ddarperir yn y salon

  2. sut i gynnal a chadw'r steil y cytunwyd arno


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Cleient

1.1 newydd

1.2 rheolaidd

2. Technegau ymgynghori

2.1 cwestiynu

2.2 arsylwi

3. Goblygiadau

* *

3.1 amlder cynnal a chadw

3.2 cyfyngiadau ar wasanaethau eraill

3.3 newidiadau i'w trefn bresennol o ofalu am wallt a chroen pen

4. Ffactorau sy'n cyfyngu neu'n effeithio ar wasanaethau

4.1 cyflyrau gwallt, croen a chroen anffafriol pen

4.2 gwasanaethau a chynhyrchion a ddefnyddiwyd ac a fu'n anghydnaws yn y gorffennol

4.3 ffordd o fyw y cleient

4.4 canlyniadau profion

5. Dulliau gweithredu

5.1 cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad

5.2 cyfeirio at ffynonellau cymorth yn unol â dull gweithredu eich salon

6. Nodweddion gwallt

* *

6.1 trwch gwallt

6.2 ansawdd gwallt

6.3 elastigedd gwallt

6.4 mandylledd gwallt

6.5 cyflwr gwallt

6.6 patrymau tyfiant gwallt


*

7. Dosbarthiad gwallt

* *

7.1 Math 1 – gwallt syth

7.2 Math 2 – gwallt tonnog

7.3 Math 3 – gwallt cyrliog

7.4 Math 4 – gwallt cyrliog iawn


Gwybodaeth Cwmpas

1. Iechyd a Diogelwch

Eich cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth, safonau a chanllawiau iechyd a diogelwch cyfredol, megis Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a deddfwriaethau perthnasol eraill **

* *

1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith **

1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR) **

1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf) **

1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) **

1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario **

1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH) **

1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle **

1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd

1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)

1.11 Deddf Diogelu Data

1.12 Cyfarwyddebau Amser Gweithio

1.13 Rheoliadau Cynhyrchion Cosmetig

1.14 Deddf Gwerthu Nwyddau

1.15 Deddf Gwerthu o Bell

1.16 Deddf Disgrifiadau Masnachol

1.17 Deddf Diogelu Defnyddwyr

1.18 Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd


*

2. Cyflyrau gwallt a chroen pen anffafriol

Sut i adnabod yn weledol gyflyrau gwallt a chroen pen anffafriol a gwrthrybuddion

2.1 tarwden

2.2 impetigo

2.3 clefyd crafu

2.4 ecsema

2.5 alopesia

2.6 soriasis

2.7 ffolicwlitis

2.8 cen ar y pen

2.9 creithio celoid

2.10 gwallt mewndyfol

2.11 llai pen

3. Ffactorau sy'n cyfyngu neu'n effeithio ar wasanaethau

Sut mae gwahanol ffactorau yn cyfyngu neu'n effeithio ar wasanaethau a chynhyrchion y gellir eu cynnig i gleientiaid

3.1 cyflwr anffafriol gwallt, croen a chroen pen

3.2 gwasanaethau a chynhyrchion a ddefnyddiwyd ac a fu'n anghydnaws yn y gorffennol

3.3 ffordd o fyw y cleient

3.4 canlyniadau profion

**

  1. Cyngor ac argymhellion**

4.1 Gwasanaethau ychwanegol

4.2 Cynhyrchion ychwanegol


Gwerthoedd

  1. Mae'r Gwerthoedd Allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr:

1.1 parodrwydd i ddysgu

1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol

1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd

1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

1.5 agwedd hyblyg tuag at waith

1.6 gweithiwr tîm

1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid

1.8 agwedd gadarnhaol

1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol

1.10 y gallu i hunan-reoli

1.11 sgiliau creadigrwydd

1.12 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau ardderchog

1.13 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel

1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn defnyddio cyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel

1.15 sgiliau arweinyddol


Ymddygiadau

​1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr.  Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd:

1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon

1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar

1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddo/iddi deimlo'n werthfawr ac yn barchus

1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient

1.5 trin y cleient mewn ffordd gwrtais a gwasanaethgar ar bob adeg

1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i gadw/chadw'n gysurlon

1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiad cleientiaid  gwahanol

1.8 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth

1.9 dewis y ffordd fwyaf priodol o gyfathrebu gyda'r cleient

1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall ei disgwyliadau /ddisgwyliadau yn llwyr

1.11 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

1.12 rhoi amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi esboniad pellach pan fydd hynny'n briodol

1.13 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient

1.14 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon

1.15 adnabod gwybodaeth all fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio a yw hi/e yn ei deall yn llwyr

1.16 esbonio'n glir wrth y cleientiaid unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau


Sgiliau


Geirfa

1. Dosbarthiad Gwallt (canllaw yn unig yw hwn)

Math 1 – Gwallt syth

1.1 Ffein/Tenau – y gwallt yn tueddu bod yn sidanaidd iawn, yn sgleiniog a seimlyd, a gall fod yn anodd dal cyrlen.

1.2 Canolig – llawer o cyfaint a swmp yn perthyn i'r gwallt

1.3 Bras – y gwallt fel arfer yn syth dros ben ac yn anodd ei gyrlio.

Math 2 – Gwallt tonnog

2.1 Ffein/Tenau – patrwm "S" pendant i'r gwallt.  Fel arfer gall ddal gwahanol steiliau.

2.2 Canolig – y gwallt yn tueddu bod yn grych ac ychydig yn ymwrthol wrth Steilio.

2.3 Bras – y gwallt hwn hefyd yn ymwrthol wrth ei steilio ac yn grych iawn fel arfer; y tonnau'n tueddu bod yn fwy trwchus.

Math 3 – Gwallt cyrliog

3.1 Cwrls llac – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt.  Gall fod yn drwchus a llawn ac yn swmpus, ac iddo batrwm "S" pendant.  Mae hefyd yn tueddu bod yn grych.

3.2 Cwrls tynn – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt hyn hefyd; ynghyd â maint cymedrol o gwrls.

Math 4 – Gwallt cyrliog iawn

4.1 Sidanaidd – y gwallt yn tueddu bod yn frau iawn, yn dorchau tynn ac iddo batrwm cyrliog mwy diffiniedig. 

4.2 Gwrychog – hefyd yn frau iawn ac yn dorchau tynn; er hynny mae iddo batrwm cyrliog llai diffiniedig – mwy o siâp patrwm "Z".

  1. Mae Nodweddion Gwallt yn cynnwys y canlynol: * *

2.1 trwch gwallt

2.2 ansawdd gwallt

2.3 elastigedd gwallt

2.4 mandylledd gwallt

2.5 cyflwr gwallt

patrymau tyfiant gwallt

3. Cyngor arbennig cyn ymweliad

3.1 anghenion dillad arbennig

3.2 profion angenrheidiol

3.3 triniaethau a gwasanaethau i'w hosgoi


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAG21/SKAG16

Galwedigaethau Perthnasol

Mentrau mân-werthu a masnachol, Mentrau Gwasanaeth, Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Darparu; gwasanaethau ymgynghori