Siampwio a chyflyru gwallt

URN: SKACHB10
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt,Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â'r sgìl o siampwio a chyflyru gwallt gan ddefnyddio technegau a chynhyrchion tylino ar gyfer gwahanol fathau o wallt, drwy ddilyn cyfarwyddiadau cynllunydd gwallt.

Er mwyn gweithredu'r safon hon bydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid drwy gydol eich gwaith.  Bydd rhaid ichi hefyd gynnal a chadw ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu da.

Prif ddeilliannau'r safon hon yw:

  1. cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth siampwio a chyflyru gwallt

  2. siampwio gwallt a chroen pen

  3. taenu cyflyrwyr ar y gwallt


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth siampwio a chyflyru gwallt


*

  1. cynnal a chadw eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch drwy gydol y gwasanaeth

  2. paratoi eich cleient er mwyn bodloni gofynion y salon

  3. diogelu dillad eich cleient drwy gydol y gwasanaeth

  4. gwisgo cyfarpar gwarchod personol, os bydd angen

  5. gosod eich cleient mewn safle er mwyn bodloni anghenion y gwasanaeth heb iddyn nhw fod yn anghysurus

  6. sicrhau bod eich osgo a'ch safle chi eich hun wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf

  7. cadw eich ardal waith yn lân a thaclus drwy gydol y gwasanaeth

  8. defnyddio dulliau gweithio sy'n:

8.1 lleihau gwastraff cynhyrchion

8.2 lleihau'r risg o groes-heintiad

8.3 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio

8.4 sicrhau'r defnydd o adnoddau glân

8.5 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hun ac eraill

  1. sicrhau bod eich hylendid, eich diogelwch a'ch ymddygiad personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

  2. dilyn cyfarwyddiadau'r cynllunwyr gwallt drwy gydol y gwasanaeth

  3. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion

  4. ailgyflenwi adnoddau sydd wedi cyrraedd lefelau isel, pan fydd angen, er mwyn lleihau unrhyw amharu ar eich gwaith personol ac ar y cleientiaid

  5. cwblhau'r gwasanaeth siampwio a chyflyru o fewn amser masnachol ymarferol

Siampwio gwallt a chroen pen


*

  1. defnyddio cynhyrchion ac offer gan ddilyn cyfarwyddiadau'r cynllunydd gwallt

  2. defnyddio technegau tylino sy'n addas i wallt eich cleient gan dilyn cyfarwyddiadau'r cynllunydd gwallt

  3. addasu tymheredd, llif a chyfeiriad y dŵr er mwyn bodloni anghenion gwallt eich cleient a cham nesaf y gwasanaeth

  4. sicrhau bod eich technegau tylino yn lledaenu'r siampŵ yn gytbwys dros y gwallt a'r croen pen

  5. gadael gwallt eich cleient yn lân ac yn rhydd o siampŵ a gormod o ddŵr

  6. gadael gwallt eich cleient heb unrhyw glymau a heb niwed i'r gwallt a'r croen pen

  7. cyfeirio unrhyw broblemau at sylw'r person perthnasol


*

Taenu cyflyrwyr ar y gwallt


*

  1. defnyddio cynhyrchion ac offer cyflyru gan ddilyn cyfarwyddiadau'r cynllunydd gwallt

  2. defnyddio technegau tylino sy'n addas i wallt eich cleient gan ddilyn cyfarwyddiadau'r cynllunydd gwallt

  3. monitro ac amseru datblygiad y cynhyrchion cyflyru a defnyddio gwres ar y tymheredd cywir, os bydd angen

  4. tynnu'r cynhyrchion cyflyru mewn ffordd sy'n osgoi aflonyddu ar gyfeiriad y bilen

  5. gadael gwallt eich cleient yn lân ac yn rhydd o gynhyrchion cyflyru, os bydd eu hangen, a gormod o ddŵr

  6. cribo trwy wallt eich cleient, pan fydd angen hynny, heb achosi niwed i'r gwallt a'r croen pen

  7. cyfeirio unrhyw broblemau at sylw'r person perthnasol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth siampwio a chyflyru gwallt


*

  1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd

  2. gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient

  3. y mathau o ddillad gwarchod a ddylai fod ar gael i chi eich hun ac i'r cleientiaid

  4. beth yw dermatitis cyffwrdd, a sut i osgoi ei ddal wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau trin gwallt

  5. sut y gall safle eich cleient a chi eich hun gael effaith ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf

  6. pam ei bod yn bwysig cadw eich ardal waith yn lân a thaclus

  7. pwysigrwydd defnyddio siampŵau a chyflyrwyr yn gost-effeithiol

  8. dulliau gweithio'n ddiogel ac yn lanwaith ac sy'n lleihau'r risg o groes-heintiad a thraws-bla

  9. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn

  10. pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau eich cynllunydd gwallt

  11. cyfarwyddiadau cyflenwyr a gwneuthurwyr ar gyfer gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion y mae'n rhaid i chi eu dilyn

  12. pwysigrwydd hylendid a hunan-gyflwyniad personol er mwyn cynnal a chadw iechyd a diogelwch yn eich gweithle

  13. y person y dylech adrodd wrthi/wrtho am adnoddau sydd wedi cyrraedd lefelau isel

  14. amser gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer siampwio a chyflyru


*

Siampwio a chyflyru

  1. beth all ddigwydd os na fydd cyfarwyddiadau ar gyfer siampwio a chyflyru gwallt yn cael eu dilyn

  2. sut y mae siampŵ a dŵr yn cydweithio i lanhau'r gwallt

  3. sut y gall gwaddodion cynhyrchion effeithio ar y gwallt, y croen pen ac effeithiolrwydd gwasanaethau eraill

  4. sut y mae siampŵau a chynhyrchion cyflyru yn effeithio ar y gwallt a'r croen pen

  5. gwahanol fathau o siampŵ a chynhyrchion cyflyru a'u heffeithiau

  6. pryd a sut i ddefnyddio gwahanol dechnegau tylino wrth siampwio a chyflyru gwallt o wahanol hyd

  7. sut i siampwio a chyflyru gwallt a chanlyniadau posib gwneud hyn yn anghywir

  8. y mathau o broblemau all godi wrth siampwio a chyflyru gwallt a beth sy'n eu hachosi

  9. y mathau o broblemau y dylid eu riportio a'r person ddylai gael gwybod amdanynt

  10. effeithiau tymheredd dŵr ar y croen pen

  11. pwysigrwydd tynnu siampŵ a chyflyrydd ac unrhyw ddŵr dros ben oddi ar y gwallt

  12. pwysigrwydd datod unrhyw glymau gwallt o'r blaen i'r gwraidd

  13. pwysigrwydd datod unrhyw glymau gwallt heb achosi niwed i'r gwallt a'r croen pen

  14. pwysigrwydd cadarnhau cyfforddusrwydd y cleient drwy gydol y broses siampwio a chyflyru

  15. sut mae gwres yn effeithio ar y gwallt yn ystod triniaeth gyflyru

  16. sut i ddefnyddio cyfarpar trydanol twym wrth gyflyru gwallt


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Technegau tylino

1.1 effleurage

1.2 cylchol

1.3 rhwbiad

1.4 petrissage

*
2. Cynhyrchion cyflyru
*

2.1 arwyneb

2.2 treiddiol


Gwybodaeth Cwmpas

1. Iechyd a diogelwch

Eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent yn cael eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd

1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario

1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd

1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)


Gwerthoedd

  1. Mae'r Gwerthoedd Allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr: 

1.1 parodrwydd i ddysgu

1.2 cwblhau'r gwasanaethau o fewn amser masnachol ymarferol

1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd

1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion y diwydiant a'r sefydliad

1.5 agwedd hyblyg tuag at waith

1.6 gweithiwr tîm

1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid

1.8 agwedd gadarnhaol

1.9 agwedd broffesiynol  

1.10 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau da

1.11 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel

1.12 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn defnyddio cyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel

1.13 cadw at fesurau iechyd a diogelwch a gwarchodaeth y gweithle


Ymddygiadau

​1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr.  Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd

1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon

1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar

1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd foesgar a chwrtais

1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient

1.5 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i chadw/gadw'n gysurlon

1.7 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth

1.8 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient

1.9 ymdrin â phroblemau o fewn cwmpas eich cyfrifoldebau a'ch rôl swydd

1.10 dangos parch tuag at gleientiaid a chwydweithwyr ar bob adeg a than bob amgylchiad

1.11 ceisio cymorth ar fyr dro oddi wrth aelod hŷn o'r staff pan fydd angen

1.12 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon


Sgiliau


Geirfa

1. Effleurage

Tynnu llaw yn dyner dros y gwallt (mwytho).

2. Cylchol

Symudiad cylchol cadarn gan ddefnyddio blaen y bysedd dros arwyneb y croen pen.

3. Rhwbiad

Rhwbio egnïol gan ddefnyddio blaen y bysedd.  Mae hwn yn symudiad cyfnerthol yn hytrach nag esmwythol ac nid yw'n cael ei wneud bob tro.  Dim ond am rai munudau y gwneir hyn, gan weithio o'r cefn i'r blaen.

4. Petrissage

Tylino araf, cadarn


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAGH1

Galwedigaethau Perthnasol

Mentrau mân-werthu a masnachol, Mentrau Gwasanaeth, Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Siampwio; cyflyru; gwallt