Steilio a thrin gwallt yn greadigol

URN: SKACH8
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt,Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio amrywiaeth o dechnegau steilio a thrin gwallt confensiynol ac anghonfensiynol er mwyn creu golygon arloesol, ffasiynol, creadigol a rhai wedi'u personoli.  Mae'r gallu i gyfuno ac addasu nifer o dechnegau steilio a thrin gwallt sy'n ymgorffori ategolion a neu wallt atodol yn ofynnol yn y safon hon.

Er mwyn gweithredu'r safon hon, bydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid o safon uchel drwy gydol eich gwaith.  Bydd rhaid ichi hefyd gynnal a chadw ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu efeithiol.

Prif ddeilliannau'r safon hon yw:

  1. cynnal a chadw dulliau diogel o weithio wrth steilio a thrin gwallt

  2. steilio a thrin gwallt yn greadigol


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth steilio a thrin gwallt

  1. cynnal a chadw eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch drwy gydol y gwasanaeth

  2. paratoi eich cleient er mwyn bodloni gofynion y salon

  3. diogelu dillad eich cleient drwy gydol y gwasanaeth

  4. gosod eich cleient mewn safle sy'n bodloni anghenion y gwasanaeth heb iddyn nhw fod yn anghysurus

  5. sicrhau bod eich osgo a'ch safle chi eich hun wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf

  6. cadw eich ardal waith yn lân ac yn daclus drwy gydol y gwasanaeth

  7. defnyddio dulliau gweithio sy'n:

7.1 lleihau gwastraff cynhyrchion

7.2 lleihau'r risg o ddifrod i offer a chyfarpar

7.3 lleihau'r risg o groes-heintiad

7.4 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio

7.5 sicrhau'r defnydd o adnoddau glân

7.6 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hun ac eraill

7.7 hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

  1. sicrhau bod eich hylendid, eich diogelwch a'ch ymddangosiad personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

  2. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion

  3. gwared defnyddiau gwastraff

  4. cwblhau'r gwasanaeth o fewn amser masnachol ymarferol

Steilio a thrin gwallt yn greadigol


*

  1. cadarnhau gyda'ch cleient yr olwg y cytunwyd arni yn yr ymgynghoriad cyn ac yn ystod steilio a thrin y gwallt

  2. paratoi gwallt eich cleient mewn ffordd sy'n addas ar gyfer yr olwg y cytunwyd arni

  3. ymgorffori a gosod y gwallt atodol yn sownd, pan fydd hwn yn cael ei ddefnyddio, fel rhan o'r olwg a ddymunir

  4. cydweddu gwallt y cleient ei hun a'r gwallt atodol yn effeithiol, pan fydd angen

  5. sicrhau bod cymorth ar gael, pan fydd angen

  6. cyfuno ac addasu eich technegau steilio a thrin gwallt yn greadigol mewn ffordd arloesol er mwyn cael yr olwg a ddymunir

  7. gosod y gwallt yn sownd fel bod unrhyw binnau, clipiau neu fandiau wedi eu cuddio os nad ydynt yn rhan o ofynion y steil

  8. personoli eich technegau steilio a thrin gwallt yn greadigol er mwyn rhoi ystyriaeth i'r ffactorau sy'n dylanwadu ar yr olwg a ddymunir

  9. defnyddio technegau steilio a thrin gwallt yn greadigol mewn ffordd sy'n osgoi niwed i'r gwallt, y croen a'r croen pen

  10. ymgorffori a gosod ategolion yn sownd, pan fydd y rhain yn cael eu defnyddio, i ategu a gwella'r olwg a ddymunir

  11. sicrhau bod yr olwg orffenedig yn bodloni'r siâp, cyfeiriad, cydbwysedd a'r cyfaint arfaethedig y cytunwyd arnynt gyda'ch cleient

  12. cadarnhau bod eich cleient yn fodlon â'r olwg orffenedig

  13. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarperir


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth steilio a thrin gwallt


*

  1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd

  2. gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient

  3. y mathau o ddillad gwarchod a ddylai fod ar gael i'r cleientiaid

  4. sut y gall safle eich cleient a chi eich hun gael effaith ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf

  5. beth yw dermatitis cyffwrdd a sut i osgoi ei ddal wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau steilio a thrin gwallt

  6. pam ei bod yn bwysig cadw eich ardal waith yn lân a thaclus

  7. y defnydd a'r dull cynnal a chadw cywir mewn perthynas ag offer a chyfarpar

  8. pam ei bod yn bwysig osgoi croes-heintiad a thraws-bla

  9. dulliau gweithio'n ddiogel ac yn lanwaith ac sy'n lleihau'r risg o groes-heintiad a thraws-bla

  10. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio a ddefnyddir mewn salonau

  11. y peryglon a'r risgiau sy'n bod yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel sy'n rhaid i chi eu dilyn

  12. y gwahanol ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadawy

  13. pwysigrwydd hylendid a hunan-gyflwyniad personol er mwyn cynnal a chadw iechyd a diogelwch yn eich gweithle

  14. cyfarwyddiadau'r cyflenwyr a'r gwneuthurwyr ar gyfer gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion y mae'n rhaid i chi eu dilyn

  15. y dulliau cywir o wared gwastraff

  16. amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer steilio a thrin gwallt


*

Steilio a thrin gwallt yn greadigol

  1. effeithiau lleithder ar wallt

  2. effeithiau corfforol cynhyrchion steilio a gorffennu ar y gwallt a sut y mae'r rhain yn gweithio er mwyn cynnal a chadw'r olwg

  3. sut y gall defnyddio gwres yn anghywir gael effaith ar y gwallt a'r croen pen

  4. effeithiau ôl-gribo ac ôl-frwsio ar ffurfiant y gwallt

  5. effeithiau posib defnyddio a gosod gwallt atodol ac ategolion yn sownd ar ffurfiant y gwallt

  6. canlyniadau posib gor-dyndra ar y gwallt a'r croen pen

  7. y mathau o gynhyrchion, offer a chyfarpar sydd ar gael ar gyfer steilio a thrin gwallt a sut i'w defnyddio

  8. addasrwydd cynhyrchion a chyfarpar penodol ar gyfer eu defnyddio gyda gwahanol fathau o wallt ac ar gyfer creu gwahanol effeithiau

  9. y mathau o eitemau confensiynol ac anghonfensiynol y gellir eu defnyddio wrth steilio gwallt a'r effeithiau sy'n cael eu creu ganddynt

  10. y mathau o eitemau anghonfensiynol y gellir eu defnyddio fel ategolion wrth drin gwallt

  11. cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr ar sut i ddefnyddio cynhyrchion steilio a gorffennu yn eich salon

  12. y gweithdrefnau paratoi sydd eu hangen ar gyfer y gwahanol dechnegau steilio a thrin gwallt

  13. pryd, pam a sut i ddefnyddio'r gwahanol fathau o:

29.1 cyfarpar gosod yn sownd

29.2 ategolion

29.3 gwallt atodol

  1. sut mae gwahanol ffactorau yn effeithio ar y broses steilio a thrin gwallt a'r olwg orffenedig

  2. dulliau trin a thrafod, rheoli a gosod gwallt yn sownd yn ystod y broses steilio a thrin gwallt

  3. y math o wiriadau sydd eu hangen yn ystod gwasanaethau steilio, trin gwallt a gorffennu er mwyn sicrhau bod y siâp, cyfeiriad, cydbwysedd a'r foliwm arfaethedig yn cael eu creu

  4. pwysigwydd sicrhau bod y siâp, cyfeiriad, cydbwysedd a'r cyfaint arfaethedig yn cael eu creu a bod yr olwg orffenedig yn gadarn

  5. pwysigrwydd darparu cyngor ac argymhellion ar y cynhyrchion a'r gwasanaethau a ddarperir yn y salon


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Technegau steilio a thrin gwallt yn greadigol

1.1 confensiynol

1.2 anghonfensiynol

2. Ffactorau

2.1 nodweddion gwallt 

2.2 dosbarthiadau gwallt

2.3 yr olwg a ddymunir

2.4 yr achlysur sy'n galw am y steil

2.5 hyd gwallt

3. Cyngor ac argymhellion

3.1 sut i gynnal a chadw eu golwg

3.2 cyfnod amser rhwng gwasanaethau

3.3 cynhyrchion a gwasanaethau presennol ac i'r dyfodol


Gwybodaeth Cwmpas

1. Iechyd a diogelwch

Eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent yn cael eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd

1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario

1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd

1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)

2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

2.1 lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)

2.2 lleihau'r defnydd o ynni (sychwyr gwallt ynni-effeithlon, golau rhad-ar-ynni, defnyddio paneli solar)

2.3 lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill

2.4 atal llygredd

2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tywelion hawdd eu sychu)

2.6 defnyddio dodrefn ecogyfeillgar wedi'u hailgylchu

2.7 defnyddio paent cemegau isel

2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a rhydd o alergedd

2.9 defnyddio lliwyddion gwallt amonia isel iawn

2.10 defnyddio deunydd pacio cynnyrch ecogyfeillgar

2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

2.12 annog teithiau lleihau carbon i'r gwaith

3. Ffactorau

sut y mae gwahanol ffactorau yn cael effaith ar y prosesau steilio a thrin gwallt a'r olwg orffenedig

3.1 nodweddion gwallt 

3.2 dosbarthiad gwallt

3.3 yr olwg a ddymunir

3.4 yr achlysur sy'n galw am y steil

3.5 siâp y pen a'r wyneb

4. Technegau steilio confensiynol

4.1 setio

4.2 cyrlio â phin

4.3 tonni gyda'r bysedd

4.4 defnyddio cyfarpar steilio twym

4.5 rholiau

4.6 plethau

4.7 torchau

4.8 cwrls

4.9 wedi'i wehyddu

5. Technegau steilio anghonfensiynol

5.1 clytiau

5.2 gwellt

5.3 plastig

5.4 rhubanau

5.5 rhwyd

5.6 papur/papur sidan

5.7 clipiau gwallt

5.8 gweill bwyta

5.9 ric-racs

5.10 wadin

5.11 gwallt atodol

6. Gweithdrefnau Paratoi

6.1 ffynonellau gwybodaeth greadigol fel cylchgronau, y rhyngrwyd a ffilm

6.2 sut i gael a dehongli ysbrydoliaeth e.e. hanesyddol, diwylliannol a ffasiwn

6.3 sut i ddylunio, cynllunio a chreu golwg greadigol

6.4 steiliau gwallt sy'n ffasiynol ar hyn o bryd

7. Cyngor ac argymhellion

7.1 gwasanaethau ychwanegol

7.2 cynhyrchion ychwanegol


Gwerthoedd

​1. Mae'r Gwerthoedd Allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr:

1.1 parodrwydd i ddysgu

1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser masnachol ymarferol

1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd

1.4 sicrhau bod eich hylendid a'ch diogelwch personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

1.5 agwedd hyblyg tuag at waith

1.6 gweithiwr tîm

1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid

1.8 agwedd gadarnhaol

1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol

1.10 y gallu i hunan-reoli

1.11 sgiliau creadigrwydd

1.12 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau ardderchog

1.13 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel

1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn defnyddio cyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel


Ymddygiadau

  1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr.  Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd

1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon

1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar

1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddi/iddo deimlo'n werthfawr ac yn barchus

1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient

1.5 trin y cleient mewn ffordd gwrtais a gwasanaethgar ar bob adeg

1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i chadw/gadw'n gysurlon

1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiad gwahanol gleientiaid

1.8 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth

1.9 dewis y ffordd fwyaf priodol o gyfathrebu gyda'r cleient

1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall ei disgwyliadau /ddisgwyliadau yn llwyr

1.11 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

1.12 rhoi amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi esboniad pellach pan fydd hynny'n briodol

1.13 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient

1.14 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon

1.15 adnabod gwybodaeth all fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio a yw hi/e yn ei deall yn llwyr

1.16 esbonio'n glir wrth y cleientiaid unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau


Sgiliau


Geirfa

1. Dosbarthiad Gwallt (canllaw yn unig yw hwn)

Math 1 – Gwallt syth

1.1 Ffein/Tenau – y gwallt yn tueddu bod yn sidanaidd iawn, yn sgleiniog a seimlyd, a gall fod yn anodd dal cyrlen.

1.2 Canolig – llawer o cyfaint a swmp yn perthyn i'r gwallt.

1.3 Bras – y gwallt fel arfer yn syth dros ben ac yn anodd ei gyrlio.

Math 2 – Gwallt tonnog

2.1 Ffein/Tenau – patrwm "S" pendant i'r gwallt.  Fel arfer gall ddal gwahanol steiliau.

2.2 Canolig – y gwallt yn tueddu bod yn grych ac ychydig yn ymwrthol wrth Steilio.

2.3 Bras – y gwallt hwn hefyd yn ymwrthol wrth ei steilio ac yn grych iawn fel arfer; y tonnau'n tueddu bod yn fwy trwchus.

Math 3 – Gwallt cyrliog

3.1 Cwrls llac – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt.  Gall fod yn drwchus a llawn ac yn swmpus, ac iddo batrwm "S" pendant.  Mae hefyd yn tueddu bod yn grych.

3.2 Cwrls tynn – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt hyn hefyd; ynghyd â maint cymedrol o gwrls.

Math 4 – Gwallt cyrliog iawn

4.1 Sidanaidd – y gwallt yn tueddu bod yn frau iawn, yn dorchau tynn ac iddo batrwm cyrliog mwy diffiniedig. 

4.2 Gwrychog – hefyd yn frau iawn ac yn dorchau tynn; er hynny mae iddo batrwm cyrliog llai diffiniedig – mwy o siâp patrwm "Z".

  1. Mae Nodweddion Gwallt yn cynnwys y canlynol: * *

2.1 trwch gwallt

2.2 ansawdd gwallt

2.3 elastigedd gwallt

2.4 mandylledd gwallt

2.5 cyflwr gwallt

2.6 patrymau tyfiant gwallt


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAGH20

Galwedigaethau Perthnasol

Mentrau mân-werthu a masnachol, Mentrau Gwasanaeth, Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Trin gwallt