Pyrmio a niwtraleiddio gwallt

URN: SKACH5
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt,Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chyflenwi gwasanaethau pyrmio a niwtraleiddio sylfaenol er boddhad eich cleient.  Bydd gofyn i chi arddangos nifer o dechnegau troelli a'r gallu i gynnal amrywiaeth o brofion ar wallt.

Er mwyn gweithredu'r safon hon, bydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid ar raddfa uchel drwy gydol eich gwaith.  Bydd rhaid ichi hefyd gynnal a chadw ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.

Prif ddeilliannau'r safon hon yw:

  1. cynnal a chadw dulliau diogel o weithio wrth byrmio a niwtraleiddio gwallt

  2. paratoi ar gyfer pyrmio a niwtraleiddio

  3. pyrmio a niwtraleiddio gwallt


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal a chadw dulliau diogel o weithio wrth byrmio a niwtraleiddio gwallt


*

  1. cynnal a chadw eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch drwy gydol y gwasanaeth **

  2. paratoi eich cleient er mwyn bodloni gofynion y salon

  3. diogelu dillad eich cleient drwy gydol y gwasanaeth

  4. gwisgo cyfarpar gwarchod personol wrth ddefnyddio cemegau pyrmio a niwtraleiddio 

  5. gosod eich cleient mewn safle sy'n bodloni anghenion y gwasanaeth heb iddyn nhw fod yn anghysurus

  6. sicrhau bod eich osgo a'ch safle chi eich hun wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf

  7. cadw eich ardal waith yn lân a thaclus drwy gydol y gwasanaeth

  8. defnyddio dulliau gweithio sy'n:

8.1 lleihau gwastraff cynhyrchion

8.2 lleihau'r risg o groes-heintiad

8.3 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio

8.4 sicrhau'r defnydd o adnoddau glân

8.5 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hun ac eraill

8.6 hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

  1. sicrhau bod eich hylendid, eich diogelwch a'ch ymddangosiad personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

  2. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion

  3. gwared defnyddiau gwastraff

  4. cwblhau'r gwasanaeth o fewn amser masnachol ymarferol

Paratoi i byrmio a niwtraleiddio

  1. gofyn cwestiynau priodol i'ch cleient er mwyn canfod unrhyw wrthrybuddion i'r gwasanaeth pyrmio

  2. cofnodi ymatebion eich cleient i'r cwestiynu

  3. cynnal profion angenrheidiol, gan ddilyn cyfarwyddiadau gwneuthurwyr a  gweithdrefnau cydnabyddedig y diwydiant

  4. cofnodi canlyniadau profion yn fanwl gywir ar gerdyn cofnodi'r cleient

  5. ceisio cymorth gan y person perthnasol pan fydd gwrthrybuddion a/neu adweithiau i brofion yn codi amheuon ynglŷn ag addasrwydd y gwasanaeth i'ch cleient

  6. dewis cynhyrchion, offer a chyfarpar yn seiliedig ar ganlyniadau profion angenrheidiol, ymgynghoriad â'ch cleient a ffactorau perthnasol sy'n dylanwadu ar y gwasanaeth 

  7. paratoi cynhyrchion gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr **

  8.  diogelu gwallt a chroen eich cleient cyn pyrmio


*

Pyrmio a niwtraleiddio gwallt


*

  1. defnyddio'r technegau ymrannu cywir fel bod y gwallt wedi ei ymrannu'n lân a chyfartal er mwyn cael yr olwg a ddymunir

  2. defnyddio cynhyrchion a thechnegau gan gymryd i ystyriaeth ffactorau perthnasol sy'n dylanwadu ar y gwasanaeth

  3. cadarnhau bod sythu wedi digwydd drwy gyfrwng y broses aildrefnu, os oes angen

  4.  gadael y gwallt a'r croen pen yn lân ac yn rhydd o gemegau a gor-leithder cyn y broses droelli, os bydd angen hynny

  5. cymryd cudyn o wallt sy'n addas i faint y rhoden byrmio

  6.  cynnal a chadw tyndra cytbwys drwy gydol y broses droelli

  7. sicrhau bod pob rhoden byrmio sydd wedi'i throelli yn eistedd ar ei bôn

  8. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr wrth:

28.1  taenu trwyth pyrmio a niwtralyddion yn gyfartal ar yr holl wallt sydd wedi'i droelli  28.2  monitro ac amseru datblygiad y prosesau pyrmio a niwtraleiddio

28.3 taenu cyflyrwyr addas, os oes angen

  1.  cadarnhau bod y raddfa gyrlio angenrheidiol wedi ei chyrraedd

  2.  sicrhau bod tymheredd a llif y dŵr yn addas i anghenion gwallt, croen pen a chyfforddusrwydd eich cleient 

  3.  gadael y gwallt yn rhydd o drwyth pyrmio pan fydd y raddfa gyrlio angenrheidiol o wedi ei chyrraedd

  4.  cael gwared ar unrhyw or-leithder cyn niwtraleiddiogan ofalu peidio ag aflonyddu ar y gwallt sydd wedi ei droelli

  5.  taenu'r niwtralydd yn effeithiol ar y gwallt, gan gymryd gofal rhag aflonyddu ar y gwallt wedi ei droelli

  6. tynnu'r rhodiau pyrmio heb aflonyddu ar ffurfiant y cwrls

  7. gadael y gwallt heb niwtralydd yn dilyn y rins olaf

  8. adnabod unrhyw broblemau yn ystod y prosesau pyrmio a niwtraleiddio a'u datrys oddi mewn i derfynau eich awdurdod personol i wneud hynny

  9.  cyfeirio unrhyw broblemau na allwch eu datrys at y person perthnasol

  10.  sicrhau'r raddfa gyrlio gywir sydd ei hangen ar gyfer yr olwg derfynol a ddymunir

  11.  rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarperir.


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth byrmio a niwtraleiddio gwallt


*

  1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd

  2. gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient

  3. y mathau o ddillad gwarchod a ddylai fod ar gael i chi eich hun ac i'r cleientiaid

  4. pam ei bod yn bwysig defnyddio cyfarpar gwarchod personol

  5. beth yw dermatitis cyffwrdd a sut i osgoi ei ddal wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau pyrmio a niwtraleiddio gwallt

  6. pwysigrwydd adnabod unrhyw wrthrybuddion i wasanaethau pyrmio a niwtraleiddio

  7. sut y gall safle eich cleient a chi eich hun gael effaith ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf

  8. pam ei bod yn bwysig cadw eich ardal waith yn lân a thaclus

  9. dulliau gweithio'n ddiogel ac yn lanwaith ac sy'n lleihau'r risg o groes-heintiad a thraws-bla

  10. pwysigrwydd gosod eich offer a'ch cyfarpar wrth law er mwyn hwyluso eu defnyddio

  11. gwahanol ddulliau glanhau, diheintio a sterileiddio a ddefnyddir mewn salonau

  12. y peryglon a'r risgiau sy'n bod yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel sy'n rhaid i chi eu dilyn

  13. y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

  14. pwysigrwydd hylendid a hunan-gyflwyniad personol er mwyn cynnal a chadw iechyd a diogelwch yn eich gweithle

  15. cyfarwyddiadau'r cyflenwyr a'r gwneuthurwyr ar gyfer gwneud defnydd cywir o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion y mae'n rhaid i chi eu dilyn

  16. y dulliau cywir o wared gwastraff

  17. amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer gwaith pyrmio a niwtraleiddio

Paratoi ar gyfer pyrmio a niwtraleiddio

  1. arwyddocâd cyfreithiol cwestiynu cleient a chofnodi ymatebion y cleient i gwestiynu

  2. y mathau o brofion a'u pwrpas

  3. pryd a sut y dylid cynnal y profion a'r canlyniadau a ddisgwylir

  4. sut y gall canlyniadau profion ddylanwadu ar y gwasnaeth pyrmio

  5. y canlyniadau posib o fethu cynnal profion **

  6. y camau gweithredu i'w cymryd os digwydd adweithiau anffafriol i brofion

  7. pam ei bod yn bwysig cofnodi canlyniadau profion **

  8. sut a pham y gall y gwrthrybuddion ddylanwadu ar gyflenwi gwasanaethau pyrmio

  9. cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr ar gyfer y cynhyrchion pyrmio a niwtraleiddio penodol yn eich salon

  10. y cynhwysion gweithredol mewn cynhyrchion pyrmio a niwtraleiddio

  11. effeithiau ad-drefnyddion cemegol, trwythau a niwtralyddion pyrmio ar ffurfiant y gwallt

  12. sut y mae tymheredd yn dylanwadu ar y broses byrmio

  13. mathau a dibenion cyfarpar a ddefnyddir yn ystod y broses datblygu pyrm

  14. y gwahanol fathau o drwythau pyrmio, ad-drefnyddion cemegol a niwtralyddion a'r gwahanol ddefnydd a wneir o'r rhain

*
 *

Pyrmio a niwtraleiddio gwallt

*
 *

  1. sut y gall gwahanol ffactorau effeithio ar eich dewis o gynhyrchion pyrmio a niwtraleiddio

  2. pryd i ddefnyddio gwahanol fathau o dechnegau ymrannu a pham

  3. y gwahanol ffactorau sy'n dylanwau ar y defnydd o rhodiau pyrmio o wahanol faint

  4. pam a phryd y bydd angen ad-drefnu cemegol ar y gwallt

  5. pam bod gwahanol daenwyr yn cael eu defnyddio wrth ad-drefnu'n gemegol a'u heffaith ar y gwallt a'r croen pen

  6. sut i addasu'r dull taenu mewn perthynas ag ad-drefnyddion cemegol wrth weithio ar aildyfiant neu wallt digyffwrdd

  7. pwysicrwydd cadarnhau bod sythu wedi digwydd drwy gynnal profion cudyn ar wahanol adrannau o'r pen ac ar gyfnodau addas yn y broses ad-drefnu

  8. pwysigrwydd amseru manwl gywir a rinsio'r cynhyrchion yn drylwyr

  9. pryd a pham ei bod yn bwysig defnyddio triniaethau cyn-byrmio

  10. dullliau o daenu hylifau pyrmio a niwtralyddion

  11. effeithiau gorgyffwrdd cynhyrchion ar wallt sydd wedi cael triniaeth gemegol yn flaenorol

  12. ffordd o wirio datblygiad cwrlyn drwy gynnal profion datblygiad cyrls

  13. pwysigrwydd ystyried tymheredd y dŵr yn ystod y broses niwtraleiddio

  14. pwysigrwydd ac effeithiau adfer cydbwysedd pH y gwallt yn dilyn y broses byrmio a niwtraleiddio

  15. y mathau o gyflyrwyr ôl-byrmio a'u defnydd

  16. pwysigrwydd defnyddio cynhyrchion yn ddarbodus

  17. cadarnhau bod y raddfa gyrlio angenrheidiol wedi ei chyrraedd

  18. y mathau o broblemau all ddigwydd yn ystod y prosesau pyrmio a niwtraleiddio a'u hachosion a sut i'w cywiro

  19. pwysigrwydd rhoi cyngor ac argymhellion ar y cynhyrchion a'r gwasanaethau a ddarperir yn y salon


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Cynhyrchion

1.1 eli rhwystrol

1.2 triniaethau cyn-byrmio  

1.3 ad-drefnydd cemegol

1.4 trwythau pyrm

1.5 niwtralyddion

1.6 triniaethau ôl-byrmio

2. Profion

2.1 cudyn

2.2 datblygiad

2.3 elastigedd

2.4 mandylledd

2.5 gwrthnawsedd

3. Ffactorau

3.1 nodweddion gwallt

3.2 dosbarthiad gwallt

3.3 tymheredd

3.4 cyfeiriad a gradd y symudiad gofynnol

3.5 hyd gwallt

3.6 hyd aildyfiant gwraidd

3.7 gwallt wedi'i drin â lliw

4. Technegau Ymrannu

4.1 sylfaenol

4.2 cyfeiriadol

4.3 bric

5. Cyngor ac argymhellion

5.1 sut i gynnal a chadw eu pyrm

5.2 cyfnod amser rhwng gwasanaethau

5.3 cynhyrchion ychwanegol

5.4 gwasnaethau ychwanegol


Gwybodaeth Cwmpas

1. Iechyd a diogelwch

Eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent yn cael eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd

1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario

1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd

1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)

2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

2.1 lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)

2.2 lleihau'r defnydd o ynni (sychwyr gwallt ynni-effeithlon, golau rhad-ar-ynni, defnyddio paneli solar)

2.3 lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill

2.4 atal llygredd

2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tywelion hawdd eu sychu)

2.6 defnyddio dodrefn ecogyfeillgar wedi'u hailgylchu

2.7 defnyddio paent cemegau isel

2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a rhydd o alergedd

2.9 defnyddio lliwyddion gwallt amonia isel iawn

2.10 defnyddio deunydd pacio cynnyrch ecogyfeillgar

2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

2.13 annog teithiau lleihau carbon i'r gwaith

3. Gwrthrybuddion (enghreifftiau yn unig)

sut a pham y gall y gwrthrybuddion effeithio ar gyflenwi gwasanaethau pyrmio

* *

3.1 hanes o adwaith alergaidd blaenorol i gynhyrchion pyrmio

3.2 alergeddau eraill hysbys

3.3 anhwylderau'r croen

3.4 cynhyrchion anghydnaws

3.5 cyngor neu gyfarwyddyd meddygol

3.6 triniaethau cemegol blaenorol

3.7 tynnu estyniadau gwallt neu blethau yn ddiweddar  

4. Ffactorau

sut y mae gwahanol ffactorau yn cael effaith ar eich dewis o gynhyrchion pyrmio a niwtraleiddio  

4.1 nodweddion gwallt  

4.2 dosbarthiad gwallt  

4.3 tymheredd

4.4 cyfeiriad a gradd y symudiad gofynnol

4.5 hyd gwallt  

4.6 hyd aildyfiant

4.7 gwallt wedi'i drin â lliw


*

5. Cyngor ac argymhellion


*

5.1 gwasanaethau ychwanegol

5.2 cynhyrchion ychwanegol


Gwerthoedd

  1. Mae'r Gwerthoedd Allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr:  

1.1 parodrwydd i ddysgu  

1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser masnachol ymarferol

1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd

1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

1.5 agwedd hyblyg tuag at waith

1.6 gweithiwr tîm

1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid

1.8 agwedd gadarnhaol

1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol  

1.10 y gallu i hunan-reoli  

1.11 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau ardderchog

1.12 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel  

1.13 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion


Ymddygiadau

  1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr.  Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd

1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon

1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar

1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddi/iddo deimlo'n werthfawr ac yn barchus

1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient

1.5 trin y cleient mewn ffordd gwrtais a gwasanaethgar ar bob adeg

1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i chadw/gadw'n gysurlon

1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiad gwahanol gleientiaid

1.8 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth

1.9 dewis y ffordd fwyaf priodol o gyfathrebu gyda'r cleient

1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall ei disgwyliadau /ddisgwyliadauyn llwyr

1.11 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

1.12 rhoi amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi esboniad pellach pan fydd hynny'n briodol

1.13 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient

1.14 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon

1.15 adnabod gwybodaeth all fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio a yw hi/e yn ei deall yn llwyr

1.16 esbonio'n glir wrth y cleientiaid unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau ​


Sgiliau


Geirfa

1. Dosbarthiad Gwallt (canllaw yn unig yw hwn)

Math 1 – Gwallt syth

1.1 Ffein/Tenau – y gwallt yn tueddu bod yn sidanaidd iawn, yn sgleiniog a seimlyd, a gall fod yn anodd dal cyrlen.

1.2 Canolig – llawer o cyfaint a swmp yn perthyn i'r gwallt

1.3 Bras – y gwallt fel arfer yn syth dros ben ac yn anodd ei gyrlio.

Math 2 – Gwallt tonnog

2.1 Ffein/Tenau – patrwm "S" pendant i'r gwallt.  Fel arfer gall ddal gwahanol steiliau.

2.2 Canolig – y gwallt yn tueddu bod yn grych ac ychydig yn ymwrthol wrth Steilio.  

2.3 Bras – y gwallt hwn hefyd yn ymwrthol wrth ei steilio ac yn grych iawn fel arfer; y tonnau'n tueddu bod yn fwy trwchus.  

Math 3 – Gwallt cyrliog  

3.1 Cwrls llac – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt.  Gall fod yn drwchus a llawn ac yn swmpus, ac iddo batrwm "S" pendant.  Mae hefyd yn tueddu bod yn grych.  

3.2 Cwrls tynn – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt hyn hefyd; ynghyd â maint cymedrol o gwrls.  

Math 4 – Gwallt cyrliog iawn  

4.1 Sidanaidd – y gwallt yn tueddu bod yn frau iawn, yn dorchau tynn ac iddo batrwm cyrliog mwy diffiniedig.   

4.2 Gwrychog – hefyd yn frau iawn ac yn dorchau tynn; er hynny mae iddo batrwm cyrliog llai diffiniedig – mwy o siâp patrwm "Z".  

  1. Mae Nodweddion Gwallt yn cynnwys y canlynol: * ** *

2.1 trwch gwallt  

2.2 ansawdd gwallt  

2.3 elastigedd gwallt  

2.4 mandylledd gwallt  

2.5 cyflwr gwallt  

2.6 patrymau tyfiant gwallt  

3. Techneg ymrannu sylfaenol*yn cynnwys pyrm 6 adran a 9 adran ** *

4. Triniaeth cyn-byrmio – Cynnyrch sy'n cael ei daenu ar y gwallt cyn gwasanaeth cemegol er mwyn llyfnhau'r mandylledd ar hyd siafft y gwallt.

5. Ad-drefnydd cemegol – cynnyrch sy'n seiliedig ar Amoniwm-thioglycollate a ddefnyddir i gyn-feddalu gwallt tyn/cyrliog cyn troelli pyrm

6. Prawf cudyn – defnyddir y prawf hwn yn y broses ad-drefnu i gadarnhau effaith y cynnyrch ar y gwallt a'i gyflwr, e.e. mae'r raddfa sythu wedi ei chyrraedd cyn troelli


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAGH14

Galwedigaethau Perthnasol

Mentrau mân-werthu a masnachol, Mentrau Gwasanaeth, Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Pyrmio; niwtraleiddio