Setio a thrin gwallt

URN: SKACH2
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt,Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 20 Chwef 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio amrywiaeth o dechnegau setio a thrin gwallt i greu sawl golwg wahanol.  Bydd y gallu i weithio gyda dewis eang o gynhyrchion ac offer, ynghyd â graddfa uchel o fedrusrwydd corfforol yn ofynnol.

Er mwyn gweithredu'r safon hon bydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid ar raddfa uchel trwy gydol eich gwaith.  Bydd rhaid ichi hefyd gynnal a chadw ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.

Prif ddeilliannau'r safon hon yw:

  1. cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth setio a thrin gwallt

  2. setio gwallt

  3. trin gwallt


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth setio a thrin gwallt

* *

  1. cynnal a chadw eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch drwy gydol y gwasanaeth

  2. paratoi eich cleient er mwyn bodloni gofynion y salon

  3. diogelu dillad eich cleient drwy gydol y gwasanaeth

  4. gosod eich cleient mewn safle er mwyn bodloni anghenion y gwasanaeth heb iddyn nhw fod yn anghysurus

  5. sicrhau bod eich osgo a'ch safle chi eich hun wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf

  6. cadw eich ardal waith yn lân a thaclus drwy gydol y gwasanaeth

  7. defnyddio dulliau gweithio sy'n:

7.1 lleihau gwastraff cynhyrchion

7.2 lleihau'r risg o ddifrod i offer a chyfarpar

7.3 lleihau'r risg o groes-heintiad

7.4 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio

7.5 sicrhau'r defnydd o adnoddau glân

7.6 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hun ac eraill

7.7 hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

  1. sicrhau bod eich hylendid, eich diogelwch a'ch ymddangosiad personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

  2. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion

  3. gwared defnyddiau gwastraff

  4. cwblhau'r gwasanaeth o fewn amser masnachol ymarferol

* *

Setio gwallt

* *

  1. cadarnhau a chytuno ar y technegau setio a'r olwg a ddymunir gyda'ch cleient

  2. rheoli eich offer a'ch cyfarpar er mwyn lleihau'r perygl o niweidio'r gwallt, anghysur y cleient ac er mwyn cael yr olwg a ddymunir

  3. taenu cynhyrchion addas gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr

  4. rheoli gwallt eich cleient drwy gydol y broses setio gan roi ystyriaeth i ffactorau sy'n dylanwadu ar y gwasanaeth

  5. cymryd adrannau o wallt sy'n addas i faint yr offer a'r cyfarpar

  6. cadw'r gwallt yn llaith drwy gydol y broses setio, pan fydd angen

18. rhannu a throelli'r gwallt yn ddeheuig a chyfartal er mwyn cael yr olwg a ddymunir

  1. pan fydd y rheiny'n cael eu defnyddio, sicrhau bod pob rholer wedi'i weindio yn ddiogel ac yn gorwedd ar neu oddi ar y bôn er mwyn bodloni gofynion y steil

  2. cynnal a chadw'r tyndra cywir drwy gydol y broses setio

  3. tynnu unrhyw eitemau a ddefnyddiwyd ar gyfer setio, gan osgoi anghysur i'ch cleient

  4. sicrhau bod eich technegau setio yn creu'r olwg a ddymunir

Trin gwallt


*

  1. gadael gwallt y cleient yn rhydd o unrhyw farciau rhannu yn ôl yr angen

  2. defnyddio cyfarpar twym, yn ôl yr angen, ar y tymheredd cywir ar gyfer gwallt eich cleient a'r olwg a ddymunir

  3. rheoli eich offer a'ch cyfarpar er mwyn lleihau'r risg o niwed i'r gwallt a'r croen pen, anghysur y cleient ac er mwyn creu'r olwg a ddymunir

  4. taenu a defnyddio cynhyrchion addas er mwyn bodloni cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr 

  5. sicrhau bod yr olwg orffenedig yn rhoi ystyriaeth i ffactorau perthnasol sy'n dylanwadu ar y gwasanaeth

  6. sicrhau bod eich technegau a'ch effeithiau trin gwallt yn bodloni'r siâp, y cyfeiriad a'r cyfaint arfaethedig y cytunwyd arnynt gyda'ch cleient

  7. cadarnhau bod eich cleient yn fodlon â'r olwg orffenedig

rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarperir


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth setio a thrin gwallt


*

  1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd

  2. y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadawy

  3. gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient

  4. y mathau o ddillad gwarchod a ddylai fod ar gael i gleientiaid

  5. beth yw dermatitis cyffwrdd a sut i osgoi ei ddal wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau steilio a thrin gwallt

  6. sut y gall safle eich cleient a chi eich hun gael effaith ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf

  7. pam ei bod yn bwysig osgoi croes-heintiad a phla

  8. pam ei bod yn bwysig cadw eich ardal waith yn lân a thaclus

  9. y defnydd a'r dull cynnal a chadw cywir mewn perthynas ag offer a chyfarpar

  10. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio a ddefnyddir mewn salonau

  11. dulliau gweithio'n ddiogel ac yn lanwaith ac sy'n lleihau'r risg o groes-heintiad a thraws-bla

  12. y peryglon a'r risgiau sy'n bod yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel sy'n rhaid i chi eu dilyn

  13. cyfarwyddiadau'r cyflenwyr a'r gwneuthurwyr ar gyfer gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion y mae'n rhaid i chi eu dilyn

  14. pwysigrwydd hylendid a hunan-gyflwyniad personol er mwyn cynnal a chadw iechyd a diogelwch yn eich gweithle

  15. y dulliau cywir o wared gwastraff

  16. amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer setio a thrin gwallt


*

Setio a thrin gwallt


*

  1. yr amrywiaeth o offer, cyfarpar a chynhyrchion sydd ar gael ar gyfer setio a thrin  gwallt

  2. cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr ar sut i ddefnyddio cynhyrchion setio a thrin gwallt penodol yn eich salon

  3. pam a sut i ddefnyddio'r gwahanol fathau o offer a chyfarpar ar gyfer setio a thrin gwallt

  4. sut y mae gwahanol ffactorau yn cael effaith ar y prosesau setio a thrin gwallt a'r olwg orffenedig

  5. pam a phryd i ddefnyddio gwahanol fathau o dechnegau setio

  6. sut i lap-setio gwallt er mwyn sicrhau ei fod yn gorwedd yn esmwyth ac yn wastad yn erbyn y croen pen ac i'r cyfeiriad cywir er mwyn creu'r olwg a ddymunir

  7. pam a phryd i ddefnyddio'r gwahanol fathau o dechnegau rhannu a throelli

  8. pam a phryd i ddefnyddio gwahanol fathau o dechnegau trin gwallt

  9. sut y mae ongl y troelli yn dylanwadu ar cyfaint a chyfeiriad y gwallt

  10. pam bod angen i'r rhannau gwallt hynny sydd wedi'u setio gael eu brwsio allan yn drwyadl

  11. dulliau o drin, rheoli a gosod gwallt yn sownd er mwyn cael cyrls a rholiau

  12. pwysigrwydd cynnal a chadw'r tyndra cywir drwy gydol y broses setio

  13. effeithiau lleithder ar wallt

  14. effeithiau corfforol y broses setio ar ffurfiant y gwallt

  15. sut y gall defnyddio gwres yn anghywir gael effaith ar y gwallt a'r croen pen

  16. pam y dylid cadw gwallt yn llaith yn ystod y broses setio

  17. sut mae gwarchodwyr gwres yn gweithio i warchod y gwallt

  18. pwysigrwydd cadarnhau gofynion y steil sydd ei angen gyda'r cleient

  19. y gofynion tynnu i ffwrdd a/neu dynnu i lawr ar gyfer y cynllun gwallt

  20. pwysigrwydd darparu cyngor ac argymhellion ar y cynhyrchion a'r gwasanaethau a ddarperir yn y salon


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Cynhyrchion

1.1 gwarchodwyr gwres

1.2 chwistrellau

1.3 mŵs

1.4 hufennau

1.5 geliau

1.6 sera

1.7 hylifau setio

1.8 cwyr

2. Offer a chyfarpar

2.1 rholiau

2.2 cribau

2.3 clipiau cwrl pin

2.4. brwshis

2.5 gafaelion a phinnau

2.6 cyfarpar twym

3. Technegau Setio

3.1 rholio

3.2 cyrlio troellog

3.3 lap-setio

3.4 cyrlio â phin i greu cyfaint

3.5 cyrlio â phin i roi symudiad gwastad

4. Ffactorau

4.1 nodweddion gwallt

4.2 dosbarthiad gwallt

4.3 toriad gwallt

4.4 hyd gwallt

4.5 siâp pen ac wyneb

4.6 yr achlysur sy'n galw am y steil

5. Rhannu a throelli * *

5.1 blaen hyd y gwraidd

5.2 gwraidd hyd y blaen

5.3 ar y bôn

5.4 oddi ar y bôn

5.5 cyfeiriadol

5.6 bric

6. Technegau ac effeithiau trin gwallt

6.1 cwrls

6.2 rholiau

6.3 llyfnhau

6.4 ôl-gribo

6.5 ôl-frwsio

7. Cyngor ac argymhellion

7.1 sut i gynnal a chadw eu golwg

7.2 cyfnod amser rhwng gwasanaethau

7.3 cynhyrchion a gwasanaethau presennol ac i'r dyfodol


Gwybodaeth Cwmpas

1. Iechyd a Diogelwch * *

Eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent yn cael eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd

1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario

1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd

1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)

2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

2.1 lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)

2.2 lleihau'r defnydd o ynni (sychwyr gwallt ynni-effeithlon, golau rhad-ar-ynni, defnyddio paneli solar)

2.3 lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill

2.4 atal llygredd

2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tywelion hawdd eu sychu)

2.6 defnyddio dodrefn ecogyfeillgar wedi'u hailgylchu

2.7 defnyddio paent cemegau isel

2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a rhydd o alergedd

2.9 defnyddio lliwyddion gwallt amonia isel iawn

2.10 defnyddio deunydd pacio cynnyrch ecogyfeillgar

2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

2.12 annog teithiau lleihau carbon i'r gwaith

3. Ffactorau

sut y mae gwahanol ffactorau yn cael effaith ar y prosesau setio a thrin a'r olwg orffenedig

3.1 nodweddion gwallt

3.2 dosbarthiad gwallt

3.3 toriad gwallt

3.4 hyd gwallt

3.5 siâp pen ac wyneb

3.6 yr achlysur sy'n galw am y steil

4. Cyngor ac argymhellion


*

4.1 gwasanaethau ychwanegol

4.2 cynhyrchion ychwanegol


Gwerthoedd

  1. Mae'r Gwerthoedd Allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr:

1.1 parodrwydd i ddysgu

1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol  

1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd

1.4 sicrhau bod eich hylendid a'ch diogelwch personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

1.5 agwedd hyblyg tuag at waith

1.6 gweithiwr tîm

1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid

1.8 agwedd gadarnhaol

1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol

1.10 y gallu i hunan-reoli

1.11 sgiliau creadigrwydd

1.12 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau ardderchog

1.13 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel

1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn defnyddio cyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel


Ymddygiadau

​1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr.  Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd

1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon

1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar

1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddi/iddo deimlo'n werthfawr a pharchus

1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient

1.5 trin y cleient mewn ffordd gwrtais a gwasanaethgar ar bob adeg

1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i chadw/gadw'n gysurlon

1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiad gwahanol gleientiaid

1.8 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth

1.9 dewis y ffordd fwyaf priodol o gyfathrebu gyda'r cleient

1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall ei disgwyliadau /ddisgwyliadau yn llwyr

1.11 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

1.12 rhoi amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi esboniad pellach pan fydd hynny'n briodol

1.13 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient

1.14 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon

1.15 adnabod gwybodaeth all fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio a yw hi/e yn ei deall yn llwyr

1.16 esbonio'n glir wrth y cleientiaid unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau


Sgiliau


Geirfa

1. Dosbarthiad Gwallt (canllaw yn unig yw hwn)

Math 1 – Gwallt syth

1.1 Ffein/Tenau – y gwallt yn tueddu bod yn sidanaidd iawn, yn sgleiniog a seimlyd, a gall fod yn anodd dal cyrlen.

1.2 Canolig – llawer o cyfaint a swmp yn perthyn i'r gwallt.

1.3 Bras – y gwallt fel arfer yn syth dros ben ac yn anodd ei gyrlio.

Math 2 – Gwallt tonnog

2.1 Ffein/Tenau – patrwm "S" pendant i'r gwallt.  Fel arfer gall ddal gwahanol steiliau.

2.2 Canolig – y gwallt yn tueddu bod yn grych ac ychydig yn ymwrthol wrth Steilio.

2.3 Bras – y gwallt hwn hefyd yn ymwrthol wrth ei steilio ac yn grych iawn fel arfer; y tonnau'n tueddu bod yn fwy trwchus.

Math 3 – Gwallt cyrliog

3.1 Cwrls llac – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt.  Gall fod yn drwchus a llawn ac yn swmpus, ac iddo batrwm "S" pendant.  Mae hefyd yn tueddu bod yn grych.

3.2 Cwrls tynn – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt hyn hefyd; ynghyd â maint cymedrol o gwrls.

Math 4 – Gwallt cyrliog iawn

4.1 Sidanaidd – y gwallt yn tueddu bod yn frau iawn, yn dorchau tynn ac iddo batrwm cyrliog mwy diffiniedig. 

4.2 Gwrychog – hefyd yn frau iawn ac yn dorchau tynn; er hynny mae iddo batrwm cyrliog llai diffiniedig – mwy o siâp patrwm "Z".

  1. Mae Nodweddion Gwallt yn cynnwys y canlynol: * *

2.1 trwch gwallt

2.2 ansawdd gwallt

2.3 elastigedd gwallt

2.4 mandylledd gwallt

2.5 cyflwr gwallt

2.6 patrymau tyfiant gwallt

3. Cyfarpar twym

3.1 rholeri twym

3.2 gefeiliau

3.3 sythwyr

4. Lap-setio

4.1 Pan fydd gwallt yn cael ei droelli'n glocwedd neu'n wrthglocwedd fel bod amlinellau'r pen yn ffurfio siâp gorffenedig y gwallt


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAGH11

Galwedigaethau Perthnasol

Mentrau mân-werthu a masnachol, Mentrau Gwasanaeth, Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Setio; trin gwallt