Creu amrywiaeth o effeithiau pyrmio

URN: SKACH13
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chyfuno, addasu a phersonoli amrywiaeth o dechnegau ymrannu a throelli er mwyn creu amrywiaeth o effeithiau pyrmio ffasiynol.  Mae effeithiau pyrmio yn cynnwys cwrls codi gwreiddyn, tonnog, ôl tynnwr corcyn a chwrls gweadog.  Mae'r gallu i weithio gyda gwallt wedi'i sensiteiddio hefyd yn ofynnol.

Er mwyn gweithredu'r safon hon, bydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid ar raddfa uchel drwy gydol eich gwaith.  Bydd rhaid ichi hefyd gynnal a chadw ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.

Prif ddeilliannau'r safon hon yw:

  1. cynnal a chadw dulliau diogel o weithio wrth byrmio a niwtraleiddio gwallt

  2. paratoi ar gyfer pyrmio

  3. creu amrywiaeth o effeithiau pyrmio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth byrmio a niwtraleiddio gwallt


*

  1. cynnal a chadw eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch drwy gydol y gwasanaeth

  2. paratoi eich cleient er mwyn bodloni gofynion y salon

  3. diogelu dillad eich cleient drwy gydol y gwasanaeth

  4. gwisgo cyfarpar gwarchod personol wrth ddefnyddio cemegau pyrmio a niwtraleiddio

  5. gosod eich cleient mewn safle sy'n bodloni anghenion y gwasanaeth heb iddyn nhw fod yn anghysurus

  6. sicrhau bod eich osgo a'ch safle chi wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf

  7. cadw eich ardal waith yn lân a thaclus drwy gydol y gwasanaeth

  8. defnyddio dulliau gweithio sy'n:

8.1 lleihau gwastraff cynhyrchion

8.2 lleihau'r risg o groes-heintiad

8.3 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio

8.4 sicrhau'r defnydd o adnoddau glân

8.5 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hun ac eraill

8.6 hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

  1. sicrhau bod eich hylendid, eich diogelwch a'ch ymddangosiad personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

  2. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion

  3. gwared defnyddiau gwastraff

  4. cwblhau'r gwasanaeth o fewn amser masnachol ymarferol

Paratoi ar gyfer pyrmio


*

  1. gofyn cwestiynau i'ch cleient er mwyn canfod a oes ganddi/ganddo unrhyw wrthrybuddion i wasanaethau pyrmio

  2. cofnodi ymatebion eich cleient i'r cwestiynu

  3. cynnal profion angenrheidiol gan ddilyn cyfarwyddiadau gwneuthurwyr a gweithdrefnau cydnabyddedig y diwydiant

  4. cofnodi canlyniadau profion ar gerdyn cofnodi'r cleient

  5. dewis cynhyrchion, offer a chyfarpar yn seiliedig ar ganlyniadau profion, ymgynghoriad **â'ch cleient a ffactorau sy'n dylanwadu

  6. paratoi cynhyrchion, gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr

  7. diogelu gwallt a chroen eich cleient cyn y gwasanaeth pyrmio

Creu amrywiaeth o effeithiau pyrmio


*

  1. archwilio'r amrywiaeth o olygon posib gyda'ch cleient gan ddefnyddio'r cymhorthion gweledol perthnasol

  2. seilio eich argymhellion ar werthusiad manwl gywir o wallt eich cleient a'i botensial i greu'r effeithiau gofynnol

  3. defnyddio cynhyrchion a thechnegau gan roi ystyriaeth i ffactorau sy'n dylanwadu

  4. personoli eich technegau ymrannu a throelli er mwyn rhoi ystyriaeth i ffactorau fydd yn dylanwadu ar yr effaith a ddymunir

  5. addasu eich dulliau gweithio a'ch defnydd o gynhyrchion er mwyn bodloni anghenion cleientiaid sydd â gwallt wedi'i sensiteiddio

  6. cadarnhau bod y raddfa ofynnol o gwrlyn wedi ei chyrraedd drwy gynnal profion datblygiad cwrls ar adegau addas drwy gydol y broses byrmio

  7. cymryd camau cywirol i ddatrys problemau sy'n digwydd yn ystod y gwasanaeth pyrmio

  8. sicrhau bod datblygiad wedi dod i ben a bod y gwallt wedi ei niwtraleiddio'n effeithiol unwaith y bydd yr effaith drwy byrmio wedi ei chreu

  9. defnyddio technegau gorffennu creadigol i greu'r effaith drwy byrmio a ddymunir * *

  10. sicrhau bod yr effaith orffenedig drwy byrmio yn ategu nodweddion eich cleient ac yn gwella ei delwedd/ddelwedd bersonol a delwedd y salon

  11. cadarnhau bod y cleient yn fodlon â'r effaith orffenedig

  12. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarperir


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth byrmio a niwtraleiddio gwallt


*

  1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd

  2. gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient

  3. y mathau o ddillad gwarchod a ddylai fod ar gael i chi eich hun ac i'r cleientiaid

  4. pam ei bod yn bwysig defnyddio cyfarpar gwarchod personol

  5. sut y gall safle eich cleient a chi eich hun gael effaith ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf

  6. pam ei bod yn bwysig cadw eich ardal waith yn lân a thaclus

  7. yr ystyriaethau diogelwch y mae'n rhaid rhoi sylw iddynt wrth byrmio a niwtraleiddio gwallt

  8. y gwahanol ddulliau o lanhau, diheintio a sterileiddio offer

  9. dulliau gweithio'n ddiogel ac yn lanwaith ac sy'n lleihau'r risg o groes-heintiad a thraws-bla

  10. beth yw dermatitis cyffwrdd, a sut i osgoi ei ddal wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau pyrmio a niwtraleiddio

  11. y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

  12. pwysigrwydd hylendid a hunan-gyflwyniad personol er mwyn cynnal a chadw iechyd a diogelwch yn eich gweithle

  13. cyfarwyddiadau cyflenwyr a gwneuthurwyr ar gyfer gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion y mae'n rhaid i chi eu dilyn

  14. y dulliau cywir o wared gwastraff

  15. amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer gwasanaethau pyrmio a niwtraleiddio

Paratoi ar gyfer pyrmio


*

  1. arwyddocad cyfreithiol holi cleient a chofnodi ymatebion y cleient

  2. pwysigrwydd adnabod unrhyw wrthrybuddion i wasanaethau pyrmio a niwtraleiddio

  3. y mathau o brofion a ddefnyddir ar gyfer gwasanaethau pyrmio a'u pwrpas

  4. pryd a sut y dylid cynnal profion a'r canlyniadau disgwyliedig

  5. sut y gall canlyniadau profion ddylanwadu ar y gwasanaethau pyrmio

  6. y canlyniadau posib o fethu cynnal profion

  7. y camau gweithredu i'w cymryd os digwydd adweithiau anffafriol i brofion

  8. cyfansoddiad cemegol cynhyrchion pyrmio a niwtraleiddio

  9. effeithiau hylifau pyrmio a niwtralyddion ar ffurfiant y gwallt

  10. effeithiau triniaethau cyn pyrmio ac ôl-byrmio ar ffurfiant y gwallt

  11. sut y mae tymheredd yn effeithio ar y broses byrmio

  12. pwysigrwydd amseru manwl gywir a rinsio'r cynhyrchion yn drylwyr

  13. pwysigrwydd ac effeithiau adfer pH y gwallt yn dilyn y broses byrmio a niwtraleiddio

  14. sut y gall gwahanol ffactorau effeithio ar eich dewis o gynhyrchion pyrmio a niwtraleiddio

  15. sut y mae gwallt gafodd ei sensiteiddio yn dilyn triniaethau blaenorol a difrod gwres yn ymateb i gynhyrchion pyrmio

  16. pam ei bod yn bwysig diogelu gwallt a chroen eich cleient cyn y gwasanaeth pyrmio. 

Creu amrywiaeth o effeithiau pyrmio

  1. pwysigrwydd archwilio amrywiaeth o olygon posib gyda'ch cleient gan ddefnyddio cymhorthion gweledol perthnasol

  2. sut a pham y gall y gwrthrybuddion effeithio ar y gwasanaethau pyrmio

  3. cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr ar gyfer y cynhyrchion pyrmio a niwtraleiddio penodol

  4. y gwahanol fathau o gynhyrchion pyrmio a sut y defnyddir y rhain i greu cwrlyn

  5. y technegau ymrannu a throelli sydd ar gael ar gyfer gwahanol fathau o wallt

  6. sut y mae gwahanol ffactorau yn effeithio ar dechnegau ymrannu a throelli

  7. y mathau o offer y gellir eu defnyddio i greu'r effeithiau pyrmio yn y detholiad  

  8. sut a pham bod angen addasu eich dulliau gweithio a'ch dewis o gynhyrchion pyrmio i siwtio gwallt wedi'i sensiteiddio

  9. dulliau taenu cynhyrchion pyrmio wrth ddefnyddio gwahanol dechnegau troelli

  10. effeithiau gorymylu cynhyrchion ar wallt sydd wedi'i drin yn gemegol yn flaenorol

  11. sut i wirio datblygiad cwrlyn wrth ddefnyddio gwahanol fathau o offer troelli

  12. y mathau o gyfarpar a ddefnyddir yn ystod y broses datblygu pyrm a'u pwrpas

  13. y gwahanol fathau o gyfryngau niwtraleiddio a'u defnydd

  14. dulliau o daenu niwtralyddion i siwtio'r gwahanol dechnegau troelli

  15. pwysigrwydd sicrhau bod effaith orffenedig y pyrm yn ategu nodweddion eich cleient ac yn gwella ei delwedd/ddelwedd bersonol a delwedd y salon

  16. y mathau o broblemau all ddigwydd yn ystod y broses byrmio a'u hachosion a sut i'w cywiro

  17. pwysigrwydd rhoi cyngor ac argymhellion ar y cynhyrchion a'r gwasanaethau a ddarperir yn y salon


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Cynhyrchion

1.1 elïau rhwystrol

1.2 triniaeth cyn pyrmio

1.3 hylifau pyrm

1.4 niwtralyddion

1.5 triniaeth ôl-byrmio

2. Profion

2.1 datblygiad

2.2 elastigedd

2.3 mandylledd

2.4 anghydnawsedd

3. Ffactorau

3.1 nodweddion gwallt

3.2 dosbarthiad gwallt

3.3 tymheredd

3.4 cyfeiriad, graddfa a hyd a lled y symudiad gofynnol

3.5 cyflwr gwallt

3.6 hyd gwallt

3.7 patrymau tyfiant gwallt

3.8 toriad gwallt

3.9 graddfa'r cwrls cyfredol

4. Technegau ymrannu a throelli

4.1 corn bwch (piggyback)

4.2 sbiral

4.3 gwehyddu

4.4 gwreiddyn

4.5 cicston (hopscotch)

4.6 troelli dwbl

5. Gwallt wedi'i sensiteiddio

5.1 gwallt wedi'i liwio'n barhaol

5.2 gwallt wedi'i oleuo

5.3 gwallt wedi'i byrmio'n flaenorol

6. Effaith y Pyrm

6.1 codi'r gwreiddyn

6.2 tonnog

6.3 ôl tynnwr corcyn

6.4 cwrls gweadog  

7. Cyngor ac argymhellion

7.1 sut i gynnal a chadw eu pyrm

7.2 cyfnod amser rhwng gwasanaethau

7.3 cynhyrchion a gwasanaethau presennol ac i'r dyfodol


Gwybodaeth Cwmpas

1. Iechyd a diogelwch

Eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd

1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario

1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd

1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)

2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

2.1 lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)

2.2 lleihau'r defnydd o ynni (sychwyr gwallt ynni-effeithlon, golau rhad-ar-ynni, defnyddio paneli solar)

2.3 lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill

2.4 atal llygredd

2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tywelion hawdd eu sychu)

2.6 defnyddio dodrefn ecogyfeillgar wedi'u hailgylchu

2.7 defnyddio paent cemegau isel

2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a rhydd o alergedd

2.9 defnyddio lliwyddion gwallt amonia isel iawn

2.10 defnyddio deunydd pacio cynnyrch ecogyfeillgar

2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

2.12 annog teithiau lleihau carbon i'r gwaith

3. Gwrthrybuddion (enghreifftiau yn unig)

sut a pham y gall y gwrthrybuddion effeithio ar gyflenwi gwasanaethau pyrmio

* *

3.1 hanes o adwaith alergaidd blaenorol i gynhyrchion pyrmio

3.2 alergeddau eraill hysbys

3.3 anhwylderau'r croen

3.4 cynhyrchion anghydnaws

3.5 cyngor neu gyfarwyddyd meddygol

3.6 triniaethau cemegol blaenorol

3.7 tynnu estyniadau gwallt neu blethau yn ddiweddar 

4. Ffactorau

sut y mae gwahanol ffactorau yn cael effaith ar eich dewis o gynhyrchion pyrmio a niwtraleiddio  

4.1 nodweddion gwallt 

4.2 dosbarthiad gwallt 

4.3 tymheredd

4.4 cyfeiriad a gradd y symudiad gofynnol

4.5 hyd gwallt 

4.6 hyd aildyfiant

4.7 gwallt wedi'i drin â lliw

5. Cyngor ac argymhellion

* *

5.1 gwasanaethau ychwanegol

5.2 cynhyrchion ychwanegol


Gwerthoedd

​1. Mae'r Gwerthoedd Allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr: 

1.1 parodrwydd i ddysgu 

1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol

1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd

1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

1.5 agwedd hyblyg tuag at waith   

1.6 gweithiwr tîm   

1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid 

1.8 agwedd gadarnhaol  

1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol 

1.10 y gallu i hunan-reoli  

1.11 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau ardderchog

1.12 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel

1.13 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion


Ymddygiadau

  1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr.  Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd

1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon

1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar

1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddi/iddo deimlo'n werthfawr ac yn barchus

1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient

1.5 trin y cleient mewn ffordd gwrtais a gwasanaethgar ar bob adeg

1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i chadw/gadw'n gysurlon

1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiad gwahanol gleientiaid

1.8 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth

1.9 dewis y ffordd fwyaf priodol o gyfathrebu gyda'r cleient

1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall ei disgwyliadau /ddisgwyliadau yn llwyr

1.11 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

1.12 rhoi amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi esboniad pellach

1.13 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient

1.14 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon

1.15 adnabod gwybodaeth all fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio a yw hi/e yn ei deall yn llwyr

1.16 esbonio'n glir wrth y cleientiaid unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau


Sgiliau


Geirfa

​1. Dosbarthiad Gwallt (canllaw yn unig yw hwn)

Math 1 – Gwallt syth

1.1 Ffein/Tenau – y gwallt yn tueddu bod yn sidanaidd iawn, yn sgleiniog a seimlyd, a gall fod yn anodd dal cyrlen.

1.2 Canolig – llawer o cyfaint a swmp yn perthyn i'r gwallt

1.3 Bras – y gwallt fel arfer yn syth dros ben ac yn anodd ei gyrlio.

Math 2 – Gwallt tonnog

2.1 Ffein/Tenau – patrwm "S" pendant i'r gwallt.  Fel arfer gall ddal gwahanol steiliau.

2.2 Canolig – y gwallt yn tueddu bod yn grych ac ychydig yn ymwrthol wrth Steilio.  

2.3 Bras – y gwallt hwn hefyd yn ymwrthol wrth ei steilio ac yn grych iawn fel arfer; y tonnau'n tueddu bod yn fwy trwchus.  

Math 3 – Gwallt cyrliog  

3.1 Cwrls llac – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt.  Gall fod yn drwchus a llawn ac yn swmpus, ac iddo batrwm "S" pendant.  Mae hefyd yn tueddu bod yn grych.  

3.2 Cwrls tynn – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt hyn hefyd; ynghyd â maint cymedrol o gwrls.  

Math 4 – Gwallt cyrliog iawn  

4.1 Sidanaidd – y gwallt yn tueddu bod yn frau iawn, yn dorchau tynn ac iddo batrwm cyrliog mwy diffiniedig.   

4.2 Gwrychog – hefyd yn frau iawn ac yn dorchau tynn; er hynny mae iddo batrwm cyrliog llai diffiniedig – mwy o siâp patrwm "Z".  

  1. Mae Nodweddion Gwallt yn cynnwys y canlynol: * ** *

2.1 trwch gwallt  

2.2 ansawdd gwallt  

2.3 elastigedd gwallt 

2.4 mandylledd gwallt  

2.5 cyflwr  gwallt  

2.6 patrymau tyfiant gwallt  

3. Triniaeth cyn pyrmio

Cynnyrch sy'n cael ei daenu ar y gwallt cyn gwasanaeth cemegol er mwyn llyfnhau'r mandylledd ar hyd siafft y gwallt. 

4. Prawf cudyn

defnyddir y prawf hwn yn y broses ad-drefnu i gadarnhau effaith y cynnyrch ar y gwallt a'i gyflwr, e.e. mae'r raddfa sythu wedi ei chyrraedd cyn troelli

5. Gwallt wedi'i sensiteiddio

Gwallt sydd â ffurfiant mewnol brau yn naturiol neu wedi'i achosi gan ffactorau mecanyddol, cemegol a neu amgylcheddol.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAGH22

Galwedigaethau Perthnasol

Mentrau mân-werthu a masnachol, Mentrau Gwasanaeth, Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

effeithiau pyrmio