Steilio a gorffennu gwallt

URN: SKACH1
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt,Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

​​Mae'r safon hon yn ymwneud â steilio gwallt gan ddefnyddio technegau chwythsychu a sychu gyda'r bysedd.  Mae gorffennu gwallt gan ddefnyddio cyfarpar steilio twym hefyd yn ofynnol.  Bydd angen medrusrwydd corfforol ar raddfa uchel er mwyn gallu gweithio ar wahanol hyd gwallt.

Er mwyn gweithredu'r safon hon bydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith.  Bydd rhaid ichi hefyd gynnal a chadw ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.

Prif ddeilliannau'r safon hon yw:

  1. cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth steilio a gorffennu gwallt

  2. chwythsychu gwallt i siâp

  3. sychu gwallt i siâp gyda'r bysedd

  4. gorffennu gwallt


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth steilio a gorffennu gwallt


*

  1. cynnal a chadw eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch drwy gydol y gwasanaeth

  2. paratoi eich cleient er mwyn bodloni gofynion y salon

  3. diogelu dillad eich cleient drwy gydol y gwasanaeth

  4. gosod eich cleient mewn safle sy'n bodloni angen y gwasanaeth heb iddyn nhw fod yn anghysurus

  5. sicrhau bod eich osgo a'ch safle chi eich hun wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf

  6. defnyddio dulliau gweithio sy'n:

6.1 lleihau gwastraff cynhyrchion

6.2 lleihau'r risg o ddifrod i offer, cyfarpar a chyfarpar steilio twym

6.3 lleihau'r risg o groes-heintiad **

6.4 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio

6.5 sicrhau'r defnydd o adnoddau glân

6.6 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hun ac eraill

6.7 hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

  1. sicrhau bod eich hylendid, eich diogelwch a'ch ymddangosiad personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

  2. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion

  3. gwared defnyddiau gwastraff

  4. cwblhau'r gwasanaeth o fewn amser masnachol ymarferol

Chwythsychu gwallt i si*â*p

  1. taenu cynhyrchion addas, pan fydd y rhain yn cael eu defnyddio, gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr

  2. rheoli eich offer steilio er mwyn lleihau'r risg o niwed i hyd y gwallt, anghysur y cleient ac er mwyn creu'r olwg a ddymunir  

  3. cymryd adrannau o wallt sy'n addas i faint yr offer steilio

  4. cynnal a chadw tyndra cyfartal drwy gydol y broses chwythsychu

  5. cadw'r gwallt yn llaith drwy gydol y broses chwythsychu

  6. profi tymheredd y cyfarpar steilio gwallt drwy gydol y gwasanaeth

  7. rheoli hyd y gwallt yn ystod y broses chwythsychu gan roi ystyriaeth i ffactorau sy'n dylanwadu ar y gwasanaeth

  8. defnyddio offer a chyfarpar mewn ffordd sy'n creu'r gorffeniad a ddymunir wrth chwythsychu.

Sychu gwallt i si*âp gyda'r bysedd*

  1. taenu cynhyrchion addas, pan fydd y rhain yn cael eu defnyddio, gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr

  2. cadw'r gwallt yn llaith drwy gydol y broses steilio

  3. rheoli'r gwallt *yn ystod y broses steilio gan roi ystyriaeth i *ffactorau sy'n dylanwadu ar y gwasanaeth

  4. gwneud yn siŵr bod sychu gyda'r bysedd yn sicrhau'r cyfeiriad, y cyfaint a'r cydbwysedd ar gyfer yr olwg a ddymunir

Gorffennu gwallt

  1. pan fydd angen gwneud hynny, defnyddio cyfarpar steilio twym sydd ar y tymheredd cywir ar gyfer gwallt eich cleient a'r olwg a ddymunir

  2. rheoli eich defnydd o gyfarpar steilio twym, pan fydd hwnnw'n cael ei ddefnyddio, er mwyn lleihau'r risg o niweidio'r gwallt a'r croen pen, anghysur y cleient ac er mwyn creu'r olwg a ddymunir  

  3. cymryd adrannau o wallt sy'n addas i faint yr offer steilio twym pan fydd hwnnw'n cael ei ddefnyddio

  4. defnyddio technegau ôl-gribo ac ôl-frwsio, pan fydd angen, er mwyn creu'r olwg a ddymunir

  5. taenu a defnyddio cynhyrchion addas, pan fydd angen, er mwyn bodloni cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr

  6. sicrhau bod yr olwg orffenedig yn rhoi ystyriaeth i ffactorau steilio perthnasol sy'n dylanwadu ar y gwasanaeth

  7. sicrhau bod yr olwg orffenedig yn bodloni'r siâp, cyfeiriad, cydbwysedd a'r cyfaint arfaethedig a gytunwyd gyda'ch cleient

  8. cadarnhau bod y cleient yn fodlon â'r olwg orffenedig

  9. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarperir.


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth steilio a gorffennu gwallt


*

  1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd

  2. y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadawy

  3. gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient

  4. y mathau o ddillad gwarchod a ddylai fod ar gael i gleientiaid

  5. beth yw dermatitis cyffwrdd a sut i osgoi ei ddal wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau steilio a gorffennu

  6. sut y gall safle eich cleient a chi eich hun gael effaith ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf

  7. pam ei bod yn bwysig osgoi croes-heintiad a phla

  8. pam ei bod yn bwysig cadw eich ardal waith yn lân a thaclus

  9. y defnydd a'r dull cynnal a chadw cywir mewn perthynas ag offer a chyfarpar

  10. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio a ddefnyddir mewn salonau

  11. dulliau gweithio'n ddiogel ac yn lanwaith ac sy'n lleihau'r risg o groes-heintiad a thraws-bla

  12. y peryglon a'r risgiau sy'n bod yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel sy'n rhaid i chi eu dilyn

  13. cyfarwyddiadau'r cyflenwyr a'r gwneuthurwyr ar gyfer gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion y mae'n rhaid i chi eu dilyn

  14. pam ei bod yn bwysig archwilio cyfarpar trydanol a ddefnyddir i gynorthwyo gyda'r prosesau steilio a gorffennu

  15. pwysigrwydd hylendid a hunan-gyflwyniad personol er mwyn cynnal a chadw iechyd a diogelwch yn eich gweithle

  16. y dulliau cywir o wared gwastraff

  17. amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer steilio a gorffennu gwallt

Chwythsychu a sychu gwallt i si*â*p gyda'r bysedd

  1. pam y dylid cadw gwallt yn llaith yn ystod y broses chwythsychu neu sychu gyda'r bysedd

  2. effeithiau lleithder ar wallt

  3. effeithiau corfforol y prosesau chwythsychu, sychu gyda'r bysedd a steilio twym ar ffurfiant y gwallt

  4. y mathau o gynhyrchion a'r cyfarpar a ddefnyddir i steilio a gorffennu gwallt

  5. cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr ar sut i ddefnyddio'r cynhyrchion steilio a gorffennu penodol yn eich salon

  6. pam a sut i ddefnyddio'r gwahanol fathau o:

23.1 frwsis steilio wrth chwythsychu

23.2 atodion wrth chwythsychu

23.3 cyfarpar steilio twym wrth steilio a gorffennu

23.4 cynhyrchion a phryd i'w gosod

  1. technegau cyfredol ar gyfer chwythsychu, sychu gyda'r bysedd a gorffennu gwallt

  2. sut y mae gwahanol ffactorau yn cael effaith ar y broses steilio a'r olwg orffenedig

  3. sut i reoli gwahanol hyd gwallt wrth steilio'r gwallt

  4. sut y bydd canlyniad terfynol chwythsychu yn cael ei effeithio gan:

27.1 tyndra

27.2 maint y rhwyll gwallt

27.3 maint y brwsh

27.4 ongl dal y brwsh

27.5 peidio gadael i'r gwallt oeri cyn tynnu'r rhwyll gwallt oddi ar y brwsh

  1. pam bod cyfeiriad y llif awyr wrth sychu yn bwysig er mwyn creu'r olwg a ddymunir

  2. pam bod angen rhannu'r gwallt yn adrannau ar gyfer steilio

  3. sut y mae maint yr adran ac ongl dal y gwallt wrth sychu yn dylanwadu ar y cyfaint a chyfeiriad symudiad y gwallt 

  4. yr effeithiau y gellir eu cael drwy gyrlio ar ac oddi ar y bôn

Gorffennu gwallt


*

  1. pam y dylid addasu tymheredd y cyfarpar i siwtio gwahanol fathau o wallt

  2. sut y mae defnyddio gwres yn anghywir yn gallu mennu ar y gwallt a'r croen pen

  3. pam y dylid gadael i'r gwallt oeri cyn gorffennu

  4. pryd a sut i ddefnyddio gwahanol dechnegau ôl-gribo ac ôl-frwsio er mwyn creu'r olwg a ddymunir

  5. pwysigrwydd rhoi cyngor ac argymhellion ar y cynhyrchion a'r gwasanaethau a ddarperir yn y salon


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Cynhyrchion

* *

1.1 gwarchodwyr gwres

1.2 chwistrellau

1.3 mŵs

1.4 hufennau

1.5 geliau

1.6 sera

1.7 cwyr

2. Cyfarpar steilio twym

* *

2.1 sythwyr

2.2 gefeiliau

3. Hyd gwallt

* *

3.1 uwchlaw'r ysgwydd

3.2 islaw'r ysgwydd

3.3 un hyd

3.4 haenog

4. Offer a chyfarpar

4.1 sychwr llaw

4.2 atodion

4.3 brwsh crwn

4.4 brwsh fflat

5. Ffactorau

* *

5.1 nodweddion gwallt

5.2 dosbarthiadau gwallt

5.3 toriad gwallt

5.4 patrymau tyfiant gwallt

5.5 siâp pen ac wyneb

6. Gorffeniad Chwythsychu

* *

6.1 sythu

6.2 llyfnhau

6.3 creu cyfaint

6.4 creu symudiad

6.5 creu cwrl

7. Cyngor ac argymhellion

7.1 sut i gynnal a chadw eu golwg

7.2 cyfnod amser rhwng gwasanaethau

7.3 cynhyrchion a gwasanaethau cyfredol ac i'r dyfodol


Gwybodaeth Cwmpas

1. Iechyd a Diogelwch

Eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd

1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario

1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd

1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)

2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

2.1 lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)

2.2 lleihau'r defnydd o ynni (sychwyr gwallt ynni-effeithlon, golau rhad-ar-ynni, defnyddio paneli solar)

2.3 lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill

2.4 atal llygredd

2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tywelion hawdd eu sychu)

2.6 defnyddio dodrefn ecogyfeillgar wedi'u hailgylchu

2.7 defnyddio paent cemegau isel

2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a rhydd o alergedd

2.9 defnyddio lliwyddion gwallt amonia isel iawn

2.10 defnyddio deunydd pacio cynnyrch ecogyfeillgar

2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

2.12 annog teithiau lleihau carbon i'r gwaith

3. Ffactorau

sut mae gwahanol ffactorau yn cael effaith ar y broses steilio a'r olwg orffenedig

3.1 nodweddion gwallt

3.2 dosbarthiadau gwallt

3.3 toriad gwallt

3.4 patrymau tyfiant gwallt

3.5 siâp pen ac wyneb


*

4. Cyngor ac argymhellion


*

4.1 gwasanaethau ychwanegol

4.2 cynhyrchion ychwanegol


Gwerthoedd

  1. Mae'r Gwerthoedd Allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr:

1.1 parodrwydd i ddysgu

1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser masnachol ymarferol

1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd

1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

1.5 agwedd hyblyg tuag at waith

1.6 gweithiwr tîm

1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid

1.8 agwedd gadarnhaol

1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol

1.10 y gallu i hunan-reoli

1.11 sgiliau creadigrwydd

1.12 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau ardderchog

1.13 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel

1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn defnyddio cyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel


Ymddygiadau

​1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr.  Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd

1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon

1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar

1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddi/iddo deimlo'n werthfawr ac yn barchus

1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient

1.5 trin y cleient mewn ffordd gwrtais a gwasanaethgar ar bob adeg

1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i chadw/gadw'n gysurlon

1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiad cleientiaid gwahanol

1.8 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth

1.9 dewis y ffordd fwyaf priodol o gyfathrebu gyda'r cleient

1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall ei disgwyliadau /ddisgwyliadau yn llwyr

1.11 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

1.12 rhoi amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi esboniad pellach pan fydd hynny'n briodol

1.13 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient

1.14 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon

1.15 adnabod gwybodaeth all fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio a yw hi/e yn ei deall yn llwyr

1.16 esbonio'n glir wrth y cleientiaid unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau


Sgiliau


Geirfa

1. Dosbarthiad Gwallt (canllaw yn unig yw hwn)

Math 1 – Gwallt syth

1.1 Ffein/Tenau – y gwallt yn tueddu bod yn sidanaidd iawn, yn sgleiniog a seimlyd, a gall fod yn anodd dal cyrlen.

1.2 Canolig – llawer o cyfaint a swmp yn perthyn i'r gwallt

1.3 Bras – y gwallt fel arfer yn syth dros ben ac yn anodd ei gyrlio.

Math 2 – Gwallt tonnog

2.1 Ffein/Tenau – patrwm "S" pendant i'r gwallt.  Fel arfer gall ddal gwahanol steiliau.

2.2 Canolig – y gwallt yn tueddu bod yn grych ac ychydig yn ymwrthol wrth Steilio.

2.3 Bras – y gwallt hwn hefyd yn ymwrthol wrth ei steilio ac yn grych iawn fel arfer; y tonnau'n tueddu bod yn fwy trwchus.

Math 3 – Gwallt cyrliog

3.1 Cwrls llac – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt.  Gall fod yn drwchus a llawn ac yn swmpus, ac iddo batrwm "S" pendant.  Mae hefyd yn tueddu bod yn grych.

3.2 Cwrls tynn – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt hyn hefyd; ynghyd â maint cymedrol o gwrls.

Math 4 – Gwallt cyrliog iawn

4.1 Sidanaidd – y gwallt yn tueddu bod yn frau iawn, yn dorchau tynn ac iddo batrwm cyrliog mwy diffiniedig. 

4.2 Gwrychog – hefyd yn frau iawn ac yn dorchau tynn; er hynny mae iddo batrwm cyrliog llai diffiniedig – mwy o siâp patrwm "Z".

  1. Mae Nodweddion Gwallt yn cynnwys y canlynol: * *

2.1 trwch gwallt

2.2 ansawdd gwallt

2.3 elastigedd gwallt

2.4 mandylledd gwallt

2.5 cyflwr gwallt

2.6 patrymau tyfiant gwallt


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAGH10

Galwedigaethau Perthnasol

Mentrau mân-werthu a masnachol, Mentrau Gwasanaeth, Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

steil; gorffeniad