Cynllunio a chreu patrymau yn y gwallt

URN: SKACB9
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt,Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â'r defnydd artistig o amrywiaeth eang o dechnegau torri i greu cynlluniau dau a thri dimensiwn wrth dorri gwallt. Mae'r gallu i dorri cynlluniau 3D darluniadol, ailadroddus a chynlluniau cymesur yn ofynnol ar gyfer y safon hon.

I gyflawni'r safon hon, bydd angen i chi gynnal lefel uchel o iechyd, diogelwch a hylendid trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu da.

Dyma brif ganlyniadau'r safon hon:

  1. cynnal dulliau gweithio effeithiol a diogel wrth greu cynlluniau yn y gwallt

  2. cynllunio a chytuno ar gynlluniau patrymau gwallt

  3. creu patrymau yn y gwallt


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal dulliau gweithio effeithio a diogel wrth greu cynlluniau yn y gwallt

  1. cynnal eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth

  2. paratoi eich cleient yn unol â gofynion y salon

  3. gwarchod dillad eich cleient trwy gydol y gwasanaeth

  4. sicrhau nad oes gormod o doriadau gwallt yn mynd ar groen eich cleient yn ystod y gwasanaeth

  5. gosod eich cleient yn unol â gofynion y gwasanaeth heb achosi unrhyw anghysur iddo

  6. sicrhau bod eich ystum a'ch osgo eich hun wrth weithio yn achosi cyn lleied o flinder a risg o anaf â phosibl

  7. cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus trwy gydol y gwasanaeth

  8. defnyddio dulliau gweithio sy'n:

8.1 lleihau'r risg o ddifrod i offer a chyfarpar

8.2 sicrhau bod menig yn cael eu gwisgo wrth ddefnyddio raseli

8.3 lleihau'r risg o groes-heintiad

8.4 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio

8.5 sicrhau bod adnoddau glân yn cael eu defnyddio

8.6 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi'ch hun ac i eraill

8.7 hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

  1. sicrhau bod eich hylendid, diogelwch ac ymddangosiad personol yn bodloni gofynion safonol y diwydiant a'r sefydliad

  2. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o offer, defnyddiau a chynhyrchion

  3. cael gwared ar ddefnyddiau gwastraff ac offer miniog

  4. cwblhau'r gwasanaeth mewn amser sy'n fasnachol ymarferol

Cynllunio a chytuno ar gynlluniau patrymau gwallt

  1. ymchwilio i a chynnal portffolio o gynlluniau sy'n addas i'w defnyddio gyda'ch cleientiaid

  2. archwilio amrywiaeth o gynlluniau posibl gyda'ch cleient gan ddefnyddio cymhorthion gweledol perthnasol

  3. rhoi amser ac anogaeth i'ch cleient fynegi'i syniadau ei hun ar y cynllun a'r ddelwedd y mae'n dymuno'i chreu

  4. sicrhau bod eich cleient yn ymwybodol o beth fydd y gwasanaeth y cytunir arno yn ei olygu a'i hyd tebygol

  5. cadarnhau eich bod wedi deall gofynion eich cleient

  6. seilio'ch argymhellion ar werthusiad cywir o wallt eich cleient a'r potensial i'r cynllun gael ei gyflawni

  7. argymell gwedd sy'n addas ar gyfer y ddelwedd sydd gan eich cleient mewn golwg

  8. creu cynllun gyda'ch cleient sy'n ystyried ffactorau sy'n dylanwadu ar y gwasanaeth

  9. cytuno ar ganlyniadau i'r gwasanaethau a chostau tebygol sy'n dderbyniol i'ch cleient ac yn bodloni'i ofynion


*

Creu patrymau yn y gwallt

  1. brwsio neu gribo gwallt eich cleient i gyfeiriad y tyfiant naturiol trwy gydol y gwasanaeth  

  2. gosod y cynllun yn unol â'r cynllun y cytunwyd arno

  3. addasu'r hyd a'r lled i weddu i faint a siâp pen eich cleient, ynghyd â'r toriad gwallt cyfredol

  4. defnyddio ac addasu technegau torri er mwyn cyflawni diffiniad, siâp a dyfnder y cynllun gofynnol

  5. cyfuno'ch technegau torri mewn ffordd arloesol er mwyn cyflawni'r cynllun gofynnol

  6. newid eich osgo chi ac osgo'ch cleient er mwyn eich helpu i sicrhau bod y toriad yn gywir

  7. trafod â'ch cleient yn ystod y broses dorri er mwyn cadarnhau'r cynllun

  8. cymryd camau priodol i ddatrys unrhyw broblemau sy'n codi yn ystod y broses dorri

  9. sicrhau bod y wedd orffenedig yn unol â'r cynllun y cytunwyd arno â'ch cleient

  10. cadarnhau bod eich cleient yn fodlon ar y wedd orffenedig

  11. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarparwyd


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal dulliau gweithio effeithiol a diogel wrth greu cynlluniau yn y gwallt


*

  1. eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch fel y cânt eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â'ch swydd

  2. gofynion eich salon ar gyfer paratoi cleientiaid

  3. y dewis o ddillad gwarchod a ddylai fod ar gael ar gyfer cleientiaid

  4. pam y mae'n bwysig gwarchod cleientiaid rhag toriadau gwallt

  5. sut y gall osgo'ch cleient a chithau effeithio ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf

  6. yr ystyriaethau diogelwch y mae'n rhaid talu sylw iddynt wrth dorri gwallt

  7. pam y mae'n bwysig gwisgo menig tafladwy wrth ddefnyddio rasel

  8. pam y mae'n bwysig osgoi croes-heintiad a chroes-heigiad

  9. pam y mae'n bwysig cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus

  10. sut i ddefnyddio a chynnal a chadw offer a chyfarpar torri yn gywir

  11. y dulliau o lanhau, diheintio a sterileiddio a ddefnyddir mewn salonau

  12. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn

  13. y mathau gwahanol o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

  14. pwysigrwydd hylendid, diogelwch ac ymddangosiad personol i gynnal iechyd a diogelwch yn eich gweithle

  15. cyfarwyddiadau cyflenwyr a gwneuthurwyr y mae'n rhaid i chi eu dilyn er mwyn gwneud defnydd diogel o offer, defnyddiau a chynhyrchion    

  16. y dulliau cywir o gael gwared ar wastraff  

  17. amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer cynllunio a chreu patrymau yn y gwallt


*

**Cynllunio a chytuno ar gynlluniau patrymau gwallt

**

  1. ffynonellau addas o wybodaeth a syniadau cynllunio a sut i'w cyrchu

  2. sut i gyflwyno gwybodaeth ac argymhellion ar gynlluniau yn eglur i'ch cleient

  3. pwysigrwydd sicrhau bod y cleient yn ymwybodol o'r hyn y bydd y gwasanaeth y cytunwyd arno yn ei olygu a beth fydd ei gost a'i hyd tebygol

  4. egwyddorion sylfaenol cynllunio, graddfa a chyfrannedd

  5. sut i fwyhau a lleihau cynlluniau i weddu i siapiau pen gwahanol

  6. y posibiliadau a'r cyfyngiadau cynllunio wrth weithio ar wallt

  7. dulliau o baratoi'r gwallt cyn creu cynlluniau

  8. y mathau o doriadau gwallt sy'n ffurfio sail addas ar gyfer cynlluniau gwallt

  9. y ffactorau gwahanol y mae'n rhaid eu hystyried cyn clipio a thorri, a sut y gall y rhain effeithio ar y cynlluniau

  10. faint y mae gwallt yn tyfu ar gyfartaledd

  11. effeithiau torri'n agos at y croen yn rheolaidd

  12. risg posibl o flew yn tyfu i'r byw o ganlyniad i dorri'n agos at y croen yn rheolaidd


*

**Creu patrymau yn y gwallt

**

  1. pryd a sut i ddefnyddio technegau torri gwahanol wrth greu cynlluniau yn y gwallt

  2. technegau ar gyfer creu patrymau cymesur cywir

  3. sut i addasu'ch technegau torri i greu patrymau 2 ddimensiwn (2D) a 3 dimensiwn (3D)

  4. technegau ar gyfer creu cynlluniau cadarnhaol a negyddol

  5. pwysigrwydd edrych ar y toriad i'w wirio

  6. sut i wirio'r cynllun, y patrwm a'r toriad trwy edrych arnynt

  7. sut i lefelu a phrofi clipwyr

  8. y mathau o glipwyr, llafnau clipwyr ac ategolion sydd ar gael a'r effeithiau mae'r rhain yn eu cyflawni

  9. y mathau o broblemau sy'n gallu codi wrth dorri cynlluniau mewn gwallt a'r ffyrdd y gall y rhain gael eu datrys, os yn bosibl

  10. pwysigrwydd darparu cyngor ac argymhellion ar y cynhyrchion a'r gwasanaethau a gynigir yn y salon


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Offer a chyfarpar


*

1.1 sisyrnau

1.2 clipwyr

1.3 trimwyr

1.4 raseli


*

2. Cynllun

2.1 **2D

2.2 3D

2.3 darluniadol

2.4 cymesur

3. Ffactorau


*

3.1 y dosbarthiadau o walltiau

3.2 nodweddion gwallt

3.3 siâp y pen a'r wyneb

3.4 hyd y gwallt

3.5 steil y gwallt

3.6 presenoldeb patrwm moelni dynion

3.7 cyflyrau croen anffafriol

3.8 creithio

4. Hyd a lled

4.1 dros y pen cyfan

4.2 dros ran o'r pen


*

5. Technegau torri


*

5.1 clipiwr dros grib

5.2 siswrn dros grib

5.3 defnyddio rasel

5.4 llawrydd

5.5 pylu

6. Cyngor ac argymhellion

6.1 sut i gynnal y wedd

6.2 yr ysbaid rhwng gwasanaethau

6.3 cynhyrchion a gwasanaethau cyfredol ac yn y dyfodol


Gwybodaeth Cwmpas

1. Iechyd a diogelwch

eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch fel y cânt eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â'ch swydd

1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.2 Rheoliadau Cofnodi Anafiadau, Afiechydon a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Trafod â Llaw

1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd

1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle

1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)

2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

y mathau gwahanol o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

2.1 lleihau a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)

2.2 lleihau'r defnydd o ynni (sychwyr gwallt sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)

2.3 lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill

2.4 atal llygredd

2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tywelion sy'n sychu'n hawdd)

2.6 defnyddio dodrefn wedi'i ailgylchu, ecogyfeillgar

2.7 defnyddio paent heb lawer o gemegion ynddo

2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a di-alergedd

2.9 defnyddio lliwyddion gwallt heb fawr ddim amonia ynddynt

2.10 defnyddio defnyddiau pacio cyfeillgar i'r amgylchedd  

2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

2.12 annog defnyddio llai o garbon wrth deithio i'r gwaith

3. Ffactorau

y ffactorau gwahanol y mae'n rhaid eu hystyried cyn ac yn ystod torri, a sut y gall y rhain effeithio ar y gwasanaeth torri

3.1 nodweddion gwallt

3.2 y dosbarthiadau o walltiau

3.3 siâp y pen a'r wyneb

3.4 hyd y gwallt

3.5 steil y gwallt

3.6 presenoldeb patrwm moelni dynion

3.7 cyflyrau croen anffafriol

3.8 creithio

4. Cyngor ac argymhellion

* *

4.1 gwasanaethau ychwanegol

4.2 cynhyrchion ychwanegol


Gwerthoedd

​1. Mae'r gwerthoedd allweddol canlynol wrth wraidd darparu gwasanaethau yn y sector gwallt a barbro:

1.1 parodrwydd i ddysgu

1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol

1.3 bodloni gofynion ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant

1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion y diwydiant a'r sefydliad

1.5 agwedd hyblyg at waith

1.6 gweithiwr tîm

1.7 cynnal gofal cwsmer

1.8 agwedd gadarnhaol

1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol

1.10 y gallu i hunanreoli

1.11 sgiliau creadigol

1.12 sgiliau cyfathrebu llafar a dieiriau rhagorol

1.13 cynnal dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel 

1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion


Ymddygiadau

  1. Mae'r ymddygiadau canlynol wrth wraidd darparu gwasanaethau yn y sector gwallt a barbro. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn:

1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon

1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar

1.3 cyfathrebu â'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddo deimlo'i fod yn cael ei werthfawrogi a'i barchu

1.4 nodi a chadarnhau disgwyliadau'r cleient

1.5 trin y cleient yn foneddigaidd ac yn gymwynasgar bob amser

1.6 rhoi gwybodaeth a sicrwydd cyson i'r cleient

1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiadau gwahanol gan gleientiaid

1.8 ymateb yn ddi-oed i gleient sy'n holi am gymorth

1.9 dewis y ffordd fwyaf addas o gyfathrebu â'r cleient

1.10 gwirio gyda'r cleient eich bod wedi deall ei ddisgwyliadau'n llwyr

1.11 ymateb yn ddi-oed ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

1.12 caniatáu amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi eglurhad ychwanegol pan fo'n addas

1.13 bod yn gyflym wrth ddod o hyd i wybodaeth a fydd o gymorth i'r cleient

1.14 rhoi i'r cleient yr wybodaeth y mae arno ei hangen ynglŷn â'r gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon

1.15 bod yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth a allai fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio ei fod wedi'i deall yn iawn

1.16 os bydd unrhyw resymau pam na ellir bodloni gofynion neu ddisgwyliadau'r cleient, dylid eu hesbonio'n glir wrtho


Sgiliau


Geirfa

1. Y dosbarthiadau o walltiau (canllaw yn unig yw hwn)

Math 1 – Gwallt syth

1.1 Main/Tenau – mae'r gwallt yn tueddu i fod yn feddal iawn, yn sgleiniog ac yn olewog, a gall fod yn anodd cynnal cyrlen ynddo.

1.2 Canolig – mae gan y gwallt lawer o gyfaint.

1.3 Bras – mae'r gwallt fel arfer yn hynod o syth ac mae'n anodd rhoi cyrls ynddo.

Math 2 – Gwallt tonnog

2.1 Main/Tenau – mae yna batrwm "S" pendant i'r gwallt. Gellir ei steilio mewn sawl ffordd fel arfer.

2.2 Canolig – mae'r gwallt yn tueddu i fod yn grychlyd ac yn anodd ei steilio.

2.3 Bras – mae hwn hefyd yn wallt sy'n anodd ei steilio ac fel arfer yn grychlyd iawn; mae'r tonnau'n tueddu i fod yn fwy trwchus.

Math 3 – Gwallt cyrliog

3.1 Cyrls rhydd – mae gweadedd y gwallt yn gyfuniad o fathau gwahanol. Gall fod yn drwchus gyda llawer o gyfaint a phatrwm "S" pendant. Mae hefyd yn tueddu i fod yn grychlyd.

3.2 Cyrls tyn – mae gweadedd hwn hefyd yn gyfuniad o fathau gwahanol o walltiau, ac mae iddo swm cymedrol o gyrls.

Math 4 – Gwallt cyrliog iawn

4.1 Meddal – mae'r gwallt yn tueddu i fod yn fregus iawn, yn dorchau tyn, ac mae iddo batrwm cyrliog mwy pendant.

4.2 Gwrychog – mae hwn hefyd yn fregus iawn ac yn dorchau tyn; fodd bynnag, nid yw'r patrwm cyrliog mor bendant – mae'n debycach i siâp patrwm "Z".

  1. Mae nodweddion gwallt yn cynnwys y canlynol:

2.1 trwch y gwallt

2.2 gweadedd y gwallt

2.3 elastigedd y gwallt

2.4 mandylledd y gwallt

2.5 cyflwr y gwallt

2.6 patrymau tyfiant gwallt


*

3. Trimwyr

3.1 clipwyr bychain gyda llafnau llai er mwyn creu toriad agosach, mannach sydd â mwy o ddiffiniad a manylion

2D   cynllun fflat dau arlliw nad oes iddo ddyfnder o reidrwydd

3D    y defnydd o raddoli ac amgyffrediad o bell ac agos


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAAH35

Galwedigaethau Perthnasol

Mentrau mân-werthu a masnachol, Mentrau Gwasanaeth, Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Barbro; patrymau, eillio; 2D; 3D