Cynllunio a chreu amrywiaeth o siapiau i flew’r wyneb
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag ailgynllunio a thorri neu ailsiapio barfau a mwstashis. I gyrraedd y safon hon, bydd angen gallu creu siapiau mwstashis yn unig a barfau llawn a rhannol gyda mwstashis gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau torri.
I gyflawni'r safon hon, bydd angen i chi gynnal lefel uchel o iechyd, diogelwch a hylendid trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu da.
Dyma brif ganlyniadau'r safon hon:
cynnal dulliau gweithio effeithiol a diogel wrth dorri blew'r wyneb
creu amrywiaeth o siapiau i flew'r wyneb
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal dulliau gweithio effeithiol a diogel wrth dorri blew'r wyneb
*
*
cynnal eich cyfrifoldeb am iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth
paratoi eich cleient yn unol â gofynion y salon
gwarchod dillad eich cleient trwy gydol y gwasanaeth
sicrhau nad oes gormod o doriadau gwallt yn mynd ar groen eich cleient yn ystod y gwasanaeth
gosod eich cleient yn unol â gofynion y gwasanaeth heb achosi unrhyw anghysur iddo
sicrhau bod eich ystum a'ch osgo eich hun wrth weithio yn achosi cyn lleied o flinder a risg o anaf â phosibl
cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus trwy gydol y gwasanaeth
defnyddio dulliau gweithio sy'n:
8.1 lleihau'r risg o ddifrod i offer a chyfarpar
8.2 lleihau'r risg o groes-heintiad
8.3 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio
8.4 sicrhau bod adnoddau glân yn cael eu defnyddio
8.5 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi'ch hun ac i eraill
8.6 hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
sicrhau bod eich hylendid , diogelwch ac ymddangosiad personol yn bodloni gofynion safonol y diwydiant a'r sefydliad
dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o offer, defnyddiau a chynhyrchion
cael gwared ar ddefnyddiau gwastraff
cwblhau'r gwasanaeth mewn amser sy'n fasnachol ymarferol
Creu amrywiaeth o siapiau i flew'r wyneb
nodi ffactorau a all ddylanwadu ar y gwasanaeth cyn torri
archwilio'r amrywiaeth o siapiau newydd i flew'r wyneb gyda'ch cleient, gan ddefnyddio cymhorthion gweledol perthnasol
argymell gwedd newydd sy'n addas ar gyfer siâp pen ac wyneb eich cleient
seilio'ch argymhelliad ar werthusiad cywir o flew wyneb eich cleient a'i botensial i gyflawni'r wedd newydd
paratoi blew wyneb eich cleient cyn y gwasanaeth
cadarnhau gyda'ch cleient y wedd newydd y cytunwyd arni yn y drafodaeth ac yn ystod y gwasanaeth
creu a dilyn y canllaw(iau) torri er mwyn cyflawni'r wedd a ddymunir
personoli'ch technegau torri i ystyried ffactorau a fydd yn dylanwadu ar y wedd a ddymunir
croeswirio'r toriad er mwyn sicrhau cydbwysedd a siâp
newid eich osgo chi ac osgo'ch cleient er mwyn eich helpu i sicrhau bod y toriad yn gywir
gweithredu i ddatrys unrhyw broblemau sy'n codi yn ystod y gwasanaeth torri
creu amlinellau i flew'r wyneb sy'n gywir, wedi'u diffinio'n eglur ac yn cyflawni'r wedd sy'n ofynnol gan eich cleient
cael gwared ar unrhyw flew dieisiau y tu allan i'r siâp amlinellol a ddymunir
sicrhau bod y wedd orffenedig o drwch gwastad trwy'r siâp
gwneud archwiliad gweledol terfynol er mwyn sicrhau bod y toriad a'r amlinellau gorffenedig yn gywir
cadarnhau bod eich cleient yn fodlon ar y wedd orffenedig
rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarparwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal dulliau gweithio effeithiol a diogel wrth dorri blew'r wyneb
*
*
eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch fel y cânt eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â'ch swydd
gofynion eich salon ar gyfer paratoi cleientiaid
y dewis o ddillad gwarchod a ddylai fod ar gael ar gyfer cleientiaid
pwysigrwydd defnyddio'r math cywir o gadair barbwr
pam y mae'n bwysig gwarchod cleientiaid rhag toriadau gwallt
sut y gall osgo'ch cleient a chithau effeithio ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf
pam y mae'n bwysig cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus
sut i ddefnyddio a chynnal a chadw offer torri yn gywir
pam y mae'n bwysig osgoi croes-heintiad a chroes-heigiad 10. y dulliau o weithio'n ddiogel ac yn hylan sy'n lleihau'r risg o groes-heintiad a chroes-heigiad
y dulliau o lanhau, diheintio a sterileiddio a ddefnyddir mewn salonau
y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn
y mathau gwahanol o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
pwysigrwydd hylendid, diogelwch ac ymddangosiad personol i gynnal iechyd a diogelwch yn eich gweithle
cyfarwyddiadau'r cyflenwyr a'r gwneuthurwyr y mae'n rhaid i chi eu dilyn er mwyn gwneud defnydd diogel o offer, defnyddiau a chynhyrchion
y dulliau cywir o gael gwared ar wastraff
amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer torri blew'r wyneb
*
*
Creu amrywiaeth o siapiau blew'r wyneb
*
*
pwysigrwydd trafod â chleientiaid trwy gydol y gwasanaeth
sut y mae ffactorau gwahanol yn gallu cael effaith ar flew'r wyneb cyn ac yn ystod y toriad
pwysigrwydd archwilio a chadarnhau'r gweddau gyda'r cleient gan ddefnyddio cymhorthion gweledol perthnasol
sut i gydweddu siapiau a steiliau barfau i nodweddion yr wyneb
pwysigrwydd ystyried amlinellau'r wyneb wrth gynllunio siapiau barfau newydd
y mathau o siapiau blew wyneb traddodiadol a chyfredol sydd ar gael
sut i dorri blew'r wyneb gan ddefnyddio technegau torri gwahanol
y rhesymau dros sefydlu a dilyn canllawiau
sut i greu a dilyn canllawiau ar gyfer gwedd newydd
y risg posibl o flew yn tyfu i'r byw o ganlyniad i dorri blew cyrliog yn agos yn rheolaidd
sut i bersonoli technegau torri
pwysigrwydd croeswirio'r toriad i flew'r wyneb
pwysigrwydd ystyried dosbarthiad y pwysau a gweithio gyda phatrymau tyfiant naturiol blew'r wyneb
sut i lefelu a phrofi clipwyr
maint y clipwyr, llafnau clipwyr ac ategolion sydd ar gael, ynghyd â'u math, a'r effeithiau y maent yn eu cyflawni
y mathau o broblemau sy'n gallu digwydd wrth dorri blew'r wyneb a ffyrdd y gellir eu cywiro, os yn bosibl
pwysigrwydd darparu cyngor ac argymhellion ar y cynhyrchion a'r gwasanaethau a ddarperir yn y salon
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Offer a chyfarpar
1.1 sisyrnau
1.2 trimwyr
1.3 clipwyr
2. Ffactorau
2.1 siâp y pen a'r wyneb
2.2 nodweddion gwallt
2.3 y dosbarthiadau o walltiau
2.4 steil y gwallt
2.5 cyflyrau croen anffafriol
2.6 tyllau cosmetig i'r wyneb
2.7 dymuniadau'r cleient
2.8 blew yn tyfu i'r byw
2.9 elastigedd y croen
3. Gwedd
3.1 mwstash yn unig
3.2 barf rannol a mwstash
3.3 barf lawn a mwstash
4. Technegau torri
4.1 siswrn dros y grib
4.2 clipiwr dros y grib
4.3 llawrydd
4.4 pylu
**
- Cyngor ac argymhellion**
5.1 sut i gynnal y wedd
5.2 yr ysbaid rhwng gwasanaethau
5.3 gwasanaethau ychwanegol
5.4 cynhyrchion ychwanegol
5.5 cyfarpar
5.6 digennu (exfoliate)
Gwybodaeth Cwmpas
1. Iechyd a diogelwch
eich cyfrifoldeb am iechyd a diogelwch fel y cânt eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â'ch swydd
1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.2 Rheoliadau Cofnodi Anafiadau, Afiechydon a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Trafod â Llaw
1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd
1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle
1.10Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)
2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
y mathau gwahanol o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
2.1 lleihau a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)
2.2 lleihau'r defnydd o ynni (sychwyr gwallt sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)
2.3 lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill
2.4 atal llygredd
2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tywelion sy'n sychu'n hawdd)
2.6 defnyddio dodrefn wedi'i ailgylchu, ecogyfeillgar
2.7 defnyddio paent heb lawer o gemegion ynddo
2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a di-alergedd
2.9 defnyddio lliwyddion gwallt heb fawr ddim amonia ynddynt
2.10 defnyddio defnyddiau pacio cyfeillgar i'r amgylchedd
2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
2.12 annog defnyddio llai o garbon wrth deithio i'r gwaith
3. Ffactorau
y ffactorau gwahanol y mae'n rhaid eu hystyried cyn ac yn ystod torri, a sut y gall y rhain effeithio ar y gwasanaeth torri
3.1 nodweddion gwallt
3.2 y dosbarthiadau o walltiau
3.3 siâp y pen a'r wyneb
3.4 steil y gwallt
3.5 cyflyrau croen anffafriol
3.6 tyllau cosmetig i'r wyneb
3.7 dymuniadau'r cleient
3.8 blew yn tyfu i'r byw
3.9 elastigedd y croen
4. Cyngor ac argymhellion
*
*
4.1 gwasanaethau ychwanegol
4.2 cynhyrchion ychwanegol
Gwerthoedd
- Mae'r gwerthoedd allweddol canlynol wrth wraidd darparu gwasanaethau yn y sector gwallt a barbro:
1.1 parodrwydd i ddysgu
1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol
1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant
1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion safonol y diwydiant a'r sefydliad
1.5 agwedd hyblyg at waith
1.6 gweithiwr tîm
1.7 cynnal gofal cwsmeriaid
1.8 agwedd gadarnhaol
1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol
1.10 y gallu i hunanreoli
1.11 sgiliau creadigol
1.12 sgiliau cyfathrebu llafar a dieiriau rhagorol
1.13 cynnal dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel
1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion
Ymddygiadau
1. Mae'r ymddygiadau canlynol wrth wraidd darparu gwasanaethau yn y sector gwallt a barbro. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn:
1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon
1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar
1.3 cyfathrebu â'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddo deimlo'i fod yn cael ei werthfawrogi a'i barchu
1.4 nodi a chadarnhau disgwyliadau'r cleient
1.5 trin y cleient yn foneddigaidd ac yn gymwynasgar bob amser
1.6 rhoi gwybodaeth a sicrwydd cyson i'r cleient
1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiadau gwahanol gan gleientiaid
1.8 ymateb yn ddi-oed i gleient sy'n holi am gymorth
1.9 dewis y ffordd fwyaf addas o gyfathrebu â'r cleient
1.10 gwirio gyda'r cleient eich bod wedi deall ei ddisgwyliadau'n llwyr
1.11 ymateb yn ddi-oed ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
1.10 caniatáu amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi eglurhad ychwanegol pan fo'n addas
1.12 bod yn gyflym wrth ddod o hyd i wybodaeth a fydd o gymorth i'r cleient
1.13 rhoi i'r cleient yr wybodaeth y mae arno ei hangen ynglŷn â'r gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon
1.14 bod yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth a allai fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio ei fod wedi'i deall yn iawn
1.15 os bydd unrhyw resymau pam na ellir bodloni gofynion neu ddisgwyliadau'r cleient, dylid eu hesbonio'n glir wrtho
Sgiliau
Geirfa
1. Y dosbarthiadau o walltiau (canllaw yn unig yw hwn)
Math 1 – Gwallt syth
1.1 Main/Tenau – mae'r gwallt yn tueddu i fod yn feddal iawn, yn sgleiniog ac yn olewog, a gall fod yn anodd cynnal cyrlen ynddo.
1.2 Canolig – mae gan y gwallt lawer o gyfaint.
1.3 Bras – mae'r gwallt fel arfer yn hynod o syth ac mae'n anodd rhoi cyrls ynddo.
Math 2 – Gwallt tonnog
2.1 Main/Tenau – mae yna batrwm "S" pendant i'r gwallt. Gellir ei steilio mewn sawl ffordd fel arfer.
2.2 Canolig – mae'r gwallt yn tueddu i fod yn grychlyd ac yn anodd ei steilio.
2.3 Bras – mae hwn hefyd yn wallt sy'n anodd ei steilio ac fel arfer yn grychlyd iawn; mae'r tonnau'n tueddu i fod yn fwy trwchus.
Math 3 – Gwallt cyrliog
3.1 Cyrls rhydd – mae gweadedd y gwallt yn gyfuniad o fathau gwahanol. Gall fod yn drwchus gyda llawer o gyfaint a phatrwm "S" pendant. Mae hefyd yn tueddu i fod yn grychlyd.
3.2 Cyrls tyn – mae gweadedd hwn hefyd yn gyfuniad o fathau gwahanol o walltiau, ac mae iddo swm cymedrol o gyrls.
Math 4 – Gwallt cyrliog iawn
4.1 Meddal – mae'r gwallt yn tueddu i fod yn fregus iawn, yn dorchau tynn, ac mae iddo batrwm cyrliog mwy pendant.
4.2 Gwrychog – mae hwn hefyd yn fregus iawn ac yn dorchau tynn; fodd bynnag, nid yw'r patrwm cyrliog mor bendant – mae'n debycach i siâp patrwm "Z".
- Mae nodweddion gwallt yn cynnwys y canlynol:
2.1 trwch y gwallt
2.2 gweadedd y gwallt
2.3 elastigedd y gwallt
2.4 mandylledd y gwallt
2.5 cyflwr y gwallt
2.6 patrymau tyfu gwallt
*
*
3. Barf rannol
3.1 unrhyw flew wyneb nad yw'n ffurfio barf lawn na mwstash
4. Siapiau i flew'r wyneb: (Enghreifftiau'n unig)
4.1 Angor
barf wedi'i siapio fel angor o ganol y wefus isaf, o gwmpas yr ên ac i fyny ar ei hyd
4.2 Pharo
barf sy'n cychwyn o waelod yr ên. Gall fod o unrhyw hyd.
4.3 Bonion blew
tyfiant barf lawn, dros sawl diwrnod, wedi'i dacluso.
4.4 Locsyn bwch gafr
barf gul sy'n cylchu'r geg a'r ên.
4.5 Rheilen llenni
barf gul sy'n dilyn yr ên isaf.
4.6 Mwstash llinell y wefus
mwstash llorweddol tua lled pensil.
4.7 Mwstash Mecsicanaidd
mwstash sy'n dilyn llinell naturiol y wefus uchaf ac yn ymestyn i lawr tuag at yr ên.
4.8 Mwstash pensil
mwstash cul sy'n dilyn llinell naturiol y wefus uchaf.
4.9 Mwstash pen tŷ
mwstash sy'n ymestyn o dan y trwyn i ffurfio siâp ceibr (chevron) syth.