Lliwio a goleuo gwallt dynion

URN: SKACB6
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt,Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â newid lliw gwallt trwy ddefnyddio cynhyrchion lled barhaol, bron yn barhaol a pharhaol, a chynhyrchion goleuo. Mae'r safon hon yn cynnwys y gallu i liwio pen cyfan, rhan o'r pen, aildyfiant a chreu effeithiau aroleuo a thywyllu. Mae'r gallu i ystyried amrywiaeth o ffactorau ac unrhyw wrtharwyddion (contra-indications) yn ofynnol.

I gyflawni'r safon hon, bydd angen i chi gynnal lefel uchel o iechyd, diogelwch a hylendid trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu da.

Dyma brif ganlyniadau'r safon hon:

  1. cynnal dulliau gweithio effeithiol a diogel wrth liwio a goleuo gwallt

  2. paratoi ar gyfer lliwio a goleuo

  3. lliwio a goleuo gwallt


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal dulliau gweithio effeithiol a diogel wrth liwio a goleuo gwallt


*

  1. cynnal eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth

  2. paratoi eich cleient yn unol â gofynion y salon gwarchod dillad eich cleient trwy gydol y gwasanaeth

  3. gwisgo cyfarpar gwarchod personol wrth ddefnyddio cemegion lliwio a/neu oleuo

  4. gosod eich cleient yn unol â gofynion y gwasanaeth heb achosi unrhyw anghysur iddo

  5. sicrhau bod eich osgo a'ch ystum eich hun wrth weithio yn achosi cyn lleied o flinder a risg o anaf â phosibl

  6. cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus trwy gydol y gwasanaeth

  7. defnyddio dulliau gweithio sy'n:

7.1. gwastraffu cyn lleied o gynhyrchion â phosibl

7.2. lleihau'r risg o groes-heintiad

7.3. gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio

7.4. sicrhau bod adnoddau glân yn cael eu defnyddio

7.5. lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi'ch hun ac i eraill

7.6. hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

  1. sicrhau bod eich hylendid, diogelwch ac ymddangosiad personol yn bodloni gofynion safonol y diwydiant a'r sefydliad 

  2. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o offer, defnyddiau a chynhyrchion

  3. cael gwared ar ddefnyddiau gwastraff

  4. cwblhau'r gwasanaeth mewn amser sy'n fasnachol ymarferol

Paratoi ar gyfer lliwio a goleuo

  1. gofyn cwestiynau perthnasol i'ch cleient er mwyn nodi a oes ganddynt unrhyw wrtharwyddion i wasanaethau lliwio a/neu oleuo

  2. cofnodi ymatebion eich cleient i gwestiynau

  3. cynnal yr holl brofion angenrheidiol yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr a gweithdrefnau  cydnabyddedig y diwydiant

  4. cofnodi canlyniadau'r profion ar gerdyn cofnodi'r cleient

  5. gofyn am gymorth gan yr unigolyn perthnasol pan fo gwrtharwyddion a/neu adweithiau i'r profion yn codi amheuon ynglŷn ag addasrwydd y gwasanaeth ar gyfer eich cleient

  6. seilio'ch argymhellion ar werthusiad o wallt eich cleient a'i botensial ar gyfer cyflawni'r effaith ofynnol

  7. rhoi gwybod i'ch cleient am gost debygol, hyd a chanlyniad disgwyliedig y gwasanaeth

  8. dewis cynhyrchion, offer a chyfarpar yn seiliedig ar ganlyniadau profion angenrheidiol, trafodaeth â'ch cleient a ffactorau perthnasol sy'n dylanwadu ar y gwasanaeth

  9. paratoi defnyddiau yn unol â gofynion y gwasanaeth, pan fo angen

  10. paratoi cynhyrchion yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr

  11. paratoi gwallt eich cleient a gwarchod ei groen, lle bo angen, cyn cyflawni'r gwasanaeth.

Lliwio a goleuo gwallt

  1. cadarnhau'r effaith a ddymunir gyda'ch cleient cyn defnyddio'r cynhyrchion

  2. gwahanu'r gwallt yn lân ac yn wastad er mwyn hwyluso'r defnydd o'r cynhyrchion

  3. defnyddio cynhyrchion gan ystyried ffactorau perthnasol sy'n dylanwadu ar y gwasanaeth

  4. defnyddio technegau lliwio a goleuo sy'n addas ar gyfer cyflawni'r wedd a ddymunir a dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr

  5. defnyddio cynhyrchion mewn ffordd sy'n lleihau'r risg o'u lledaenu ar groen neu ddillad eich cleient **neu'r ardal o gwmpas

  6. amseru datblygiad cynhyrchion gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr

  7. cadarnhau bod y canlyniad gofynnol wedi'i gyflawni trwy wneud profion ar gudynnau ar adegau addas trwy gydol y broses

  8. tylino'r gwallt a chroen y pen er mwyn emwlsio'r lliw, yn ôl yr angen, cyn ei godi, gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr

  9. codi cynhyrchion sydd eisoes wedi datblygu o'r gwallt, gan osgoi ymyrryd ag adrannau sy'n prosesu o hyd

  10. codi defnyddiau lliwio neu oleuo o'r gwallt gyda chyn lleied o anghysur i'ch cleient â phosibl

  11. sicrhau nad oes dim cynhyrchion yn y gwallt neu ar groen y pen ar ôl cyflawni'r effaith a ddymunir * *

  12. nodi unrhyw broblemau sy'n codi yn ystod y gwasanaethau a'u datrys o fewn terfynau'ch awdurdod

  13. cyfeirio unrhyw broblemau na ellir eu datrys at yr unigolyn perthnasol

  14. cyflawni'r effaith a ddymunir er boddhad eich cleient

  15. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarparwyd


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal dulliau gweithio effeithiol a diogel wrth liwio a goleuo gwallt


*

  1. eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch fel y cânt eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â'ch swydd

  2. gofynion eich salon ar gyfer paratoi cleientiaid

  3. y dewis o ddillad a chynhyrchion gwarchod a ddylai fod ar gael ar eich cyfer chi a chleientiaid

  4. sut y gall osgo'ch cleient a chithau effeithio ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf

  5. pam y mae'n bwysig cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus

  6. y dulliau o weithio'n ddiogel ac yn hylan sy'n lleihau'r risg o groes-heintiad a chroes-heigiad

  7. pwysigrwydd lleihau gwastraffu cynhyrchion

  8. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn

  9. y dulliau o lanhau, diheintio a/neu sterileiddio a ddefnyddir mewn salonau

  10. yr ystyriaethau diogelwch y mae'n rhaid talu sylw iddynt wrth liwio a goleuo gwallt

  11. y mathau gwahanol o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

  12. y gofynion a'r canllawiau cyfreithiol cyfredol mewn perthynas â chyfyngiadau oedran ar gyfer gwasanaethau lliwio a goleuo.

  13. pam na ddylai gwasanaethau lliwio a goleuo gael eu defnyddio ar blant dan 16 oed

  14. beth yw dermatitis cyffwrdd, a sut y mae osgoi ei fagu wrth gyflawni gwasanaethau lliwio

  15. pwysigrwydd hylendid ac ymddangosiad personol i gynnal iechyd a diogelwch yn eich gweithle

  16. cyfarwyddiadau cyflenwyr a gwneuthurwyr y mae'n rhaid i chi eu dilyn er mwyn gwneud defnydd diogel o offer, defnyddiau a chynhyrchion    

  17. y dulliau cywir o gael gwared ar wastraff  

  18. pwysigrwydd gwneud defnydd effeithiol o'ch amser chi ac amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer gwaith lliwio a goleuo sylfaenol

Paratoi ar gyfer lliwio a goleuo


*

  1. y mathau gwahanol o wasanaethau lliwio sydd ar gael i ddynion

  2. pwysigrwydd adnabod unrhyw wrtharwyddion i wasanaethau lliwio a goleuo

  3. pam y gall gwrtharwyddion gael effaith ar gyflawni gwasanaethau lliwio a goleuo

  4. yr arwyddocâd cyfreithiol sydd i holi cleientiaid a nodi'u hymatebion i gwestiynau

  5. pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr ar gyfer profion sensitifrwydd croen a'r canlyniadau posibl o fethu cyflawni'r profion hyn

  6. pryd a sut y dylai profion gael eu cynnal a phwysigrwydd cofnodi canlyniadau profion

  7. y llwybrau gweithredu y dylid eu dilyn yn achos adweithiau anffafriol i brofion

  8. pwysigrwydd seilio'ch argymhellion ar werthusiad o wallt eich cleient a'i botensial ar gyfer cyflawni'r effaith ofynnol

  9. pwysigrwydd hysbysu'ch cleient am gost debygol, hyd a chanlyniad disgwyliedig y gwasanaeth

  10. egwyddorion dewis lliw, yn cynnwys y Siart Lliw Rhyngwladol (ICC)

  11. sut y mae'r pigment naturiol yn y gwallt yn effeithio ar y dewis o liw a'r cynhyrchion lliwio a'r angen o bosibl i gyn-oleuo

  12. effaith cynhyrchion lliwio a goleuo gwahanol ar adeiledd y gwallt

  13. pryd i ddefnyddio'r mathau gwahanol o oleuwyr ac arlliw-wyr sydd ar gael

  14. sut y mae hydrogen perocsid o gryfderau gwahanol yn dylanwadu ar liwio a goleuo

  15. sut y mae lefelau mandylledd yn gallu effeithio ar y dewis a'r defnydd o gynhyrchion a'r canlyniadau terfynol

  16. effeithiau tymereddau ar y defnydd o gynhyrchion lliwio a goleuo a'u datblygiad

  17. y mathau o gynhyrchion lliwio, goleuo ac arlliwio sydd ar gael, yn cynnwys lliwiau dros dro

  18. pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr wrth fesur, cymysgu ac amseru cynhyrchion lliwio a goleuo

  19. y mathau o offer, defnyddiau a chyfarpar a ddefnyddir ar gyfer aroleuo a thywyllu gwallt

  20. pwysigrwydd paratoi gwallt eich cleient a gwarchod ei groen cyn y gwasanaeth.

Lliwio a goleuo gwallt

  1. pwysigrwydd cadarnhau'r effaith a ddymunir gyda'ch cleient cyn defnyddio'r cynhyrchion

  2. sut i ddelio gyda'r gwallt wrth ei wau er mwyn cynnal tensiwn gwastad a sut i gysylltu'r defnyddiau i atal diferu

  3. pwysigrwydd rhannu'r gwallt yn lân ac yn wastad i gynorthwyo defnyddio'r cynhyrchion yn gywir

  4. y ffactorau **gwahanol y mae'n rhaid eu hystyried cyn ac yn ystod lliwio a goleuo a sut mae'r rhain yn effeithio ar y gwasanaethau

  5. y ffactorau y mae'n rhaid eu hystyried wrth farnu swm y gwallt sydd i'w wau er mwyn sicrhau gwedd gytbwys

  6. pryd a pham y dylid cyflawni technegau adfywio lliw y technegau lliwio, tywyllu ac aroleuo gwahanol

  7. pwysigrwydd rhoi cynhyrchion mewn ffordd sy'n lleihau'r risg o'u lledaenu ar groen neu ddillad eich cleient a'r ardal o gwmpas

  8. pwysigrwydd monitro datblygiad cynhyrchion goleuo yn gyson

  9. pryd a sut y dylid defnyddio siampŵau a chyflyrwyr wrth liwio a goleuo gwallt

  10. pam y mae'n bwysig osgoi aflonyddu ar fannau sy'n dal i brosesu wrth godi cynhyrchion o fannau sydd wedi datblygu

  11. pwysigrwydd adfer cydbwysedd pH y gwallt ar ôl y broses liwio a goleuo

  12. dulliau o roi a chodi cynhyrchion a defnyddiau lliwio a goleuo

  13. pwysigrwydd defnyddio cynhyrchion yn economaidd

  14. pam y mae'n bwysig emwlsio lliw cyn ei godi

  15. y mathau o broblemau lliwio a goleuo a all ddigwydd yn ystod y prosesu a'u hachosion

  16. ffyrdd o ddatrys problemau lliwio a goleuo syml a all godi wrth brosesu

  17. y peryglon posibl o ddefnyddio cynhyrchion goleuo ar wallt sydd eisoes wedi'i drin â chemegion.

  18. y peryglon sy'n gysylltiedig â mewnanadlu goleuwyr powdr

  19. y rhagofalon y mae'n rhaid eu cymryd wrth ddefnyddio powdr a goleuwyr eraill

  20. terfynau'ch awdurdod ar gyfer datrys problemau lliwio a goleuo

  21. pwy yw'r unigolyn y dylech ei hysbysu am broblemau na ellwch eu datrys

  22. pwysigrwydd cadarnhau bod eich cleient yn fodlon

  23. pwysigrwydd darparu cyngor ac argymhellion ar y cynhyrchion a'r gwasanaethau a ddarperir yn y salon


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Cynhyrchion

1.1 lled-barhaol

1.2 bron yn barhaol

1.3 parhaol

1.4 goleuwyr

1.5 arlliw-wyr


*

2. Profion

2.1 croen

2.2 anghydweddiad

2.3 mandylledd

2.4 elastigedd

2.5 lliw

3. Ffactorau

3.1 y dosbarthiadau o walltiau

3.2 nodweddion gwallt

3.3 y tymheredd

3.4 lliw cyfredol y gwallt

3.5 canran y gwallt gwyn

3.6 canlyniadau profion

3.7 cryfder yr hydrogen perocsid

3.8 hyd y gwallt

3.9 arlliw'r croen

4. Technegau lliwio a goleuo

4.1 y defnydd cyntaf ar ben llawn gwallt

4.2 y defnydd ar aildyfiant

4.3 y defnydd ar ran o'r pen

4.4 aroleuadau neu dywylliadau

5. Cyngor ac argymhellion

5.1 sut i gynnal eu lliw

5.2 yr ysbaid rhwng gwasanaethau

5.3 cynhyrchion a gwasanaethau cyfredol ac yn y dyfodol


Gwybodaeth Cwmpas

1. Iechyd a diogelwch

eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch fel y cânt eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â'ch swydd

1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.2 Rheoliadau Cofnodi Anafiadau, Afiechydon a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Trafod â Llaw

1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd

1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle

1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)

2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

y mathau gwahanol o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

2.1 lleihau a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)

2.2 lleihau'r defnydd o egni (sychwyr gwallt sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)

2.3 lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill

2.4 atal llygredd

2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tywelion sy'n sychu'n hawdd)

2.6 defnyddio dodrefn wedi'i ailgylchu, ecogyfeillgar

2.7 defnyddio paent heb lawer o gemegion ynddo

2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a di-alergedd

2.9 defnyddio lliwyddion gwallt heb fawr ddim amonia ynddynt

2.10 defnyddio defnyddiau pacio cyfeillgar i'r amgylchedd  

2.11dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

2.12 annog defnyddio llai o garbon wrth deithio i'r gwaith

3. Gwrtharwyddion (enghreifftiau'n unig)

3.1 pwysigrwydd adnabod unrhyw wrtharwyddion i wasanaethau lliwio a goleuo hanes o adweithiau alergaidd i gynhyrchion lliwio

3.2 alergeddau hysbys eraill

3.3 anhwylderau croen

3.4 cynhyrchion anghydweddol

3.5 cyngor neu gyfarwyddiadau meddygol

3.6 difrod amlwg i'r gwallt

3.7 cyfyngiadau oedran

4. Ffactorau

y ffactorau *gwahanol *y mae'n rhaid eu hystyried cyn ac yn ystod lliwio a goleuo, a sut y gall y rhain effeithio ar y gwasanaethau

4.1 y dosbarthiadau o walltiau

4.2  nodweddion gwallt

4.3 y tymheredd

4.4 lliw cyfredol y gwallt

4.5 canran y gwallt gwyn

4.6 canlyniadau profion

4.7 cryfder yr hydrogen perocsid

4.8 hyd y gwallt

4.9 arlliw'r croen

5. Gwasanaethau Lliwio (enghreifftiau'n unig)

y mathau gwahanol o wasanaethau lliwio sydd ar gael i ddynion

5.1 dip-lifo

5.2 bloc

5.3 lliw ombr

5.4 sglein esgid

5.5 aroleuadau neu dywylliadau cap/ffoil

5.6 aroleuadau neu dywylliadau wedi'u tynnu trwodd (gallai'r gwasanaethau gynnwys cribau, sbatwla, cap, stribedi tynnu trwodd ffoil neu ffilm, conau)

6. Cyngor ac argymhellion


*

6.1 gwasanaethau ychwanegol

6.2 cynhyrchion ychwanegol


Gwerthoedd

  1. Mae'r gwerthoedd allweddol canlynol wrth wraidd darparu gwasanaethau yn y sector gwallt a barbro:

1.1 parodrwydd i ddysgu

1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol

1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant

1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion safonol y diwydiant a'r sefydliad

1.5 agwedd hyblyg at waith

1.6 gweithiwr tîm

1.7 cynnal gofal cwsmeriaid

1.8 agwedd gadarnhaol

1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol

1.10 y gallu i hunanreoli

1.11sgiliau creadigol

1.12 sgiliau cyfathrebu llafar a dieiriau rhagorol

1.13 cynnal dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel

1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion


Ymddygiadau

  1. Mae'r ymddygiadau canlynol wrth wraidd darparu gwasanaethau yn y sector gwallt a barbro. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn.

1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon

1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar

1.3 cyfathrebu â'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddo deimlo'i fod yn cael ei werthfawrogi a'i barchu

1.4 nodi a chadarnhau disgwyliadau'r cleient

1.5 trin y cleient yn foneddigaidd ac yn gymwynasgar bob amser

1.6 rhoi gwybodaeth a sicrwydd cyson i'r cleient

1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiadau gwahanol gan gleientiaid

1.8 ymateb i gleient sy'n holi am gymorth

1.9 dewis y ffordd fwyaf addas o gyfathrebu â'r cleient

1.10 gwirio gyda'r cleient eich bod wedi deall ei ddisgwyliadau'n llwyr

1.11 ymateb yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

1.12 caniatáu amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi eglurhad ychwanegol pan fo'n addas

1.13 bod yn gyflym wrth ddod o hyd i wybodaeth a fydd o gymorth i'r cleient

1.14 rhoi i'r cleient yr wybodaeth y mae arno ei hangen ynglŷn â'r gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon

1.15 bod yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth a allai fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio ei fod wedi'i deall yn iawn

1.16 os bydd unrhyw resymau pam na ellir bodloni gofynion neu ddisgwyliadau'r cleient, dylid eu hesbonio'n glir wrtho


Sgiliau


Geirfa

1. Y dosbarthiadau o walltiau (canllaw yn unig yw hwn)

Math 1 – Gwallt syth

1.1 Main/Tenau – mae'r gwallt yn tueddu i fod yn feddal iawn, yn sgleiniog ac yn olewog, a gall fod yn anodd cynnal cyrlen ynddo.

1.2 Canolig – mae gan y gwallt lawer o gyfaint.

14.3 Bras – mae'r gwallt fel arfer yn hynod o syth ac mae'n anodd rhoi cyrls ynddo.

Math 2– Gwallt tonnog

2.1 Main/Tenau – mae yna batrwm "S" pendant i'r gwallt.  Gellir ei steilio mewn sawl ffordd fel arfer.

2.2 Canolig – mae'r gwallt yn tueddu i fod yn grychlyd ac yn anodd ei steilio.

2.3 Bras – mae hwn hefyd yn wallt sy'n anodd ei steilio ac fel arfer yn grychlyd iawn; mae'r tonnau'n tueddu i fod yn fwy trwchus.

Math 3– Gwallt cyrliog

3.1 Cyrls rhydd – mae gweadedd y gwallt yn gyfuniad o fathau gwahanol. Gall fod yn drwchus gyda llawer o gyfaint a phatrwm "S" pendant. Mae hefyd yn tueddu i fod yn grychlyd.

3.2 Cyrls tyn – mae gweadedd hwn hefyd yn gyfuniad o fathau gwahanol o walltiau, ac mae iddo swm cymedrol o gyrls.

Math 4 – Gwallt cyrliog iawn

4.1 Meddal – mae'r gwallt yn tueddu i fod yn fregus iawn, yn dorchau tyn, ac mae iddo batrwm cyrliog mwy pendant.

4.2 Gwrychog – mae hwn hefyd yn fregus iawn ac yn dorchau tyn; fodd bynnag, nid yw'r patrwm cyrliog mor bendant – mae'n debycach i siâp patrwm "Z"..

  1. Mae nodweddion gwallt yn cynnwys y canlynol:

2.1 trwch y gwallt

2.2 gweadedd y gwallt

2.3 elastigedd y gwallt

2.4 mandylledd y gwallt

2.5 cyflwr y gwallt

2.6 patrymau tyfu gwallt


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAGB10

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Gwasanaeth Personol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Barbro, lliwio gwallt, goleuo gwallt