Darparu triniaethau nodwyddo croen

URN: SKABT35
Sectorau Busnes (Suites): Arferion Uwch Therapi Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio technegau nodwyddo croen cosmetig gyda nodwyddau rhwng 0.5 mm i 1.0 mm o hyd (ardal wynebol yn unig) ac 1.5 mm o hyd, er mwyn gwella cyflwr croen y corff a'r wyneb. Mae'n trafod y sgiliau sydd ynghlwm wrth ddarparu ymgynghoriad trylwyr i sefydlu addasrwydd y cleient ar gyfer triniaeth a ffurfio cynllun triniaeth penodol sy'n addas i anghenion y cleient unigol. Mae gallu i ddarparu cyngor ôl-ofal perthnasol hefyd yn ofynnol.

Er mwyn cynnal y safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith.  Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori effeithiol.

Prif ganlyniadau'r safon hon yw:

  1. cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth ddarparu triniaethau nodwyddo croen cosmetig

  2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau

  3. cyflawni triniaethau nodwyddo croen cosmetig


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth ddarparu triniaethau nodwyddo croen cosmetig

  1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y driniaeth

  2. paratoi a diogelu'ch cleient a'ch hun i fodloni gofynion cyfreithiol a sefydliadol

  3. sicrhau urddas a phreifatrwydd eich cleient ar bob amser

  4. gosod eich cleient mewn safle i fodloni anghenion y driniaeth heb achosi iddynt deimlo'n anghysurus

  5. sicrhau bod eich ystum eich hun a'ch dulliau gwaith yn isafu ar flinder a risg o anaf i chi'ch hun ac eraill

  6. sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r driniaeth

  7. defnyddio dulliau gwaith sy'n isafu ar risg o groes-heintio

  8. sicrhau defnydd ar gyfarpar a deunydd glân

  9. hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

  10. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar ddefnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch

  11. cael gwared ar ddeunydd gwastraff i fodloni gofynion cyfreithiol

  12. cynnal y driniaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau

  1. defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun triniaeth y cleient

  2. gwrthod triniaethau nodwyddo croen cosmetig i blant dan 18 oed

  3. nodi hanes meddygol, amcanion triniaeth, ardaloedd i'w trin, nodweddion croen a chyflwr croen y cleient

  4. adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd camau angenrheidiol

  5. cymryd lluniau cyn y driniaeth o'r mannau i'w trin gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol

  6. esbonio teimlad corfforol y driniaeth a golwg y croen wedi'r driniaeth i'r cleient

  7. cyflawni prawf sensitifrwydd croen anaesthetig argroenol, cyn y driniaeth a chofnodi'r canlyniadau

  8. nodi anghenion, disgwyliadau ac amcanion triniaeth y cleient, a chytuno arnynt gyda'r cleient

  9. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn cynnal y driniaeth

  10. dewis offer a chynnyrch addas i weddu i amcanion y driniaeth

**

Cyflawni triniaethau nodwyddo croen cosmetig**

  1. sicrhau bod croen y cleient yn lân ac wedi ei baratoi ar gyfer triniaeth nodwyddo cosmetig

  2. taenu anesthetig argroenol ar y mannau i'w trin

  3. sicrhau y defnyddir uned nodwyddau newydd ar gyfer pob cleient i bob triniaeth

  4. dewis maint nodwydd priodol ar gyfer y cyflwr croen ac amcanion y driniaeth

  5. gweithio'n systematig i orchuddio'r ardaloedd i'w trin yn defnyddio'r symudiadau gofynnol yn y cyfeiriad a argymhellir

  6. addasu dwyster a hyd y driniaeth i weddu i nodweddion croen, amcanion triniaeth a lefel goddefiant y cleient

  7. monitro adwaith y croen ac ymateb y cleient a rhoi'r gorau i'r driniaeth os ceir unrhyw adweithiau andwyol

  8. gadael yr ardal wedi ei thrin yn lân ac wedi ei diogelu gyda chynnyrch lleddfol yn dilyn triniaeth

  9. cymryd lluniau wedi'r driniaeth o'r man a driniwyd gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol

  10. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y driniaeth a ddarparwyd

  11. sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu cwblhau a'u llofnodi gennych chi a'r cleient


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth ddarparu triniaethau nodwyddo croen cosmetig

  1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd

  2. y cyfrifoldebau dan reoliadau trwyddedu awdurdod lleol ar eich cyfer chi a'ch eiddo, ble fo'n berthnasol

  3. pwysigrwydd gwirio cyfreithlondeb y cynnyrch yn erbyn Rheoliadau Cosmetig presennol yr UE a sut i sicrhau gwiriad o gyfreithlondeb

  4. y rhesymau dros wirio canllawiau yswiriant cyfredol ar gyfer darparu triniaethau pilio croen cosmetig

  5. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer diogelu a pharatoi cleient

  6. pwysigrwydd hylendid personol, amddiffyniad a chyflwyniad o ran cynnal iechyd a diogelwch yn eich gweithle

  7. pam ei bod yn bwysig i gynnal urddas a phreifatrwydd eich cleient

  8. sut y gall safle eich cleient a chithau effeithio ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder ar risg o anaf

  9. amodau amgylcheddol angenrheidiol ar gyfer triniaethau, megis gwresogi ac awyru a pham bod y rhain yn bwysig

  10. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio

  11. pam ei bod yn bwysig osgoi traws heintio uniongyrchol ac anuniongyrchol trwy weithio'n ddiogel ac yn lanwaith

  12. y peryglon a'r risgiau sy'n gysylltiedig â chyflawni triniaethau nodwyddo croen cosmetig a sut y gellir lleihau'r rhain

13 y gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

  1. cyfarwyddiadau cyflenwyr a chynhyrchwyr ar gyfer defnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch y mae'n rhaid i chi eu dilyn

  2. y gofynion cyfreithiol ar gyfer cael gwared ar wastraff

  3. y rhesymau dros gwblhau'r gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau

  1. pwysigrwydd cyfathrebu gyda chleientiaid mewn modd proffesiynol

  2. sut i gynnal ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient

  3. y rhesymau pam na ddylid cyflawni triniaethau nodwyddo cosmetig ar gleientiaid dan 18 oed

  4. pwysigrwydd cytuno ar driniaeth sy'n bodloni anghenion y cleient

  5. arwyddocâd cyfreithiol dros sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi i gynnal y driniaeth

  6. y gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleient

  7. sut i adnabod gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar y driniaeth a pham

  8. y gwrtharwyddion sy'n gofyn am atgyfeiriad meddygol a pham

  9. y camau angenrheidiol i'w cymryd mewn perthynas â gwrtharwyddion penodol wrth gyfeirio cleientiaid

  10. pwysigrwydd a'r rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid

  11. sut i asesu nodweddion croen

  12. sut i baru'r driniaeth i gyd-fynd â nodweddion croen, graddfa dosbarthiad Fitzpatrick ac amcanion trin

  13. y rhesymau dros ystyried hanes triniaethau croen blaenorol y cleient, cyflwr y croen, amlygiad i'r haul a hanes meddygol a sut ddylid addasu'r driniaeth

  14. y cyngor cyn triniaeth i'r roi i gleientiaid ar sut y gall hyn wella'r canlyniadau nodwyddo croen

  15. sut i ddisgrifio teimlad corfforol y driniaeth i'r cleient a gwedd y cleient wedi'r driniaeth

  16. y weithdrefn ar gyfer cyflawni prawf sensitifrwydd croen anesthetig argroenol cyn triniaethau pilio croen

  17. y rhesymau dros gyflawni prawf sensitifrwydd croen a chofnodi'r canlyniadau

  18. sut i baratoi'r cofnodion ymgynghori

  19. paratoi offer a chynnyrch ar gyfer triniaethau nodwyddo'r croen cosmetig

Cyflawni triniaethau nodwyddo croen cosmetig

  1. y rhesymau dros lanhau'r croen cyn y driniaeth

  2. y rhesymau dros ddefnyddio anaesthetig argroenol ar y cyd â thriniaethau nodwyddo croen cosmetig

  3. mathau a dibenion offer nodwyddo croen cosmetig a chynnyrch cysylltiedig

  4. sut i ddewis a defnyddio asiantau ac offer nodwyddo croen cosmetig i weddu i wahanol fathau o groen, nodweddion croen, y raddfa ddosbarthiad Fitzpatrick a'r gwahanol amcanion triniaeth

  5. defnydd a chyfyngiadau cynnyrch ac offer a ddefnyddir ar gyfer triniaethau nodwyddo croen cosmetig

  6. manteision ac effeithiau a grëir trwy ddefnyddio'r gwahanol offer nodwyddo croen cosmetig

  7. sut i weithio'n systematig a threfnus, gan osgoi gorgyffwrdd triniaeth ormodol ar draws y mannau i'w trin

  8. sut i addasu'r driniaeth i ystyried cyflyrau sydd eisoes yn bodoli

  9. pam fod angen addasu gwasgedd, hyd a sawl gwaith y pasir gwahanol rannau o'r corff a sensitifrwydd cleientiaid

  10. adweithiau posibl a allai ddigwydd, sut i ddelio â hwy a pha gyngor i'w roi i gleientiaid

  11. anatomi a ffisioleg y croen a'r wyneb

  12. y mathau o gynnyrch cyn ac ôl-driniaeth sydd ar gael a pham fod eu hangen

  13. y cyngor a'r argymhellion ar gynnyrch a gwasanaeth


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Technegau ymgynghori

  1. holi

  2. gwrando

  3. edrych

  4. teimlo

  5. ysgrifenedig

Amcanion y driniaeth

  1. lleihau mân linellau

  2. gwella cyflwr y croen

  3. gwella teimlad y croen

  4. gwella llacrwydd croen

  5. gwella marciau beichiogrwydd

Mannau i'w trin

  1. wyneb

  2. gwddf

  3. y frest

  4. cefnau dwylo

  5. coesau

  6. abdomen

Nodweddion Croen

  1. graddfa Fitzpatrick

  2. lefel sensitifrwydd

  3. trwch y croen

  4. trwch epidermol

Camau angenrheidiol

  1. esbonio pam na ellid cynnal y driniaeth

  2. annog y cleient i geisio cyngor meddygol

  3. addasu'r driniaeth

Cyfarpar

  1. Uned nodwydd 0.5 mm

  2. Uned nodwydd 1 mm

Cyngor ac argymhellion

  1. cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd

  2. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau

  3. y cyfnodau amser a argymhellir rhwng triniaethau

  4. cynnyrch a thriniaethau yn awr ac yn y dyfodol


Gwybodaeth Cwmpas

Iechyd a diogelwch

  1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

  2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

  3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

  4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

  5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario

  6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

  7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

  8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd

  9. Y Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle

  10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)

Arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

  1. gostwng gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)

  2. gostwng defnydd ar ynni (cyfarpar sy'n arbed ynni, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)

  3. gostwng defnydd ar ddŵr ac adnoddau eraill

  4. atal llygredd

  5. defnyddio eitemau untro (tywelion hawdd eu sychu)

  6. defnyddio dodrefn wedi'u hailgylchu, ecogyfeillgar

  7. defnyddio paent â chemegau isel

  8. defnyddio pecynnau cynnyrch ecogyfeillgar

  9. dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

  10. annog siwrneion i'r gwaith sy'n gostwng carbon

Anghenion amrywiol

  1. diwylliannol

  2. crefyddol

  3. oed

  4. anabledd

  5. rhyw

Gwrtharwyddion sy'n atal

  1. afiechydon croen heintus

  2. croen sensitif iawn

     3. acne actif difrifol

  3. clwyfau agored

  4. meinwe craith diweddar

  5. lympiau heb ddiagnosis

  6. chwyddiadau a llidau

  7. afiechydon yn y gwaed

  8. haemoffilia

  9. meddyginiaeth gwrth geulo

  10. Rosacea

  11. canser y croen

  12. isotretinoin

  13. hanes o gyffuriau gyda photensial ffotosensitifedd

Gwrtharwyddion sy'n cyfyngu

  1. botox neu lanwyddion diweddar yn ardal y driniaeth

  2. clefyd siwgr

  3. epilepsi

  4. tyllau addurniadau corff

  5. gorbryder

  6. gwythiennau faricos

  7. toriadau

  8. crafiadau

  9. meddyginiaethau presennol

  10. ychwanegiadau a meddyginiaethau llysieuol

  11. dermatosis llidiol actif megis soriasis

  12. mannau duon mawr

  13. mathau o groen

  14. cyn llawdriniaeth gosmetig

  15. cyflwr meddyliol ac emosiynol gwael

  16. herpes

  17. hanes o greithiau

  18. sgrafellu'r croen neu driniaeth pilio'r croen cosmetig diweddar

  19. IPL neu laser ac epiladu

  20. cleisiau

Cofnodion ymgynghori

  1. triniaethau croen blaenorol

  2. hanes meddygol

  3. graddfa ddosbarthu Fitzpatrick

  4. nodweddion a chyflwr y croen

  5. disgwyliadau'r cleient

  6. amcanion y driniaeth

  7. man i'w thrin

  8. canlyniadau profion croen

  9. adweithiau

  10. cyfyngiadau ar y driniaeth

Adweithiau

  1. cleisio

  2. llid

  3. adwaith alergaidd lleoledig

  4. adwaith histamin

  5. y ddanadfrech

  6. arwyddion o haint

Anatomi a ffisioleg

  1. strwythur a swyddogaeth croen

  2. rolau melanocytau, ceratinocytau a  ffibroblast o ran hyrwyddo croen iach a'i adfywiad

  3. proses heneiddio'r croen yn cynnwys effeithiau ffordd o fyw a'r amgylchedd

  4. egwyddorion y system gylchredol a lymffatig

  5. camau'r broses gwella clwyfau

  6. effaith proses wella a gyfaddawdwyd a sut i'w adnabod ac ymateb i hyn

  7. y mathau o golagen (yn cynnwys mathau 1, 3 a 7)

  8. pwysigrwydd y matrics cellol ychwanegol a rôl colagenas ac elastas yn y broses o wella clwyfau

  9. y broses o, a'r gofynion ar gyfer, synthesis colagen, yn cynnwys fitamin A, fitamin C, fitamin E, gwrthocsidyddion, ffactorau twf, peptidau copr, biofflafinoidau, haearn, sinc ac asidau amino)

  10. rôl amddiffynnol yr epidermis a phwysigrwydd y swyddogaeth atalydd

Cyngor ac argymhellion

  1. gwasanaethau ychwanegol

  2. cynnyrch ychwanegol

  3. cyngor ar newidiadau gweledol i'r croen ac amser adfer

  4. y ffactorau ffordd o fyw a newidiadau a allai fod yn ofynnol i wella effeithlonrwydd y driniaeth

  5. gofynion hylendid ôl-driniaeth, yn cynnwys golchi dwylo cyn cyffwrdd ag ardal y driniaeth, osgoi anifeiliaid anwes ac arwynebau budr er mwyn helpu lleihau'r risg o heintiad, yr angen i osgoi ymarfer corff yn union wedyn, osgoi triniaethau laser, IPL neu iLIPO

  6. cyfyngiadau ôl-driniaeth ac anghenion triniaeth yn y dyfodol, yn cynnwys osgoi amlygiad i'r haul, triniaethau gwres, awyrgylch llygredig a darpariaethau argroenol; dim colur am y cyfnod a nodir yng nghyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr

  7. cynhyrchion at ddefnydd cartref a fydd yn gymorth i iachau a diogelu'r croen (yn cynnwys isafswm amddiffyniad haul UVA ac UVB SPF30, cynhyrchion gofal croen lliniarol a lleddfol megis gwrthlidau neu wrthocsidyddion) a'r rhai hynny i'w hosgoi a pham

  8. sut y gall arferion gofal croen, bwyta'n iach, yfed ac ymarfer corff effeithio ar effeithlonrwydd y driniaeth

  9. adweithiau yn dilyn triniaeth a sut i ddelio â hwy

  10. cynnal a chadw parhaus i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl

  11. pwysigrwydd rhoi cyngor gofal dilynol ysgrifenedig i'r cleient

  12. sicrhau bod y cleient yn derbyn pwynt cyswllt yn dilyn triniaeth

  13. manteision cwrs o driniaeth ac amlder angenrheidiol y driniaeth


Gwerthoedd


Ymddygiadau

Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

  1. parodrwydd i ddysgu

  2. agwedd hyblyg i weithio

  3. gweithiwr tîm

  4. agwedd bositif

  5. moeseg bersonol a phroffesiynol


Sgiliau

Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn

  1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad

  2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar

  3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu

  4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser

  5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient

  6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn

  7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

  8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn

  9. esbonio'n glir wrth y cleient os na ellir bodloni eu hanghenion neu'u disgwyliadau am unrhyw reswm

  10. cynnal dulliau gwaith effeithiol, glân a diogel

  11. cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr a'r cynhyrchwyr wrth ddefnyddio cyfarpar, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel

  12. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.


Geirfa

Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

  1. y gallu i hunan-reoli

  2. cyfathrebu llafar a di-eiriau gwych

  3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient

  4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth

  5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient

  6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad


Dolenni I NOS Eraill

Graddfa Fitzpatrick

Fe'i dyfeisiwyd ym 1975 ym Mhrifysgol Harvard, ac mae hon yn system ddosbarthiad croen, a fesurir ar raddfa o 1 i 6 ar sail adwaith ffotosensitifrwydd i ymbelydredd uwchfioled.


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAB38

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cosmetig; nodwyddo croen; gwelliannau croen; therapi harddwch;