Cael gwared ar neu bylu tatŵs gan ddefnyddio systemau laser Switsh Q

URN: SKABT31
Sectorau Busnes (Suites): Arferion Uwch Therapi Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Ion 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chael gwared ar neu bylu pigmentau a ddefnyddir ar gyfer tatŵs cosmetig ac addurnol yn defnyddio Laser Switsh Q. Mae'n pwysleisio pwysigrwydd arferion gwaith diogel ac yn rhoi pwyslais ar nodi a rheoli peryglon yn y gweithle. Byddwch yn cyflawni ymgynghoriad trylwyr gyda'r cleient i nodi cyflyrau croen, pigmentau lliw'r tatŵ a, ble fo'n bosibl, y math o bigment i'w dynnu i ffwrdd. Byddwch hefyd yn llunio cynllun triniaeth unigol, darparu triniaeth a chyngor ôl-ofal.


Er mwyn cynnal y safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori effeithiol.


Prif ganlyniadau'r safon hon yw:

1. cynnal dulliau diogel ac effeithiol wrth gael gwared ar neu bylu pigmentau tatŵ yn defnyddio Laser Switsh Q

2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaeth

3. cyflawni gwaith tynnu neu bylu pigment tatŵ yn defnyddio Laser Switsh Q​


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal dulliau diogel ac effeithiol wrth gael gwared ar neu bylu pigmentau tatŵ yn defnyddio Laser Switsh Q


1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y driniaeth

2. paratoi a diogelu'ch cleient a'ch hun gydag offer amddiffynnol personol o fewn yr ardal a reolir

3. sicrhau urddas a phreifatrwydd eich cleient ar bob amser

4. gosod eich cleient mewn safle i fodloni anghenion y gwasanaeth heb achosi iddynt deimlo'n anghysurus

5. sicrhau bod eich ystum eich hun a'ch dulliau gwaith yn isafu ar flinder a risg o anaf i chi'ch hun ac eraill

6. sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r driniaeth

7. defnyddio dulliau gwaith sy'n isafu ar risg o groes-heintio

8. sicrhau y defnyddir cyfarpar a deunyddiau glân

9. hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

10. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar ddefnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch

11. cael gwared ar ddeunydd gwastraff i fodloni gofynion cyfreithiol

12. cynnal y driniaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau


13. defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun triniaeth y cleient

14. adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol

15. cytuno ar y driniaeth a'r canlyniadau sy'n bodloni anghenion y cleient

16. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn cynnal pob triniaeth

17. nodi hanes meddygol y cleient, dosbarthiad croen, lliwiau pigment, math o datŵ a ble fo'n bosibl y math o bigment i'w dynnu i ffwrdd

18. cymryd lluniau cyn y driniaeth o'r ardal i'w thrin gan ddilyn arferion sefydliadol

19. esbonio'r teimlad corfforol a achosir gan y driniaeth i'r cleient

20. gosod yr ardal a reolir i fodloni gofynion cyfreithiol a sefydliadol

21. paratowch yr ardal i'w thrin a chyflawni prawf ar ddarn o'r croen i sefydlu ymateb ac addasrwydd i'r driniaeth

22. sicrhau bod y cleient yn llofnodi wedi derbyn gweithdrefnau ôl-ofal, yn dilyn y prawf ar ddarn o'r croen

23. nodi a chytuno ar ganlyniadau ymarferol yn seiliedig ar yr asesiad o'r ardal i'w thrin

Cyflawni gwaith tynnu neu bylu pigment tatŵ yn defnyddio Laser Switsh Q


24. goleuo'r ardal i'w thrin i sicrhau gwelededd da

25. sicrhau bod yr ardal i'w thrin wedi ei heillio ac yn sych cyn y driniaeth

26. marcio'r ardal i'w thrin i sicrhau cywirdeb y driniaeth

27. cyflawni dulliau oeri

28. galluogi a gosod y manylebau ac amrywiolion offer i fodloni'r cynllun triniaeth a gytunwyd

29. defnyddio'r laser ar yr ongl gywir a gweithio'n drefnus dros yr ardal i'w thrin

30. gwirio lles eich cleient a monitro lefel adwaith y croen trwy gydol y driniaeth

31. cwblhau'r driniaeth trwy ddychwelyd yr offer i'r modd parod

32. cymryd lluniau wedi'r driniaeth o'r ardaloedd a driniwyd gan ddilyn arferion sefydliadol

33. sicrhau bod yr ardal a driniwyd wedi ei hoeri, lleddfu a gorchuddio

34. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y driniaeth a ddarparwyd

35. sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu cwblhau a'u llofnodi gennych chi a'r cleient


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal dulliau diogel ac effeithiol wrth gael gwared ar neu bylu pigmentau tatŵ yn defnyddio Laser Switsh Q


1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd

2. pwysigrwydd a rhesymau dros ddilyn protocolau sefydliadol a thriniaeth

3. y cyfrifoldebau dan reoliadau trwyddedu awdurdod lleol ar eich cyfer chi a'ch eiddo a phwysigrwydd dilyn rheolau lleol, ble fo'n berthnasol

4. eich cyfrifoldebau dros ddilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cyflawni triniaethau laser

5. eich cyfrifoldebau cyfreithiol dros wirio canllawiau yswiriant cyfredol ar gyfer darparu triniaethau laser

6. pwysigrwydd cyflawni'r Craidd Gwybodaeth i fodloni canllawiau yswiriant

7. achosion a pheryglon amlygiad damweiniol i belydriad optegol a phwysigrwydd gwisgo offer amddiffynnol personol ac egwyddorion Uchafswm Amlygiad Goddefol

8. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer diogelu a pharatoi cleient

9. pam ei bod yn bwysig i gynnal urddas a phreifatrwydd eich cleient

10. sut y gall safle eich cleient, chithau a'ch dulliau gweithio effeithio ar y canlyniad a dymunir a lleihau blinder ar risg o anaf

11. amodau amgylcheddol angenrheidiol ar gyfer triniaethau, megis gwresogi ac awyru a pham bod y rhain yn bwysig

12. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio

13. pam ei bod yn bwysig osgoi traws heintio uniongyrchol ac anuniongyrchol trwy weithio'n ddiogel ac yn lanwaith

14. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gwaith diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn

15. y gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

16. cyfarwyddiadau cyflenwyr a chynhyrchwyr y mae'n rhaid i chi eu dilyn ar gyfer defnyddio cyfarpar, deunydd a chynnyrch yn ddiogel

17. achosion a pheryglon amlygiad damweiniol i wastraff clinigol megis llafnau rasel

18. y gofynion cyfreithiol ar gyfer cael gwared ar wastraff

19. y rhesymau dros gwblhau'r gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau


20. pwysigrwydd cyfathrebu gyda chleientiaid mewn modd proffesiynol

21. sut i gynnal ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient

22. pam na ddylid darparu triniaethau cael gwared ar datŵs ar gyfer plant dan 18 oed

23. pwysigrwydd cytuno ar driniaeth sy'n bodloni anghenion y cleient

24. arwyddocâd cyfreithiol dros sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan gleient i driniaeth

25. pwysigrwydd adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd camau angenrheidiol

26. y gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleient

27. y gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar y driniaeth a pham

28. pwysigrwydd a'r rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid

29. y rhesymau dros nodi hanes meddygol y cleient, triniaethau blaenorol, amlygiad i'r haul a mathau o datŵs, pigmentau a lliwiau pigment

30. sut i baru manylebau ac amrywiolion triniaeth i weddu i ddosbarthiadau croen gwahanol fathau o datŵs a lliwiau

31. sut i ddisgrifio teimlad corfforol a grëir gan y driniaeth i'r cleient

32. pam ei bod yn bwysig cyflawni prawf ar ddarn o'r croen cyn triniaeth, gychwynnol

33. y rhesymau dros ddarparu cyfarwyddiadau ôl-ofal ysgrifenedig yn syth wedi'r prawf ar ddarn o groen a pham dylai'r cleient lofnodi ar gyfer y rhain

34. dosbarthiad croen y cleient yn defnyddio graddfeydd Fitzpatrick a lliw ethnig

35. sut i baratoi'r cofnodion ymgynghori

Cyflawni gwaith tynnu neu bylu tatŵ yn defnyddio Laser Switsh Q


36. pwysigrwydd goleuo da yn yr ardal a reolir a goleuo'r ardal i'w thrin

37. nodweddion golau a sut mae'n rhyngweithio gyda lliwiau croen, gwallt a phigment

38. y cyfarpar a thechnegau marcio cywir i'w defnyddio

39. y gwahanol fathau ddulliau oeri a ddefnyddir a phryd a sut i'w defnyddio

40. manylebau ac amrywiolion a therminoleg laserau o ran ymarfer triniaeth

41. goblygiadau peidio defnyddio'r triniaethau laser ar yr ongl gywir

42. sut i weithio'n systematig, gan osgoi gorgyffwrdd triniaeth ormodol ar draws yr ardaloedd i'w trin

43. y gwahanol fathau o offer Laser Switsh Q i drin gwahanol bigmentau

44. y gwahanol fathau o bigmentau fel organig, anorganig, titaniwm, ocsid, haearn, carbon, inc Indiaidd a goblygiadau gweithio ar y pigmentau hyn

45. pa fath o bigmentau a lliwiau pigment y gellir eu trin gydag offer Laser Switsh Q

46. pam y bydd canlyniadau rhai triniaethau yn fwy llwyddiannus nag eraill

47. pwysigrwydd deall y labeli rhybudd ar offer Laser Switsh Q

48. effeithiau golau laser ar y llygad a'r croen

49. y sbectrwm electromagnetig

50. anatomi a ffisioleg y croen

51. monitro gweithdrefnau ar gyfer gwirio'r cleient a'r adran i'w thrin

52. adweithiau posibl a allai ddigwydd, sut i ddelio â hwy a pha gyngor i'w roi i gleientiaid

53. y cyngor a'r argymhellion ar gynnyrch a gwasanaethau​


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Ardal a reolir

1. ardal wedi amgáu

2. pwyntiau mynediad ac allanfa y gellir eu cloi

3. arwyddion

4. cyn lleied â phosibl o arwynebau adlewyrchol

5. gorchudd addas ar ffenestri

6. rhagofalon tân digonol a gwasanaethau addas

7. awyru digonol

Technegau ymgynghori

1. holi

2. gwrando

3. edrych

4. archwiliad corfforol

5. ysgrifenedig

Math o datŵ

1. parhaol

2. lled-barhaol

Ardal i'w thrin

1. breichiau

2. coesau

3. cefn

4. wyneb neu wddf

Manylebau ac amrywiolion

1. tonfedd(i)

2. laser Switsh Q actif

3. laser Switsh Q goddefol

4. pylsiau nano-eiliad - ns

5. pylsiau pico-eiliad - ps

6. pŵer

7. ynni

8. ffliwens

9. hyd neu led pyls

10. cyfradd ailadrodd pyls

11. maint y smotyn

12. dyfeisiau oeri

13. cais prawf

Cyngor ac argymhellion

1. cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd

2. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau

3. y cyfnodau amser a argymhellir rhwng triniaethau

4. cynnyrch a thriniaethau yn awr ac yn y dyfodol​


Gwybodaeth Cwmpas

Iechyd a diogelwch

1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario

6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd

9. Y Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle

10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)

Protocolau sefydliadol a thriniaeth

1. rheolaeth y clinig

2. ymgynghori â'r cleient

3. cadw cofnodion

4. rheoli gwastraff

5. diogelwch laser

6. gweithdrefnau ôl-ofal

Arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

1. gostwng gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)

2. gostwng defnydd ar ynni (cyfarpar sy'n arbed ynni, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)

3. gostwng defnydd ar ddŵr ac adnoddau eraill

4. atal llygredd

5. defnyddio eitemau untro (tywelion hawdd eu sychu)

6. defnyddio dodrefn wedi'u hailgylchu, ecogyfeillgar

7. defnyddio paent â chemegau isel

8. defnyddio pecynnau cynnyrch ecogyfeillgar

9. dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

10. annog siwrneion i'r gwaith sy'n gostwng carbon

Anghenion amrywiol

1. diwylliannol

2. crefyddol

3. oed

4. anabledd

5. rhyw

Gwrtharwyddion sy'n atal

1. croen gyda lliw haul a lliw haul ffug

2. beichiogrwydd

3. rhai meddyginiaethau llysieuol a meddyginiaethau ffoto-sensitif ar y cyd â chanllawiau Cymdeithas Laser Meddygol Prydain

4. math a lliw pigment amhriodol

5. creithio celoid

6. canser y croen

7. lupus

8. melasma

9. HIV

10. anhwylderau system lymffatig

11. microbigmentiad colur llinell llygad

12. clefyd siwgr nad yw dan reolaeth

Gwrtharwyddion sy'n cyfyngu

1. soriasis

2. ecsema

3. acne

4. epilepsi

5. clefyd siwgr - ar gyfer triniaeth gwaelod y goes

6. clefyd heintus ac ymledol

Cofnodion ymgynghori

1. hanes y cleient

2. triniaethau cael gwared ar datŵs blaenorol

3. tatŵ gorchudd

4. hanes meddygol

5. cyflwr emosiynol a chorfforol

6. cyfyngiadau a therfynau'r driniaeth

7. hanes torheulo

8. dosbarthiad y croen

9. cyflwr y croen

10. llofnod y cleient

11. llofnod yr ymarferwr

Offer Laser Switsh Q

1. Rhuddem

2. Alecsandrit

3. Nd:Yag

4. Amlder KTP dybledig Nd:Yag

Anatomi a ffisioleg

1. strwythur a swyddogaethau'r croen

2. clefydau ac anhwylderau croen

3. proses wella'r croen

4. egwyddorion y system gylchredol a lymffatig

Adweithiau

1. gwynnu'r croen

2. cochni

3. pothellu

4. newidiadau pigmentaidd

5. anghysur gormodol

6. oedema

7. creithio

Cyngor ac argymhellion

1. gwasanaethau ychwanegol

2. cynnyrch ychwanegol

3. y ffactorau ffordd o fyw a newidiadau a allai fod yn ofynnol i wella effeithlonrwydd y driniaeth

4. anghenion triniaeth yn y dyfodol

5. newidiadau gweledol i'r croen ac amser adfer

6. defnydd o gynnyrch gofal croen a argymhellir yn ystod y broses wella megis amddiffyniad haul ffactor uchel

7. gwrtheffeithiau ac adweithiau yn dilyn triniaeth a sut i ddelio â hwy

8. asesiad yn dilyn triniaeth trwy adborth y cleient, fel holiadur, galwad ffôn, ymweliad dilynol nesaf

9. effeithiau wedi'r driniaeth a phwysigrwydd cleientiaid yn osgoi amlygiad i'r haul, triniaeth gwres a gweithgaredd corfforol egnïol​


Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. parodrwydd i ddysgu

2. agwedd hyblyg i weithio

3. gweithiwr tîm

4. agwedd bositif

5. moeseg bersonol a phroffesiynol​


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn

1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad

2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar

3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu

4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser

5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient

6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn

7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn

9. esbonio'n glir wrth y cleient os na ellir bodloni eu hanghenion neu'u disgwyliadau am unrhyw reswm

10. cynnal dulliau gwaith effeithiol, glân a diogel

11. cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, cyflenwr a'r gwneuthurwr wrth ddefnyddio cyfarpar, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel

12. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.​


Sgiliau

Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. y gallu i hunan-reoli

2. cyfathrebu llafar a di-eiriau gwych

3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient

4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth

5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient

6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad​


Geirfa

Craidd gwybodaeth

Bwriedir y cwrs hwn, a gymeradwywyd gan Gymdeithas Laser Meddygaeth Prydain - BMLA, ar gyfer gweithredwyr a staff eraill mewn Clinigau yn defnyddio systemau Laserau a Golau Pylsedig Dwys ar gyfer cael gwared ar wallt, arlliwio croen, deintyddiaeth, cael gwared ar datŵau a thriniaethau eraill tebyg. Mae wedi ei gynllunio i ddarparu sylfaen yn hanfodion defnydd diogel o systemau IPL, ac i fodloni'r gofynion hyfforddi a geir ym Mwletin Dyfeisiau'r MHRA DB2008(03) "Guidance on the safe use of lasers, intense light source systems and LEDs in medical, surgical, dental and aesthetic practice".


Ynni

Mesurir ynni mewn Jouleau (J) a dyma gynnyrch pŵer laser (watiau) ac amser (eiliadau).


Graddfa lliw ethnig

Mae'r raddfa lliw ethnig yn fesur o raddfa pigment naturiol yng nghroen cleientiaid o darddiad ethnig.


System ddosbarthu Fitzpatrick

Fe'i dyfeisiwyd ym 1975 ym Mhrifysgol Harvard, ac mae hon yn system ddosbarthiad croen, a fesurir ar raddfa o 1 i -6 ar sail adwaith ffotosensitifrwydd i ymbelydredd uwchfioled.

Ffliwens

Ffliwens yw'r amrywiolyn triniaeth a osodir gan yr ymarferwr laser yn ôl gwerthusiad o'r claf a'r math o groen ac mae'n pennu effeithlonrwydd y driniaeth.


Amlygiad goddefol uchaf (MPE) Dyma'r pŵer uchaf o ffynhonnell golau a ystyrir i fod yn ddiogel, mewn geiriau eraill yr hyn sydd â'r tebygolrwydd lleiaf o achosi difrod..

Nano-eiliad

Un biliynfed o eiliad.


Pŵer

Y raddfa y byddwn yn darparu'r ynni, a fesurir mewn watiau (w).

Pico-eiliad

Cyfnod o amser sy'n gyfartal i 10-12.

Clwt prawf

Prawf neu brofion i bennu graddfa adwaith y croen a sensitifrwydd y croen. Defnyddir prawf darn i brofi graddfa sensitifrwydd gwres, ymateb poen ac adwaith y croen yn ogystal ag i nodi'r paramedrau cychwyn cywir.

Mathau o datŵs

Mae tatŵ cosmetig yn broffesiynol a lled-barhaol (microbigmentiad). Mae tatŵ addurnol yn barhaol ond gall fod naill ai'n broffesiynol neu amatur. Mae mathau eraill yn feddyginiaethol neu drawmatig.

Cosmetig.

Parhaol.

Lled-barhaol.​


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKABT31

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cael gwared ar datŵ; systemau laser switsh Q;