Cynorthwyo gyda cholur dydd

URN: SKABT3
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Ion 2015

Trosolwg

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo uwch aelod o staff a chynnal colur dydd naturiol dan oruchwyliaeth. Bydd angen i chi allu paratoi ar gyfer y colur, cynnal dadansoddiad croen a defnyddio technegau ymgynghori. Bydd angen i chi hefyd allu taenu colur sylfaenol. Bydd y gwasanaeth hefyd yn cynnwys gwirio a yw uwch aelod o staff a'r cleient yn fodlon â'r effaith orffenedig.

Er mwyn cynnal y safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori da.

Prif ganlyniadau'r safon hon yw:

1. cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth gynorthwyo gyda cholur dydd

2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau colur

3. taenu colur dydd ​


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth gynorthwyo gyda cholur dydd**

1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth colur

2. dilyn cyfarwyddiadau uwch aelod o staff trwy gydol y gwasanaeth a cheisio cymorth yn ôl yr angen

3. gosod yr ardal waith i fodloni gweithdrefnau sefydliadol

4. gwirio bod yr amodau amgylcheddol yn addas ar gyfer y cleient a'r gwasanaeth

5. sicrhau bod eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

6. glanhau'r holl offer a'r cyfarpar yn dilyn gofynion sefydliadol

7. diheintio'ch dwylo cyn taenu colur

8. gosod cyfarpar a deunydd er hwylustod a defnydd diogel

9. sicrhau bod eich ystum a'ch safle yn isafu ar flinder a risg o anaf wrth weithio

10. cael gwared ar ddeunyddiau gwastraff yn ôl gofynion y salon

11. cynnal y gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

12. gadael yr ardal waith mewn cyflwr sy'n addas ar gyfer gwasanaethau pellach

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau colur**

13. defnyddio technegau ymgynghori i bennu gofynion y cleient o fewn cyfyngiadau eich cyfrifoldeb

14. sicrhau caniatâd wedi'i lofnodi gan riant neu warcheidwad cyn trin plentyn cyn unrhyw wasanaeth

15. sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y gwasanaeth ar gyfer plant sy'n iau na 16 oed

16. gofyn cwestiynau i'ch cleient i ganfod a oes ganddynt unrhyw wrtharwyddion i golur dydd a chofnodi ymatebion eich cleient

17. paratoi a gosod y cleient mewn safle i fodloni anghenion cynllun colur y cytunwyd arno

18. glanhau, tynhau a lleithio croen y cleient cyn taenu'r colur

19. adnabod a chofnodi math o groen y cleient

20. dewis a pharatoi cynnyrch colur sy'n addas i fath o groen y cleient a'u hoffterau

Taenu colur dydd**

21. defnyddio cynnyrch colur yn dilyn cyfarwyddiadau cynhyrchwyr ac uwch aelod o staff

22. taenu colur sylfaen a chuddiwr i greu arlliw croen sydd yr un peth ar draws yr wyneb

23. taenu powdr i gyflawni'r gorffeniad dymunol

24. taenu cynnyrch llygaid i gyfoethogi ardal y llygaid, aeliau a blew amrannau

25. taenu cynnyrch bochau i gyfoethogi lliw naturiol y cleient

26. taenu cynnyrch gwefusau i gyfoethogi gwefusau'r cleient

27. sicrhau bod y cleient ac uwch aelod o staff yn fodlon â'r canlyniad gorffenedig

28. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarparwyd

29. sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu llanw a'u llofnodi gan y cleient ac uwch aelod o staff


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth gynorthwyo gyda cholur dydd**

1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd

2. pam mae hi'n bwysig dilyn cyfarwyddiadau uwch aelod o staff a chanlyniadau peidio â gwneud hynny

3. yr amodau amgylcheddol sy'n ofynnol ar gyfer gwasanaethau a pham mae'r rhain yn bwysig

4. eich cyfrifoldebau a rhesymau dros gynnal eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol yn unol â gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

5. sut i ddiheintio offer a chyfarpar ar gyfer taenu colur dydd

6. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio

7. pwysigrwydd diheintio dwylo, a'r rhesymau dros wneud hynny

8. pam mae hi'n bwysig cynnal safonau hylendid ac egwyddorion osgoi croes-heintio

9. sut i baratoi a gosod y cleient yn ei safle ar gyfer taenu colur dydd

10. sut i osgoi anghysur ac anaf posibl i'ch hun a risgiau gosod y cleientiaid mewn safle gwael

11. sut i gael gwared ar wastraff o wasanaethau

12. y rhesymau dros gwblhau'r gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

13. y cyflwr y dylid gadael yr ardal waith a pham mae hyn yn bwysig

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau colur**

14. sut i ddefnyddio gwahanol dechnegau ymgynghori i ganfod anghenion y cleient

15. y sgiliau holi a gwrando y mae eu hangen arnoch chi er mwyn canfod y wybodaeth

16. y rhesymau pam mae angen rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y gwasanaeth a rhoi caniatâd ysgrifenedig wrth drin plant sy'n iau na 16 oed

17. pam mae hi'n bwysig holi cleientiaid i sefydlu unrhyw wrtharwyddion i golur dydd a chofnodi eu hymatebion

18. sut i baratoi'r croen a chynnal dadansoddiad croen

19. sut i adnabod mathau o groen

20. mathau o gyflyrau ac anhwylderau a allai wrtharwyddo'r gwasanaeth a sut i'w hadnabod

21. sut i ddewis cynnyrch colur sy'n addasu i fath o groen y cleient

Taenu colur dydd**

22. defnyddio deunydd ac offer sy'n ofynnol ar gyfer gwasanaethau colur

23. gwahanol fathau o gynnyrch colur a sut i'w taenu

24. y rhesymau pam y dylai cynnyrch colur gael eu taenu mewn dilyniant addas

25. canlyniadau dewis a thaenu colur yn anghywir

26. adweithiau posibl a allai ddigwydd a sut i ddelio â hwy

27. adeiladwaith a swyddogaethau sylfaenol y croen

28. y cyngor a'r argymhellion ar gynnyrch a gwasanaethau

29. sut i lanw cofnodion y cleient i fodloni gofynion cyfreithiol a sefydliadol  ​


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Technegau ymgynghori**

1. holi

2. gwrando

3. edrych

4. teimlo

5. ysgrifenedig

Paratoi'r cleient**

1. amddiffyn dillad

2. tynnu ategolion

3. amddiffyn y gwallt

Math o groen**

1. olewog

2. sych

3. cyfuniad

Cynnyrch colur**

1. colur sylfaen

2. cuddwyr

3. powdr

4. cynnyrch llygaid

5. cynnyrch bochau

6. cynnyrch gwefusau

Cyngor ac argymhellion**

1. cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd

2. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau

3. cynnyrch a thriniaethau yn awr ac yn y dyfodol


Gwybodaeth Cwmpas

Iechyd a diogelwch**

1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario

6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd

9. Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)

Mathau o groen**

1. olewog

2. sych

3. cyfuniad

4. normal

Gwrtharwyddo**

1. feirol – crachen annwyd

2. llid yr amrannau

3. briwiau a chrafiadau agored

4. chwydd

5. llid y croen

6. meinwe craith ddiweddar

7. ecsema

8. hyperkeratosis

9. alergeddau croen

10. cleisio

11. llygaid llawn dagrau

12. ecsema a psorïasis wedi gwella

13. cochni

Cynnyrch colur**

1. colur sylfaen

2. cuddwyr

3. powdr

4. cynnyrch llygaid

5. cynnyrch bochau

6. cynnyrch gwefusau

Adweithiau**

1. chwysu gormodol

2. adweithiau croen gwael

3. llygaid yn llawn dagrau

4. cochni gormodol

Cyngor ac argymhellion**

1. gwasanaethau ychwanegol

2. cynnyrch ychwanegol

3. cynnyrch i'w defnyddio yn y cartref a fydd o fudd i'r cleient a'r rheini i osgoi a pham

4. yr adweithiau a allai ddigwydd ar ôl triniaethau colur a pha gyngor i'w roi i gleientiaid ​


Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. parodrwydd i ddysgu

2. agwedd gweithio hyblyg

3. gweithiwr tîm

4. agwedd bositif

5. moeseg bersonol a phroffesiynol​

*
*


Ymddygiadau

Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. parodrwydd i ddysgu

2. agwedd gweithio hyblyg

3. gweithiwr tîm

4. agwedd bositif

5. moeseg bersonol a phroffesiynol​


Sgiliau

Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. y gallu i hunan-reoli

2. cyfathrebu llafar a dieiriau gwych

3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient

4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth

5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient

 6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad​


Geirfa

Adweithiau**

Adweithiau negyddol i'r driniaeth neu gynnyrch megis cochni gormodol neu adweithiau alergaidd.

Gwrtharwyddion**

Amodau neu gyfyngiadau sy'n nodi na ddylid cynnal gwasanaeth penodol.

Croes-heintio**

Trosglwyddo micro-organebau trwy arferion hylendid gwael trwy gyswllt uniongyrchol gydag unigolyn arall neu gyswllt anuniongyrchol trwy offer a chyfarpar wedi'u heintio.

Diheintio**

Atal twf micro-organebau (ac eithrio sborau) sy'n achosi salwch gan ddefnyddio cyfryngau cemegol.

Glanhau dwylo**

Glanhau neu olchi'r dwylo i lefel antiseptig er mwyn atal twf bacteria.

Amodau amgylcheddol**

Mae'r rhain yn cynnwys gwresogi, goleuadau ac awyru i sicrhau'r lleoliad a'r naws cywir ar gyfer y driniaeth.

Gofynion cyfreithiol**

Mae hyn yn cyfeirio at y cyfreithiau sy'n effeithio ar y ffordd y mae busnesau yn gweithredu, sut mae'r salon neu'r gweithle yn cael ei sefydlu a'i gynnal, pobl sy'n cael eu cyflogi a'r systemau gwaith y mae'n rhaid eu cynnal. Ymhlith yr enghreifftiau y mae rheoliadau COSHH, Rheoliadau Trydan yn y Gweithle a'r Rheoliadau Cynnyrch Cosmetig (Diogelwch).

Cyfarwyddiadau'r cynhyrchwyr**

Arweiniad a gyhoeddir gan gynhyrchwyr neu gyflenwyr cynnyrch neu gyfarpar yn ymwneud â'u defnydd diogel ac effeithiol.

Cyflwyniad personol**

Mae hyn yn cynnwys hylendid personol; defnyddio cyfarpar amddiffyn personol; dillad ac ategolion sy'n addas i'r gweithle penodol.

Gofynion y salon**

Unrhyw weithdrefnau'r salon neu reolau gwaith a gyhoeddir gan reolwyr y salon.

Sterileiddio**

Dulliau glanhau a ddefnyddir er mwyn dinistrio micro-organebau yn llwyr.​


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAB3

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Cynorthwyol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cynorthwyo; dydd; colur