Lleihau twf gwallt gan ddefnyddio golau pylsedig dwys neu systemau laser

URN: SKABT29
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch,Therapi Sba
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Ion 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â lleihau twf gwallt gan ddefnyddio golau pylsedig dwys (IPL) a systemau laser. Mae'n pwysleisio pwysigrwydd arferion gwaith diogel ac yn rhoi pwyslais ar nodi a rheoli peryglon yn y gweithle. Byddwch angen cyflawni ymgynghoriad trylwyr gyda'r cleient i nodi cyflwr y croen a´r gwallt, llunio cynllun triniaeth unigol, darparu triniaeth a chyngor ôl-ofal.


Er mwyn cynnal y safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori effeithiol.


Prif ganlyniadau'r safon hon yw:

1. cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth leihau twf gwallt gan ddefnyddio golau pylsedig dwys neu systemau laser

2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau

3. cyflawni lleihad twf gwallt gan ddefnyddio golau pylsedig dwys neu systemau laser​


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth leihau twf gwallt yn defnyddio golau pylsedig dwys neu systemau laser


1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y driniaeth

2. paratoi a diogelu'ch cleient a'ch hun gydag offer amddiffynnol personol o fewn yr ardal a reolir

3. sicrhau urddas a phreifatrwydd eich cleient ar bob amser

4. gosod eich cleient mewn safle i fodloni anghenion y gwasanaeth heb achosi iddynt deimlo'n anghysurus

5. sicrhau bod eich ystum eich hun a'ch dulliau gwaith yn isafu ar flinder a risg o anaf i chi'ch hun ac eraill

6. sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r driniaeth

7. defnyddio dulliau gwaith sy'n isafu ar risg o groes-heintio

8. sicrhau defnydd ar gyfarpar a deunyddiau glân

9. hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

10. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar ddefnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch

11. cael gwared ar ddeunydd gwastraff i fodloni gofynion cyfreithiol

12. cynnal y gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau


13. defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun triniaeth y cleient

14. adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd camau angenrheidiol

15. cytuno ar y driniaeth a'r canlyniadau sy'n bodloni anghenion y cleient

16. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn cynnal pob triniaeth

17. nodi hanes meddygol, dosbarthiad y croen, lliw gwallt, math o wallt, ardal i'w thrin, cyflwr a sensitifrwydd croen y cleient

18. cymryd tystiolaeth ffotograffig cyn y driniaeth o'r ardal i'w thrin gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol

19. esbonio'r teimlad corfforol a achosir gan y driniaeth i'r cleient

20. gosod yr ardal a reolir i fodloni gofynion cyfreithiol a sefydliadol

21. paratowch yr ardal i'w thrin a chyflawni prawf ar ddarn o'r croen i sefydlu ymateb ac addasrwydd i'r driniaeth

22. i sicrhau bod y cleient yn llofnodi wedi derbyn gweithdrefnau ôl-ofal ysgrifenedig, yn dilyn y prawf ar ddarn o'r croen

23. nodi a chytuno ar ganlyniadau ymarferol ar gyfer triniaeth ar gyfer lliw gwallt, math o wallt a dosbarthiad croen y cleient

Cyflawni lleihad twf gwallt gan ddefnyddio golau pylsedig dwys neu systemau laser


24. goleuo'r ardal i'w thrin i sicrhau gwelededd da

25. sicrhau bod yr ardal i'w thrin wedi ei heillio, yn lân, yn rhydd o olew ac yn sych cyn y driniaeth

26. marcio'r ardal i'w thrin i sicrhau cywirdeb y driniaeth

27. cyflawni dulliau oeri yn unol â dosbarthiad y croen

28. rhoi cynnyrch ar yr ardal i'w thrin, gan ddilyn protocolau triniaeth

29. galluogi a gosod y manylebau ac amrywiolion offer i fodloni'r cynllun triniaeth a gytunwyd

30. sicrhau y defnyddir yr offer llaw ar ongl a gwasgedd cywir

31. trin y croen i gael mynediad, yn ddibynnol ar yr ardal i'w thrin

32. gweithio'n systematig i gwmpasu'r ardal i'w thrin

33. gwirio lles eich cleient a monitro lefel adwaith y croen trwy gydol y driniaeth

34. cwblhau'r driniaeth trwy ddychwelyd yr offer i'r modd parod

35. sicrhau bod unrhyw gynnyrch yn cael ei dynnu i ffwrdd a'r ardal sydd wedi ei thrin yn cael ei hoeri a'i lleddfu

36. cymryd lluniau wedi'r driniaeth o'r ardaloedd a driniwyd

37. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y driniaeth a ddarparwyd

38. sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu cwblhau a'u llofnodi gennych chi a'r cleient​


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth leihau twf gwallt yn defnyddio golau pylsedig dwys neu systemau laser

*
1. eich cyfrifoldebau dros *iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd

2. pwysigrwydd a rhesymau dros ddilyn protocolau sefydliadol a thriniaeth

3. y cyfrifoldebau dan reoliadau trwyddedu awdurdod lleol ar eich cyfer chi a'ch eiddo a phwysigrwydd dilyn rheolau lleol, ble fo'n berthnasol

4. eich cyfrifoldebau dros ddilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cyflawni triniaethau laser

5. eich cyfrifoldebau cyfreithiol dros wirio canllawiau yswiriant cyfredol ar gyfer darparu triniaethau laser a golau pylsedig dwys (IPL)

6. pwysigrwydd cyflawni Craidd Gwybodaeth i fodloni canllawiau yswiriant

7. achosion a pheryglon amlygiad damweiniol i belydriad optegol a phwysigrwydd gwisgo offer amddiffynnol personol ac egwyddorion Uchafswm Amlygiad Goddefol

8. pam ei bod yn bwysig i gynnal urddas a phreifatrwydd eich cleient

9. sut y gall safle eich cleient, chithau a'ch dulliau gweithio effeithio ar y canlyniad dymunol a lleihau blinder a'r risg o anaf

10. amodau amgylcheddol angenrheidiol ar gyfer triniaethau, megis gwresogi ac awyru a pham bod y rhain yn bwysig

11. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio

12. pam ei bod yn bwysig osgoi traws heintio uniongyrchol ac anuniongyrchol trwy weithio'n ddiogel ac yn lanwaith

13. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gwaith diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn

14 y gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

15. cyfarwyddiadau cyflenwyr a chynhyrchwyr ar gyfer defnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch y mae'n rhaid i chi eu dilyn

16. achosion a pheryglon amlygiad damweiniol i wastraff clinigol megis llafnau rasel

17. y gofynion cyfreithiol ar gyfer cael gwared ar wastraff

18. y rhesymau dros gwblhau'r gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau


19. pwysigrwydd cyfathrebu gyda chleientiaid mewn modd proffesiynol

20. sut i gynnal ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient

21. y rhesymau pam na ddylid cyflawni triniaethau golau pylsedig dwys a laser ar blant dan 18 oed

22. pwysigrwydd cytuno ar wasanaeth sy'n bodloni anghenion y cleient

23. arwyddocâd cyfreithiol dros sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan gleient i dderbyn y gwasanaeth

24. y gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleient

25. y gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar y gwasanaeth a pham

26. y camau angenrheidiol i'w cymryd mewn perthynas â gwrtharwyddion penodol wrth gyfeirio cleientiaid

27. pwysigrwydd a'r rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid

28. y rhesymau dros nodi a chofnodi hanes meddygol y cleient, triniaethau blaenorol, tynnu gwallt blaenorol ac amlygiad i'r haul

29. dosbarthiad croen y cleient yn defnyddio graddfeydd Fitzpatrick a lliw ethnig

30. arwyddocâd cyfreithiol cynhyrchu tystiolaeth ffotograffig glir cyn ac wedi'r driniaeth

31. sut i ddisgrifio teimlad corfforol y driniaeth i'r cleient

32. sut mae'r trothwy poen a sensitifrwydd yn amrywio o un cleient i'r llall

33. pam ei bod yn bwysig gyflawni prawf ar ddarn o groen cyn triniaeth gychwynnol a chyn unrhyw driniaeth ddilynol ble gall fod angen cynyddu ffliwens

34. y rhesymau dros ddarparu cyfarwyddiadau ôl-ofal ysgrifenedig yn syth wedi prawf ar ddarn o groen

35. triniaethau gofal croen eraill a allai amharu ar IPL a thriniaethau laser fel lliwio'r croen a microbigmentiad

36. y triniaethau y gellid eu rhoi ar y cyd ag neu wedi triniaethau IPL a laser, fel epiladu trydanol

37. sut i baratoi'r cofnodion ymgynghori

Cyflawni lleihad twf gwallt gan ddefnyddio golau pylsedig dwys neu systemau laser


38. pwysigrwydd goleuo da yn yr ardal a reolir a goleuo'r ardal i'w thrin

39. sut y gall paratoi'r ardal i'w thrin amrywio yn ôl cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

40. y cyfarpar a thechnegau marcio cywir i'w defnyddio

41. y gwahanol fathau o ddulliau oeri a ddefnyddir a phryd a sut i'w defnyddio

42. sut i baru manylebau ac amrywiolion triniaeth i weddu i ddosbarthiadau croen, lliw gwallt a mathau o wallt

43. manylebau, amrywiolion a therminoleg IPL a laserau o ran ymarfer triniaeth

44. pam a sut i drin y croen yn ystod triniaeth

45. pam ei bod yn bwysig dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr i osod y teclyn llaw ar yr ongl a gwasgedd cywir

46. y gwahanol fathau o offer IPL a laser a'u manteision ac anfanteision

47. sut i ddehongli'r labeli rhybudd ar offer IPL a laser

48. nodweddion golau a sut mae'n rhyngweithio gyda chroen a gwallt

49. sut i weithio'n systematig, gan osgoi gorgyffwrdd triniaeth ar draws y mannau i'w trin

50. monitro gweithdrefnau ar gyfer gwirio'r cleient a'r adran i'w thrin

51. adweithiau posibl a allai ddigwydd a sut i ddelio â hwy

52. egwyddorion y sbectrwm electromagnetig

53. peryglon posibl defnyddio offer IPL a laser

54. anatomi a ffisioleg y croen a'r gwallt

55. y cyngor a'r argymhellion ar gynnyrch a gwasanaethau​


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Ardal a reolir

1. ardal wedi'i hamgáu

2. pwyntiau mynediad ac allanfa y gellir eu cloi

3. arwyddion

4. cyn lleied â phosibl o arwynebau adlewyrchol

5. gorchudd addas ar ffenestri

6. rhagofalon tân digonol a gwasanaeth addas

7. awyru digonol

Cyfarpar

1. laser

2. golau pylsedig dwys (IPL)

Technegau ymgynghori

1. holi

2. gwrando

3. edrych

4. archwiliad corfforol

5. ysgrifenedig

Dosbarthiad y croen

1. graddfa Fitzpatrick 1-3

2. graddfa Fitzpatrick 4-6

Lliw gwallt

1. pigment tywyll

2. pigment canolig

Math o wallt

1. bras

2. tenau

Ardal i'w thrin

1. ceseiliau

2. gên neu wddf

3. gwefus uchaf

4. llinell bicini

5. mannau preifat

6. cefn

7. coesau

8. canol aeliau

9. brest neu fron

Manylebau ac amrywiolion

1. tonfedd(i)

2. ffliwens

3. hyd neu led pyls

4. oedi pyls

5. cyfradd ailadrodd pyls

6. maint y smotyn

7. dyfeisiau oeri

8. cyfarpar llaw

Cyngor ac argymhellion

1. cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd

2. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau

3. cyfnodau amser a rhwng gwasanaethau

4. cynnyrch a thriniaethau yn awr ac yn y dyfodol


Gwybodaeth Cwmpas

Iechyd a diogelwch

1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario

6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd

9. Y Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle

10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)

Protocolau sefydliadol a thriniaeth

1. rheolaeth y clinig

2. ymgynghori â'r cleient

3. cadw cofnodion

4. rheoli gwastraff

5 diogelwch IPL a laser

6. gweithdrefnau ôl-ofal

Arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

1. gostwng gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)

2. gostwng defnydd ar ynni (cyfarpar sy'n arbed ynni, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)

3. gostwng defnydd ar ddŵr ac adnoddau eraill

4. atal llygredd

5. defnyddio eitemau untro

6. defnyddio dodrefn wedi'u hailgylchu, ecogyfeillgar

7. defnyddio paent â chemegau isel

8. defnyddio pecynnau cynnyrch ecogyfeillgar

9. dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

10. annog siwrneion i'r gwaith sy'n gostwng carbon

Anghenion amrywiol

1. diwylliannol

2. crefyddol

3. oed

4. anabledd

5. rhyw

Gwrtharwyddion sy'n atal

1. croen gyda lliw haul a lliw haul ffug

2. beichiogrwydd

3. rhai meddyginiaethau llysieuol

4. rhai meddyginiaethau ffoto-sensitif ar y cyd â chanllawiau Cymdeithas Laser Meddygol Prydain

5. math a lliw gwallt amhriodol

6. creithio celoid

7. canser y croen

8. lupus

9. melasma

Gwrtharwyddion sy'n cyfyngu

1. microbigmentiad

Cofnodion ymgynghori

1. hanes y cleient

2. triniaethau tynnu gwallt a thriniaethau croen blaenorol

3. lliw a math o wallt

4. hanes meddygol

5. cyflwr emosiynol a chorfforol

6. cyfyngiadau a therfynau'r driniaeth

7. hanes torheulo

8. dosbarthiad y croen

9. cyflwr y croen

10. llofnod y cleient

11. llofnod yr ymarferwr

Gwrtheffeithiau

1. croen yn troi'n llwyd neu'n wyn

2. cochni

3. pothellu

4. newidiadau pigmentaidd

5. anghysur gormodol

6. oedema

7. gwallt wedi ei freuo

8. arogl gwallt yn llosgi

9. creithio

Anatomi a ffisioleg

1. egwyddorion y system endocrin, chwarennau endocrin pwysig, yr hormon a secretir a'u gweithredoedd

2. effaith diffygion yn y system endocrin ar dwf gwallt fel Syndrom Ofarïaidd Polygodennog a sut mae'n dylanwadu ar y driniaeth

3. strwythur a swyddogaethau'r croen

4. clefydau ac anhwylderau croen

5. proses wella'r croen

6. strwythur y gwallt a'i ffoliglau

7. patrwm twf gwallt a sut mae hyn yn dylanwadu ar driniaethau presennol ac yn y dyfodol

8. achosion twf gwallt

9. egwyddorion y system gylchredol a lymffatig

Cyngor ac argymhellion

1. gwasanaethau ychwanegol

2. cynnyrch ychwanegol

3. y ffactorau ffordd o fyw a newidiadau a allai fod yn ofynnol i wella effeithlonrwydd y driniaeth

4. anghenion triniaeth yn y dyfodol a gwaith cynnal parhaus i gadw'r canlyniadau optimaidd

5. newidiadau gweledol i'r croen ac amser adfer

6. defnydd o gynnyrch gofal croen a argymhellir yn ystod y broses wella megis amddiffyniad haul ffactor uchel

7. gwrtheffeithiau ac adweithiau yn dilyn triniaeth a sut i ddelio â hwy

8. asesiad yn dilyn triniaeth trwy adborth y cleient, fel holiadur, galwad ffôn, ymweliad dilynol nesaf

9. effeithiol wedi'r driniaeth a phwysigrwydd cleientiaid yn osgoi amlygiad i'r haul, triniaeth gwres a gweithgaredd corfforol egnïol

10. technegau rheoli gwallt effeithiol fel osgoi cwyro, plycio, gwynnu, elïau diflewiad ac edafu rhwng triniaethau dilynol​


Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. parodrwydd i ddysgu

2. agwedd hyblyg i weithio

3. gweithiwr tîm

4. agwedd bositif

5. moeseg bersonol a phroffesiynol


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn

1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad

2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar

3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu

4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser

5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient

6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn

7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn

9. esbonio'n glir wrth y cleient os na ellir bodloni eu hanghenion neu'u disgwyliadau am unrhyw reswm

10. cynnal dulliau gwaith effeithiol, glân a diogel

11. cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr a'r cynhyrchwyr wrth ddefnyddio cyfarpar, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel

12. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.​


Sgiliau

Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. y gallu i hunan-reoli

2. cyfathrebu llafar a di-eiriau gwych

3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient

4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth

5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient

6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad​


Geirfa

Craidd gwybodaeth

Bwriedir y cwrs hwn, a gymeradwywyd gan Gymdeithas Laser Meddygaeth Prydain - BMLA, ar gyfer gweithredwyr a staff eraill mewn Clinigau yn defnyddio systemau Laserau a Golau Pylsedig Dwys ar gyfer cael gwared ar wallt, arlliwio croen, deintyddiaeth, cael gwared ar datŵau a thriniaethau eraill tebyg. Mae wedi ei gynllunio i ddarparu sylfaen yn hanfodion defnydd diogel o systemau IPL, ac i fodloni'r gofynion hyfforddi a geir ym Mwletin Dyfeisiau'r MHRA DB2008(03) "Guidance on the safe use of lasers, intense light source systems and LEDs in medical, surgical, dental and aesthetic practice".


Ynni

Mesurir ynni mewn Jouleau (J) a dyma gynnyrch pŵer laser (watiau) ac amser (eiliadau).


Graddfa lliw ethnig

Mae'r raddfa lliw ethnig yn fesur o raddfa pigment naturiol yng nghroen cleientiaid o darddiad ethnig.


Graddfa ddosbarthu Fitzpatrick

Fe'i dyfeisiwyd ym 1975 ym Mhrifysgol Harvard, ac mae hon yn system ddosbarthiad croen, a fesurir ar raddfa o 1 i 6 ar sail adwaith ffotosensitifrwydd i ymbelydredd uwchfioled.


Ffliwens

Ffliwens yw'r amrywiolyn triniaeth a osodir gan yr ymarferwr laser yn ôl gwerthusiad o'r claf a'r math o groen ac mae'n pennu effeithlonrwydd y driniaeth.


Mannau preifat

Gallai hyn gynnwys tynnu gwallt llinell bicini Brasilaidd neu Hollywood neu dynnu gwallt o fannau preifat gwrywaidd


Amlygiad Goddefol Uchaf (MPE)

Dyma'r pŵer uchaf o ffynhonnell golau a ystyrir i fod yn ddiogel, mewn geiriau eraill yr hyn sydd â'r tebygolrwydd lleiaf o achosi difrod.


Pŵer

Y raddfa y byddwn yn darparu'r ynni, a fesurir mewn watiau (w).


Clwt prawf

Profion i bennu graddfa adwaith a sensitifrwydd y croen. Gellir defnyddio clytiau prawf i brofi graddau sensitifrwydd gwres ac ymateb i boen ynghyd ac ymateb y croen. Gall clwt prawf cynnwys prawf clwt, prawf thermol neu brawf cyffwrdd.​


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAB34

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch, Therapydd Sba

Cod SOC


Geiriau Allweddol

lleihau gwallt; laser; golau pylsedig dwys; IPL; tynnu gwallt