Darparu triniaethau trydanol i'r corff

URN: SKABT21
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch,Therapi Sba
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Ion 2015

Trosolwg

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â gwella cyflwr y corff a'r croen gan ddefnyddio gwahanol gyfarpar trydanol i'r corff. Mae'n cynnwys y sgiliau sy'n gysylltiedig â darparu ymgynghoriad trylwyr gyda'r cleient i lunio a chyflwyno cwrs o driniaeth benodol wedi'i deilwra i gyd-fynd ag anghenion cleientiaid unigol. Mae'r gallu i ddarparu cyngor ôl-ofal perthnasol hefyd yn ofynnol.

Er mwyn cyflawni'r safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori effeithiol.

Prif ganlyniadau'r safon hon yw:

1. cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu triniaethau trydanol i'r corff

2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau trydanol i'r corff

3. cynnal triniaethau trydanol i'r corff​


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu triniaethau trydanol i'r corff**

1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y driniaeth

2. paratoi'ch cleient a'ch hun i fodloni gofynion cyfreithiol a sefydliadol

3. cynnal urddas a phreifatrwydd eich cleient

4. gosod eich cleient mewn safle i fodloni anghenion y driniaeth

5. sicrhau bod eich ystum a'ch dulliau gwaith eich hun yn isafu ar flinder a risg o anaf i'ch hun ac eraill

6. sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r driniaeth

7. cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus trwy gydol y triniaethau

8. defnyddio dulliau gwaith sy'n isafu ar risg o groes-heintio

9. sicrhau defnydd ar gyfarpar a deunydd glân

10. hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

11. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar ddefnydd diogel o gyfarpar, deunydd a chynnyrch

12. cael gwared ar ddeunydd gwastraff i fodloni gofynion cyfreithiol

13. cwblhau'r driniaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau trydanol i'r corff**

14. defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun triniaeth y cleient

15. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan riant neu warcheidwad cyn trin plentyn cyn unrhyw driniaeth

16. sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y gwasanaeth ar gyfer plant sy'n iau na 16 oed

17. adnabod unrhyw wrtharwyddion  a chymryd y camau angenrheidiol

18. cytuno ar y driniaeth a'r canlyniadau sy'n bodloni anghenion y cleient

19. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn cynnal y driniaeth

20. cynnal prawf/profion cyn y driniaeth i bennu sensitifrwydd y croen

21. adnabod math o gorff a chyflwr corff y cleient

22. sicrhau bod croen y cleient yn cael ei baratoi i gyd-fynd â'r math o gyfarpar i'w ddefnyddio

23. dewis offer a chyfarpar a chynnyrch i gyd-fynd â'r amcanion triniaeth, math o gorff a chyflwr y corff

Cynnal triniaethau trydanol i'r corff**

24. rhoi gwybodaeth i'r cleient am y teimlad a'r sŵn y mae'r cyfarpar yn eu cynhyrchu

25. esbonio gweithdrefn y driniaeth wrth y cleient, yn ystod pob cam o'r broses

26. defnyddio ac addasu'r cyfarpar, yr offer a hyd y driniaeth i gyd-fynd â math o gorff a chyflwr corff y cleient

27. cymryd camau adferol os yw'r cleient yn profi anghysur neu adweithiau

28. sicrhau bod y cleient yn fodlon â'r canlyniad gorffenedig ac yn bodloni amcanion triniaeth y cytunwyd arnynt

29. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y driniaeth a ddarparwyd

30. sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu llanw a'u llofnodi gennych chi a'r cleient​


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu triniaethau trydanol i'r corff**

1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd

2. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer amddiffyn a pharatoi cleient

3. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol eich hun

4. y rhesymau dros gynnal urddas a phreifatrwydd y cleient

5. technegau gosod eich hun a'r cleient mewn safle diogel i atal anghysur

6. amodau amgylcheddol angenrheidiol ar gyfer gwasanaethau megis gwresogi, sain ac awyru, a pham mae'r rhain yn bwysig

7. pam mae hi'n bwysig cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus

8. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio

9. pam mae'n bwysig osgoi croes-heintio uniongyrchol ac anuniongyrchol trwy weithio'n ddiogel ac yn lân

10. gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

11. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gwaith diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn

12. cyfarwyddiadau cyflenwyr a chynhyrchwyr ar ddefnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch y mae'n rhaid i chi eu dilyn

13. gofynion cyfreithiol ar gyfer cael gwared ar wastraff

14. y rhesymau dros gwblhau'r driniaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau trydanol i'r corff**

15. pam mae'n bwysig cyfathrebu gyda chleientiaid mewn modd proffesiynol

16. sut i gynnal ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient

17. y gofynion cyfreithiol dros ddarparu gwasanaethau i blant sy'n iau na 16 oed

18. yr oed pan fydd unigolyn yn cael ei ystyried yn blentyn a sut mae hyn yn amrywio'n genedlaethol

19. pwysigrwydd cytuno ar wasanaeth sy'n bodloni anghenion y cleient

20. pwysigrwydd cyfreithiol sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient i gynnal y driniaeth

21. gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleient

22. sut i adnabod gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar y driniaeth a pham

23. y gwrtharwyddion sy'n gofyn am atgyfeiriad meddygol a pham

24. y camau angenrheidiol i'w cymryd mewn perthynas â gwrtharwyddion penodol wrth gyfeirio cleientiaid

25. y rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion penodol wrth gyfeirio cleientiaid

26. sut i gynnal a dehongli profion cyn y driniaeth

27. sut i asesu tyndra cyhyrau'r wyneb, math o groen a chyflwr

28. sut i asesu ystum, dargadwad hylif a braster y corff

29. nodweddion gwahanol fathau o gyrff a chyflyrau cyrff

30. dethol a pharatoi offer, cyfarpar a chynnyrch ar gyfer triniaethau trydanol i'r corff

Cynnal triniaethau trydanol i'r corff**

31. pam mae'n bwysig esbonio proses y driniaeth, teimlad y cyfarpar a'r sŵn wrth y cleient

32. sut i ddefnyddio ac addasu cyfarpar trydanol i'r corff i gyd-fynd â gwahanol fathau o gyrff, cyflyrau'r corff ac amcanion triniaeth

33. buddion ac effeithiau gwahanol fathau o gyfarpar trydanol i'r corff

34. buddion cynnyrch sydd ar gael ar gyfer triniaethau trydanol i'r corff a'u heffeithiau

35. math o geryntau trydanol sy'n cael eu cynhyrchu gan y cyfarpar sy'n cael eu defnyddio a'u heffeithiau ar y corff

36. mathau o driniaethau y gellid eu rhoi ar y cyd â, neu ar ôl, triniaethau trydanol i'r corff 

37. risgiau sy'n gysylltiedig â thriniaethau trydanol i'r corff a sut i ddelio â hwy

38. anatomi a ffisioleg y corff

39. adweithiau posibl a allai ddigwydd, sut i ddelio â hwy a pha gyngor i'w roi i gleientiaid

40. y dulliau a ddefnyddir i werthuso effeithiolrwydd triniaethau trydanol i'r corff

41. y cyngor ac argymhellion ar gynnyrch a thriniaethau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Technegau ymgynghori**

1. holi

2. gwrando

3. edrych

4. teimlo

5. ysgrifenedig

Camau angenrheidiol**

1. addasu'r driniaeth

2. esbonio pam nad oedd modd cynnal y driniaeth

3. annog y cleient i geisio cyngor meddygol

Math o gorff**

1. endomorff

2. mesomorff

3. ectomorff

Cyflwr y corff**

1. cellulite

2. tyndra cyhyrau gwael

3. cylchrediad araf

4. math o groen

Offer a chyfarpar**

1. trydanol

2. ysgogwr cyhyrau electro – EMS

3. microsgraffiniad

4. cyfarpar draenio lymffatig

Amcanion y driniaeth**

1. gwell cyflwr y croen a'r corff

2. gwell amlinell a chyflwr cyhyrau

3. gwell draeniad lymffatig

Cyngor ac argymhellion**

1. cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd

2. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau

3. cyfnodau o amser rhwng triniaethau

4. cynnyrch a thriniaethau yn awr ac yn y dyfodol​


Gwybodaeth Cwmpas

Iechyd a diogelwch**

1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario

6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd

9. Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)

Arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy**

1. gostwng gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)

2. gostwng defnydd ar ynni (cyfarpar sy'n arbed ynni, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)

3. gostwng defnydd ar ddŵr ac adnoddau eraill

4. atal llygredd

5. defnyddio eitemau untro

6. defnyddio dodrefn wedi'u hailgylchu, ecogyfeillgar

7. defnyddio paent â chemegau isel

8. defnyddio pecynnau cynnyrch ecogyfeillgar

9. dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

10. annog siwrneion i'r gwaith sy'n gostwng carbon

Anghenion amrywiol**

1. diwylliannol

2. crefyddol

3. oed

4. anabledd

5. rhyw

Gwrtharwyddion sy'n atal

 1. clefydau croen heintus

2. trafferthion ar y system nerfol

3. meinwe craith ddiweddar

4. lympiau a chwyddiadau heb ddiagnosis

5. triniaeth ganser

Gwrtharwyddion sy'n cyfyngu

1. mynd trwy driniaeth feddygol

2. clefyd siwgr nad yw dan reolaeth

3. epilepsi

4. pwysedd gwaed uchel/isel

5. microbigmentiad

6. hanes o thrombosis neu emboledd

7. pinnau neu blatiau metel

8. meddyginiaeth

9. beichiogrwydd

10. tyllau

11. pryder

12. toriadau a chrafiadau

13. cleisiau

14. IPL neu laser a diflewiad

15. anhwylder/clefyd y galon

16. rheolydd calon

Anatomi a ffisioleg**

1. strwythur a swyddogaeth y penglog

2. strwythur, swyddogaeth a mathau o gyhyrau

3. safleoedd a gweithredoedd prif grwpiau cyhyrau yn y corff

4. diffiniad 'tarddle' a 'mewnosodiad' cyhyr

5. achosion blinder cyhyrau a sut i'w hadnabod

6. strwythur a swyddogaethau'r croen

7. strwythur, lleoliad a defnydd y corff ar feinwe bloneg

8. swyddogaeth y system endocrin a'i pherthynas â magu a cholli pwysau

9. swyddogaeth y system dreulio

 10. adeiladwaith a swyddogaeth y galon a'r rhedwelïau, gwythiennau a chapilarïau

11.adeiladwaith a swyddogaeth system lymffatig y corff

12. egwyddorion sylfaenol system nerfol ganolog, pwyntiau modur a system awtonomig

13. effaith triniaethau trydanol ar systemau cyhyrau, croen, cylchrediad y gwaed, sgerbydol, lymffatig, endocrin, dreulio a nerfol

14. sut y mae heneiddio yn effeithio ar y corff a'r croen ac yn cyfyngu ar effeithiolrwydd triniaethau trydanol

Adweithiau**

1. llosg galfanig

2. cleisio

3. llid

4. adwaith alergaidd

5. cochni gormodol

6. blinder cyhyrau

7. gor/hypobigmentiad

Cyngor ac argymhellion**

1. gwasanaethau ychwanegol

2. cynnyrch ychwanegol

3. buddion cwrs o driniaeth

4. ffactorau a newidiadau ffordd o fyw a allai fod yn ofynnol i wella effeithiolrwydd y driniaeth

5. cyfyngiadau ar ôl y driniaeth ac anghenion triniaeth yn y dyfodol

6. cynnyrch i'w defnyddio yn y cartref a fydd o fudd i'r cleient ac yn ei amddiffyn a'r rheini i'w hosgoi a pham

7. sut y gall trefniadau gofal croen effeithio a gwella ar effeithiolrwydd y driniaeth


Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. parodrwydd i ddysgu

2. agwedd gweithio hyblyg

3. gweithiwr tîm

4. agwedd bositif

5. moeseg bersonol a phroffesiynol​


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn

1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad

2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar

3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu

4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser

5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient

6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn

7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn

9. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.​


Sgiliau

Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. y gallu i hunan-reoli

2. cyfathrebu llafar a dieiriau gwych

3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient

4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth

5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient

6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad​


Geirfa

Prawf s​ensitifrwydd y croen**

Prawf i bennu a oes gan y cleient alergedd i gynnyrch sy'n cael ei daenu.

Clwt prawf**

 Hwn yw'r prawf sy'n pennu gradd ymateb y croen a'r sensitifrwydd. Gellir defnyddio clytiau prawf i brofi graddau sensitifrwydd gwres ac ymateb i boen ynghyd ac ymateb y croen. Gall clwt prawf gynnwys prawf clwt, prawf thermol neu brawf cyffwrdd.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAB13

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch, Therapydd Sba, Arbenigwr Gofal Croen

Cod SOC


Geiriau Allweddol

triniaethau trydanol i'r corff