Cynorthwyo gyda thriniaethau gofal croen wyneb
Trosolwg
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo uwch aelod o staff a chynnal triniaeth fach i'r wyneb dan oruchwyliaeth. Bydd angen i chi allu paratoi ar gyfer triniaethau trwy osod yr ardal waith, defnyddio technegau ymgynghori, cynnal dadansoddiad croen a pharatoi'r cleient. Bydd angen i chi hefyd fod yn gallu cynorthwyo gyda thriniaethau i'r wyneb, gan gynnwys glanhau, tynnu colur y llygaid, tynhau a lleithio. Bydd y driniaeth hefyd yn cynnwys gwirio a yw uwch aelod o staff a'r cleient yn fodlon â'r effaith orffenedig.
Er mwyn cynnal y safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori da.
Prif ganlyniadau'r safon hon yw:
1. cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth gynorthwyo gyda thriniaethau wyneb
2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau wyneb
3. cynnal triniaethau wyneb
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth gynorthwyo gyda thriniaethau i'r wyneb**
1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y driniaeth i'r wyneb
2. dilyn cyfarwyddiadau uwch aelod o staff trwy gydol y driniaeth a cheisio cymorth yn ôl yr angen
3. gosod yr ardal waith i fodloni gweithdrefnau sefydliadol
4. gwirio bod yr amodau amgylcheddol yn addas ar gyfer y cleient a'r driniaeth
5. sicrhau bod eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
6. glanhau'r holl offer a'r cyfarpar yn dilyn gofynion sefydliadol
7. diheintio'ch dwylo cyn cynnal y driniaeth i'r wyneb
8. gosod cyfarpar a deunydd er hwylustod a defnydd diogel
9. sicrhau bod eich ystum a'ch dulliau gwaith eich hun yn isafu ar flinder a risg o anaf i chi'ch hun ac eraill
10. cael gwared ar ddeunyddiau gwastraff yn ôl gofynion y salon
11. cynnal y gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
12. gadael yr ardal waith mewn cyflwr sy'n addas ar gyfer triniaethau pellach
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau wyneb**
13. defnyddio technegau ymgynghori i bennu gofynion y cleient o fewn cyfyngiadau eich cyfrifoldeb
14. sicrhau caniatâd wedi'i lofnodi gan riant neu warcheidwad cyn trin plentyn cyn unrhyw wasanaeth
15. sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y gwasanaeth ar gyfer plant sy'n iau na 16 oed
16. gofyn cwestiynau i'ch cleient i ganfod a oes ganddynt unrhyw wrtharwyddion a chofnodi ymatebion eich cleient
17. paratoi a gosod y cleient mewn safle i fodloni anghenion triniaeth i'r wyneb y cytunwyd arni
18. glanhau croen y cleient a chynnal dadansoddiad croen ar y cleient a chofnodi math o groen
19. dewis a pharatoi cynnyrch wyneb ar gyfer math o groen y cleient ar sail canlyniadau'r dadansoddiad croen
Cynnal triniaethau i'r wyneb**
20. defnyddio cynnyrch wyneb yn dilyn cyfarwyddiadau cynhyrchwyr ac uwch aelod o staff
21. defnyddio technegau i lanhau croen y cleient yn ddwfn
22. gadael y croen yn lân ac wedi'i dynhau ac wedi'i leithio
23. sicrhau bod y cleient ac uwch aelod o staff yn fodlon â'r canlyniad gorffenedig
24. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y driniaeth a ddarparwyd
25. sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu llanw a'u llofnodi gan y cleient ac uwch aelod o staff
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth gynorthwyo gyda thriniaethau i'r wyneb**
1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd
2. pam mae hi'n bwysig dilyn cyfarwyddiadau uwch aelod o staff a chanlyniadau peidio â gwneud hynny
3. yr amodau amgylcheddol sy'n angenrheidiol ar gyfer triniaethau a pham mae'r rhain yn bwysig
4. eich cyfrifoldebau a rhesymau dros gynnal eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol eich hun yn unol â gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
5. sut i ddiheintio a sterileiddio offer a chyfarpar ar gyfer triniaethau wyneb
6. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio
7. pwysigrwydd diheintio dwylo, a'r rhesymau dros wneud hynny
8. pam mae hi'n bwysig cynnal safonau hylendid ac egwyddorion osgoi croes-heintio
9. sut i baratoi a gosod y cleient yn ei safle ar gyfer triniaeth gofal croen wyneb
10. sut i osgoi anghysur ac anaf posibl i'ch hun a risgiau gosod y cleientiaid mewn safle gwael
11. sut i gael gwared ar wastraff o driniaethau wyneb
12. y rhesymau dros gwblhau'r driniaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
13. y cyflwr y dylid gadael yr ardal waith a pham mae hyn yn bwysig
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau i'r wyneb**
14. sut i ddefnyddio gwahanol dechnegau ymgynghori i ganfod anghenion y cleient
15. y sgiliau holi a gwrando y mae eu hangen arnoch chi er mwyn canfod y wybodaeth
16. y rhesymau pam mae angen rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y gwasanaeth a rhoi caniatâd ysgrifenedig wrth drin plant sy'n iau na 16 oed
17. pam mae'n bwysig holi cleientiaid i sefydlu unrhyw wrtharwyddion i driniaethau gofal croen wyneb a chofnodi'u hymatebion
18. sut i baratoi'r croen a chynnal dadansoddiad croen
19. mathau o anhwylderau'r croen a allai wrtharwyddo neu gyfyngu ar y driniaeth a sut i'w hadnabod
20. sut i ddewis gwahanol gynnyrch wyneb sy'n addas i fath o groen a chyflwr croen y cleient
Cynnal triniaethau i'r wyneb**
21. gwahanol fathau o gynnyrch, offer a chyfarpar wyneb a sut i'w defnyddio
22. y gwahanol dechnegau glanhau a ddefnyddir o fewn triniaethau i'r wyneb a sut i'w cynnal
23.y rhesymau a'r buddion dros lanhau, tynhau a lleithio'r croen
24. yr adweithiau a allai ddigwydd a pha gamau i'w cymryd
25. adeiladwaith a swyddogaethau sylfaenol y croen
26. y cyngor a'r argymhellion ar gynnyrch a gwasanaethau
27. llanw cofnodion y cleient i fodloni gofynion cyfreithiol a sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Technegau ymgynghori**
1. holi
2. gwrando
3. edrych
4. teimlo
5. ysgrifenedig
Paratoi'r cleient**
1. gorchuddio'r cleient
2. tynnu ategolion
3. amddiffyn y gwallt
4. tynnu dillad priodol
Math o groen**
1. olewog
2. sych
3. cyfuniad
Cynnyrch wyneb**
1. glanhawr
2. tynhawr
3. tynnwr colur llygaid
4. lleithydd
Cyngor ac argymhellion**
1. cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd
2. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau
3. cynnyrch a thriniaethau yn awr ac yn y dyfodol
Gwybodaeth Cwmpas
Iechyd a diogelwch**
1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario
6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd
9. Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)
Gwrtharwyddo neu gyfyngu**
1. feirol – crachen annwyd
2. llid yr amrannau
3. briwiau a chrafiadau agored
4. chwydd
5. llid y croen
6. meinwe craith ddiweddar
7. ecsema
8. hyperkeratosis
9. alergeddau croen
10. cleisio
11. llygaid llawn dagrau
12. ecsema a psorïasis wedi gwella
13. cochni
Math o groen**
1. olewog
2. sych
3. cyfuniad
4. normal
Cyflwr y croen**
1. sensitif
2. comedone
3. milia
4. dadhydredig
5. capilarïau wedi torri
6. llinorod
7. plorod
Adweithiau**
1. chwysu gormodol
2. adweithiau croen drwg
3. llygaid yn llawn dagrau
4. cochni gormodol
Cyngor ac argymhellion**
1. gwasanaethau ychwanegol
2. cynnyrch ychwanegol
3. pam mae hi'n bwysig darparu trefn gofal sylfaenol yn y cartref
4. cynnyrch at ddefnydd yn y cartref a fydd o fudd i'r cleient a'r rheini i osgoi a pham
5. yr adweithiau a allai ddigwydd ar ôl triniaethau wyneb a pha gyngor i'w roi i gleientiaid
6. y cyfnodau a argymhellir rhwng triniaethau i'r wyneb
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
1. parodrwydd i ddysgu
2. agwedd gweithio hyblyg
3. gweithiwr tîm
4. agwedd bositif
5. moeseg bersonol a phroffesiynol
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn
1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad
2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar
3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu
4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser
5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient
6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn
7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn
9. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.
Sgiliau
Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
1. y gallu i hunan-reoli
2. cyfathrebu llafar a dieiriau gwych
3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient
4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth
5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient
6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad
Geirfa
Adweithiau**
Adweithiau negyddol i'r driniaeth neu gynnyrch megis cochni gormodol neu adweithiau alergaidd.
Gwrtharwyddion**
Amodau neu gyfyngiadau sy'n nodi na ddylid cynnal gwasanaeth penodol.
Croes-heintio**
Trosglwyddo micro-organebau trwy arferion hylendid gwael trwy gyswllt uniongyrchol gydag unigolyn arall neu gyswllt anuniongyrchol trwy offer a chyfarpar wedi'u heintio.
Diheintio**
Atal twf micro-organebau (ac eithrio sborau) sy'n achosi salwch gan ddefnyddio cyfryngau cemegol.
Glanhau dwylo**
Glanhau neu olchi'r dwylo i lefel antiseptig er mwyn atal twf bacteria.
Amodau amgylcheddol**
Mae'r rhain yn cynnwys gwresogi, goleuadau ac awyru i sicrhau'r lleoliad a'r naws cywir ar gyfer y driniaeth.
Gofynion cyfreithiol**
Mae hyn yn cyfeirio at y cyfreithiau sy'n effeithio ar y ffordd y mae busnesau yn gweithredu, sut mae'r salon neu'r gweithle yn cael ei sefydlu a'i gynnal, pobl sy'n cael eu cyflogi a'r systemau gwaith y mae'n rhaid eu cynnal. Ymhlith yr enghreifftiau y mae rheoliadau COSHH, Rheoliadau Trydan yn y Gweithle a'r Rheoliadau Cynnyrch Cosmetig (Diogelwch).
Cyfarwyddiadau'r cynhyrchwyr**
Arweiniad a gyhoeddir gan gynhyrchwyr neu gyflenwyr cynnyrch neu gyfarpar yn ymwneud â'u defnydd diogel ac effeithiol.
Cyflwyniad personol**
Mae hyn yn cynnwys hylendid personol; defnyddio cyfarpar amddiffyn personol; dillad ac ategolion sy'n addas i'r gweithle penodol.
Gofynion y salon**
Unrhyw weithdrefnau'r salon neu reolau gwaith a gyhoeddir gan reolwyr y salon.
Sterileiddio**
Dulliau glanhau a ddefnyddir er mwyn dinistrio micro-organebau yn llwyr.