Darparu triniaethau tylino’r corf

URN: SKABT16
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch,Therapi Sba
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Ion 2015

Trosolwg

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu triniaethau tylino i'r pen a'r corff.  Mae'n cynnwys tylino'r pen a'r corff â llaw, yn ogystal â thechnegau mecanyddol ar gyfer tylino'r corff.  Mae'r gallu i addasu technegau tylino i anghenion cleientiaid unigol yn ofyniad.

Er mwyn cyflawni'r safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid trwy gydol eich gwaith.  Bydd angen i chi hefyd gynnal ymddangosiad personol proffesiynol a dangos sgiliau cyfathrebu da.

Prif ganlyniadau'r safon hon yw:

1. cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu triniaethau tylino'r corff

2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau tylino

3. cynnal triniaethau tylino â llaw

4. cynnal triniaethau tylino mecanyddol​


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal dulliau gweithio diogel ac effeithiol wrth ddarparu triniaethau tylino'r corff**

1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth

2. paratoi eich cleient a'ch hun er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol a'r diwydiant

3. sicrhau gwedduster a phreifatrwydd eich cleient bob amser

4. gosod eich cleient mewn safle i fodloni gofynion y gwasanaeth

5. sicrhau bod eich ystum a'ch dulliau gwaith eich hun yn lleihau blinder a risg o anaf i chi'ch hun ac

eraill.

6. darparu cefnogaeth ac amddiffyniad i'r ardaloedd gofynnol o'r corff yn ystod y driniaeth

7. cymryd camau adferol os bydd gwrtharwyddion neu anghysur yn digwydd yn ystod y driniaeth

8. cadarnhau lles eich cleient drwy'r driniaeth a chaniatáu amser adfer digonol ar ôl y driniaeth

9. sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r gwasanaeth

10. defnyddio dulliau gweithio sy'n osgoi'r risg o groes-heintio

11. sicrhau eich bod yn defnyddio offer a deunyddiau glân

12. hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

13. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar ddefnydd diogel o gyfarpar, deunydd a chynnyrch

14. cael gwared ar ddeunyddiau gwastraff yn ôl gofynion cyfreithiol

15. cynnal y gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau tylino**

16. defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun gwasanaeth y cleient

17. sicrhau caniatâd wedi'i lofnodi gan riant neu warcheidwad cyn trin plentyn cyn unrhyw wasanaeth

18. sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y gwasanaeth ar gyfer plant sy'n iau na 16 oed

19. adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd y camau angenrheidiol

20. asesu nodweddion corfforol y cleient a chytuno ar amcanion y driniaeth sy'n bodloni anghenion y cleient

21. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn cynnal y gwasanaeth

22. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y driniaeth a ddarparwyd

23. sicrhau eich bod chi a'r cleient yn cwblhau ac yn llofnodi cofnodion y cleient

Cynnal triniaethau tylino â llaw**

24. addasu eich technegau tylino, trefn a chyfryngau tylino i fodloni nodweddion corfforol y cleient a'r ardaloedd i'w trin

25. amrywio dyfnder, rhythm a phwysau technegau tylino i fodloni amcanion y driniaeth a nodweddion corfforol a hoffterau'r cleient

26. sicrhau nad yw'r defnydd o gyfrwng tylino yn creu unrhyw wastraff

Cynnal triniaethau tylino mecanyddol**

27. darparu gwybodaeth am y teimlad sy'n cael ei greu gan yr offer a'r driniaeth i'r cleient yn ystod pob cam yn y broses

28. addasu'r offer a hyd y driniaeth i gydweddu nodweddion corfforol y cleient a'r ardaloedd i'w trin

29. amrywio trefn, dyfnder, rhythm a phwysau'r symudiadau tylino i fodloni amcanion y driniaeth a'r ardal i'w trin


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu triniaethau tylino i'r corff**

1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd

2. paratoi eich cleient er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol a'r diwydiant

3. eich cyfrifoldebau dros gynnal eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol eich hun yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion y sefydliad

4. y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol ar eich cyfer chi a'ch eiddo

5. y rhesymau dros gynnal gwedduster a phreifatrwydd y cleient yn ystod y driniaeth

6. technegau gosod y cleient a chithau yn ddiogel er mwyn osgoi anghysur

7. yr ardaloedd o'r corff a allai fod angen cefnogaeth ac amddiffyniad yn ystod y driniaeth

8. y camau adferol i'w cymryd os bydd gwrtharwyddion neu anesmwythdra yn digwydd yn ystod y driniaeth

9. pam ei bod yn bwysig gwirio lles y cleient drwy'r driniaeth a chaniatáu amser adfer digonol ar ôl y driniaeth

10. yr amodau amgylcheddol sy'n angenrheidiol ar gyfer triniaethau a pham mae'r rhain yn bwysig

11. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio

12. dulliau o weithio'n ddiogel a hylan ac sy'n lleihau'r risg o groes-heintio

13. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gweithio'n ddiogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn

14. y dulliau gweithio gwahanol sy'n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

15. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu gynhyrchwyr ar gyfer defnyddio offer, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel.

16. cael gwared ar ddeunyddiau gwastraff yn ôl gofynion y gyfraith

17. y rhesymau dros gwblhau'r gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau tylino**

18. pam ei bod yn bwysig cyfathrebu gyda chleientiaid mewn modd proffesiynol

19. sut i gwblhau ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient

20. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu triniaeth i blant sy'n iau na 16 oed

21. yr oedran y mae unigolyn yn cael ei ystyried yn blentyn a sut mae hyn yn amrywio'n genedlaethol

22. pwysigrwydd cytuno ar driniaeth sy'n bodloni anghenion y cleient

23. arwyddocâd cyfreithiol sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn derbyn triniaeth

24. y gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleientiaid

25. sut i adnabod y gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu'r gwasanaeth

26. y gwrtharwyddion sy'n galw am atgyfeiriad meddygol a pham

27.y camau angenrheidiol mewn cysylltiad â gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid

28. y rhesymau dros beidio enwi gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid

29. sut i gynnal asesiad gweledol o nodweddion corfforol y cleientiaid

30. achosion namau a chyflyrau ystum y corff

31. sut i gyfateb cyfrwng tylino i wahanol fathau o groen a chyflyrau gwahanol y croen

32. y cyngor a'r argymhellion y dylech eu rhoi ar gynnyrch a thriniaethau i'ch cleient

Cynnal triniaethau tylino â llaw a thylino mecanyddol**

33. y gwahanol fathau, defnyddio a manteision o ddefnyddio triniaethau gwres cyn tylino

34. defnyddio technegau tylino i fodloni amcanion amrywiol y driniaeth

35. sut y gellid addasu trefn, dyfnder a phwysau i weddu nodweddion corfforol gwahanol gleientiaid

36. sut i addasu triniaethau tylino i weddu amcanion y driniaeth a'r ardaloedd gwahanol i'w trin

37. y rhannau o'r corff a nodweddion y corff sydd angen gofal penodol wrth gynnal triniaethau tylino mecanyddol

38. sut i ddewis a defnyddio offer, cyfryngau a thechnegau tylino i sicrhau'r budd mwyaf i'r cleient

39. manteision tylino mecanyddol a thylino â llaw a sut y gellir addasu'r rhain i atal anafiadau sy'n gysylltiedig â'r gwaith

40. sut y gellir defnyddio rhannau eraill o'r corff i dylino â llaw a'r manteision o ymgorffori'r technegau hyn

41. y gwahanol fathau o groen a nodweddion gwahanol y croen

42. anatomi a ffisioleg y corff

43. effeithiau corfforol a seicolegol tylino'r corff

44. effeithiau tylino ar systemau unigol y corff

45. pwysigrwydd sicrhau bod y cleient yn cael amser adfer ar ôl y driniaeth

46. y dulliau a ddefnyddir i werthuso effeithiolrwydd triniaethau tylino'r corff.


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Technegau ymgynghori**

1. holi

2. gwrando

3. edrych

4. teimlo

5. ysgrifenedig

Camau angenrheidiol**

1. annog y cleient i geisio cyngor meddygol

2. esbonio pam nad oedd modd cynnal y driniaeth

3. addasu'r driniaeth

Nodweddion corfforol**

1. math o gorff

2. ystum

3. tyndra'r cyhyrau

4. oed

5. iechyd

6. cyflyrau croen

Amcanion y driniaeth**

1. ymlacio

2. ymdeimlad o les

3. ysbrydoledig

4. gwrth-selwleit

5. bywhaol

Cyngor ac argymhellion**

1. cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd

2. osgoi gweithgareddau a allai achosi gwrtharwyddion

3. cynnyrch a gwasanaethau yn awr ac yn y dyfodol

4. cyngor ar ôl y driniaeth

Technegau tylino**

1. effleurage

2. petrissage

3. tapio

4. ffrithiant

5. dirgrynu

Cyfryngau tylino**

1. olew

2. hufen

3. powdr

Ardal i'w trin**

1. wyneb

2. pen

3. y frest a'r ysgwyddau

4. breichiau a dwylo

5. abdomen

6. cefn

7. ffolennau

8. coesau a thraed

Offer**

1. tylinwr cylchdroadol

2. is-goch​


Gwybodaeth Cwmpas

Iechyd a diogelwch**

1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario

6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd

9. Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)

Gwrtharwyddion**

1. cochni

2. hyperemia

3. adwaith alergaidd i gynnyrch

Arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy**

1. lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)

2. lleihau'r defnydd o ynni (offer ynni effeithlon, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)

3. lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill

4. atal llygredd

5. defnyddio eitemau untro

6. defnyddio dodrefn ecogyfeillgar, wedi'u hailgylchu

7. defnyddio paent â lefelau isel o gemegau

8. defnyddio cynnyrch organig gwrth-alergedd

9. dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

10. annog teithiau lleihau carbon i'r gwaith

Anghenion amrywiol**

1. diwylliannol

 2. crefyddol

3. oedran

4. anabledd

5.rhyw

Gwrtharwyddion sy'n atal**

1. clefydau croen heintus

2. camweithrediad y system nerfol

3. meinwe craith ddiweddar

4. lympiau a chwyddiadau heb ddiagnosis

Gwrtharwyddion sy'n cyfyngu**

1. mynd trwy driniaeth feddygol

2. clefyd siwgr nad yw dan reolaeth

3. epilepsi

4. pwysedd gwaed uchel/isel

5. hanes o thrombosis neu emboledd

6. gwythiennau chwyddedig

7. pinnau neu blatiau metel

8. meddyginiaeth

9. beichiogrwydd

10. tyllu rhannau o'r corff

11. toriadau a chrafiadau

12. yn ystod triniaeth ganser

Cyngor ac argymhellion**

1. triniaethau ychwanegol

2. cynnyrch ychwanegol

3. y ffactorau a'r newidiadau i ffordd o fyw y gallai fod eu hangen i wella effeithiolrwydd y driniaeth megis deiet, ymarfer corff, straen a chwsg

4. cyfyngiadau ar ôl y driniaeth ac anghenion triniaeth yn y dyfodol

5. mae'r cyngor ar ôl y driniaeth yn cynnwys yfed digon o ddŵr ac ymlacio

6. cyfnodau amser rhwng triniaethau

Anafiadau sy'n gysylltiedig â'r gwaith**

1. anaf i'r cefn

2. syndrom twnnel arddymol

3. straen i'r gwddf

4. anaf straen ailadroddus (RSI)

Anatomi a ffisioleg**

1. strwythur a swyddogaeth celloedd a meinweoedd

2. strwythur, swyddogaeth a gwahanol fathau o gyhyrau

3. safleoedd a gweithredoedd prif grwpiau cyhyrau a adnabuwyd o fewn ardaloedd i'w trin yn y corff

4. safle a swyddogaeth prif esgyrn a chymalau'r sgerbwd

5. sut i adnabod diffygion a chyflyrau ystum

6. strwythur a swyddogaeth system cylchrediad y gwaed

7. strwythur a swyddogaeth y system lymffatig

8. egwyddorion sylfaenol system nerfol ganolog y corff

9. egwyddorion sylfaenol y systemau endocrinaidd, anadlol, treulio ac ysgarthol

10. strwythur a swyddogaethau'r croen

11. strwythur a lleoliad y meinwe bloneg

Corfforol a seicolegol**

Effeithiau corfforol:

1. ymlacio'r cyhyrau

2. sbarduno systemau cylchrediad y gwaed a'r system lymffatig

3. yn tawelu neu'n sbarduno ffibrau nerfau

Effeithiau seicolegol:

1. rhyddhau straen a thensiwn

2. gwell lles cyffredinol

3. tawelu ac ymlacio​


Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. parodrwydd i ddysgu

2. agwedd gweithio hyblyg

3. gweithiwr tîm

4. agwedd bositif

5. moeseg bersonol a phroffesiynol​​


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn

1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad

2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar

3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu

4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser

5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient

6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn

7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn

9. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.​


Sgiliau

Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. y gallu i hunan-reoli

2. cyfathrebu llafar a dieiriau gwych

3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient

4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth

5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient

6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad​


Geirfa

Mathau o gyrff**

Mae ectomorff yn aml islaw'r pwysau cyfartalog am eu taldra a bydd ganddynt ymddangosiad tenau. Mae ectomorffau yn dueddol o fod â metabolaeth uchel iawn ac yn aml yn cwyno o fwyta di-baid heb fagu unrhyw bwysau neu ychydig iawn o bwysau.

Mae'r math o gorff endomorffig i'r gwrthwyneb yn llwyr i'r ectomorff.

Bydd yr unigolyn fel arfer yn fwy ei ymddangosiad gyda chroniad braster trymach ac ychydig iawn o ddiffiniad i'r cyhyrau. Maen nhw'n ei chael hi'n anodd colli pwysau, hyd yn oed pan fyddant ar ddiet ac yn ymarfer.

Mae gan mesomorff gorff mwy cyhyrol a thenau ac mae rhywle rhwng ectomorff ac endomorff ac felly'n arddangos rhinweddau'r ddau. Hwyrach fod ganddynt ffrâm fwy na'r endormoff ond canran braster y corff is na'r ectomorff. Yn aml dyma'r math o gorff y mae pawb ei eisiau.

Tylino cylchdroadol**

Mae tylino cylchdroadol yn cynnwys offer sy'n cylchdroi i atgynhyrchu effeithiau symudiadau tylino â llaw.

Triniaethau cynhesu**

Gall y rhain gynnwys pecynnau gwres, sawna, stêm, is-goch, baddonau, baddonau cwyr paraffin a chawodydd egnïol ac maent yn enghreifftiau o driniaethau cynhesu.

Cynllun triniaeth**

Y camau neu'r cynllun yr ydych yn bwriadu eu dilyn wrth roi triniaeth arbennig.  Mae cynnwys sylfaenol y cynllun triniaeth yn cynnwys yr ardaloedd i'w trin, y math o driniaeth, cynnyrch a/neu offer i'w defnyddio, gwrtharwyddion hysbys, adweithiau, cyngor ar y driniaeth, llofnod y cleient ac adborth y cleient.​


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAB20

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch, Therapydd Sba, Therapydd Tylino

Cod SOC


Geiriau Allweddol

tylino; tylino â llaw; tylino mecanyddol