Cynllunio a chreu colur ffasiwn a ffotograffig

URN: SKABT13
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 31 Maw 2015

Trosolwg

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu sgiliau colur creadigol ar gyfer gwaith ffasiwn a ffotograffig mewn ffordd sy'n cyfoethogi'ch proffil proffesiynol eich hun. Mae'r gallu i ymchwilio, cynllunio a chreu ystod o edrychiadau colur i friff penodol, ar y cyd ag eraill, yn ofynnol ar gyfer y safon hon. Mae'r gallu i werthuso'r canlyniadau yn erbyn y briff cynllun hefyd yn ofynnol.

Er mwyn cyflawni'r safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu da i rannu'r cysyniadau cynllun gydag eraill sy'n gysylltiedig â'r prosiect.

Prif ganlyniadau'r safon hon yw:

1. cynllunio ystod o edrychiadau colur

2. cynhyrchu ystod o edrychiadau colur

3. gwerthuso'ch canlyniadau yn erbyn amcanion y briff cynllun ​


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynllunio ystod o edrychiadau colur**

1. cytuno ar drefniadau cytundebol gyda'r unigolyn perthnasol cyn dechrau ar eich cynllun

2. adnabod y gweithgaredd arfaethedig y mae angen colur ar ei gyfer

3. casglu gwybodaeth i ymchwilio i syniadau ar themâu ar gyfer y cynllun

4. defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd i greu'ch cynllun

5. creu cynllun sydd ag amcanion clir ac yn bodloni'r briff cynllun gan yr unigolyn perthnasol

6. cynllunio byrddau hwyliau ar gyfer yr edrychiad gofynnol

7. adnabod yr holl adnoddau a chyfryngau ychwanegol sy'n ofynnol

8. ystyried sut y gellir gostwng risgiau i iechyd a diogelwch

9. cytuno ar eich cynllun gyda'r unigolyn perthnasol

Cynhyrchu ystod o edrychiadau colur**

10. paratoi'r amgylchedd gwaith i fodloni gofynion cyfreithiol a sefydliadol

11. paratoi cyfarpar, deunydd a chynnyrch ar gyfer taenu colur

12. gweithio mewn ffordd sy'n caniatáu mynediad ac yn isafu'r risg o anaf i chi ac eraill

13. defnyddio technegau taenu colur i greu'r edrychiad y cytunwyd arno

14. rheoli adnoddau o fewn cyfyngiadau'ch awdurdod eich hun

15. cyfathrebu gyda'r unigolyn perthnasol trwy gydol y gweithgaredd colur

16. sicrhau bod defnydd ar adnoddau yn cydymffurfio â'r cynllun 

17. sicrhau bod yr edrychiad colur gorffenedig yn bodloni'r briff cynllun

Gwerthuso'ch canlyniadau yn erbyn amcanion y briff cynllun**

 **

18. sicrhau a gwerthuso adborth gan yr unigolyn perthnasol ar eich gwaith a'i effeithiolrwydd

19. gwerthuso'ch perfformiad eich hun yn erbyn eich amcanion i adnabod sut a ble y gellid ei wella ​


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynllunio ystod o edrychiadau colur**

1. y rhesymau dros gytuno ar drefniadau cytundebol cyn dechrau ar eich cynllun

2. y camau y dylid eu cymryd i sicrhau bod gennych yswiriant digonol

3. sut i ddehongli briff cynllun

4. sut i greu cynllun colur manwl a chywir

5. gwahanol ddulliau cyfathrebu a chyflwyno'ch cynllun i'r bobl berthnasol

6. egwyddorion theori lliw

7. y gwahanol fathau o effeithiau golau a chamera a sut mae'r rhain yn effeithio ar y colur

8. pam mae'n bwysig gosod a gweithio i gyllideb

9. ystod ac argaeledd adnoddau sy'n ofynnol a ble y gellir cael gafael arnynt

10. sut i greu bwrdd hwyliau a'i gymhwyso i'ch cynllun colur

11. sut i addasu'ch cynlluniau i fodloni cyfyngiadau'r lleoliad

12. y problemau cyffredin sy'n gysylltiedig â sesiynau tynnu ffotograffau, sioeau ffasiwn a sut i'w datrys

13. y peryglon posibl y mae'n rhaid eu hystyried wrth weithio mewn unrhyw leoliad

14. y camau y dylid eu cymryd i isafu ar risgiau

15. sut y gallai is-ddeddfau a deddfau lleol gyfyngu ar eich defnydd o adnoddau

16. y gweithdrefnau iechyd a diogelwch sy'n berthnasol i unrhyw leoliad yr ydych chi'n ei ddefnyddio

17. sut i adnabod gwrtharwyddion a chyfyngiadau i'r colur a sut i ddelio â hwy

Cynhyrchu ystod o edrychiadau colur**

18. sut i baratoi ac addasu'r amgylchedd gwaith i fodloni gofynion cyfreithiol a sefydliadol

19. dulliau cyfathrebu'ch gofynion i'r bobl berthnasol

20. egwyddorion cynllun, gradd a chyfrannedd wrth greu edrychiad

21. edrychiadau colur eiconig a sut y mae gwahanol ddiwylliannau wedi dylanwadu ar dueddiadau colur a ffasiwn

22. y gwahanol fathau o dechnegau colur a sut i'w defnyddio

23. sut i ail-greu edrychiadau hanesyddol yn ddiogel i fodloni safonau heddiw

24. y ffyrdd y gall cyfryngau cymdeithasol gael eu defnyddio i ategu at y cynllun cyffredinol

25. sut i addasu'r cynnyrch a'r dewis o golur i gyd-fynd â'r amgylchiadau

Gwerthuso'ch canlyniadau yn edrych ar amcanion y briff cynllun**

26. diben y gweithgareddau gwerthuso

27. ar ba feysydd y dylid casglu adborth

28. dulliau casglu adborth gan eraill

29. buddion masnachol posibl a all ddeillio o waith cynllun colur

30. sut y gellir addasu'r edrychiadau cynllun i gyd-fynd â gweithgareddau eraill


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Gweithgaredd**

1. ffotograffig – du a gwyn

2. ffotograffig – lliw

3. sioeau ffasiwn

Edrychiad**

1. cyfnod

2. ffantasi

3. ffasiwn uchel

4. llwyfan sioe ffasiwn

5. priodasol

6. masnachol

7. golygyddol

Adnoddau**

1. offer a chyfarpar

2. cynnyrch

3. amser

4. pobl

5. lleoliad

6. cyllideb

Cyfryngau ychwanegol**

1. ategolion

2. dillad

3. gwallt

4. ewinedd

5. blew amrannau ffug

Technegau taenu colur**

1. taenu haen sylfaenol fanwl

2. goleuo ac arlliwio

3. cuddio

4. cymysgu

5. taenu cynnyrch llygaid ac aeliau yn fanwl

6. taenu cynnyrch gwefusau yn fanwl

7. cymysgu lliw

8. stensilio

9. colur corff

10. chwistrellu paent​


Gwybodaeth Cwmpas

Pobl berthnasol**

1. ffotograffydd

2. cyfarwyddwr celf

3. cynllunydd colur

4. cynllunydd gwallt

5. cleientiaid

6. perfformwyr

7. cynllunydd dillad

8. steilyddion

9. technegydd ewinedd

10. cynorthwyydd

Problemau cyffredin**

1. staffio

2. methiannau offer a chyfarpar

3. mynd dros amser

4. amodau amgylcheddol

5. cyfyngiadau cyllideb

Iechyd a diogelwch**

1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario

6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd

9. Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)

Dulliau**

 1. holi

2. edrych

3. gwrando

4. iaith y corff

Amgylchiadau**

1. amgylcheddol

2. canslo

3. salwch

4. newid i'r briff ​


Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. parodrwydd i ddysgu

2. agwedd gweithio hyblyg

3. gweithiwr tîm

4. agwedd bositif

5. moeseg bersonol a phroffesiynol​


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn

1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad

2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar

3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu

4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser

5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient

6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn

7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn

9. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.

 ​


Sgiliau

Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. y gallu i hunan-reoli

2. cyfathrebu llafar a dieiriau gwych

3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient

4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth

5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient

6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad​


Geirfa

Perfformiwr**

Y perfformiwr yw'r un a fydd yn cael y colur. Gall hyn gynnwys modelau, perfformwyr ac enwogion.

Cyfarwyddwr Celf**

Mae Cyfarwyddwr Celf yn deitl cyffredinol ar amrywiaeth o swyddogaethau tebyg o fewn hysbysebu, cyhoeddi, ffilm, theatr a theledu. Fel arfer yr unigolyn hwn sy'n gyfrifol am gelf/cynllun cyffredinol y prosiect.

Steilydd**

Yr unigolyn sy'n gyfrifol am benderfynu ar y gofynion cwpwrdd dillad a'r edrychiad cyffredinol posibl.

Cynllun**

Siart a ddefnyddir i ddangos cynllun y colur a rhestr o gynnyrch, ategolion, ac unrhyw gyfrwng ychwanegol sy'n ofynnol.

Briff Cynllun**

Dadansoddiad o'r hyn y mae'r bobl berthnasol eisiau ei gyflawni i sicrhau'r canlyniad gorffenedig, o fewn amserlen, cyllideb a lleoliad penodol.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Meh 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAB11

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch, Artistiaid colur

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cynllun; ffasiwn; ffotograffig; colur