Gwella ymddangosiad gan ddefnyddio cuddliw croen

URN: SKABT12
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Ion 2015

Trosolwg

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu cuddliw croen syml.  Mae hefyd yn trafod cynnyrch cuddliw arbenigol amrywiol, a gynlluniwyd i adfer lliw'r croen i gyd-fynd â'r arlliw croen nad yw wedi'i effeithio.

Er mwyn cyflawni'r safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid drwy gydol eich gwaith.  Bydd angen i chi hefyd gynnal ymddangosiad personol proffesiynol a dangos sgiliau cyfathrebu da.

Prif ganlyniadau'r safon hon yw:

1. cynnal dulliau gweithio diogel ac effeithiol wrth ddarparu cuddliw croen

2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer rhoi cuddliw croen

3. rhoi cuddliw croen


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal dulliau gweithio diogel wrth ddarparu cuddliw croen**

1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth

2. paratoi eich cleient a'ch hun er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol a'r diwydiant

3. parchu gwedduster, preifatrwydd ac unrhyw sensitifrwydd sydd gan eich cleient am eu hymddangosiad personol

4. gosod eich cleient mewn safle i fodloni gofynion y gwasanaeth heb achosi anghysur iddynt

5. sicrhau bod eich ystum a'ch dulliau gwaith eich hun yn lleihau blinder a risg o anaf i chi'ch hun ac

eraill.

6. sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r gwasanaeth

7. sicrhau bod eich ardal waith yn lân a thaclus drwy'r driniaeth

8. defnyddio dulliau gweithio sy'n osgoi'r risg o groes-heintio

9. sicrhau eich bod yn defnyddio offer a deunyddiau glân

10. hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

11. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar ddefnydd diogel o gyfarpar, deunydd a chynnyrch

12. cael gwared ar ddeunyddiau gwastraff yn ôl gofynion cyfreithiol

13. cynnal y gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer cuddliw croen**

14. defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun gwasanaeth y cleient

15. sicrhau caniatâd wedi'i lofnodi gan riant neu warcheidwad cyn trin plentyn cyn unrhyw wasanaeth

16. sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y gwasanaeth ar gyfer plant sy'n iau na 16 oed

17. adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd y camau angenrheidiol

18. nodi a chytuno ar yr anghenion cuddliw croen a'r ardal y mae angen y cuddliw gyda'r cleient

19. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn cynnal y gwasanaeth

20. sicrhau bod y cleient yn deall cyfyngiadau cuddliw croen

Rhoi cuddliw croen**

21. rhoi cynnyrch gofal croen cydnaws a lliw cydnaws cyn rhoi'r cuddliw croen

22. defnyddio cyfarpar rhoi, technegau a chynnyrch cuddliw sy'n gweddu orau i anghenion cuddliw'r croen

23. sefydlu lliw cydnaws derbyniol ar yr ardal lle rhoddir y cuddliw

24. sicrhau bod y cynnyrch cuddliw yn cael eu rhoi i'r dwyster, lliw a'r effaith a ddymunir

25. rhoi cynnyrch cosmetig a chynnyrch gofal croen cydnaws ar ôl rhoi'r cuddliw croen

26. sicrhau bod y cleient yn fodlon â'r canlyniad gorffenedig a'i fod yn bodloni'r cynllun gwasanaeth y cytunwyd arno

27. rhoi cyngor ac arweiniad i'ch cleient ar y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu

28. sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu llanw a'u llofnodi gennych chi a'r cleient


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

 Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth roi cuddliw croen**

1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd

2. paratoi eich cleient er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol a'r diwydiant

3. eich cyfrifoldebau dros gynnal eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol eich hun yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion y sefydliad

4. technegau gosod y cleient a chithau yn ddiogel er mwyn osgoi anghysur

5. yr amodau amgylcheddol sy'n angenrheidiol ar gyfer triniaethau a pham mae'r rhain yn bwysig

6. pam ei bod yn bwysig cadw eich ardal waith yn lân a thaclus

7. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio

8. dulliau o weithio'n ddiogel a hylan ac sy'n lleihau'r risg o groes-heintio

9. y gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

10. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gweithio'n ddiogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn

11. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu gynhyrchwyr ar gyfer defnyddio offer, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel.

12. cael gwared ar ddeunyddiau gwastraff yn ôl gofynion y gyfraith

13. y rhesymau dros gynnal y gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau colur**

 **

   14. pam ei bod yn bwysig cyfathrebu gyda chleientiaid mewn dull proffesiynol

   15. sut i gwblhau ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient

   16. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu triniaeth i blant sy'n iau na 16 oed

   17. yr oedran y mae unigolyn yn cael ei ystyried yn blentyn a sut mae hyn yn amrywio'n genedlaethol

   18. pwysigrwydd cytuno ar driniaeth sy'n bodloni anghenion y cleient

19. arwyddocâd cyfreithiol sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn derbyn triniaeth

20. y gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleientiaid

21. sut i adnabod gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu'r gwasanaeth

22. y gwrtharwyddion sy'n galw am atgyfeiriad meddygol a pham

23.y camau angenrheidiol mewn cysylltiad â gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid

24. y rhesymau dros beidio enwi gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid

25. pam ei bod yn bwysig osgoi technegau holi ymwthgar

26. pam ei bod yn bwysig parchu gwedduster, preifatrwydd ac unrhyw sensitifrwydd sydd gan y cleient am eu hymddangosiad eu hunain

27. eich cyfyngiadau chi wrth ddelio â chleientiaid sydd eisiau cuddliw croen

28. pam fod angen i gleientiaid werthfawrogi cyfyngiadau cuddliw croen a chael disgwyliadau realistig ynglŷn â chanlyniad y cuddliw

Rhoi cuddliw croen**

29. pam ei bod yn bwysig profi lliw croen cyfatebol ar ardal fechan o'r croen

30. y rhesymau dros roi lliw cyfatebol cyn cyfatebu lliw

31. yr ystod ac argaeledd cynnyrch cuddliw croen a lle gallwch eu cael

32. dewis a rhoi cynnyrch i gyflawni anghenion gofynion cuddliw unigol

33. egwyddorion theori lliw

34. nodweddion a chyfyngiadau cynnyrch cuddliw croen

35. cydnawsedd a chyfyngiadau cynnyrch cosmetig a gofal croen eraill a ddefnyddir gyda chuddliw croen

36. achosion ac ymddangosiad cyflyrau croen y mae angen cuddliw croen arnynt

37. strwythur a swyddogaethau'r croen

38. y mathau gwahanol o groen a nodweddion gwahanol y croen

39. ffotosensitifrwydd y croen a sut mae'n wahanol mewn grwpiau croen gwahanol megis System Ddosbarthu Fitzpatrick

40. sut i ddelio â chleientiaid a'u cynghori ar wrtharwyddion posibl cuddliw croen

41. cyngor ôl-ofal ar gynnal, gofalu am a thynnu cuddliw croen

42. cyngor ac argymhellion ar gynnyrch a gwasanaethau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Technegau ymgynghori**

1. holi

2. gwrando

3. edrych

4. teimlo

5. ysgrifenedig

Camau angenrheidiol**

1. annog y cleient i ofyn am gyngor meddygol

2. esbonio pam na ellir rhoi'r cuddliw croen

3. addasu'r gwasanaeth cuddliw croen

Anghenion cuddliw**

1. tatŵs

2. hyper liwiad

3. hypo liwiad

4. cochni

Yr ardal lle y rhoddir y cuddliw**

1. pen neu wddw

2. y frest neu'r ysgwyddau

3. breichiau neu goesau

4. cefn

5. abdomen

Cyfarpar rhoi cuddliw**

1. brwshys

2. bysedd

3. sbyngau

4. pyffiau felôr

 **

Cynnyrch cuddliw**

1. hufenau cuddliw

2. powdrau cuddliw

3. cynnyrch gosod

Cyngor ac argymhellion**

1. cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd

2. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau

3. gwydnwch cuddliw a thynnu cynnyrch cuddliw

4. anghenion gwasanaeth yn y dyfodol​


Gwybodaeth Cwmpas

Iechyd a diogelwch**

1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario

6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau peryglus i Iechyd (COSHH)

7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd

9. Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)

Arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy**

1. lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)

2. lleihau'r defnydd o ynni (offer ynni effeithlon, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)

3. lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill

4. atal llygredd

5. defnyddio eitemau untro

6. defnyddio dodrefn ecogyfeillgar, wedi'u hailgylchu

7. defnyddio paent â lefelau isel o gemegau

8. defnyddio deunydd pecynnu sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd

9. dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

10. annog teithiau lleihau carbon i'r gwaith

Anghenion amrywiol**

1. diwylliannol

2. crefyddol

3. oedran

4. anabledd

5. rhyw

Gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu gyfyngu**

1. crafiadau

2. briwiau agored

3. brechau

4. pwythau

Gwrtharwyddion a fyddai'n galw am atgyfeiriad meddygol**

1. newidiadau strwythurol i'r ardal lle rhoddir y cuddliw

2. briwiau amheus, yn cynnwys mannau geni

3. heintiau

4. cyflyrau croen heb ddiagnosis clinigol

Cyflyrau'r croen sy'n debygol o fod angen cuddliw**

1. hypo liwiad megis fitiligo

2. marciau ymestyn

3. hyper liwiad megis melasma

4. smotiau oedran

5. cochni megis acne rhosynnaidd

6. gwythiennau edau

7. creithiau

Cyngor ac argymhellion**

1. gwasanaethau ychwanegol

2. cynnyrch ychwanegol

3. cynnyrch eraill y gellid eu defnyddio gyda chuddliw croen

4. cynnyrch/sylweddau/amgylcheddau y dylid eu hosgoi

5. cynnal cynnyrch cuddliw

6. tynnu cynnyrch cuddliw

7. cynnyrch i'w defnyddio adref​


Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. parodrwydd i ddysgu

2. agwedd weithio hyblyg

3. gweithiwr tîm

4. agwedd bositif

5. moeseg bersonol a phroffesiynol​


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn

1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad

2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar

3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu

4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser

5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient

6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn

7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn

9. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.​


Sgiliau

Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. y gallu i hunan-reoli

2. cyfathrebu llafar a dieiriau gwych

3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient

4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth

5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient

6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad​


Geirfa

Nodweddion cynnyrch cuddliw croen**

Effeithiau cadarnhaol defnyddio cynnyrch cuddliw, yn cynnwys y ffaith eu bod yn wrth-ddŵr ac yn gweithredu fel eli haul

Cochni**

Cochni ar y croen oherwydd cosi poenus neu anaf i'r meinwe.

System Ddosbarthu Fitzpatrick**

Wedi'i dyfeisio ym 1975 ym Mhrifysgol Harvard, mae'r system dosbarthu croen hon sy'n cael ei mesur ar raddfa o 1 i 6, yn seiliedig ar adwaith ffotosensitifrwydd i ymbelydredd uwchfioled.

Hyper liwiad**

Lliwiad gormodol o gymharu â'r croen amgylchynol oherwydd gormod o felanin (er enghraifft smotiau oedran, brychni, marciau ymestyn, lliw haul, melasma a chloasma).

Hypo liwiad**

Colli lliwiad o gymharu â'r croen amgylchynol (er enghraifft lewcoderma, marciau ymestyn, creithiau, fitiligo).​


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Meh 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAB10

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch, Artistiaid colur

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cuddliw croen; colur; cuddliw croen