Dangos i gleientiaid sut i ddefnyddio a rhoi cynnyrch gofal croen a cholur

URN: SKABT11
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Ion 2015

Trosolwg

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu gofal croen a chyfarwyddiadau ar roi colur a rhoi cyngor ar gynnyrch i gleientiaid unigol.  Bydd angen i chi allu rhoi cyngor a chyfarwyddiadau ar y defnydd cywir o offer a defnyddio gofal croen a chynnyrch colur i weddu anghenion amrywiol cleientiaid.

Er mwyn cyflawni'r safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid trwy gydol eich gwaith.  Bydd angen i chi hefyd gynnal ymddangosiad personol proffesiynol a dangos sgiliau cyfathrebu da.

Prif ganlyniadau'r safon hon yw:

1. cynnal dulliau gweithio diogel ac effeithiol wrth ddarparu cyfarwyddiadau ar ofal croen a cholur

2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer cyfarwyddiadau ar ofal croen a cholur

3. rhoi cyfarwyddiadau ar ofal croen a cholur

4. gwerthuso llwyddiant cyfarwyddiadau gofal croen a cholur​


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal dulliau gweithio diogel ac effeithiol wrth ddarparu cyfarwyddiadau gofal croen a cholur**

1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth

2. paratoi eich cleient a'ch hun er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol a'r diwydiant

3. gosod eich cleient mewn safle i fodloni gofynion y gwasanaeth

 4. sicrhau bod eich ystum a'ch dulliau gwaith eich hun yn lleihau blinder a risg o anaf i chi'ch hun ac

eraill.

5. sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r gwasanaeth

6. sicrhau bod eich ardal waith yn lân a thaclus drwy'r driniaeth

7. defnyddio dulliau gweithio sy'n osgoi'r risg o groes-heintio

8. sicrhau eich bod yn defnyddio offer a deunyddiau glân

9. hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

10. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar ddefnydd diogel o gyfarpar, deunydd a chynnyrch

11. cael gwared ar ddeunyddiau gwastraff yn ôl gofynion cyfreithiol

12. cynnal y gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau colur**

13. defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun gwasanaeth y cleient

14. sicrhau caniatâd wedi'i lofnodi gan riant neu warcheidwad cyn trin plentyn cyn unrhyw wasanaeth

15. sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y gwasanaeth ar gyfer plant sy'n iau na 16 oed

16. adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd y camau angenrheidiol

17. cytuno ar y gwasanaeth a'r canlyniadau sy'n bodloni anghenion y cleient

18. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn cynnal y gwasanaeth

19. nodi a chofnodi math o groen a chyflwr croen y cleient

20. sicrhau bod yr amcanion gofal croen a cholur yn glir, realistig ac wedi'u cymeradwyo gan y cleient

21. darparu dewis addas o gynnyrch gofal croen a cholur ar gyfer math o groen ac arlliw croen y cleient a'r technegau cyfarwyddo i'w defnyddio

Rhoi cyfarwyddiadau ar ofal croen a cholur**

22. defnyddio technegau cyfarwyddo ar gyflymder sy'n addas i'r cleient

23. dangos sut i ofalu am y croen a rhoi colur mewn ffordd sy'n hyrwyddo dealltwriaeth y cleient

24. esbonio'r ffordd o roi'r cynnyrch i'r cleient mewn ffordd sy'n bodloni anghenion y cleient a'r cynnyrch sy'n cael eu defnyddio

25. esbonio'r defnydd o gyfarpar colur

26. defnyddio adnoddau drwy'r gweithgarwch cyfarwyddo

27. rhoi amser i'r cleient ymarfer technegau gofalu am y croen a rhoi colur arnynt eu hunain

28. annog y cleient i ofyn cwestiynau drwy'r gweithgarwch cyfarwyddo

29. cadarnhau bod y cleient yn deall y technegau sydd eu hangen i gyflawni'r edrychiad a ddymunir

30. darparu gwybodaeth i'r cleient ar y cynnyrch, offer a'r cyfarpar a ddefnyddir a lle i gael gafael arnynt

31. annog y cleientiaid i ddefnyddio'r cynnyrch a'r gwasanaethau sydd ar gael

32. darparu cyfarwyddiadau ysgrifenedig ar sut i ofalu am y croen a rhoi colur

Gwerthuso llwyddiant y cyfarwyddiadau ar ofalu am y croen a rhoi colur**

33. gofynnwch i'ch cleient wneud gwerthusiad o'r hyn maent wedi'i ddysgu a rhoi unrhyw gyfarwyddiadau ychwanegol i fodloni eu hanghenion

34. holwch eich cleient ar y ffordd yr ydych wedi rhoi'r cyfarwyddiadau ar golur a gofal croen a chofnodwch eu hadborth

35. defnyddiwch yr adborth gan y cleient i wneud gwelliannau i'ch technegau cyfarwyddo gofal croen a cholur chi.​


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​ 

Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu gwasanaethau colur**

1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd

2. paratoi eich cleient er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol a'r diwydiant

3. eich cyfrifoldebau dros gynnal eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol eich hun yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion y sefydliad

4. technegau gosod y cleient a chithau yn ddiogel er mwyn osgoi anghysur

5. yr amodau amgylcheddol sy'n angenrheidiol ar gyfer triniaethau a pham mae'r rhain yn bwysig

6. pam ei bod yn bwysig cadw eich ardal waith yn lân a thaclus

7. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio

8. dulliau o weithio'n ddiogel a hylan ac sy'n lleihau'r risg o groes-heintio

9. y gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

10. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gweithio'n ddiogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn

11. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu gynhyrchwyr ar gyfer defnyddio offer, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel.

12. cael gwared ar ddeunyddiau gwastraff yn ôl gofynion y gyfraith

13. y rhesymau dros gynnal y gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau colur**

14. pam ei bod yn bwysig cyfathrebu gyda chleientiaid mewn dull proffesiynol

15. sut i gwblhau ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient

16. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu triniaeth i blant sy'n iau na 16 oed

17. yr oedran y mae unigolyn yn cael ei ystyried yn blentyn a sut mae hyn yn amrywio'n genedlaethol

18. pwysigrwydd cytuno ar driniaeth sy'n bodloni anghenion y cleient

 19. arwyddocâd cyfreithiol sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn derbyn triniaeth

20. y gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleientiaid

21. sut i adnabod gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu'r gwasanaeth

22. y gwrtharwyddion sy'n galw am atgyfeiriad meddygol a pham

23.y camau angenrheidiol mewn cysylltiad â gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid

24. y rhesymau dros beidio enwi gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid

25. sut i adnabod gwahanol fathau, nodweddion a chyflyrau mewn cysylltiad â chroen,

26. y rhesymau dros ofyn a yw'r cleient yn gwisgo lensys cyffwrdd neu sbectol

27. pam ei bod yn bwysig parchu unrhyw sensitifrwydd o ran ymddangosiad personol y cleient

28. y math o adnoddau sydd eu hangen ar gyfer rhoi cyfarwyddiadau ar ofal croen a cholur

29. lle i gael adnoddau gofal croen a cholur

Rhoi cyfarwyddiadau gofal croen a cholur**

30. sut i gynllunio sesiwn cyfarwyddiadau gofal croen a cholur

31. dulliau cyflwyno gwybodaeth

32. gwahanol fathau o dechnegau cyfathrebu a holi i'w defnyddio yn y sesiwn ar golur

33. dulliau o ddefnyddio ac arddangos gofal croen a rhoi colur, yn cynnwys cyfarpar ac offer

34. ffyrdd o sicrhau bod y cleient yn deall yr hyn yr ydych wedi'i ddweud a'u gallu i gyflawni'r gofal croen a rhoi colur eu hunain

35. sut i deilwra ac addasu eich cyfarwyddiadau gofal croen a cholur i gyflawni anghenion cleientiaid unigol

Gwerthuso llwyddiant y cyfarwyddiadau**

36. dulliau o werthuso llwyddiant gweithgareddau gofal croen a cholur

37. pam ei bod yn bwysig cofnodi adborth cleientiaid a gwybodaeth berthnasol arall o'r gweithgarwch


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Technegau ymgynghori**

1. holi

2. gwrando

3. edrych

4. teimlo

5. ysgrifenedig

Camau angenrheidiol**

1. annog y cleient i ofyn am gyngor meddygol

2. esbonio pam na ellir cynnal y gwasanaeth

3. addasu'r gwasanaeth

Math o groen**

1. olewog

2. sych

3. cyfuniad

Cyflwr y croen**

1. aeddfed

2. dadhydredig

3. sensitif

Amcanion**

1. dewisisadau ar gyfer gofal croen

2. colur naturiol

3. colur gyda'r nos

4. colur achlysur arbennig

Technegau Cyfarwyddiadol**

1. arddangos sgiliau

2. defnyddio diagramau

 3. esboniad llafar

4. defnyddio cyfarwyddiadau ysgrifenedig

Adnoddau**

1. cynnyrch gofal croen

2. cynnyrch colur

3. cyfarpar ac offer colur

4. drychau a goleuadau addas

5. siart wyneb


Gwybodaeth Cwmpas

Iechyd a diogelwch**

1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario

6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau peryglus i Iechyd (COSHH)

7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd

9. Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)

Arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy**

1. lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)

2. lleihau'r defnydd o ynni (offer ynni effeithlon, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)

3. lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill

4. atal llygredd

5. defnyddio eitemau untro

6. defnyddio dodrefn ecogyfeillgar, wedi'u hailgylchu

7. defnyddio paent â lefelau isel o gemegau

8. defnyddio cynnyrch organig gwrth-alergedd

9. defnyddio deunydd pecynnu sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd

10. dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

11. annog teithiau lleihau carbon i'r gwaith

Offer**

1. brwshys colur

2. cynwysyddion

3. cynnyrch tafladwy

4. cyrlwyr amrannau

5. plycwyr

Anghenion amrywiol**

1. diwylliannol

2. crefyddol

3. oedran

4. anabledd

5. rhyw

Gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu gyfyngu**

1. feirol – crachen annwyd

2. llid yr amrannau

3. briwiau a chrafiadau agored

4. chwydd

5. llid y croen

6. meinwe craith ddiweddar

7. ecsema

8. hyperkeratosis

9. alergeddau croen

10. cleisio

11. llygaid llawn dagrau

12. ecsema a psorïasis wedi gwella

13. cochni

14. cleisiau

Gwrtharwyddion sy'n galw am atgyfeiriad meddygol**

1. bacteriol – impetigo

2. feirol – crachen annwyd

3. ffyngaidd – tinea

4. llid yr amrannau

5. cyflyrau croen a heintiau difrifol i'r llygaid

6. acne

7. casgliadau

8. yr eryr a dafadennau

9. heintiau parasitedd megis pla llau a sgabies

Cyflyrau'r croen**

1. sensitif

2. dadhydredig

3. capilarïau wedi torri

4. llinorod

5. plorod

6. croendyllau agored

7. cylchoedd tywyll

8. hyper liwiad

9. hypo liwiad

10. niwed yr haul

11. creithiau

12. cochni

13. aeddfed

Cynllunio**

1. amseriad

2. cyflymder

3. defnyddio'r llais

4. defnyddio cymhorthion gweledol

Cyflwyno gwybodaeth**

1. cymhorthion gweledol

2. ar lafar

3. trefn resymegol

4. cyflwyno ychydig o wybodaeth ar y tro

Dulliau**

1. gwrando'n ofalus

2. cyfathrebu di-eiriau a llafar

3. derbyn adborth

4. gofyn cwestiynau


Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. parodrwydd i ddysgu

2. agwedd gweithio hyblyg

3. gweithiwr tîm

4. agwedd bositif

5. moeseg bersonol a phroffesiynol


Ymddygiadau

Ma​e'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn

1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad

2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar

3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu

4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser

5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient

6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn

7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn

9. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.


Sgiliau

Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. y gallu i hunan-reoli

2. cyfathrebu llafar a dieiriau gwych

3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient

4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth

5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient

 6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad​


Geirfa

Colur achlysur arbennig**

Gallai hyn gynnwys colur ar gyfer partïon, proms, priodasau.​


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Meh 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAB11

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch, Ymgynghorydd colur a croen, Arbenigwr colur

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cyfarwyddiadau; colur; taenu