Darparu gwasanaethau colur

URN: SKABT10
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Ion 2015

Trosolwg

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu gwasanaethau colur ar gyfer gwahanol arddulliau colur, yn cynnwys naturiol, gyda'r nos ac achlysuron arbennig.  Bydd angen i chi ddangos eich bod yn gallu gweithio gyda mathau gwahanol o groen a chyflyrau croen gwahanol.

Mae'r safon yn cynnwys rhoi amrywiaeth eang o gynnyrch colur ar wahanol fathau o liw croen a grwpiau oedran.

Er mwyn cyflawni'r safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid trwy gydol eich gwaith.  Bydd angen i chi hefyd gynnal ymddangosiad personol proffesiynol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori da.

Prif ganlyniadau'r safon hon yw:

1. cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu gwasanaethau colur

2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau colur

3. taenu cynnyrch colur ​


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu gwasanaethau colur**

1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth

2. paratoi eich cleient a'ch hun er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol a'r diwydiant

3. gosod eich cleient mewn safle i fodloni gofynion y gwasanaeth

4. sicrhau bod eich ystum a'ch dulliau gwaith eich hun yn lleihau blinder a risg o anaf i chi'ch hun ac

eraill.

5. sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r gwasanaeth

6. sicrhau bod eich ardal waith yn lân a thaclus drwy'r driniaeth

7. defnyddio dulliau gweithio sy'n osgoi'r risg o groes-heintio

8. sicrhau eich bod yn defnyddio offer a deunyddiau glân

9. hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

10. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar ddefnydd diogel o gyfarpar, deunydd a chynnyrch

11. cael gwared ar ddeunyddiau gwastraff yn ôl gofynion cyfreithiol

12. cynnal y gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau colur**

13. defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun gwasanaeth y cleient

14. sicrhau caniatâd wedi'i lofnodi gan riant neu warcheidwad cyn trin plentyn cyn unrhyw wasanaeth

15. sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y gwasanaeth ar gyfer plant sy'n iau na 16 oed

16. adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd y camau angenrheidiol

17. cytuno ar y gwasanaeth a'r canlyniadau sy'n bodloni anghenion y cleient

18. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn cynnal y gwasanaeth

19. sicrhau bod y croen yn lân, wedi'i dynhau a'i leithio cyn rhoi'r colur

20. nodi a chofnodi'r math o groen, cyflwr y croen, ac arlliw sylfaenol croen y cleient

21. dewis cynnyrch colur sy'n gweddu grŵp oedran, math o groen, cyflwr y croen, arddull colur a hoffterau'r cleient

Taenu cynnyrch colur**

22. cydweddu'r colur sylfaen i greu arlliw croen cytbwys

23. defnyddio cynnyrch cywirol i guddio brychau ar y croen

24. defnyddio powdr i gyflawni'r gorffeniad a ddymunir, pan fydd angen

25. defnyddio cynnyrch aeliau i ddiffinio a siapio'r aeliau

26. cydweddu cynnyrch llygaid i weddu'r llyfnder, arlliw a'r lliw sydd eu hangen ar gyfer y cleient

27. defnyddio pensel linellu llygaid i bwysleisio siâp y llygaid

28. rhoi masgara yn gytbwys ar y llygaid

29. rhoi cynnyrch ar y bochau i weddu'r llyfnder, arlliw a'r lliw sydd eu hangen ar gyfer y cleient

30. defnyddio cynnyrch gwefus i bwysleisio gwefusau'r cleient

31. sicrhau bod holl elfennau'r colur yn cyfuno i gydweddu ei gilydd a bodloni'r arddull colur gofynnol

32. sicrhau bod y cleient yn fodlon â'r canlyniad gorffenedig

33. rhoi cyngor ac arweiniad i'ch cleient ar y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu

34. sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu llanw a'u llofnodi gennych chi a'r cleient ​


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

 Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu gwasanaethau colur**

1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd

2. paratoi eich cleient er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol a'r diwydiant

3. eich cyfrifoldebau dros gynnal eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol eich hun yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion y sefydliad

4. technegau gosod y cleient a chithau yn ddiogel er mwyn osgoi anghysur

5. yr amodau amgylcheddol sy'n angenrheidiol ar gyfer triniaethau a pham mae'r rhain yn bwysig

6. pam ei bod yn bwysig cadw eich ardal waith yn lân a thaclus

7. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio

8. dulliau o weithio'n ddiogel a hylan ac sy'n lleihau'r risg o groes-heintio

9. y gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

10. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gweithio'n ddiogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn

11. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu gynhyrchwyr ar gyfer defnyddio offer, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel.

12. cael gwared ar ddeunyddiau gwastraff yn ôl gofynion y gyfraith

13. y rhesymau dros gynnal y gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau colur**

14. pam ei bod yn bwysig cyfathrebu gyda chleientiaid mewn dull proffesiynol

15. sut i gwblhau ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient

16. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu triniaeth i blant sy'n iau na 16 oed

17. yr oedran y mae unigolyn yn cael ei ystyried yn blentyn a sut mae hyn yn amrywio'n genedlaethol

18. pwysigrwydd cytuno ar driniaeth sy'n bodloni anghenion y cleient

 19. arwyddocâd cyfreithiol sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn derbyn triniaeth

20. y gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleientiaid

21. sut i adnabod yr adweithiau a'r gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu'r gwasanaeth

22. y gwrtharwyddion sy'n galw am atgyfeiriad meddygol a pham

23.y camau angenrheidiol mewn cysylltiad â gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid

24. y rhesymau dros beidio enwi gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid

25. sut i adnabod gwahanol fathau, nodweddion a chyflyrau mewn cysylltiad â chroen,

26. y gwahanol fathau o gynnyrch glanhau, tynhau a lleithio

27. y dulliau a ddefnyddir i lanhau, tynhau a lleithio'r croen

28. y meini prawf ar gyfer dewis cynnyrch colur sy'n addas i grwpiau oedran ac arddulliau colur gwahanol gleientiaid

29. sut i gydweddu cynnyrch colur i wahanol fathau o groen, arlliwiau croen a chyflyrau croen

Rhoi cynnyrch colur**

30. y gwahanol fathau o gynnyrch colur sydd ar gael ar gyfer y llygaid, y gwefusau a'r wyneb; technegau rhoi a'r canllawiau ar eu defnyddio

31. sut i addasu'r colur ar gyfer cleientiaid sy'n gwisgo lensys cyffwrdd neu sbectolau

32. sut i ddefnyddio lliwiau a chuddwyr cywiro i gydbwyso arlliw'r croen

33. sut i ddewis a defnyddio cynnyrch colur i bwysleisio siapiau wynebau

34. pam y dylid rhoi rhai cynnyrch colur mewn trefn arbennig

35. canlyniadau dewis a rhoi colur anghywir

36. strwythur a swyddogaethau'r croen

37. sut mae ffactorau amgylcheddol a ffordd o fyw yn effeithio ar gyflwr y croen

38. sut mae goleuo yn effeithio ar yr argraff o liw a'i ddylanwad ar effaith colur

39. y rhesymau dros gydweddu'r golau gyda'r achlysur y bydd y cleient yn gwisgo'r colur

40. gwrtharwyddion posibl a allai ddigwydd, sut i ddelio â hwy a pha gyngor i'w roi i'r cleient

41. cyngor ac argymhellion ar gynnyrch a gwasanaethau​


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Technegau ymgynghori**

1. holi

2. gwrando

3. edrych

4. teimlo

5. ysgrifenedig

Camau angenrheidiol**

1. annog y cleient i ofyn am gyngor meddygol

2. esbonio pam na ellir cynnal y gwasanaeth

3. addasu'r gwasanaeth

Math o groen**

1. olewog

2. sych

3. cyfuniad

Cyflwr y croen**

1. aeddfed

2. dadhydredig

3. sensitif

Cynnyrch colur**

1. paratowyr

2. lleithyddion lliw

3. colur sylfaen

4. powdrau

5. cynnyrch efydd i'r wyneb

6. cuddwyr

7. cynnyrch cywiro

8. cynnyrch aeliau

9. cynnyrch llygaid

10. cynnyrch llinellu'r llygaid

 11. masgara

12. cynnyrch bochau

13. cynnyrch gwefusau

14. pensiliau

Arddull colur**

1. naturiol

2. gyda'r nos

3. achlysur arbennig

Cyngor ac argymhellion**

1. cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd

2. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau

3. cynnyrch a gwasanaethau yn awr ac yn y dyfodol

4. technegau addas ar gyfer tynnu colur​


Gwybodaeth Cwmpas

Iechyd a diogelwch**

1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario

6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau peryglus i Iechyd (COSHH)

7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd

9. Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)

Arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy**

1. lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)

2. lleihau'r defnydd o ynni (offer ynni effeithlon, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)

3. lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill

4. atal llygredd

5. defnyddio eitemau untro

6. defnyddio dodrefn ecogyfeillgar, wedi'u hailgylchu

7. defnyddio paent â lefelau isel o gemegau

8. defnyddio cynnyrch organig gwrth-alergedd

9. defnyddio deunydd pecynnu sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd

10. dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

11. annog teithiau lleihau carbon i'r gwaith

Offer**

1. brwshys colur

2. cynwysyddion

3. cynnyrch tafladwy

4. cyrlwyr amrannau

5. plycwyr

Anghenion amrywiol**

1. diwylliannol

2. crefyddol

3. oedran

4. anabledd

5. rhyw

Gwrtharwyddion**

1. chwysu gormodol

2. adweithiau anffafriol i'r croen

3. llygaid llawn dagrau

4. cochni gormodol

Gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu gyfyngu**

1. feirol – crachen annwyd

2. llid yr amrannau

3. briwiau a chrafiadau agored

4. chwydd

5. llid y croen

6. meinwe craith ddiweddar

7. ecsema

8. hyperkeratosis

9. alergeddau croen

10. cleisio

11. llygaid llawn dagrau

12. ecsema a psorïasis wedi gwella

13. cochni

14. cleisiau

Gwrtharwyddion sy'n galw am atgyfeiriad meddygol**

1. bacteriol  – impetigo

2. ffyngaidd – tinea

3. llid yr amrannau

4. cyflyrau croen a heintiau difrifol i'r llygaid

5. acne

6. casgliadau

7. yr eryr a dafadennau

8. heintiau parasitedd megis pla llau a sgabies

Cyflyrau'r croen**

1. sensitif

2. dadhydredig

3. capilarïau wedi torri

4. llinorod

5. plorod

6. croendyllau agored

7. cylchoedd tywyll

8. hyper liwiad

9. hypo liwiad

10. niwed yr haul

11. creithiau

12. cochni

13. aeddfed

Cynnyrch colur**

1. paratowyr

2. lleithyddion lliw

3. colur sylfaen

4. powdrau

5. cynnyrch efydd i'r wyneb

6. cuddwyr

7. cynnyrch cywiro

8. cynnyrch aeliau

9. cynnyrch llygaid

10. cynnyrch llinellu'r llygaid

 11. masgara

12. cynnyrch bochau

13. cynnyrch gwefusau

14. pensiliau

15. chwistrellwyr gosod

Strwythur a swyddogaethau'r croen**

Strwythur:**

1. haenau o epidermis

2. dermis

3. haen isgroenol

4. ffoligl gwallt

5. siafft gwallt

6. chwarren sebwm

7. chwarren arrector pili

8. chwarren chwys

9. gwythiennau gwaed a lymff

10. terfynau nerfau synhwyraidd

Swyddogaethau:**

1. sensitifrwydd

2. rheoli gwres

3. amsugno

4. amddiffyn

5. ysgarthu

6. secretu

7. cynhyrchu fitamin D​


Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd all​weddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. parodrwydd i ddysgu

2. agwedd gweithio hyblyg

3. gweithiwr tîm

4. agwedd bositif

5. moeseg bersonol a phroffesiynol


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn

1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad

2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar

3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu

4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser

5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient

6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn

7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn

9. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.​


Sgiliau

Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. y gallu i hunan-reoli

2. cyfathrebu llafar a dieiriau gwych

3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient

4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth

5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient

6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad


Geirfa

Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. y gallu i hunan-reoli

2. cyfathrebu llafar a dieiriau gwych

3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient

4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth

5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient

6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad

 ​


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAB10

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch, Artistiaid colur

Cod SOC


Geiriau Allweddol

colur; gwasanaethau