Paratoi a chynnal ardaloedd triniaeth yn y salon

URN: SKABT1
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Ion 2015

Trosolwg

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi a chynnal ardaloedd triniaeth yn y salon. Mae'n cynnwys paratoi'r ardaloedd triniaeth ar gyfer gwahanol driniaethau a gwasanaethau. Bydd angen i chi allu gosod cynnyrch, offer a chyfarpar ar gyfer y triniaethau hyn, cynnal eich ymddangosiad a hylendid personol a chasglu cofnodion y cleient. Bydd angen i chi hefyd gael gwared ar wastraff ar ôl y triniaethau, storio cofnodion y cleient, glanhau'r ardal waith a'i gadael mewn cyflwr addas.

Er mwyn cyflawni'r safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal ymddangosiad personol proffesiynol a dangos sgiliau cyfathrebu da.

Prif ganlyniadau'r safon hon yw:

1. paratoi ardaloedd triniaeth yn y salon

2. cynnal ardaloedd triniaeth yn y salon ​


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Paratoi ardaloedd triniaeth yn y salon**

1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y paratoi a'r cynnal

2. dilyn cyfarwyddiadau uwch aelod o staff a cheisio cymorth yn ôl yr angen

3. sicrhau bod yr holl offer a chyfarpar yn cael eu glanhau yn dilyn gofynion sefydliadol

4. gosod deunydd, offer a chyfarpar ar gyfer triniaethau yn dilyn gweithdrefnau'r safon ac unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd

5. sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r driniaeth

6. sicrhau bod eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol yn bodloni gofynion diwydiant a sefydliadol derbyniol

7. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar ddefnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch

8. casglu cofnodion y cleient ar gyfer yr aelod o staff perthnasol cyn dechrau'r driniaeth

Cynnal ardaloedd triniaeth yn y salon**

9. cael gwared ar ddeunydd gwastraff ar ôl triniaethau yn dilyn gofynion y salon

10. cadw lefelau stoc ac eitemau eraill sy'n ofynnol ar gyfer triniaethau wedi'u hailstocio i'r lefelau sy'n ofynnol gan y salon

11. storio cynnyrch, offer, cyfarpar a chofnodion cleientiaid ar ôl triniaethau yn y man gofynnol

12. gadael yr ardaloedd triniaeth mewn cyflwr glân sy'n addas ar gyfer triniaethau pellach


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Paratoi ardaloedd triniaeth yn y salon**

1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd

2. pam mae hi'n bwysig dilyn cyfarwyddiadau uwch aelod o staff a chanlyniadau peidio â gwneud hynny

3. sut i lanhau, diheintio a sterileiddio gwahanol fathau o offer a chyfarpar

4. y gwahaniaethau rhwng sterileiddio a diheintio

5. pam mae hi'n bwysig cynnal safonau hylendid cyffredinol ac egwyddorion osgoi croes-heintio

6. gwahanol fathau o gynnyrch, offer a chyfarpar sy'n ofynnol ar gyfer triniaethau a sut i'w gosod

7. yr amodau amgylcheddol angenrheidiol ar gyfer triniaethau a pham mae hyn yn bwysig

8. eich cyfrifoldebau a rhesymau dros gynnal eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol yn unol â gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

9. cyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr a'r cynhyrchwyr ar ddefnydd diogel o gynnyrch, offer a chyfarpar y mae'n rhaid i chi eu dilyn

10. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gwaith diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn

11. rhesymau a phwysigrwydd cadw cofnodion o driniaethau

Cynnal ardaloedd triniaeth yn y salon**

12. sut i gael gwared ar ddeunydd a chynnyrch gwastraff o'r triniaethau

13. gofynion eich salon ar gyfer ailstocio cynnyrch ac eitemau eraill ar gyfer triniaethau

14. eich cyfrifoldebau ar gyfer storio cyfarpar, cynnyrch a chofnodion cleientiaid

15. y cyflwr y dylid gadael yr ardal waith a pham mae hyn yn bwysig​


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Triniaethau**

1. cwyro

2. triniaethau llygaid

3. colur

4. triniaeth i'r wyneb

5. trin ewinedd dwylo

6. trin ewinedd traed

7. celf ewinedd

8. ychwanegiadau ewinedd

Amodau amgylcheddol**

1. golau

2. gwres

3. awyru

4. cysur cyffredinol


Gwybodaeth Cwmpas

Iechyd a diogelwch**

1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario

6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd

9. Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)​


Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. parodrwydd i ddysgu

2. agwedd gweithio hyblyg

3. gweithiwr tîm

4. agwedd bositif

5. moeseg bersonol a phroffesiynol​


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn

1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad

2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar

3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu

4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser

5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient

6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn

7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn

9. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.​


Sgiliau

Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. y gallu i hunan-reoli

2. cyfathrebu llafar a dieiriau gwych

3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient

4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth

5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient

6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad​


Geirfa

Adweithiau**

Adweithiau negyddol i'r driniaeth neu gynnyrch megis cochni gormodol neu adweithiau alergaidd.

Gwrtharwyddion**

Amodau neu gyfyngiadau sy'n nodi na ddylid cynnal gwasanaeth penodol.

Croes-heintio**

Trosglwyddo micro-organebau trwy arferion hylendid gwael trwy gyswllt uniongyrchol gydag unigolyn arall neu gyswllt anuniongyrchol trwy offer a chyfarpar wedi'u heintio.

Diheintio**

Atal twf micro-organebau (ac eithrio sborau) sy'n achosi salwch gan ddefnyddio cyfryngau cemegol.

Glanhau dwylo**

Glanhau neu olchi'r dwylo i lefel antiseptig er mwyn atal twf bacteria.

Amodau amgylcheddol**

Mae'r rhain yn cynnwys gwresogi, goleuadau ac awyru i sicrhau'r lleoliad a'r naws cywir ar gyfer y gwasanaeth.

Gofynion cyfreithiol**

Mae hyn yn cyfeirio at y cyfreithiau sy'n effeithio ar y ffordd y mae busnesau yn gweithredu, sut mae'r salon neu'r gweithle yn cael ei sefydlu a'i gynnal, pobl sy'n cael eu cyflogi a'r systemau gwaith y mae'n rhaid eu cynnal. Ymhlith yr enghreifftiau y mae rheoliadau COSHH, Rheoliadau Trydan yn y Gweithle a'r Rheoliadau Cynnyrch Cosmetig (Diogelwch).

Cyfarwyddiadau'r cynhyrchwyr**

Arweiniad a gyhoeddir gan gynhyrchwyr neu gyflenwyr cynnyrch neu gyfarpar yn ymwneud â'u defnydd diogel ac effeithiol.

Cyflwyniad personol**

Mae hyn yn cynnwys hylendid personol; defnyddio cyfarpar amddiffyn personol; dillad ac ategolion sy'n addas i'r gweithle penodol.

Gofynion y salon**

Unrhyw weithdrefnau'r salon neu reolau gwaith a gyhoeddir gan reolwyr y salon.

Sterileiddio**

Dulliau glanhau a ddefnyddir er mwyn dinistrio micro-organebau yn llwyr.​


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAB2

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Cynorthwyol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

paratoi; cynnal; salon; triniaeth; ardaloedd