Darparu triniaethau therapi trydanol i’r corff

URN: SKABS1
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol *a *SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. *Mae'r safon yma ar gyfer rhywun proffesiynol ym maes Harddwch sy'n darparu triniaethau therapi trydanol i'r corff gan ddefnyddio'r technolegau canlynol Ysgogi Trydanol o'r Cyhyr, Galfanig, Meicro gerynt, Meicro dermabrasiwn, deuod allyrru golau (LED) golau tanbeidrwydd isel (llai na 500mW), Dyfeisiadau cynhesu'r croen, amleddau radio/Amledd uchel (3KHz – 300GHz), draenio lymphatig cyfarpar draenio ac Uwchsain i wella a chynnal cyflwr y croen a'r corff. ***Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau a gweithdrefnau diweddaraf a chyfarwyddyd am arfer orau. Cynghorir defnyddwyr o'r safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn

  2. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau

  3. trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon am ei gorff a'i groen, ei ddisgwyliadau a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno er mwyn hysbysu'r cynllun triniaeth therapi trydanol i'r corff, i gynnwys:

3.1 hanes triniaethau

3.2 hanes profiad

3.3 y gyfundrefn gyfredol ar gyfer gofal o'r croen

3.4 proffil y ffordd o fyw

3.5 dewisiadau triniaeth amgen

  1. cadarnhau a chytuno gyda'r unigolyn, eu bod wedi deall y drinaeth therapi trydanol i'r corff, i gynnwys:

4.1 canlyniadau disgwyliedig

4.2 gwrth-weithredoedd

4.3 adweithiau niweidiol

4.4 teimlad corfforol a sŵn

5. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer triniaeth y corff yn unol â gofynion cyfundrefnol ac yswiriant

6. gwneud prawf (profion) o flaen y driniaeth er mwyn penderfynu sensitifrwydd y croen

  1. paratoi a glanhau man triniaeth yr unigolyn  yn unol â'r protocol triniaeth trydanol i'r corff

8. gwneud dadansoddiad o'r corff a'r croen, i gynnwys: 8.1 dosbarthiad o'r math o gorff a nodweddion y corff

  1. dewis offer a chyfarpar yn unol â'r protocol triniaeth trydanol i'r corff, i gynnwys:

9.1 profi'r offer a'r cyfarpar yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a gofynion deddfwriaethol

  1. gwneud y driniaeth drydanol i'r corff yn unol â'r protocol triniaeth trydanol i'r corff, i gynnwys:

10.1 ailddatgan y broses driniaeth, teimlad corfforol a sŵn sydd wedi ei greu gan y cyfarpar i'r unigolyn

10.2 defnyddio ac addasu'r cyfarpar, offer a hyd y driniaeth yn ôl y  protocol triniaeth drydanol i'r corff 

11. monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol y driniaeth drydanol i'r corff

12. weithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol

  1. cwblhau'r driniaeth yn unol â'r protocol triniaeth drydanol i'r corff, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol

  2. cwblhau cofnodion triniaeth yr unigolyn a'u cadw'n unol â deddfwriaeth data

  3. defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso'r driniaeth drydanol i'r corff, a gweithredu'n briodol

  4. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth

17. cofnodi canlyniad y driniaeth drydanol i’r corff a’r gwerthusiad ohoni


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau pan yn darparu triniaethau trydanol i'r corff a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu

  1. pam bod rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:

2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol i chi eich hun a'ch adeilad

  1. pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am yr arfer orau ddiweddaraf

  2. yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma

  3. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r driniaeth harddwch, i gynnwys:

5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol

  1. pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd amheus ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd

  2. diben, y defnydd o a chyfyngiadau triniaeth drydanol i'r corff mewn perthynas â'r canlynol:

7.1 hanes meddygol o'r gorffennol a chyfredol

7.2 ffactorau perthnasol yn ymwneud â'r ffordd o fyw

7.3 meddyginiaeth a chyflyrau meddygol

7.4 disgwyliadau'r unigolyn

  1. yr adweithiau niweidiol sy'n gysylltiedig gyda thriniaeth drydanol i'r corff a sut i ymateb

  2. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth drydanol i'r corff

10. pam ei bod hi'n bwysig trafod ac adnabod amcanion, pryderon disgwyliadau yr unigolyn a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth drydanol i'r corff

  1. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau harddwch i blant dan oed ac oedolion bregus

  2. y strwythurau talu a dewisiadau ar gyfer triniaeth

13. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi ar gyfer triniaeth drydanol i’r corff 

  1. pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth drydanol i'r corff

  2. sut i wneud profion cyn triniaeth a'u dehongli

  3. pwysigrwydd dadansoddiad o'r corff a'r croen er mwyn penderfynu ar y cynllun triniaeth

  4. y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  5. y mathau o, manteision a chyfyngiadau technolegau trydanol i'r corff a'r effeithiau ffisiolegol ar y croen a meinwe'r cyhyr, i gynnwys: 18.1 y math o gerynt a ddefnyddir

18.2 risgiau cysylltiedig a sut i ymateb

  1. y cynnyrch a ddefnyddir ar y cyd gyda thriniaethau trydanol i'r corff a'r risgiau cysylltiedig

  2. sut i baratoi a defnyddio cynnyrch, offer a chyfarpar yn unol â'r protocol triniaeth drydanol i'r corff

  3. y mathau o driniaethau y gellir eu rhoi ar y cyd â, neu ar ôl triniaethau trydanol i'r corff

  4. pam ei bod yn bwysig egluro'r broses driniaeth, sŵn y cyfarpar a'r teimlad i'r unigolyn

  5. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth

24. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol gyda chydsyniad o fan triniaeth yr unigolyn, a’u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, a’r rhai deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol 

  1. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion yr unigolyn am y driniaeth drydanol i'w gorff

  2. canlyniadau disgwyliedig triniaethau trydanol i'r corff

  3. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol

28. pwysigrwydd cofnodi canlyniad y driniaeth drydanol i’r corff a’r gwerthusiad ohoni

29.  cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y driniaeth drydanol i'r corff


Cwmpas/ystod

Adweithiau niweidiol

  1. gormodedd o waed
  2. llosg galfanig
  3. cleisio
  4. llid
  5. adwaith alergaidd
  6. blinder o'r cyhyr
  7. gorliwiad/ tanliwiad o'r croen

Protocol triniaeth drydanol i'r corff

1.amgylchedd waith

  1. iechyd a diogelwch

  2. atal a rheoli haint

  3. cynllun triniaeth

  4. cydsyniad gwybodus

  5. rheoli data

  6. canlyniadau profion

  7. cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  8. archwilio ac atebolrwydd

10.  cyfarwyddiadau a chyngor

11.  cynaliadwyedd

12.  rheoli gwastraff

13.  ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth

14.  ymarfer adfyfyriol

Nodweddion y corff

  1. tôn y cyhyrrau

  2. tensiwn y cyhyrrau

  3. dwysedd y blew

  4. cylchrediad araf

  5. dosbarthiad y croen

  6. cyflwr y croen

  7. hydwythedd llac

  8. ystumiau

Offer a Chyfarpar

  1. ysgogwr trydanol o'r cyhyr
  2. galfanig
  3. meicro gerynt
  4. Meicro dermabrasiwn
  5. deuod allyrru golau (LED) golau tanbeidrwydd isel (llai na 500mW)
  6. dyfeisiadau cynhesu'r croen
  7. amleddau radio/Amledd uchel (3KHz – 300GHz)
  8. cyfarpar draenio lymphatig
  9. uwchsain

Cyfarwyddiadau

  1. hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd

  2. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth

  3. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig

  4. triniaethau yn y dyfodol

Anatomeg a ffisioleg
1.strwythur a swyddogaeth systemau'r corff a'u cyd- ddibyniaeth ar ei gilydd
2.gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig
3. ffactorau cynhenid ac anghynghenid sy'n effeithio ar gyflwr y croen
4. meini prawf ar gyfer graddio acne

5. swyddogaeth rhwystro'r croen

  1. effeithiau corfforol, seicolegol a ffisiolegol triniaethau trydanol i'r corff

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwrtharwydd llwyr

Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.

Adwaith niweidiol

Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. llewygu

Anatomeg a ffisioleg

Y ffordd mae'r systemau sgerbydol, cyhyrol, cylchredol, lymffatig, resbiradol, ysgarthol, treuliol, endocrinaidd a nerfol yn rhyngweithio gyda'i gilydd a sut mae nhw'n effeithio ar yr unigolyn, y gwasanaeth a'r canlyniadau

Dosbarthiad y math o gorff

Nodir mathau'r corff fel dosbarthiadau endomorff, mesomorff ac ectomorff.

Gwrth Weithred

Gwrth weithred yw adwaith 'ddisgwyliedig endocrinaidd neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. erythema

Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth

Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael

Cymorth Cyntaf

Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.

Protocol

Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau e.e. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

Gwrthawrydd cymharol

Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd  ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.

Swyddogaeth rhwystro'r croen

Y rhwystr adnewyddol, biogemegol sy'n gwarchod ein systemau mewnol rhag ymosodwyr amgylcheddol a phathogennau, ac sy'n helpu i rwystro colli dŵr yn draws- epidermol. Wedi ei wneud o gelloedd wedi eu cornio, ffactorau sy'n lleithio'n naturiol, lipidau rhwystrol a meicrobiom y croen.

*
*

*
*

Dosbarthiad y croen

Gellir cyfeirio at raddfeydd dosbarthu'r croen fel y raddfa fitzpatrick, y raddfa lancer a ffenoteip genoteipiau.

* *


Dolenni I NOS Eraill

​SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKABBR1, SKABBR2, SKABN1, SKABN2, SKABN3, SKAB1, SKAB2, SKAB3, SKAB4, SKAB5, SKAB6, SKAB7, SKAB8, SKAB9, SKAB10, SKAB11, SKAB12,pall SKABS2, SKABS2, SKABS3, SKABS4, SKABS5, SKABS6, SKABS7, SKAHDBMN1, SKAHDBRBNS2, SKAHDBRBNS3, SKAHDBRBNST2, SKAHDBRBNST3, SKAHDBRBNT1



Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKABT21

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch

Cod SOC

6222

Geiriau Allweddol

Triniaeth drydanol i’r corff, ysgogwr trydanol o’r cyhyr galfanig meicro gerynt Meicro dermabrasiwn deuod allyrru golau (LED) golau tanbeidrwydd isel (llai na 500mW), dyfeisiadau cynhesu’r croen, amleddau radio/Amledd uchel (3KHz – 300GHz), cyfarpar draen