Cynllunio a chreu cynlluniau gwallt a siapiau yn y gwallt gan ddefnyddio technegau uwch gyda chliper a rasel

URN: SKABR3
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae’r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu, a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol. a SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. Mae’r safon yma’n ymwneud â rhywun o’r proffesiwn trin gwallt yn darparu gwasanaethau eillio ar yr wyneb, pen a’r gwddf gan ddefnyddio rasel syth gyda llafn a ddefnyddir unwaith. Bydd gofyn i chi hefyd werthuso ac adfyfyrio ar ôl y gwasanaeth er mwyn ei wella’n barhaus. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon yma sicrhau bod eu harferion yn adlewyrchu’r wybodaeth, y polisïau, y gweithdrefnau a’r canllawiau arferion gorau diweddaraf. Caiff defnyddwyr y safon yma eu cynghori i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio â, gofynion cymorth cyntaf, yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau.

* *

Prif ddeilliannau'r safon yma yw:

  1. creu cynlluniau gwallt cymhleth a siapiau yn y gwallt

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn

  2. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, cyfarwyddebau a chanllawiau, i gynnwys:

2.1 cael gwared o ddarnau o flew dros ben a thoriadau o flew wyneb o groen yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth

2.2 codi gwallt sydd dros ben oddi ar y llawr er mwyn osgoi anaf

  1. trafod a darganfod amcanion yr unigolyn a'r canlyniadau a ddymunir, er mwyn cael y wybodaeth at gyfer y cynllun gwasanaeth torri gwallt, i gynnwys:

3.1 ystyried strwythurau anatomegol y pen a'r wyneb

3.2 dewisiadau amgen ar gyfer triniaeth

  1. gwneud dadansoddiad o flew'r wyneb a'r croen er mwyn penderfynu ar y cynllun gwasanaeth torri blew'r wyneb, i gynnwys:

4.1 dosbarthiad cyrls gwallt
*4.2 *nodweddion gwallt
**4.3 dosbarthiad croen

4.4 cyflwr ar croen y pen

  1. edrych ar amrywiaeth o gynlluniau gwallt y gellir eu cyflawni a siapiau gyda'r unigolyn gan ddefnyddio cymhorthion gweledol perthnasol

6. cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, ei fod wedi deall y gwasanaeth torri gwallt arfaethedig i gynnwys:

6.1 gwrth weithredoedd

6.2 adweithiau niweidiol

7. sicrhau cydsyniad gwybodus gan yr unigolyn ar gyfer y gwasanaeth torri gwallt

8. 8. paratoi’r gwallt yn unol â’r protocol gwasanaeth torri gwallt

  1. dewis offer a chyfarpar sy'n addas ar gyfer dosbarthiad cyrls gwallt yr unigolyn er mwyn sicrhau'r edrychiad a ddymunir, i gynnwys:

9.1 trin a defnyddio'r offer a'r cyfarpar mewn modd diogel er mwyn osgoi niwed i'r gwallt a chroen y pen

10. torri gwallt yr unigolyn gan ddefnyddio’r canllawiau er mwyn sicrhau bod pwysau, cymesuredd, cydbwysedd a siap yn cael eu sicrhau i gynnwys:

10.1 cylchdroi eich safle o gwmpas yr unigolyn er mwyn sicrhau cywirdeb y toriad

10.2 addasu eich technegau torri gwallt er mwyn creu’r cynllun a’r siapiau yn y gwallt a gytunwyd, yn unol â’r protocol gwasanaeth torri gwallt

11. croes-edrych ar y toriad er mwyn sicrhau dosbarthiad cywir o bwysau, cymesuredd, cydbwysedd a siâp
  1. siapio cylchfesurau'r blew gan ddefnyddio technegau torri gwallt, gan gymryd i ystyriaeth:

12.1 y rhimyn gwallt natruiol

12.2 patrymau tŵf y gwallt

  1. cwblhau'r gwasanaeth torri gwallt gan sicrhau bod yr unigolyn yn rhydd o ddarnau o flew yn unol â'r protocol torri gwallt

  2. monitro iechyd a lles yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth torri gwallt

  3. gweithredu'r camau cywir os bydd adwaith niweidiol

  4. cwblhau cofnodion gwasanaeth yr unigolyn a'u cadw yn unol â deddfwriaeth data

17. defnyddio ymarfer adfyfyriol i werthuso'r gwasanaeth torri blew'r wyneb a chymryd camau priodol

18. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn, cyn ac ar ôl y gwasanaeth

  1. cofnodi canlyniad gwasanaeth torri blew'r wyneb a'r gwerthusiad ohono

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. eich swyyogaeth a'ch cyfrifoldebau o ran darparu gwasanaethau torri gwallt a'r pwysigrwydd o weithio o fewn eich gallu

  1. pam bod yn rhaid i chi gydymffurfio gydag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddwriaethol; i gynnwys:

2.1 y cyfrifoldebau drosoch chi eich hunain a'ch adeiladau o dan reoliadau trwyddedu yr awdurdod lleol

  1. pwysigrwydd ymwneud â, a dogfennu datblygiad proffesiynol parhaus, i gynnwys, polisïau gwybodaeth wedi eu diweddaru, gweithdrefnau a chanllawiau ar gyfer arfer gorau

  2. yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma

  3. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r gwasanaeth torri blew, i gynnwys:

5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis meddygol a chyfeirio

  1. pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd ar y croen a niwed i groen y pen, a'u cyfeirio at weithiwr proffesiynol gofal iechyd perthnasol

  2. cyfyngiadau technegau torri blew'r wyneb a'r addasiadau sy'n ofynnol, mewn perthynas â'r canlynol:

7.1 dosbarthiad croen a cyrls gwallt

7.2 cyflwr y croen a'r gwallt

7.3 patrymau tŵf y gwallt

7.4 strwythurau anatomegol y pen a’r wyneb

7.5 hoffterau'r unigolyn

7.6 disgwyliadau'r unigolyn

  1. strwythyrau anatomegol y pen a sut y maent yn effeithio ar y gwasanaeth torri gwallt

  2. pam ei bod yn bwysig dodi siampŵ ar y gwallt a chroen y pen cyn y gwasanaeth torri gwallt

  3. pam dylech chi gribo'r gwallt cyn y gwasanaeth torri gwallt

  4. y mathau traddodiadol a chyfredol o siapiau gwallt

12. strwythurau anatomegol y pen a’r wyneb a sut maent yn effeithio ar y gwasanaeth torri gwallt i gynnwys:

12.1 y siâp a'r dyfnder cyffredinol

12.2 dyfnder y trimio amlinellol sydd ei angen

  1. sut i bersonoli'r dulliau torri

14. pwysigrwydd ystyried patrymau tŵf naturiol er mwyn creu dosbarthiad pwysau cytbwys

  1. y rhesymau tros sefydlu a dilyn canllawiau

  2. sut i greu a dilyn canllaw ar gyfer siap yr wyneb

  3. y gwasanaeth yn unol â'ch polisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol

18. y peryglon cysylltiedig o dorri blew'r wyneb yn agos at groen noeth

  1. y perygl o flew yn tyfu am i mewn o ganlyniad i dorri parhaus yn agos

  2. pwysigrwydd croes-edrych ar gymesuredd a chydbwysedd y toriad

  3. sut i ddefnyddio, lefelu a phrofi cliperi

  4. maint a'r mathau o gliperi, llafnau cliper, trimwyr ac atodiadau sydd ar gael a'r effeithiau mae'r rhain yn eu cyflawni.

  5. y mathau o broblemau all ddigwydd pan yn torri blew'r wyneb a sut gellir eu cywiro

  6. y pwysigrwydd o ymgynghori gydag unigolion drwy gydol y broses o dorri gwallt

25. yr adweithiau niweidiol a gysylltir â'r gwasanaeth eillio a sut i ymateb iddynt

  1. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth

  2. pam ei bod hi'n bwysig trafod gyda a chanfod gan yr unigolyn ei amcanion, pryderon, disgwyliadau a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun gwasanaeth torri gwallt

  3. y strwythurau taliadau a'r dewisiadau ar gyfer gwasanaeth

  4. y gofynion deddfwriaethol a digollediad ynglŷn â sicrhau cydsyniad gwybodus am y gwasanaeth

  5. pwysigrwydd cofnodi canlyniad y gwasanaeth torri gwallt a'r gwerthusiad ohono

  6. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth

  7. y rhesymau dros gymryd cyfryngau gweledol o fan triniaeth yr unigolyn a'i gadw yn unol â'r gofynion gwasanaeth, deddfwriaethol, yswiriant a chyfunfrefnol

  8. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ynglŷn â chwblhau a chadw cofnod gwasanaeth torri gwallt

  9. y deilliannau disgwyliedig o wasanaethau torri gwallt

35.diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso er mwyn gwella darpariaeth y gwasanaeth yn y dyfodol

  1. pwysigrwydd cofnodi canlyniad a gwerthusiad o'r gwasanaeth torri gwallt

  2. y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y gwasanaeth torri gwallt


Cwmpas/ystod

Dosbarthiad cyrls gwallt

  1. syth
  2. tonnog
  3. cyrliog
  4. cyrls tynn
  5.  cyfuniad

Nodweddion y gwallt

  1. dwysedd gwallt
  2. gwead y gwallt
  3. ystwythder y gwallt
  4. mandylledd y gwallt
  5. * *patrymau tŵf y gwallt

Siapiau'r gwallt

  1. llinellau syth
  2. llinellau cromlin
  3. wedi'i ailadrodd

  4. cylchfesuriad

  5. realaeth /cysgodi
  6. stensiliau

* **          *

*
*

*
*

Protocol gwasnaeth torri gwallt


  1. amgylchedd wait
  2. iechyd a diogelwch
  3. atal a rheoli haint
  4. cynllun gwasanaeth
  5. cydsyniad gwybodus

  6. cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  7. rheoli data
  8. archwilio ac atebolrwydd
  9. cyfarwyddiadau a chyngor
  10. cynaliadwyedd
  11. rheoli gwastraff
  12. ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
  13. ymarfer adfyfyriol

Offer a Chyfarpar


  1. cliperi
  2. rasel dorri syth gyda llafnau sy'n cael ei defnyddio unwaith
  3. rasel steilio
  4. trimwyr
  5. manylwyr

  6. ffoeliau

Hair cutting techniques

  1. freehand
  2. clipper over comb
  3. clipper with attachment
  4. skin fading
  5. texturizing
  6. razor cutting
  7. tapering
  8. trimming

Technegau torri gwallt

  1. llaw rhydd
  2. siswrn dros y crib
  3. cliper dros y crib
  4. pylu croen

  5.  creu gwead

  6.  torri â rasel
  7. tapro
  8.  trimio

Cyfarwyddiadau

  1. hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau yr unigolyn a'r ymarferydd

  2. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y gwasanaeth

  3. cyfyngiadau a pheryglon cysylltiedig
  4. gweithdrefnau yn y dyfodol



Anatomeg and ffisioleg

  1. strwythur a swyddogaeth systemau'r corff yn ymwneud â'r gwallt a'i dŵf
  2. gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig


* *


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwrtharwydd llwyr

Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei

gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.

Adwaith niweidiol

Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn

gwasanaeth e.e. llewygu

Gwrth weithred

Gwrthweithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth,

e.e. erythema

Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth

Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth

orau cyfredol, dilys a pherthnasol sydd ar gael.

Cymorth Cyntaf

Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith

neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.

Dosbarthiad cyrls gwallt

Gellir cyfeirio at ddosbarthiad cyrls gwallt fel Math 1 – 4.

Protocol

Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer gorau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

Gwrthawrydd cymharol

Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.

Rasel syth

Rasel syth gyda llafnau a ddefnyddir unwaith yn cael ei defnyddio i gael gwared o'r gwallt o'r croen.

Rasel steilio

Mae gan rasel steilio giardiau amlswyddogaethol dewisol wedi eu hatodi i'r llafn er mwyn creu gwead i'r gwallt ac effeithiau teneuo.


Dolenni I NOS Eraill

SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKAHDBR1, SKABBR2, SKABR2, SKABR3, SKABR4, SKAHDBR2, SKAHDBR3,

SKAHDBR4, SKAHDBR5,

SKAHDBR6, SKAHDBR7, SKAHDBR8, SKAHDBR9, SKAHDBR10, SKAHDBR11, SKAHDBR12, SKAHDBR13, SKAHDBR14, SKAHDBR15, SKAHDB16, SKAHDB19, SKAHDB20, SKAHDB21, SKABR5



Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKACB5, SKACB7 and SKACB9

Galwedigaethau Perthnasol

Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC

6221

Geiriau Allweddol

barbro, torri, pylu,