Llunio a chreu siapiau i flew’r wyneb gan ddefnyddio technegau ar lefel uwch

URN: SKABR2
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu, a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol. a SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. Mae'r safon yma'n ymwneud â **rhywun o'r proffesiwn trin gwallt yn ail-lunio, siapio a phersonoli blew'r wyneb gan ddefnyddio technegau llawrydd, clipiwr a rasel ar lefel uwch. Bydd gofyn i chi hefyd werthuso ac adfyfyrio ar ôl y gwasanaeth er mwyn ei wella'n barhaus. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon yma sicrhau bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau, gweithdrefnau a'r canllawiau arferion gorau diweddaraf. Caiff defnyddwyr y safon yma eu cynghori i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio â, gofynion cymorth cyntaf, yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau.

Y prif ddeilliannau yw:

  1. ail-lunio a siapio mwstas
  2. ail-lunio a siapio barf rhannaol a mwstas
  3. ail-lunio a siapio barf llawn a mwstas

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn

  1. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, cyfarwyddebau a chanllawiau, i gynnwys:

2.1 cael gwared o ddarnau o flew dros ben a thoriadau o flew wyneb o groen yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth

2.2 codi blew sydd dros ben oddi ar y llawr er mwyn osgoi anaf

3. trafod a darganfod amcanion yr unigolyn a'r canlyniadau a ddymunir, er mwyn cael y wybodaeth ar gyfer y cynllun gwasanaeth torri blew, i gynnwys:

3.1 ystyried strwythurau anatomegol y pen a'r wyneb

3.2 dewisiadau amgen ar gyfer triniaeth

  1. edrych ar amrywiaeth o siapiau ar gyfer blew'r wyneb y gellir eu cyflawni gyda'r unigolyn gan ddefnyddio cymhorthion gweledol perthnasol

  2. gwneud dadansoddiad o flew'r wyneb a'r croen er mwyn penderfynu ar y cynllun gwasanaeth, i gynnwys:

5.1 dosbarthiad cyrls y blew
*5.2 *nodweddion y blew **

**5.3 patrymau tŵf blew'r wyneb

5.4 dosbarthiad y croen

5.5 cyflwr y croen

5.6 blew yn tyfu am i fewn

5.7 tylliadau i'r wyneb

  1. cadarnhau a chytuno gyda'r unigolyn, ei fod wedi deall y gwasanaeth torri blew'r wyneb arfaethedig i gynnwys:

6.1 gwrth weithredoedd
6.2 adweithiau niweidiol

7. sicrhau cydsyniad gwybodus gan yr unigolyn ar gyfer y gwasanaeth torri blew'r wyneb

  1. paratoi'r croen a'r blew yn unol â'r protocol gwasanaeth torri blew'r wyneb

  2. dewis offer a chyfarpar sy'n addas ar gyfer anghenion yr unigolyn ac er mwyn sicrhau'r edrychiad a ddymunir, i gynnwys:

9.1 trin a defnyddio'r offer a'r cyfarpar mewn modd diogel er mwyn osgoi niwed i'r croen a'r blew

  1. creu a thorri'r amlinelliad cychwynnol gan ddefnyddio technegau torri blew'r wyneb yn unol â'r cynllun gwasanaeth torri blew'r wyneb i gynnwys: 

10.1 cadarnhau gyda'r unigolyn ei fod eisiau bwrw ymlaen gyda thorri blew ei wyneb

11. torri blew wyneb yr unigolyn gan ddefnyddio'r canllawiau er mwyn sicrhau bod pwysau, cymesuredd, cydbwysedd a siap yn cael eu sicrhau yn unol â'r protocol torri blew'r wyneb, i gynnwys:

11.1 cylchdroi eich safle o gwmpas yr unigolyn er mwyn sicrhau cywirdeb y toriad

11.2 addasu eich technegau torri blew er mwyn personoli siap blew'r wyneb

12. croes-wirio’r toriad er mwyn sicrhau dosbarthiad cywir o bwysau, cymesuredd, cydbwysedd a siâp

  1. siapio cylchfesurau'r blew gan ddefnyddio technegau torri blew gan gymryd i ystyriaeth

13.1 y rhimyn blew naturiol

13.2 patrymau tŵf blew'r wyneb

14. cwblhau gwasanaeth torri blew'r wyneb gan sicrhau bod yr unigolyn yn rhydd o ddarnau o flew yn unol â'r protocol torri blew'r wyneb i gynnwys:

14.1 dodi cynnyrch ôl-driniaeth

  1. monitro iechyd a lles yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth torri blew'r wyneb

  2. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol

  3. cwblhau cofnodion gwasanaeth yr unigolyn a'u cadw yn unol â deddfwriaeth data

  4. defnyddio ymarfer adfyfyriol i werthuso'r gwasanaeth torri gwallt a chymryd camau priodol

  5. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn, cyn ac ar ôl y gwasanaeth

  6. cofnodi canlyniad y gwasanaeth torri blew'r wyneb a'r gwerthusiad ohono


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau o ran darparu gwasanaethau torri blew'r wyneb a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu

  1. pam bod rhaid i chi gydymffurfio gydag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol; i gynnwys:

2.1 y cyfrifoldebau drosoch chi eich hun a'ch adeiladau o dan reoliadau trwyddedu yr awdurdod lleol

  1. pwysigrwydd ymwneud â, a dogfennu datblygiad proffesiynol parhaus, i gynnwys, polisïau gwybodaeth wedi eu diweddaru, gweithdrefnau a chanllawiau ar gyfer arfer gorau

  2. yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma

  3. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r gwasanaeth torri blew, i gynnwys:

5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis meddygol a chyfeirio

  1. pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd ar y croen a niwed i groen y pen, a'u cyfeirio at weithiwr proffesiynol gofal iechyd perthnasol

  2. cyfyngiadau technegau torri blew'r wyneb a'r addasiadau sy'n ofynnol, mewn perthynas â'r canlynol:

7.1 dosbarthiad croen a chyrls y blew

7.2 cyflwr y croen a'r blew

7.3 patrymau tŵf blew'r wyneb

7.4 strwythurau anatomegol y pen a'r wyneb

7.5 tylliadau i'r wyneb

7.6 hoffterau'r unigolyn

7.7 disgwyliadau'r unigolyn

  1. y mathau traddodiadol a chyfredol o siapiau blew'r wyneb a siapiau llinell y gwddf, i gynnwys:

8.1 sut i nodi gwahanol siapiau o flew'r wyneb

8.2 sut mae patrymau tŵf blew'r wyneb yn effeithio ar y dewis o siap blew'r wyneb

  1. strwythurau anatomegol y pen a'r wyneb a sut maent yn effeithio ar y gwasanaeth torri blew'r wyneb

  2. sut i asesu amlinellau a nodweddion wyneb yr unigolyn er mwyn penderfynu ar y siapiau priodol i'r wyneb

11. pryd a pham mae'r croen a'r blew yn cael eu glanhau o flaen gwasanaeth torri blew'r wyneb 

  1. pam dylech chi gribo'r blew cyn y gwasanaeth torri blew'r wyneb

13. y mathau o dechnegau torri blew’r wyneb ar gyfer pob dosbarthiad o gyrls y blew a nodweddion y blew,a phryd a sut i’w defnyddio, i gynnwys:

13.1 y siap a'r dyfnder cyffredinol

13.2 dyfnder y trimio amlinellol sydd ei angen

  1. sut i bersonoli technegau torri blew'r wyneb

  2. pwysigrwydd ystyried patrymau tŵf naturiol er mwyn creu dosbarthiad pwysau cytbwys

  3. y rhesymau dros sefydlu a dilyn canllawiau

  4. sut i greu a dilyn canllaw ar gyfer siap y wyneb

  5. y risgiau cysylltiedig o doriadau blew'r wyneb yn agos at groen agored

  6. y risg o flew yn tyfu am i mewn o ganlyniad i dorri parhaus yn agos

  7. achosion creithio celoid a'r rhagofalon i'w cymryd

  8. pwysigrwydd croes-wirio cymesuredd a chydbwysedd y toriad

  9. sut i ddefnyddio, lefelu a phrofi cliperi

  10. maint a'r mathau o gliperi, llafnau cliper ac atodiadau sydd ar gael a'r effeithiau mae'r rhain yn eu cyflawni

  11. y mathau o broblemau all ddigwydd pan yn torri blew'r wyneb a sut gellir eu cywiro

  12. pwysigrwydd ymgynghori gydag unigolion drwy gydol y broses o dorri blew'r wyneb

  13. yr adweithiau niweidiol a gysylltir â'r gwasanaeth torri blew'r wyneb a sut i ymateb iddynt

  14. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth

  15. pam ei bod yn bwysig trafod gyda a chanfod gan yr unigolyn ei amcanion, ei bryderon, ei ddisgwyliadau a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun gwasanaeth torri blew'r wyneb

  16. y strwythurau taliadau a'r dewisiadau ar gyfer gwasanaeth

30.amseroedd y gwasanaeth yn unol â'ch polisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol

31. y gofynion deddfwriaethol a digollediad ynglŷn â sicrhau cydsyniad gwybodus am y gwasanaeth

  1. pwysigrwydd cadw at y protocol gwasanaeth torri blew'r wyneb

33. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth

34. y rhesymau dros gymryd cyfryngau gweledol o fan triniaeth yr unigolyn a'i gadw yn unol â'r gofynion gwasanaeth, deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol

  1. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ynglŷn â chwblhau a chadw cofnod gwasanaeth torri blew'r wyneb

  2. canlyniadau disgwyliedig gwasanaethau torri blew'r wyneb

  3. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso er mwyn gwella darpariaeth y gwasanaethau yn y dyfodol

  4. pwysigrwydd cofnodi canlyniad a gwerthusiad o'r gwasanaeth torri blew'r wyneb

  5. y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y gwasanaeth torri blew'r wyneb


Cwmpas/ystod

Dosbarthiad cyrls y blew

  1. syth

  2. tonnog

  3. cyrliog

  4. cyrls tynn

  5. cyfuniad

Nodweddion y blew

  1. dwysedd y blew
  2. gwead y blew
  3. patrymau tŵf blew'r wyneb



Protocol gwasanaeth torri blew'r wyneb

1.  amgylchedd waith

2.iechyd a diogelwch

  1. atal a rheoli haint

  2. cynllun gwasanaeth

  3. cydsyniad gwybodus

  4. cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  5. rheoli data

  6. archwilio ac atebolrwydd

  7. cyfarwyddiadau a chyngor

  8. cynaliadwyedd

11. rheoli gwastraff

12. ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth

  1. ymarfer adfyfyriol

*
*

*Offer a Chyfarpar *

  1. siswrn
  2. clipwyr
  3. siswrn teneuo
  4. rasel gylchol
  5. rasel syth â llafn a ddefnyddir unwaith
  6. llafnau
  7. rasel steilio
  8. trimwyr
  9. manylwyr

Techegau torri blew'r wyneb

  1. torri clwb
  2. llaw rhydd
  3. siswrn dros y crib
  4. cliper dros y crib
  5. cliper gydag atodiad
  6. pylu
  7. creu gwead
  8. teneuo
  9. torri â rasel
  10. tapro
  11. graddio
  12. haenu
  13. trimio
  14. cerfio

*
*

Cyfarwyddiadau

  1. hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau yr unigolyn a'r ymarferydd
  2. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y gwasanaeth
  3. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
  4. gweithdrefnau yn y dyfodol

Anatomeg and ffisioleg

  1. strwythur a swyddogaeth systemau'r corff yn ymwneud â'r blew a'u tŵf
  2.  gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwrtharwydd llwyr

Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.

Adwaith niweidiol

Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn

gwasanaeth e.e. llewygu

Gwrth weithred

Gwrthweithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth, e.e. erythema

Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth

Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth

orau cyfredol, dilys a pherthnasol sydd ar gael.

Cymorth Cyntaf

Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.

Dosbarthiad cyrls y blew

Gellir cyfeirio at ddosbarthiad cyrls blew fel Math 1 – 4.

Protocol

Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer gorau a

chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.

Gwrthawrydd cymharol

Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.

Rasel syth

Rasel syth gyda llafnau a ddefnyddir unwaith yn cael eu defnyddio i gael gwared o'r blew o'r croen.

Rasel steilio

Mae gan rasel steilio giardiau amlswyddogaethol dewisol wedi eu hatodi i'r llafn er mwyn creu gwead i'r blew ac effeithiau teneuo.


Dolenni I NOS Eraill

​SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKAHDBR1, SKABBR2, SKABR1,SKABR3, SKABR4, SKAHDBR2, SKAHDBR3, SKAHDBR4,SKAHDBR5, SKAHDBR6, SKAHDBR7, SKAHDBR8, SKAHDBR9, SKAHDBR10, SKAHDBR11, SKAHDBR12, SKAHDBR13, SKAHDBR14,


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKACB7

Galwedigaethau Perthnasol

Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC

6221

Geiriau Allweddol

barbro, torri blew’r wyneb gan ddefnyddio technegau ar lefel uwch