Torri blew’r wyneb

URN: SKABR1
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu, a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol. a SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. Mae'r safon yma'n ymwneud â rhywun o'r proffesiwn trin gwallt sy'n torri blew'r wyneb gan ddefnyddio technegau torri clwb, llawrydd, siswrn dros y grib, trimio, cliper dros y grib a chliperi gan ddefnyddio giard. Bydd gofyn i chi hefyd werthuso ac adfyfyrio ar ôl y gwasanaeth er mwyn ei wella'n barhaus. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon yma sicrhau bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau, gweithdrefnau a'r canllawiau arferion gorau diweddaraf. Caiff defnyddwyr y safon yma eu cynghori i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio â, gofynion cymorth cyntaf, yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau.

Y prif deilliannau yw:

  1. Trimio a mwstas
  2. trimio barf
  3. trimio barf a mwstas rhannol
  4. trimio barf a mwstas llawn

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn

2. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, cyfarwyddebau a chanllawiau i gynnwys: 2.1 cael gwared o flew dros ben a thoriadau o flew wyneb o groen yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth 

2.2 codi blew sydd dros ben oddi ar y llawr er mwyn osgoi anaf

3.  trafod a darganfod amcanion yr unigolyn a'r canlyniadau a ddymunir, er mwyn cael y wybodaeth ar gyfer y cynllun gwasanaeth torri blew'r wyneb, i gynnwys:

3.1 ystyried strwythurau anatomegol y pen a'r wyneb

dewisiadau amgen ar gyfer triniaeth

  1. gwneud dadansoddiad o flew'r wyneb a'r croen er mwyn penderfynu ar y cynllun gwasanaeth torri blew'r wyneb, i gynnwys:

4.1 dosbarthiad cyrls y blew
4.2 nodweddion gwallt

4.3 patrymau tŵf blew'r wyneb
4.4 dosbarthiad croen

4.5 cyflwr y croen

4.7 gwallt yn tyfu am i mewn
4.8 tyllau yn y wyneb

5. cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, eu bod wedi deall y gwasanaeth torri blew’r wyneb arfaethedig, i gynnwys :

5.1 gwrth-weithredoedd

5.2 adweithiau niweidiol

  1. sicrhau cydsyniad gwybodus gan yr unigolyn am y gwasanaeth torri blew'r wyneb

7. paratoi’r croen a’r blew yn unol â’r protocol gwasanaeth torri blew’r wyneb.

  1. dewis offer a chyfarpar sy'n addas ar gyfer dosbarthiad cyrls blew yr unigolyn er mwyn sicrhau'r edrychiad a ddymunir, i gynnwys

8.1 trin a defnyddio'r offer a'r cyfarpar mewn modd diogel er mwyn osgoi niwed i'r croen a'r blew

  1. creu a thorri'r canllaw gwreiddiol gan ddefnyddio technegau torri blew'r wyneb yn unol â'r cynllun torri blew'r wyneb, i gynnwys:

9.1 cadarnhau gyda'r unigolyn a ydyw eisiau bwrw ymlaen gyda thorri blew ei wyneb 

10. torri blew wyneb yr unigolyn gan ddefnyddio’r canllawiau er mwyn sicrhau bod pwysau, cymesuredd, cydbwysedd a siap yn cael eu sicrhau i gynnwys:

10.1 cylchdroi eich safle o gwmpas yr unigolyn er mwyn sicrhau cywirdeb y toriad

10.2 addasu eich technegau torri blew’r wyneb yn unol â’r protocol gwasanaeth torri blew’r wyneb.

11. croes-edrych ar y toriad er mwyn sicrhau dosbarthiad cywir o bwysau, cymesuredd, cydbwysedd a siâp

  1. siapio cylchfesurau'r blew gan ddefnyddio technegau torri blew'r wyneb, gan gymryd i ystyriaeth:

12.1 rhimyn naturiol y blew

12.2 patrymau tŵf blew'r wyneb

12.3 cwblhau'r gwasanaeth torri blew'r wyneb gan sicrhau bod yr unigolyn yn rhydd o ddarnau o flew i gynnwys:

13. dodi cynnyrch wedi triniaeth

14. monitro iechyd a lles yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth torri blew'r wyneb

15. gweithredu'r camau cywir os bydd adwaith niweidiol

  1. cwblhau cofnodion gwasanaeth yr unigolyn a'u cadw yn unol â deddfwriaeth data

  2. defnyddio ymarfer adfyfyriol i werthuso'r gwasanaeth torri blew'r wyneb a chymryd camau priodol

  3. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn, cyn ac ar ôl y gwasanaeth

19. cofnodi canlyniad y gwasanaeth torri blew’r wyneb a’r gwerthusiad ohono


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. eich rol a'ch cyfrifoldebau o ran darparu gwasanaethau torri blew'r wyneb a'r pwysigrwydd o weithio o fewn eich gallu.

2. pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio gydag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol; i gynnwys:

2.1 y cyfrifoldebau drosoch chi eich hunain a'ch adeiladau o dan reoliadau trwyddedu yr awdurdod lleol

3. pwysigrwydd ymwneud â, a dogfennu datblygiad proffesiynol parhaus, i gynnwys, polisïau gwybodaeth wedi eu diweddaru, gweithdrefnau a chanllawiau ar gyfer arfer gorau

4. yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma

5. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r gwasanaeth torri blew, i gynnwys:

5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis meddygol a chyfeirio

6. pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd ar y croen a niwed i groen y pen, a'u cyfeirio at weithiwr proffesiynol gofal iechyd perthnasol

  1. cyfyngiadau technegau torri blew'r wyneb a'r addasiadau sy'n ofynnol, mewn perthynas â'r canlynol:

7.1 dosbarthiad croen a cyrls gwallt

7.2 nodweddion blew

7.3 cyflwr y croen

7.4 patrymau tŵf blew'r wyneb

7.5 strwythyrau anatomegol y pen a'r wyneb yn cynnwys rhannau o'r croen sydd wedi eu codi neu eu gostwng

7.6 tyllau yn y wyneb

7.7 disgwyliadau'r unigolyn

  1. strwythurau anatomegol y pen a'r wyneb a sut maent yn effeithio ar y gwasanaeth torri blew'r wyneb

9. sut i asesu amlinellau a nodweddion yr wyneb er mwyn cadarnhau siap priodol blew'r wyneb

  1. pryd a phan mae'r croen a'r blew yn cael eu glanhau cyn y gwasanaeth torri blew'r wyneb

  2. pam dylech chi gribo'r blew cyn y gwasanaeth torri blew'r wyneb

12. y mathau traddodiadol a chyfredol o siapiau blew’r wyneb a siapiau rhimyn y gwddf, i gynnwys:

12.1 sut i adnabod siapiau addas ar gyfer blew'r wyneb 

12.2 sut mae patrymau tŵf blew’r wyneb yn effeithio ar y dewis o siap blew’r wyneb

13. y mathau, sut a phryd i ddefnyddio technegau torri blew'r wyneb ar gyfer pob dosbarthiad cyrl blew:

13.1 y siap a'r dyfnder cyffredinol

13.2 y trimio amlinellol a ofynnir

  1. pwysigrwydd ystyried patrymau tŵf naturiol er mwyn creu dosbarthiad pwysau cytbwys

  2. y rhesymau tros sefydlu a dilyn canllawiau

16. sut i greu a dilyn canllaw ar gyfer siap yr wyneb

17. y peryglon cysylltiedig o dorri blew’r wyneb yn agos at groen noeth

**18. y perygl o flew yn tyfu am i mewn o ganlyniad i dorri parhaus yn agos

  1. achosion creithio celoid

  2. pwysigrwydd croes-edrych ar gymesuredd a chydbwysedd y toriad

  3. sut i ddefnyddio, lefelu a phrofi cliperi

  4. maint a'r mathau o gliperi, llafnau cliper, trimwyr ac atodiadau sydd ar gael a'r effeithiau mae'r rhain yn eu cyflawni.

  5. y mathau o broblemau all ddigwydd pan yn torri blew'r wyneb a sut gellir eu cywiro

24. pwysigrwydd ymgynghori gydag unigolion drwy gydol y broses o dorri blew’r wyneb

  1. yr adweithiau niweidiol a gysylltir â'r gwasanaeth eillio a sut i ymateb iddynt

26. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth 

  1. pam ei bod hi'n bwysig trafod gyda a chanfod gan yr unigolyn ei amcanion, pryderon, disgwyliadau a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun gwasanaeth torri blew'r wyneb 

28. y strwythurau taliadau a'r dewisiadau ar gyfer gwasanaeth

29. y gofynion deddfwriaethol a digollediad ynglŷn â sicrhau cydsyniad gwybodus am y gwasanaeth

  1. pwysigrwydd cadw at y protocol gwasanaeth torri blew'r wyneb

31. amser y gwasanaeth yn unol â'ch polisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol

32. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth

33. y rhesymau dros gymryd cyfryngau gweledol o fan triniaeth yr unigolyn a'i gadw yn unol â'r gofynion gwasanaeth, deddfwriaethol, yswiriant a chyfunfrefnol

  1. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ynglŷn â chwblhau a chadw cofnod gwasanaeth torri blew wyneb yr unigolyn

  2. y deilliannau disgwyliedig o wasanaethau torri blew'r wyneb

  3. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a'r modd y mae'n darparu gwybodaeth er mwyn gwella darpariaeth y gwasanaeth yn y dyfodol

37. pwysigrwydd cofnodi canlyniad a gwerthusiad o'r gwasanaeth torri blew'r wyneb

38. y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y gwasanaeth torri blew'r wyneb


Cwmpas/ystod

Dosbarthiad cyrls gwallt

  1. syth
  2. tonnog
  3. cyrliog
  4. cyrls tynn
  5.  cyfuniad

Nodweddion blew'r wyneb

  1. dwysedd gwallt
  2. gwead y gwallt
  3. * *patrymau tŵf blew'r wyneb

Protocol gwasnaeth torri blew'r wyneb

  1. amgylchedd waith
  2. iechyd a diogelwch
  3. atal a rheoli haint
  4. cynllun gwasanaeth
  5. cydsyniad gwybodus
  6. cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
  7. rheoli data
  8. archwilio ac atebolrwydd
  9. cyfarwyddiadau a chyngor
    10.  cynaliadwyedd
    11.  rheoli gwastraff
    12.  ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
    13.  ymarfer adfyfyriol

Offer a Chyfarpar

  1. Sisyrnau
  2. cliperi
  3. trimwyr
  4. ffoeliau

Cynnyrch seboni

  1. hufen
  2. gel
    3. olew
  3. sebon



Techegau torri blew'r wyneb

  1. llaw rhydd
  2. siswrn dros y crib
  3. cliper dros y crib
  4. cliper gydag atodiad

Cyfarwyddiadau

  1. hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau yr unigolyn a'r ymarferydd
  2. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y gwasanaeth
  3. cyfyngiadau a pheryglon cysylltiedig
  4. gweithdrefnau yn y dyfodol

Anatomeg and ffisioleg

  1. strwythur a swyddogaeth y blew a'u tŵf
  2. strwythur a swyddogaeth y croen
  3. strwythur anatomegol sylfaenol y pen, y gwddf a'r ysgwyddau
  4. gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig



Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

*                                     *Gwrtharwydd llwyr

Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.

Adwaith niweidiol

Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn

gwasanaeth e.e. llewygu

Gwrth weithred

Gwrthweithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth, e.e. erythema

Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth

Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth

orau cyfredol, dilys a pherthnasol sydd ar gael.

Cymorth Cyntaf

Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.

* *

Dosbarthiad cyrls blew

Gellir cyfeirio at ddosbarthiad cyrls gwallt fel Math 1 – 4.

Protocol

Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer gorau a 
chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau’r 
gwneuthurwr.

Gwrthawrydd cymharol

Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.


Dolenni I NOS Eraill

SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKAHDBR1, SKABBR2, SKABR2, SKABR3, SKABR4, SKAHDBR2, SKAHDBR3, SKAHDBR4, SKAHDBR5, SKAHDBR6, SKAHDBR7, SKAHDBR8, SKAHDBR9, SKAHDBR10,SKAHDBR11, SKAHDBR12, SKAHDBR13, SKAHDBR14, SKAHDBR15, SKAHDB16, SKAHDB19, SKAHDB20, SKAHDB21, SKABR5



Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKACB3

Galwedigaethau Perthnasol

Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC

6221

Geiriau Allweddol

barbro, torri blew’r wyneb, trimio blew’r wyneb, mwstas a barf