Darparu gwasanaethau cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV

URN: SKABN3
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Ewinedd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol *a *SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. Mae'r safon yma ar gyfer rhywun proffesiynol ym maes Ewinedd sy'n darparu gwasanaethau ewin i wella, cynnal a thrwsio gwelliannau cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV er mwyn gwella ymddangosiad yr ewinedd ar y dwylo a/neu traed. Mae'r gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV yn cynnwys paratoi'r ewinedd, siapio'r ewinedd, gwaith ar y glasgroen a dodi'r gorchudd cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau a gweithdrefnau diweddaraf a chyfarwyddyd am arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.

Y prif ddeilliannau yw:

  1. Gwella'r ewinedd drwy ddodi gorchudd cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
  2.  Cael gwared o'r cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV o'r ewin naturiol

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn

2. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau

  1. trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon ynglŷn â'i ewinedd, ei ddisgwyliadau a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno er mwyn hysbysu'r cynllun gwasanaeth, i gynnwys:

3.1 cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV

3.2 gorffeniad i'r ewin wedi ei drin ag UV
3.3 ffordd o fyw

3.4 dewisiadau triniaeth amgen

  1. cadarnhau a chytuno gyda'r unigolyn, eu bod wedi deall y gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV arfaethedig, i
    gynnwys:

    4.1 gwrth-weithredoedd

4.2 adweithiau niweidiol

**4.3 teimlad corfforol ar haen yr ewin a'r croen o amgylch

5. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer y gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV

6. paratoi man triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV, i gynnwys:

6.1 cael gwared o unrhyw gynnyrch sy'n bodoli o'r ewin yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

7. gwneud dadansoddiad o'r ewin a'r croen, i gynnwys:
7.1 cyflwr yr ewin

7.2 cyflwr y croen

7.3 hyd a siap yr ewin

  1. trafod a chytuno ar y gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV yn unol â'r protocol cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV

  2. cadarnhau gyda'r unigolyn yr hyd a'r siap i'r ewin y mae'n ei ddymuno

  3. siapio'r ewinedd er mwyn sicrhau min rhydd yn unol â'r protocol gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV

11. paratoi'r glasgroen yn unol â'r protocol cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV

  1. defnyddio offer i gael gwared o lasgroen o blât gweledig yr ewin heb niweidio'r croen o amgylch yn unol â'r protocol gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV

13. paratoi plat yr ewin ar gyfer gorffeniad yr ewin wedi ei drin ag UV yn unol â'r protocol gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV

14. dewis y cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV yn unol â'r protocol gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV

  1. dodi'r gorchudd cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV i blât yr ewin gan adael ymyl rydd o'r croen o amgylch yn unol â'r protocol gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV

  2. trin y cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV gan ddefnyddio cyfarpar UV hyd y diwedd **yn unol â'r protocol gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV

  3. cael gwared o'r haen ataliad o'r cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  4. monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV

  5. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol

  6. cwblhau'r gwasanaeth yn unol â'r protocol gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol

  7. cwblhau cofnodion gwasanaeth yr unigolyn a'u cadw'n unol â deddfwriaeth data

  8. defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso'r gwasanaeth a gweithredu'n briodol

  9. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn cyn ac ar ôl y gwasanaeth

  10. cofnodi canlyniad a gwerthusiad o'r gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau pan yn darparu'r gwasanaethau cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu

2. pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:

2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol i chi eich hun a'ch adeilad

3. pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am yr arfer orau diweddaraf

  1. yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma

  2. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r gwasanaeth ewinedd, i gynnwys:

5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol

  1. pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd amheus ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd

  2. diben, y defnydd o a chyfyngiadau gwasanaethau, cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV mewn perthynas â:

7.1 hanes meddygol o'r gorffennol a chyfredol

7.2 cyflwr yr ewin a'r croen

7.3 ffactorau perthnasol sy'n ymwneud â'r ffordd o fyw

7.4 meddyginiaeth a chyflyrau meddygol

7.5 disgwyliadau'r unigolyn

8. y gwahanol fathau o gyflyrau'r croen a'r ewin y gellir eu trin

9. sut i wneud dadansoddiad o'r ewin a'r croen

  1. y siapiau naturiol i'r ewin a sut gallant effeithio ar y gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV

  2. pwysigrwydd gwneud dadansoddiad o'r ewin a'r croen er mwyn penderfynu ar y cynllun gwasanaeth

  3. pwysigrwydd cadw at y protocol gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV

  4. y technegau llaw a ddefnyddir wrth wneud gwelliannau i'r ewin gan ddefnyddio cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV, i gynnwys:

13.1 sut i addasu'r gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV er mwyn cwrdd ag anghenion yr unigolyn 

  1. y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  2. y mathau o gynnyrch ewin UV, cynnyrch gofal o'r croen a chyfarpar a ddefnyddir gyda gwasanaethau cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV a'u manteision a'u cyfyngiadau

  3. sut a phryd i ddefnyddio gelau adeiladu 

17. y broses bolymereiddio

  1. y sbectwm electromagnetig a'r tonfeddi UV

19. sut i drin cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV mewn modd effeithiol, i gynnwys:

19.1 y rhesymau dros i gynnyrch ewin wedi ei drin ag UV gael ei drin rhy ychydig a/neu drin yn ormodol

20. pwysigrwydd defnyddio lamp UV gyda’r donfedd, tywyniad a’r amseriad priodol ar gyfer cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV 

  1. sut i baratoi a defnyddio cynnyrch, offer a chyfarpar yn unol â'r protocol gwasanaeth cynnyrch ewin

  2. pam ei bod yn bwysig glanhau a sychu'r ewin naturiol cyn dodi cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV

  3. y mathau a'r dulliau o ddodi cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV, i gynnwys:

  4. pam y ceir gwared o'r haen ataliad yn dilyn dodi cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV

  5. y rhesymau dros ddodi cynnyrch wedi triniaeth yn dilyn dodi cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV

  6. y cyfarpar a ddefnyddir mewn gwasanaethau cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV, i gynnwys:

26.1 y gofynion ar gyfer cynnal a chadw, defnyddio a diogelwch yn  unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a gofynion deddfwriaethol

  1. y dulliau a ddefnyddir i gael gwaraed o gynnyrch ewin wedi ei drin ag UV

  2. yr adweithiau niweidiol a gysylltir gyda gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV a sut i ymateb

29. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth, i gynnwys:

29.1 pwysigrwydd echdynnu ac awyriant digonol pan yn defnyddio cynnyrch gwella ewinedd

  1. pwysigrwydd defnyddio cynnyrch sydd wedi cael eu cymeradwyo'n gosmetig

31. pwysigrwydd cadw at gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr er mwyn atal anghydnawsedd cynnyrch a risgiau i iechyd

  1. y mathau a'r risgiau cysylltiedig o gynnyrch i'r ewinedd sy'n gysylltiedig â natur wenwynig

  2. y rhesymau pam bod angen cynllun wrth gefn ar gyfer cael gwared o welliant yr ewin, i gynnwys:

33.1 y ffyrdd y gall cynllun wrth gefn fod yn effeithiol ac yn fodd o gadw iechyd a diogelwch yr unigolyn

  1. pam ei bod hi'n bwysig trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon, disgwyliadau, y canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV 

  2. y strwythurau talu a dewisiadau ar gyfer triniaeth

  3. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau i'r ewinedd i blant dan oed ac oedolion bregus

  4. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi'i lofnodi ar gyfer y gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV

  5. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth

  6. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol gyda chydsyniad o fan triniaeth yr unigolyn, a'u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol

  7. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion o wasanaeth yr unigolyn

  8. canlyniadau disgwyliedig gwasanaethau cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV

  9. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau yn y dyfodol

  10. pwysigrwydd cofnodi canlyniad a gwerthusiad y gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV

  11. y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV


Cwmpas/ystod

Cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV

  1. sglein gel UV
  2. gel adeiladu

  3. cotiau sail

  4. cotiau uwch

*
*
*
*
*Gorffeniad cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV*

  1. tywyll
  2. ffrengig

  3. lliw

*
*
*Adweithiau niweidiol*

  1. adwaith alergaidd
  2. afliwiad o'r cynnyrch
  3. afliwiad o blât yr ewin
  4. afliwiad o haen yr ewin
  5. plât yr ewin yn teneuo
  6. toriadau a chrafiadau
  7. cleisio
  8. goroleuad
  9. adwaith ecsothermig
  10. codi'r cynnyrch
  11. haint
  12. onycholysis

*
*
*
*
*Protocol gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV*

  1. amgylchedd waith
  2. iechyd a diogelwch
  3. atal a rheoli haint
  4. cynllun gwasnaeth
  5. cydsyniad gwybodus

  6. rheoli data

  7. cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
  8. archwilio ac atebolrwydd
  9. cyfarwyddiadau a chyngor
  10. cynaliadwyedd
  11. rheoli gwastraff
  12. ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth
  13. ymarfer adfyfyriol

*
*

Cyflwr yr ewin

  1. cnoi ewinedd
  2. afliwiad
  3. wedi ystumio
  4. hollt uwchben yr hyponychium
  5. llinellau beau
  6. llinellau hydredol a llorweddol gwrymiog
  7. sych
  8. onychorhecsis
  9. leukonychia
  10. onycholysis

Hyd a siap yr ewin

  1. hir
  2. hyd canolig
  3. byr
  4. crwn
  5. hirgrwn
  6. sgwar
  7. sgwofal
  8. almon
****Cyfarpar****
  1. UV CFL

  2. UV LED

** **

*
*
*
*
*
*
*Cyfarwyddiadau*

  1. hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd
  2. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
  3. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
  4. gwasanaethau yn y dyfodol


*
*
*Anatomeg a ffisioleg*
**

  1. strwythur a swyddogaethau'r croen
  2. strwythur a swyddogaethau'r ewin
  3. anatomeg a ffisioleg y dwylo a'r traed
  4. gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig

Siapiau naturiol yr ewin

  1. ffan
  2. bachyn
  3. llwy
  4. hirgrwn
  5. sgwar

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwrtharwydd llwyr

Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.

Adwaith niweidiol

Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth, e.e. llewygu

Gwrth weithred

Gwrth weithred yw adwaith neu ganlyniad  'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth, e.e. erythema

Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth

Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.

Cymorth Cyntaf

Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.

Protocol

Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.

Gwrtharwydd cymharol

Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.

Gwenwyndra

Penderfynir gwenwyndra gan adwaith rhywun i wahanol ddognau o gemegolyn. Gall gwenwyndra neu adweithiau niweidiol ddigwydd o ganlyniad i anghynawsedd gyda chymysgedd anghywir o gemegolion.

Cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV

Mae cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV yn ffurfiau o gel caled a meddal sy'n gofyn am driniaeth gan ddefnyddio cyfarpar UV wedi ei galibro.

Cyfarpar UV

Mae yna ddau fath o gyfarpar allyrru UV. Cant eu hadnabod fel Lamp Fflworoleuol Gywasgedig (CFL) lamp UV neu lamp UV Ddeuod Allyrru (LED) UV.


Dolenni I NOS Eraill

​SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKABN1, SKABN2, SKANT1 SKANT2, SKANT3, SKANT4, SKANT5, SKANT6, SKANT7, SKANT9


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKANS1, SKANS4 AND SKANS11

Galwedigaethau Perthnasol

Technegydd ewinedd

Cod SOC

6222

Geiriau Allweddol

cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV; gel meddal; LED, UV