Darparu triniaethau i’r dwylo
Trosolwg
Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol *a *SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. Mae'r safon yma ar gyfer rhywun proffesiynol ym maes Harddwch neu Ewinedd sy'n darparu triniaethau i'r dwylo er mwyn cynnal cyflwr yr ewin a'r croen. Mae triniaeth i'r dwylo yn cynnwys paratoi'r dwylo a'r ewinedd, siapio'r ewinedd, gwaith ar y glasgroen, diblisgiad o'r croen, tylino, triniaethau gwres a gorffeniad i'r ewin. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau a gweithdrefnau diweddaraf a chyfarwyddyd am arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.
Y prif ddeilliannau yw:
- Darparu triniaethau i'r dwylo
- Darparu triniaethau gwres
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Rhaid i chi allu:
1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn
- cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau
3. trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon ynglŷn â'i ewinedd, ei ddisgwyliadau a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno er mwyn hysbysu'r cynllun gwasanaeth triniaeth i'r dwylo, i gynnwys:
3.1 hanes triniaethau
3.2 dewisiadau triniaeth amgen
- cadarnhau a chytuno gyda'r unigolyn, ei fod wedi deall y driniaeth arfaethiedig i'r dwylo, i gynnwys:
4.1 gwrth-weithredoedd
4.2 adweithiau niweidiol
sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer y driniaeth i'r dwylo yn unol â gofynion cyfundrefnol ac yswiriant
paratoi man triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol triniaeth i'r dwylo*,* i gynnwys:
6.1 cael gwared o unrhyw gynnyrch sy'n bodoli o'r ewin yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- gwneud dadansoddiad o'r ewin a'r croen, i gynnwys:
7.1 cyflwr yr ewin
7.2 cyflwr y croen
7.3 hyd a siap yr ewin
7.4 gorffeniad yr ewin
- trafod a chytuno ar y cynnyrch ar gyfer yr ewin a gofal y croen i'w defnyddio yn y driniaeth dwylo yn unol â'r protocol triniaeth i'r dwylo, i gynnwys:
8.1 triniaeth gwres
cadarnhau gyda'r unigolyn yr hyd a'r siap i'r ewin y mae'n ei ddymuno
clipio a siapio'r ewinedd er mwyn sicrhau min rhydd
esmwyth yn unol â'r protocol triniaeth i'r dwylo
Diblisgiad
11. dewis a defnyddio diblisgydd yn unol â'r protocol triniaeth i'r dwylo Triniaeth gwres gydag olew cynnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau pan yn cyflawni triniaeth i'r dwylo a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu
- pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:
2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol i chi eich hun a'ch adeilad
pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am yr arfer orau ddiweddaraf
yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma
y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r driniaeth ewinedd, i gynnwys:
5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol
pwysigrwydd adnabod nodweddion amheus afreolaidd ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd
diben, y defnydd o a chyfyngiadau triniaethau i'r dwylo, mewn perthynas â:
7.1 hanes meddygol o'r gorffennol a chyfredol
7.2 cyflwr yr ewin a'r croen
7.3 ffactorau perthnasol sy'n ymwneud â'r ffordd o fyw
7.4 meddyginiaeth a chyflyrau meddygol
7.5 disgwyliadau'r unigolyn
y mathau o gyflyrau'r ewin a'r croen y gellir eu trin
sut i wneud dadansoddiad o'r ewin a'r croen
10. y siapiau naturioI i'r ewin a sut gallant effeithio ar y driniaeth i'r dwylo
pwysigrwydd gwneud dadansoddiad o'r ewin a'r croen er mwyn penderfynu ar y cynllun triniaeth
12. pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth i'r dwylo
- y technegau llaw a ddefnyddir mewn triniaeth i'r dwylo i gynnwys:
13.1 sut i addasu'r driniaeth i'r dwylo er mwyn cwrdd ag anghenion yr unigolyn
y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
y mathau o, manteision a chyfyngiadau cynnyrch a gofal ewinedd a gofal croen a ddefnyddir mewn triniaethau i'r dwylo, i gynnwys:
15.1 y risgiau sy'n gysylltiedig ag alegreddau a chynhwysion a allai achosi niwed
sut i baratoi a defnyddio cynnyrch, offer a chyfarpar yn unol â'r protocol triniaeth i'r dwylo
y technegau tylino a ddefnyddir o fewn triniaeth i'r dwylo
effeithiau ffisiolegol technegau tylino ar yr ewinedd a'r croen
pam ei bod hi'n bwysig glanhau a sychu'r ewin naturiol cyn dodi gorffeniad i'r ewin
y mathau a'r dulliau o ddodi gwahanol orffeniadau i'r ewin
21. yr adweithiau niweidiol a gysylltir gyda thriniaeth i'r dwylo a sut i ymateb
y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod, ac ar ôl y driniaeth i'r dwylo
pam ei bod yn bwysig trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon, disgwyliadau, y canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth i'r dwylo
y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau harddwch i blant dan oed ac oedolion bregus
y strwythurau talu a dewisiadau ar gyfer triniaeth
26. gofynion deddwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi'i lofnodi ar gyfer triniaeth i'r dwylo
- pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
28. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol gyda chydsyniad o fan triniaeth yr unigolyn, a’u cadw yn unol â gofynion y gwasnaeth, deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol
y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion o driniaeth i ddwylo'r unigolyn
canlyniadau disgwyliedig y triniaethau i'r dwylo
diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol
pwysigrwydd cofnodi canlyniad a gwerthusiad o'r driniaeth i'r dwylo
y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y driniaeth i'r dwylo
Cwmpas/ystod
Adweithiau niweidio*l*
- hyperaemia
- adwaith alergaidd
- afliwiad o'r cynnyrch
- afliwiad o blât yr ewin
- afliwiad o haen yr ewin
- plât yr ewin yn teneuo
- toriadau a chrafiadau
- cleisio
- codi'r cynnyrch
- haint
****Protocol triniaeth i'r dwylo****
- amgylchedd waith
- iechyd a diogelwch
- atal a rheoli haint
- cynllun gwasnaeth
cydsyniad gwybodus
rheoli data
- cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- archwilio ac atebolrwydd
- cyfarwyddiadau a chyngor
- cynaliadwyedd
- rheoli gwastraff
- ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth
- ymarfer adfyfyriol
****Cyflwr yr ewin****
- cnoi ewinedd
- afliwiad
- wedi ystumio
- hollt uwchben yr hyponychium
- llinellau beau
- llinellau hydredol a llorweddol gwrymiog
- sych
- onychorrhexis
- leukonychia
- onycholysis
**** ****Hyd a siap yr ewin****
- hir
- hyd canolig
- byr
- crwn
- hirgrwn
- sgwar
- sgwofal
- almon
****Gorffeniad yr ewin****
- sglein i'r ewin
- * *clustog caboli
- ewin naturiol
- cryfhawr yr ewin
- Ffrengig
- lliw tywyll
- lliw golau
****Triniaeth gwres****
- menyg wedi eu cynhesu
- cwyr paraffin
****Cyfrwng tylino****
- olew
- hufen
- di-olew
****Technegau Tylino****
- effliwedd
- petrisedd
- tapio
- ffrithiannau
*
**
**
*Cyfarwyddiadau**
- hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd
- cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
- cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
- triniaethau yn y dyfodol
Anatomeg a ffisioleg
- strwythur a swyddogaethau'r croen
- strwythur a swyddogaethau'r ewin
- anatomeg a ffisioleg y dwylo
- gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig
****Siapiau naturiol yr ewin****
- ffan
- bachyn
- llwy
- hirgrwn
- sgwar
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwrtharwydd llwyr
Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni a gall fod angen iddo gael ei gyfeirio.
Adwaith niweidiol
Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn
gwasanaeth, e.e. llewygu
Gwrth weithred
Gwrth weithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth e.e. erythema
Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth **
Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth
orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.
Cymorth Cyntaf
Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.
Protocol
Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a
chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.
Gwrtharwydd cymharol
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd
ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.
Dolenni I NOS Eraill
SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKABN1, SKABN3, SKANT1, SKANT2, SKANT3, SKANT4, SKANT5, SKANT6, SKANT7, SKANT