Ieuangu’r croen gan ddefnyddio triniaethau digroeni ar yr wyneb

URN: SKABA9
Sectorau Busnes (Suites): Estheteg Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 04 Maw 2019

Trosolwg

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr esthetig sy'n yn cynnal triniaethau digroeni ar yr wyneb yn ddiogel ac yn effeithiol er mwyn ieuangu cyflwr y croen. Hefyd bydd yn rhaid ichi gynnal gwerthusiad ar ôl y driniaeth ar gyfer gofalu bod eich gwaith chi’n gwella yn barhaus ac er mwyn anghenion y cleient yn y dyfodol.  


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. rhoi arferion ymgynghori, iechyd, diogelwch a glanweithdra ar waith drwy gydol y driniaeth 2. cytuno ar **amcanion y driniaeth** gyda'r cleient 3. dilyn protocol y driniaeth er mwyn gofalu caiff **cyfryngau digroeni** eu taenu'n gyfartal ar y **man triniaeth** 4. addasu hyd y driniaeth fel ei fod yn gweddu i **dosbarthiad croen a nodweddion croen** y cleient 5. gwirio lles eich cleient a monitro adwaith y croen drwy gydol y driniaeth 6. rhoi'r cynllun gweithredu priodol ar waith pan fo adwaith niweidiol i'r driniaeth 7. gofalu bod y man triniaeth yn lân a diogel drwy ddefnyddio cynnyrch ôl triniaeth  8. cwblhau'r driniaeth yn dilyn cyfarwyddyd y gwneuthurwr 9. tynnu lluniau fel tystiolaeth o'r **man triniaeth** gan ddilyn gweithdrefnau cyfundrefnol 10. cwblhau cofnodion y cleient a'u cadw yn unol â'r ddeddfwriaeth data 11. defnyddio dulliau gwerthuso a gafodd eu cytuno fel rhan o brotocol y driniaeth 12. casglu a chofnodi'r wybodaeth o adborth y cleient, cofnodion y cleient a'ch arsylliadau eich hun 13. cynnig cyngor ac argymhellion ar lafar ac yn ysgrifenedig i'ch cleient ynghylch yr ôl-ofal ar ôl y driniaeth 14. cytuno ar unrhyw addasiadau ar gyfer triniaethau yn y dyfodol gyda'ch cleient a chofnodi deilliant eich gwerthusiad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. yr ymgynghoriad a'r gofynion iechyd, diogelwch a glanweithdra wrth gynnal triniaethau llunieuangu 2. mathau, fformiwleiddiad a defnydd cyfryngau digroeni gan ddwyn i ystyriaeth: 2.1 dosbarthiad croen 2.2 nodweddion croen 2.3 amcanion y driniaeth 3. effeithiau, buddion a chyfyngiadau triniaethau digroeni ar yr wyneb 4. y raddfa pH scale a'i berthnasedd yn ymwneud â sensitifrwydd y croen 5. effaith crynodiadau asid ac alcali ar y croen   6. dosbarthiad Asidau Hydrocsi Alffa, Asidau Hydrocsi Beta a chyfryngau digroeni ar y cyd wedi'u fformiwleiddio eisoes a'u dichonolrwydd i achosi niwed  7. y cyfryngau digroeni cemegol sydd ond yn addas ar gyfer defnydd meddygol yn unig a pham 8. rhesymau dros ei daenu'n gyflym, amseriad a thynnu holl gynnyrch digroeni 9. y rhesymau dros weithio'n systematig er mwyn ymdrin â man y driniaeth yn dilyn protocol y driniaeth 10. y triniaethau gallwch eu cynnal ar y cyd â neu ar ôl y driniaeth digroeni ar yr wyneb 11. buddion a defnydd atalyddion tyrosinas er mwyn osgoi gor-bigmentiad wedi llid wrth drin dosbarthiad Fitzpatrick, graddfa 4-6 12. y mathau o gyfryngau cemegol sydd angen ac sydd ddim angen triniaeth niwtraleiddio 13. y rheswm dros adfer lefelau pH y croen yn dilyn taenu cyfryngau digroeni 14. yr **adweithiau niweidiol** posib a sut i fynd i'r afael â nhw 15 mathau, buddion a defnydd cynnyrch cyn ac ar ôl y driniaeth 16. arwyddocâd cyfreithiol cyflwyno lluniau fel tystiolaeth o'r man triniaeth 17. yr **anatomi a ffisioleg** ****sy'n berthnasol i'r safon hon 18. gofynion cyfreithiol ynghlwm â chwblhau a storio cofnodion cleientiaid 19. deilliannau disgwyliedig y driniaeth yn dilyn triniaeth digroeni 20. diben gweithgareddau gwerthuso 21. sut i gasglu, dadansoddi, crynhoi a chofnodi adborth gwerthuso mewn ffordd eglur a chryno 22. **cyngor ac argymhellion** yr ôl-ofal ar nwyddau a thriniaethau

Cwmpas/ystod


Gwybodaeth Ychwanegol

Mae disgwyl y bydd yr unigolyn sy'n cynnal y safon hon eisoes yn meddu ar y sgiliau, gwybodaeth ac ymddygiadau sydd wedi'u hadnabod yng nghanllaw triniaeth yr ymarferwr esthetig neu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol estheteg.

Mae disgwyl y bydd yr unigolyn eisoes yn medru dangos cymhwysedd yn pennu gwrtharwyddion perthynol (cyfyngol) ac absoliwt (ataliol) ar gyfer y safonau esthetig maen nhw'n eu cynnal.

Mae disgwyl y caiff y safon hon ei gweithredu ar y cyd ag SKABA1 – SKABA1 – Cynnal arferion gwaith diogel, hylan ac effeithiol yn ystod triniaethau esthetig ac SKABA2 – Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau esthetig.  

Dylid dangos tystiolaeth o'r eitemau sydd wedi wedi'u rhestru o dan y maes/ystod yn unol â'r math penodol o driniaeth gaiff ei gynnal.


Cwmpas Perfformiad

**Amcanion y driniaeth** 1. ieuangu'r croen yn gyffredinol 2. gwella brychau ar yr wyneb 3. gwella amrywiaethau pigmentiad 4. gwella teimlad y croen 5. gwella hydradiad y croen ** ** **Cyfryngau digroeni** 1. Asidau Hydrocsi Alffa 2. Asidau Hydrocsi Beta 3. cyfryngau digroeni ar y cyd wedi'u fformiwleiddio eisoes **Man triniaeth** 1. wyneb a gwddf 2. rhan uchaf y corff 3. breichiau neu goesau **Dosbarthiad croen** 1. Graddfa Fitzpatrick 2. Llun-niwed Glogau **Nodweddion croen** 1. seimllyd 2. sych 3. cyfuniad 4. sensitif 5. aeddfed 6. dadhydredig 7. croendyllau gorlawn 8. acne 9. pigmentiad anghytbwys

Gwybodaeth Cwmpas

**Adweithiau niweidiol** 1. gwelwi ac ysgeintio 2. hyperemia 3. haenu 4. newidiadau pigmentol 5. anesmwythdra niweidiol 6. proses iachau dan fygythiad ** ** **Anatomi a ffisioleg** 1. strwythur a swyddogaethau systemau'r corff a'u cyd-ddibyniaeth ar ei gilydd 2. strwythur a swyddogaeth y croen ac ychwanegiadau'r croen 3. clefydau, anhwylderau a chyflyrau'r croen 4. proses heneiddio'r croen gan gynnwys effeithiau geneteg, ffordd o fyw a'r amgylchedd 5. proses iachau'r croen 6. proses digroeniad, digennu ac arwynebu'r croen 7. effeithiau lleol cyfryngau digroeni ar y croen a chyflyrau croen
**** **Cyngor ac argymhellion** 1. hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau'r cleient a'r ymarferwr 2. cynnal triniaethau 3. disgwyliadau ar ôl y triniaethau ynghyd â graddfeydd amser cysylltiedig 4. cyfyngiadau a gwrth-weithrediadau 5. nwyddau a thriniaethau ychwanegol

Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Asid Hydrocsi Alffa

Mae cyfryngau digroeni Asid Hydrocsi Alffa yn hydawdd ac yn cael gwared ar gelloedd croen marw ar yr wyneb. Mae prif gynwysyddion cyfryngau digroeni Hydrocsi Alffa wedi'u u gwneud o asidau naturiol sydd mewn  ydy asidau naturiol mewn ffrwythau, asid lactig o lefrith sur ac asid sitrig o ffrwyth sitrig. Mae asid glycolaidd yn gyfrwng digroeni poblogaidd sy'n tarddu o gâns siwgr.

Asid Hydrocsi Beta

Mae cyfryngau digroeni Asid Hydrocsi Beta wedi'u gwneud o lipid, sy'n golygu ei fod yn hoff o olew. Mae modd iddyn nhw fynd yn ddyfnach i mewn i'r croendyllau na chyfryngau digroeni Asid Hydrocsi Alffa, Mae cyfryngau digroeni Asid Hydrocsi Beta yn rheoli saim ac acne, ynghyd â chael gwared ar gelloedd croen marw ar yr wyneb . Mae asid salisylig yn enghraifft o asid Hydrocsi Beta. 

Cyfryngau croen cyfunol wedi'u fformiwleiddio eisoes

Mae cyfryngau croen cyfunol wedi'u fformiwleiddio, fel Asid Hydrocsi Poly, strwythur molecwlar sylweddol wedi'i gyflunio'n benodol er mwyn trin croen sensitive a chyflyrau'r croen. Mae Asidau Hydrocsi Lipo wedi'u gwneud o olew a chanddyn nhw briodweddau gwrth-llidiol ac maen nhw'n effeithiol ar groen seimllyd. Asid carpryloyl salisylig ydy asid salisylig wedi'i gyfuno gydag asid Caprylig sydd mewn cnau coco sy'n asid brasterog rhydd.



Dosbarthiad Croen

Mae modd pennu dosbarthiad croen yn ôl lefel y melanin yn y croen a chaiff ei fesur gan ddefnyddio graddfa rifiadol Fitzpatrick. Caiff graddfa Fitzpatrick ei chategoreiddio i dair graddfa, mae'r ffenoteip Uwchfioled yn pennu sensitifrwydd y croen i Uwchfioled, y ffototeip pigmentol sy'n pennu math lliw ethnig y croen ac yn olaf y lefel risg o gancr y croen. Caiff graddfa difrod-llun Glogau ei chategoreiddio i bedwar lefel ac mae difrifoldeb y difrod i'r croen yn pennu cynllun triniaeth esthetig harddwch. Caiff y ddau ddull eu hintegreiddio gyda thechnolegau a theclynnau newydd yn aml.   




Protocol y driniaeth

Cynllun yw hwn, sy'n gosod protocol penodol yn ymwneud â theclynnau a thriniaethau, gan adnabod gwiriadau a phrofion cyn y driniaeth, y modd gaiff y driniaeth ei chynnal, newidynnau derbyniol, safleoedd â gaiff eu defnyddio, y deilliant disgwyliedig a phryd dylid addasu neu roi'r gorau i'r driniaeth.


Dolenni I NOS Eraill

​SKABA1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 10, and 11 


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKABT33

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch

Cod SOC

6222

Geiriau Allweddol

pilio croen cosmetig, plicio croen, plicio, adfer croen, gwelliannau I'r croenidau hydroxy alffa, asidau hydroxy beta, hydrocsyl poly asidau hydroxy, a salisylig, glycolic